Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

--CHWITH ATGOF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWITH ATGOF. AM Y DIWEDDAlR RICHARD LEWIS, Y.H., PONTYPRIDD. Trist iawn yw gorfod cofnodi marwolaeth y gwleid- yddwr aiddgar, y ib'iaenor -amryddawn, iy cyfaill pur, o-'r cymeriad tryloew—yr Henadur Richard- Lewig, Cantref, Pontypridd ddydd Saboth, Tachwedd 7fed, 1915, ar ol ychydig fisoedd o gystudd trwm. Yn ei yoiadawiad collodid byd ac eglwys un o'i meibion Ail fab i'r diweddar fasnaohydd adnabyddus Mr. Thomas Lewis, o Bontypridd, oedd yr Henadur, ac ■yn y dref honno y iganwyd ef rhyw 65 o flynyddtau yn ol. Yr oedd y diweddar flaenor ffyddlon o Gas- ^ewydd, Mr. Augustus Lewis (Superintendent In- spector of Factories dros Gymru a 'Gorllewin L'Joegr), a Mr. T. E. Lewis, Pontypridd, yn: frodyr iddo. Y :I11.ae ei unig cifiiwaer yn briod a Mr. William Jones, o'r un dref. Addysgwyd ef mewn ysgol- "reifat gedwid gan ysgolor gwych ac athraw campus °'r enw Mr. A. A. McLucas. Talai 'Mr. Lewis war- ^aetih. ucliel i'w hen athraw bob amser. Yn 1876 clilynodd ei dad yn y fasnach. Ymhen ychydig am- er drwy yni a phenderfyniad agorodd fasnachdai ^.xig yn Nhonypandy & lteoedd1 eraill yn y Rhondda. y gallesad disgwyl i un o'i weithjgarwch a'i <3di- ^ydrwydd ef, cynyddodd y fasnacli yn fawr, a lhvyddodd 3m ei amgylehiadau. Dair blynedd yn ol ymrieilOtuodd oddiwrtb y íasnacl1" er mwyn ymroddii yn gyfangwbl i'w ddyledswyddau cyhoeddus. Bu yn aelo Id gweithgar iawn ar Gyngor Sir For- gannwg, er adeg ei ffurfiad yn 1880. Bhvyddyn i'w chofio'n Mr oedd hon-blwyddyn yr oedd Toriaeth .a Rhyddfrydiaeth tiwy Gymru benbaladr yn ymladd dau 'fywyd. Gorchfygodd Mr. iLewis un o arwyr y Toriaid yn Nbionypandy, a gwnaeth enw iddo ei hun fel siaradwr hyawdl a ga'.luog. Fyth wedi'r frwydr fythgofiadwiy hon, gan mor ddiesgeulus y bu yn y gwaith ymddiriedwyd iddo, ni chafwyd Tori yn ddigon beiddgar i wneud ymosodiad ar ei sedd yn senedd y sir. Oiherwydd ei farn aeddfed, a'r parch mawr delid iddo gan bawb a'i hadwaenai, galwyd ef yn gynnar i wasanaethu ar y prif bwyllgorau. Dair blynedd- yn ol etholwyd ef yn unfrydoC: yn Is- Gadeirydd y Cyngor, a phe cawsai fyw yc,hydigfi,s- oedd yn hwy buasai gyda'r un unfrydedd yn eael yr anrhydedd uchaf allasiai y Cyngor osod arno. 0 fewn pedwar niwrnod i'w gilydd hunodd yn yr angau Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor Sir. Anaml o drugaredd y bydd byrddau cyhoeddus yn cael dyrnod mor drwm. Efe ddewiswyd yn Gadeirydd cyntaf Pwyllgor Yswiriol ISrwydd Forigannwg. Gorfu arno roddi y swydd hon i fyny ar ei benodiad yn I.si- Gadeirydd, oherwydd amlder goruchwylion eraill. Yr oedd yn un o lywodraethwyr Ysgol Howel, Llan- daf, a Choleg y Brifysgo]:, Caerdydd, ac yn aelod gwerthfawr iawn o bwyllgor gweithiol y Gofeb Gen- ediaethol Gymreig. Yr oedd yn Ynad Heddwch er ys blynyddau, ac yn ymddiriedolwr ar nifer o grlOn- feydd perthjynol i'r Cyfundeb y perthynai iddo. LJanwai nifer o swyddau eraffil nad oes amser na gofod heddyw i sylwi arnynt. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf efe oedd un o'r coiofnau amlyeaf ym Mhenuel, Pontypridd. Yr oedd yn flaenor gweitlhgar yn Trealaw cyn hynny, ond ym iMhenuel y gwasanaethodd hwyaf yn y swydd, anrhydeddus honno. Yr oedd ei gariad 8Jt, a'i brydeii ynghylch dyfodol Penued yn fawr iawn. Ni wasanaethodd neb ei eglwys yn ffyddlonach, ac yr oedd! ei ffydd yn Nuw yn ddiderfyn. Gwnaeth ddiwrnod ardderchog o waith. Heddyw mwynha orffwys y gweithiwr. Yr oedd yn gerddor medrusi. Os na fyddai blaehor y gan yn bresennol mewn cyfarfod teimlid yn berffaith hapus os byddai ef yno. Yr oedd ei garedigrwydd a'i hynawsedd yn ddiarhebol. Rhoddai glust o wrandawiad i bawb, a chynorthwyodd lawer mewn eisieu. Fel hyn am flynyddau lawer yr oedd yn un o'r rhai blaenaf mewn pob mudiad i godi'r werin bobl, ac yr oedd oylch ei ddylanwad a'i ddefnydd- ioldeb yn eangu flwyddyn ar ol blwyddyn. Ym- laddodd frwydrau lawer ym mywyd gwlteidyddol y Rhondda yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Siaradai a gweithiai yn ddi-derfyn dros yr egwyddor- ion a goleddai, ac yr oedd yn GenedJaetholwr Cym- reig o'r iawn ryw. Yn y cyngor sir, ar y faine, yn y set fawr, yr oedd ei eiriau a'i weithredoedd yn drwythedig a chywirdeb ac uniondeb. Medrai ddweyd ei farn onest yn ddiofn a difloesgni gan ei fod bob amser yn gweithredu oddiar gydwybod. Wele rai o deithi'r Henadur :— (I) Boneddigeiddrwydd ysbnyd. Yr oedd natur wedi ei gynysgaeddu a chorff hardd a lluniaidd, fel y gweddai i Henadur, a dyddoro'J oedd gwylied ys- gogiadau y corff hardd hwnnw, pan. wedi ei gynhyrfu mewn poethder etholiad, neu wedi ei danio gan ryw ddrychfeddwl newydd a bywiog. Ond o dan y cyian yr oedd yna ysbryd llednais, anhunangar, difalais, a diabsen. 'Mewn gair yr oedd yn one of nature's gentlemen.' Er hiyotled ei ddawn ymadrodd nid oes hanes, iddo glwyfo neb erioed. Amhosibilrwydd yw synio fod iddo, elyn yn unman. (2) Yr oedd yn wr o argyhoeddiadau cryfion iawn, ar gwestiynau cymdeithasol', addysgol, gwleid- yddol a chrefyddol, ac felly yn barod bob amser i roddi iihesymau dwSJ ei ddaliadau. Yr oedd ganddo farn aeddfed ar gwestiynau llosgawl v dydd, a hon- no'n ffrwyth myfyrdod a phrofiad. Yr oedd ynddo gyfuniad btapus, iawn o nerth ac addfwynder. GeLid dweyd am dano ef feui y dywedodd Burke am Chan- ning, He had that chastity of honour that he felt a stain like a wound." Gallai ddygymod a phawb ond yr un oedd yn blaenu cledd athrod a rhith gwirionedd." (3) Er fod; yr Henadur fel pawb eraill yn heneiddio 0 ran dyddiau nid oedd neb yn fwy ieuengaidd ei ysbryd. Pwy mor hoff o blant a phiobl ieuainc? Pwy mor fywiog ar ddiwrnod outing yr Ysgol Sul neu y Gobeithlu ? Pwy mor gyson yng nghyfarfod- ydd wythnosol y bobl ieuainc? Pwy barotach i gynorthwyo pobl ieuainc i sefyllfaoedd o barch ac anrhydedd? Pwy gydymdeimlai yn fwy a'r plant mewn cyni ac angen? Nis gellir dangos. hyn yn wel"; mi gredaf na'r effaith gafodd ei farwolaeth ar yr ieuengaf a'r hynaf :mewn un teulu, gafodd fan- tais i'w adnabod yn dda. Ymhen diwrnod neu ddau ar ol ei farw, dywedai mereh feohan bum' mlwydd wrthi ei man: Mam, pam mae pawb yn marw y dyddiau yma?" u Na, dydi pawb ddim yn marw, nghariad i," atebai'r fam. Wel, y mae Mr. Lewis, Cartre, wedi marw ond dydi o?" i'r fechan, a'i byd bychan .hi, yr oedd cael ei wen siriol, a'i eiriau car- edig, ac yn enwedig y sweet ar ol dweyd adnod yn y seiat fore Sui: yn golygu ILawer iawn. Fel hyn drachefn yr ysgrifennai y mab hynaf adref ar ol clywed y newydd galarus :— The news from Pontypridd is terribly sad. The death of Alderman Richard Lewis was a great blow to personally. He was- a man whom I admired immensely and to whom I was: drawn by ties of strong affection. I shiall miss him more than I can say. Truly the ways of Providence are mysterious. But behind them there is a s'cheme-' the pattern in the loom which if we could only see clearly, we wouOd acknowledge to be infinitely wiser and more just than m the .bounds of our mortal1 management. Death is the passage to a broader, fuller life, and is perhaps a less ternible crossing, and a nearer door than we imagine. I feel very keenly for Mrs. Lewis who must be prostrated at the parting, but she has the supreme consolation of her faith. There can be nothing more stable and enduring than that. It seems to me that in crisis of this personal type, other philosophies go overboard. They seem hollow and naked and worthless. A creed which sustains in the day of diarkness, and which exalts, in the hour of anguish, is a precious and abiding thing." Gwyn .fyd y gwr onite sydd yn feddiannol ar y ddawn ardderchog a chyfoethog honno fedr ennill lie cynnes a pharchusi ym mynwesau yr ieuenctid ddaw i gyffyrddiad ag ef. 11 (4) I goroni'r cyfan, yr oedd yr Henadur Richard Lewis yn ddiamheuol ddyn Duw. Pethau yr efengyl dragwyddol oedd ei drysor-au pennaf. Yr oedd yn fwy hapus a chartrefol yn y cyfarfod gweddi a'r seiat yn Festri Penuel nag oedd yn senedd y sir, er cryfed ei ddoniau, ac er cymadnt y parch a'r anrhydedd delid iddo yno. Llawer gwaith y clywyd ef yn dweydi Yr wyf wedi cyfarfod a dynion ardderchog yr wytbnosi hon ar wahanol bwyllgorau, &c., ond gallaf ddweyd yma o eigion calon :— Braint, braint, Yw cael cymdeitbas gyda'r saint Na welodd neb erioed ei mairtt,- &e. Llawer gwaith y gwelwyd ef vn dod o ganoil traff- erthion byd ar ei union i'r capel (wedi cael tamaid brysiog mewn restaurant gyfagos) er mwyn cael y cwrdd a'i freintiau, cyn dychwelyd i'w gartref. O fel y mwynhai bregeth neu gyfarfod gweddi, neu seiat dda! 0 fel y dyheai am brofiadau uchel yr hen saint! Gwnaeth ei gynghorion dwysion, a'i weddiau tajerion argraff annileadwy ar lawer. Yr oedd naws crefydd ar bopeth ddywedai ac a wnelai ymhob man. Y mae y golled ar ei ol y dref ac yn y sir yn fawr iawn, ond ym Mhenuel, ei gartref cref- yddol, y teimlir y chwithdod a'r hiraeth fwyaf a hwyaf. Priododdl Mr. Lewis 41 o fllynyddau yn ol, a merch i Mr. D. Thomas1, Llanfabon (chwaer i Dr. W. E. Thomas, Penybont ar-Ogwy). Ni bu priodas hapus- ach erioed. Un o ragorolion y ddaear yw Mrs. Lewis. Y .cyntaf i gydnabod nas gallasai, fod wedi cyflawni gwaith mawr ei fywyd oddigerfhi am ddylan- wad distaw a hunanaberthol ei bywyd hi, fu.asai ei phriod serchog a hawddgar. Bendithiwyd hwy a dau o. hlant- Y Capten David- T. iLewis, sydd yn awr yn gwneud ei ran, fel meddyg yn yr R.A.M.C., a Mrs. Griffith, priod Mr. Griffith, Manager y Capital a'r Counties Bank, Pontypridd. Fel y gallesid disgwyl cafodd gladdedLgaeth tywys- og. iGwelsom arglwydd a mar-cbbg yno, a chan- noedd o wyr bucheddol byd ac eglwys. Gwasanaeth- wyd yn y ty gan y Parch. D. J. Jones, B.A. (Bryn Mawr), a W. R. Jenkins, B.A. (Huddersfield). Yng nghapel Glyn Taf gan y Parchn. J. D. Evans, M.A., a W. Lewis, Pontypridd, ac ar lan y bedd gan y Parch. iM. H. Ellis, Trealaw. Efe ei hun oedd wedi trefnu ei gladdedigaeth. Nawdd y nefoedd fyddo'n amlwg dros ei weddw a'i blant, a heddwch fyddo i weddillion ein hannwyl hen gyfaill ym mynwent Glyn Taf hyd f ore'r codi. Pontypridd. R.P.J.

--------CADDUG.

JERUSALEM YN AMSER RHYFEL.