Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
SENGHENYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SENGHENYDD. Cyfarfod Pregethu.—.Sul a'r Llun, Tachwedd 14 a 15,cynhaJioddeglwys y TabernacI ei gwiyl flynyddol Gwasanaethwyd gan y Panchn. Phillip Jones, .LLan- deilo, ac R. J. Jones, Penygraig. Caed cyrddau rhagorol. Digon yw dweyd fod y cenhadon ar eu huchelfannau. Yma y gwasanaethai y Parch. E. Thomas er ys deuddeng iri.'ynedd. Gwerthfa wrogir ei waith a pherchir, y pregethwr fwy-fwy o flwyddyn i flwyddyn.
BIRKENHEAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BIRKENHEAD. Nos Sadwrn a'r Siaboth, Tachwedd 20 a'r 2iain, cynhaliwyd cyfarfod pregethu eglwys rydd y Cymry, Claughton Road, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Gwynfryn Jones, Fflint, a W. O. Jones', B.A., Lerpwl. Cafwyd pregethau rhagorol. Laird Street.—Y mae yr eglwys, weithgar hon wedi trefnu cynllun i ymweled a'r Cymry sydd yn digwydd bod yn iy rhan ogCeddol o'r dref, er mwyn ceisio eu cael i foddion gras.Mae'n ddiameu fod ei 'phlwyf' yn cynnwys tua deng mil o bobl. Eglwysi eraill Cymry ddlynwch ei hesiampl ardderchog. Cafwyd papurau ar John 13righit a W. E, Glad- stone yng Nghyfrinfa'r Temlwyr Da sydd ynglyn ag eglwys Laird St. Miss Eluned Jones (merch golygydd enwog y Brython') a Mr. Willie Jones oedd yn eu traddodi. Cyfarfod rhagorol.
NODION 0 FALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 FALDWYN. Dengys papurau wythnosol y sir fod gan y fasnach feddwol afael gref .ar y bobc;. Apelia Ysgrifennydd y Tiriogwyr, Mr. John Lorn ax, am ychwaneg o blis- men i enlistio. Dywed y Prifgwnsitabl nas gall eu spario. Cauer y tafarndai a gellir spario y cyfan ohonynt! Y mae y fainc ynadol a'r heddgeidwaid yn cael rnwy o. waith oherwydd y diodiydd na dim arall, a dylasai yr ynadon uno. drwy y sir i ofyn i'r .swydd- og milwrol i gau y tafarndai er mwyn cael y 'police' i'r fyddin. O'r hjyn lleiaf byddai gosod y tafarndai dan gwtogiiad, yn fa llItais: i'r' fyddin. Y mae dadi go ddyddoriol yn myned ymlaen yn y wasig Doriaidd rhwng y tafarnwyr .a'r ysgoC feistr yn Llanfyllin. Os oes ar y wlad eiisieu milwyr y mae gan Llanfyllin. dri o dafarnwyr o ran oed y gellir yn hawdd eu spario. Dymunwn aCw sylw Mri. Lomax a Dugdale a'r recruiting sergeant atynt. Cafwyd cyfarfod cenhadol brwdfrydig yn Llan- fyllin o dan lywyddiaeth y PArch. O. T. Davies. Rhoddodd IMissLillian Jones, (Mulvai Bazaar) hanes y gwaith ymhlith y merched yn Cassia, a. chanodd yn swynol iawn. Dywedodd y llywydd fod yr araith yn un o'r rhai mwyaf rhamantus a glywodd erioed, a chynhiygiodd Mr. David Davies, yr hrwn atgofiai y dyddiau yn ei gartref yn Lerpwl pan oedd tad a mam Miss Lillian Jones, yno newydd briodi, ddiolch- garwch gwresog i Miss Jones am ddyfod atynt. Eiliwyd gan Mrs. Morris, priod y Parch. Dd. Morris (W.), yr hon fu yn yr ysgol yr un pryd a'r genhad- es. Yr oedd cynullia-d a chasgliad da. Bu farw Mr. Geo. Kempster (Llansiantffraid), y Sul diweddaf, yn 77 oed. Yr oedd yn eglwyswr eangfrydig, ac yn hoff o bresenoli ei hun yng nghyf- arfodydd gweddi yr Anghydffurfwyr. Dywed y wasg leol mae ei brif waith oedd dilyn y cwn hiela a'r cynghorau sirol, &c. Colled drom i eglwys Pontrobert oedd colli y di- weddar Mr. John iRogers; (Tanyffridd), Dolobran Hall, gynt. Claddwyd ef y Siadwrn ,yr 2ofed o Dach- wedd, ym Mhontrobert, ar ol ychydig ddyddiau o selni. Yr oedd yn gymwynaswr di-ail i bregethwyr, ei gartref ar hyd y blynyddoedd yn Glety y ffordd- olion. Carai vr achos a'i holl galon. Nid oedd yn fedrus yn,gyhoe;ddus,, ond yr oedd ei fywyd tawel yn gryfder ac yn add-urn i grefydd. Bydd yn chwith iawn hebddo, ond y mae'n debyg y bydd ei fantell yn disgyn ar ei fab a'i briod hawddgar y rhai bres- wyliant yn awr yn yr hen gartre Dolobran IlaM. Cynhaliwyd cyfarfod Ysgolion Dosbarth Meifod ym Meifod o dan lywyddiaeth Mr. R. Gittins, Dol- anog. Etholwyd Mr. Davies, Pontrobert, yn llyw- ydd am y ddwy flynedd nesaf. Pregethodd y Parch R. P. Griffith, Cefncanol, a holwyd y dosbarthiadau ganddo. Yn v prynhawn bu oyfariod dirwestol un- debor. yng nghiape-l y Wesleyaid, o dan lywyddiaeth Mr. J. Owens. Siaradwyd gydag arddeliad gan y Parchn. M. Pryce ac R. P. Griffith. Y mae y Brain ys dywed y County Times yn bur llawen o'r herwydd fod amibell un o ddead- eC-L v Methodistiaid wedi myned i gorlan yr Eglwys. Wladol. Y mae'n dda fod rywrai iheblaw y brain a'r cigfran yn y gorlan honno, orlite Duw a'i helpo! Bu Cyfarfod Misol yr IseMir yn Llanfair yr wyth- nos ddiweddaf. Yr oedd rhai o gewri y Deheudir yno-,y Parch. J. M. Jones, Caerdydd, ar ran y For- ward Movement, y Parch. Dr. Moelwyn Hughes; a'r Parch. J. H. [Howard, Colwyn Bay, o'r Gogledd. Cafwyd oedfaon grymus, a gwrandawiad astud. Cododd y llanw yn uehelo dan weinidogaeth y cawr o Gaerdydd. Yr unig un o'r Cyfarfod Misol fu'n pregethu oedd y Parch. H. E. Griffith, M.A.. Croes. oswallt. Y mae Moelwyn yn bur dddeithr i'r sir hon, a da fuasai pe mynnai yr eglwysi glywed y igwr athryjithgar hwn yn amlach. Y mae mudiad ar droed i droi tloty Machynlleth yn ysbytty milwrol'. Bu Mr. Scott Owen yn ei edrych i'r pwrpas hwnnw, ac y mae ei report o flaen yr aw- durdodau yn yr Amwythig.
NODION O'R DEHEUDIR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION O'R DEHEUDIR Prif Ddinesydd.—Perthyn i'r Corff yr oedd cyiv>faer Aberhonddu, a. pherthynas i'r un Coriff yw'r Maer presennol. Mr. Gwi'.ym T. Jones (Madog Fychan) sydd wedi ei ddewis i ychwanegu dolen yn y gad- wyn eleni. Adnabyddir ef trwy Ogledd,, a De fel bardd, bairniad ac adroddwr o radd uchel. Prawf y cadeiriau, y bathodynau a'r cannoedd cydau sydd dan ei gronglwyd mai nid gorchwyl hawdd yw ei orchfygu ar lwyfan yr eisteddfod. Cymro twym- ga^n ydyw, a gofa.:¡agymaint a neb am iaith Parad- wys yn y dref ar Jan yr Honddu ar Wysg. Tair blynedd sydd er pan y gweithreda fel aelod o'r Cyng- or, ac y mae ei gyd-gyngihorwyr wedi anrhydeddu eu hnuain wrthi ei anrhydeddu ef itrwy e-i ddewis i lyw- yddu trostynt. iLlwyddiant imawr i'r Rhyddfrydwr, selog i lanw'r swydd gydag urddas.. Un o'r Brenhinoedd. Un o Frenhinoedd Sam, aria" oedd testun darlith y Parch. Robert AMen y Garth, 'Maesteg, pan yn annerch cymdeithas y bobl ieuainc yn Tabor. Cafodd gynllueidfa luosog ac astud. Y Parch. William Thomas, y gweinidog, oedd yn y gadair. Miss May Treharne, yw ysgrif- ennydd y gymdeithas. Yr Adar yn Canu.-Yn y wlad, yn y Gwanwyn, a'r Ha', fel rhieol, y cOywir yr adar yn canu, ond ceir e:thriadau i bob rheol, canant yng nghwm poblog y Rhondda, a hyny yn nyfnder gaeaf. Rhoddwyd dau berfformiad gan Obeithlu Bethlehem, Treorchy yn y Neuadd, a honno'n orlawn, o Gantata'r Adar (Dr. Parry), nos lau ,a Sadwrn, Tach. 25 a'r 27am, o tan arweiniad Mr. John Jones, un o flaenoriaid rfydd'Ion a gweithgar yr egilwys. Canwyd ac adrodd- wyd y gwahanol rannau gan y rhai canlynol, Misses K. 'Davies, L. M. Diavies-, Nancy Evans, Maggie Evans, Nancy Morgans, Katie Morgans, May Pugh, Olive Evans, Leh Lewis, S. J. Williams, A. M. Lewis, (Gladys Wright, Gertie Evans, Anetta Wil- liams, Rosie Evans, B. Williams, Hilda Evans, M. J. Edwards, EDen William-is, Masters Evans, 'D. H. Jones, Afan Lewis a Johnny Diaviies. Y cyfeilwyr oeddynt Mri. D. E. Williams, a. Henry Jones. Llyw- yddwyd gan y bugail y Parch. T. E. Davies a Mr. W. Griffiths. Cymdeithas y Beihlau.—Yr oedd cynulliad cry:fo fobl oreu'r dre' yng nghyfarfod y FeiKl Gymdeithas ym Mhontypridd nos Fawrth diweddaf. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuadd Llan pr,a\Y'+ hyn. fod y pellter rhwng yr eglwys a'r capel yn myn'd yn llai. Y Parch. J. D. Evans1, M.A., St. David's gymerodd y gadair, a'r ficer y Parch. W. Watkin Edwards, B.D.. a ddechreuodd y cwrdd trwy ddarllen a gweddi. Yr oedd gweinidogion y gwahanol enwadau yno yn llu mawr. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. W. Crwys Williams. Dywedodd ymhlith pethau enaill fod y Gymdeitfcias yn in oed, ac wedi bodi yn gyf- rwng i gyfieithu y Beibl i 487 o ieithoedd, i naw o 4,500,000 ihyd yn hyn heb glywed am y gwir a'r 4,500,000 hyd yn hyn heb glywed am y gair a'r bywiol Dduw. Y mae'r gymdeithas hefyd wedi gwneud gw,aith ardderchog i ddosbarthu y Beibl ym- hlith y milwyr ar y maes a'r dwyfedigion yn yr ys- byiai. Anogodd i ffyddlondeb gyda'r cyfraniadau gan fod 68oo yn ddyddiol yn angenrheidiol at y gwaith. Cyimerwch Esi,ampi).-Mewn cyngherdd o radd uchel a gynhaliwyd yn Jerusalem,, Nantyffyllon, tan nawdd yr Ysgol Sul yn ddiweddar, amlygwyd cryn frwdfrydedd pan ganodd; un o'r Belgians bach yn swynoil gan yn ddiletiaeth a chtoew yn yr iaith; Gym- reig. Dylai peth fel hyn godi gradd o gywilydd ar blant Cymru, a mwy na hynny ar eu rhieni, canys hwy yn fwy na neb -sy'n gyfrifol fod eu plant yn siarad imor 'fain. Wele enghraifft o Gymraes o Sir Aberteifi, yn awr yng Nghwm v Rhondda yn symbvlu ei bachgen i adael yr iaith a fedrai ac i !yncu iaith y Sais. Y crwt yn gofyni Shall I have bara butter mam?" a'r fam yn ateb, "Shall, shall, shall, shaM, machigen i." Clywaisi olygydd) y Brython yn dweyd yng nghyfarfod y Cymmrodorion ym Mhonty- pridd ryw dro ei fod yn argraffu yr iaith Gymreig ar gy:a ei blant. Chware teg iddo. Tybed na ddylai rbieni Cymru wneud yr un peth. Pregethwr yn ddi- weddar mewn capel Cymreig a rodd) y testun allan yn Seisnig, a ddiywedai, Dyna i gyd o Seisneg a gewch gennyf fi." Nid wy.f yn credu ei bod yn iawn pregethu Seisnigmewn capel Cymraeg i rai sy'n rhy ddiog i ddysigu'f iaith. Cyfarfodydd Pregethu.—Hopkinstown, Parchn. W. E. Williams, B.A., Maerdy, J. R. Jones, Penygraig. Hermon, Maesteg, Parch. Win, Adams, B.A., Llan- elly. Bethel:: Britton Ferry, Parch. W. D. Rowlands, Caerfyrddin. America mewn sgwrs a darlun ydyw teitl dar- lith newydd y Parch. S. E. Prytherch. Rhoddodd hi yn Glynogwr nos lau diweddaf i lond Ysgoldy'r Cyn-gor o" wrandawyr asitud. Eglurir y ddarlith a darOuniau drwy gyfrwng lantern, Cafwyd noson ddifyru s ac adeiladol dros ben. Blin oedd gan hawb ddeall fod Mr. Prytherch wedi penderfynu dychwelyd i'r Unol Daleithau, ac nid yw yn bosiibl ei atal. LOon oedd pawb i wel'd Mr. Charles Davies-, Gilfach, yn y gadair, ac addawodd ddod eto i lyw- yddu pan ddaw Mr. Prytherch yn ei ol o'r Gorllewin.
ADWYRCLAWDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADWYRCLAWDD Colledion Eglwys- y ifethodistiaid Calfinaidd.— Colli Bugail.—Ar ol 27t o flynyddoedd o wasanaeth; ffyddrjon a ll:wyddiannus, y mae'r Parch. Evan Jones a'i briod wedi ymneilltuo o ofalaeth yr eglwys uchod, a gwnaed hynny oherwydd pwysau blynyddau, efe yn agos i 80 mlwydd oed. Cyn ymadael penderfyn- odd yr eglwys1 a'r gynulleidfa gael cyfle i ddangosi eu gwerthfawrogiad o'u lLafur maith trwy gynnal cyfarfod cyhoeddus, a daeth cynhulliad- da yngbyd. Llywyddwyd (gan y diweddar erbyn hyn) Mr. Aaron Roberts, Ty'nycoed. Yr oedd gweinidogion yr ardal i gyd bron yn bresennol'. Ar ran Cyngor yr Eglwysi Rhyddion caed anerchtiadau pwrpasol.gan y Llyw- ydd, y Parch. Philip Price (W.), Coedpoeth, Parchn. T. E. Thomas (A.), J.:H. Richards, (A.), J, Jay Jones (B.), a W. J. Jones, Bethel. Eraill yn bresennol oedd y Parcnn. J. W. Rowlands (A.), ac R. Lewis. Ar ran yr eglwys siaradwyd pan Mri. G. J. Jones, Plas Maelor, W. Williams, Westminster House, Price Parry ac R. Roberts, Bryndedwydd. Dygent oil y dystiolaeth uchaf i lafur a defnyddioldeb Mr. a Mrs. Jones. Datganwyd y golled. fawr fydd am dano ef i'r eglwys a'r ardal-,coi-Iled am bregethwr poblog- aidd, bugail gofalus, ymwelwr cyson, cynghorwr doeth,, athraw rhagorol, cyfaill pur, a gwr lanwoda4 lawer o gyCchoedd gydag urddas a medr. Wrth dorri y cysylltiad maith a defnyddiol dymunid i'r ddau— Mr. a Mrs. Jonesl-flynyddoeddeto i weithio yn eg- lwys Crist, a nawdd y nef drostynt yn eu cartref newydd yn Bodawen, Maesgwyn Road, Wrecsam. Cyflwynasiidi eisoes i Mrs. Jones time.-piece hardd gan ei dosbarth yn yr Ysgol Sul, ac ar ran, yr eg- lwys a'r gynulleidfa cyflwynodd Mr. G. J. Jones, PCias Maelor, mewn anerchiad byw a theimladwy, 'cheque' i 'Mr. Jones. Colli [Blaerior.—iBrawychwyd yr ardal hon nosi Iau, Taoh. IIeg, gan y newydd trist am farwolaeth sydyn Mr. Aaron Roberts, Ty'nycoed; bu farw yn 46 .mlwydd oed, mewn llai nag wythnos ar ol ei daro a pneumonia." Brodor o Fwlchgwyn ydoedd, mab liynaf y diweddar Mr. Jonathan a Mrsi. Naomi Rob- erts. Ymbriododd a Mias A. Evans un o ferched y diweddar Mr. J. a Mrs. Evans, Llainwen, Pentre- celyn, ac y mae 600 blant wedi eu gadael yn amddi- fad, o dad1 caredig a gofalus. Cyn symud o Fwlch- gwyn yr oedd wedi ei ddewis yn flaenor yn eglwy9 Peniel, ac iyn fuan wedi dod i'r Adwy dewiswyd ef yn flaenor eilwaith. Efe oedd yr ieuengaf o bump o flaenoriaid. Yn ystod y 13 mlynedd y bu yn yr Adwy ni lanwodd neb ei swydd yn fwy urddasol a llwyddiannus nag ef. Profodd ei hun yn arweinydd diogel ac yn siaradwr hwylus. Bydd colled fawr am dano fel dyn fel athraw, a holwr yn yr Ysgol1 Sul, heblaw fel gweddiwr gafaelgar, yn arbennig yn yr argyfwng y mae yr achos ynddo ar hyn o bryd. Efe oedd yr ail flaenor fu farw y flwyddyn ihon, heblaw wyth o aelodau eraili1. Yr oedd Mr. Aaron Roberts yn ddyn amlwg mewn byd ac eglwys. Cyfrifid ef yn un o'r amaethwyr mwyaf cyfrifol yn yr ardal, ac yn gvrnydog caredig a pharod ei gymwynas. Ad- nabyddid ef y'm marchnadoedd Gogledd Cymru fel gwr gonest a chywir, ac yn ei hon ymwneud a dyn- ion. Yr oedd ei ysbryd siriol a'i degwch yn ei wneud yn ffafrddyn gan bawb. Dydd Ma wrth, Tach. i6eg, daeth tyrfa fawr iawn i hebrwng ei weddillion i g'addfa Coedpoeth. Danghoswyd parch; mawr i ddydd ei gladdu, ac arwyddion eglur o alar gan drig- olion yr ardal, ac ardaloedd eraill1. Ymysg y lliaws galarwyr yr oedd ei briod Mrs. Roberts a chwech o blant, Mr. Hugh Roberts (adeiladydd), iLerpwl, brawd Mrs. Louisa 'Roberts, Bwlchgwyn, a Mrs. Leah Roberts, Talwrn—chwiorydd Mrs. Hugh Rob- erts, Lerpwil, Mr.'Roberts, Bwlchgwyn, Mr. S. Rob- erts, Talwrn, .Mr. a Mrs. W. Evans, Ty'nycaeau, Mr. a Mrs. J. Evans, Stryt Fawr, Gell-ifor, Mr. a 'Mrs. Rowlands, Cerrigllwydion, Bala, Mr. a Mrs. Wynne, Rhewl Felyn, Mr. a Mrs. D. Evans, Ty Isa, MT. a Mrs. E. Evans, Llid-iart Fanney, Mr. a Mrs. Pugh Caeau Gwynion: Mr. a Mrs. Roberts, Ty Newydd, y Parch, a Mrs. R. R. Parry, Rhtuthyn, a Mr. G., P. Evans, L'lainwen, brodyr a chwiorydd yng nghyf- raith, heblaw amryw o berthynasau eraill. Arwein- iwyd yr holl wasanaeth gan y Parch. Evan Jones,, y cyn-weinidog. Wrth y ty cymerwyd rhan gan y Parohn. Pierce Owen, Rhewl, ac R. Morris, M.A., Brynteg. Wedi. ymffurfio yn orymdaith aed i gapel yr Adwy; aelodau dosbarth yr ymadawedig yn gweithredu fel cludwyr, chwech mewn nifer,—Mr. Ailbert Williams, D. James Hughes, J. Albert Lloyd, Stanley Williams, Iorwerth Evans, a W. Thomas Reese. Yn y capel yr oedd yn ymyl 500 o bobl wedi dod ynghyd. Siaradwyd gan y Parchn. Evan Jones a T. E. Thomas, a chan Mr. G..J. Jones. Gweddi- wyd gan y Parch. J. Lias Davies, Wrecsam. Wedi canu emyn a cbiwarae'r Dead March" ar yr organ gan Mr. J. Reckett Evans, ail) ffurfiwyd yn orymdaith i fyned i'r gladdfa. Wrth y bedd gwasanaethwyd gan y Parchn. T. E. Davies, Penycae, a W. Henry, Waterloo. Heblaw y rhai gymerodd ran yn y gwas- anaeth yr oedd y gweinidogion canlynol yn bres- .ennol-Parchn. IR.,R,. Parry, Rhuthyn, W. Rowlands, Acrefair, Robert Lewis, Adwy'r Clawdd, W. H. Humphreys, Adwy'r Clawdd, R. Hughes, Brymbo, W. J. Jones, Bethel, Phylip Price (W.), Coedpoeth;, 1'c s J. H. Richards (A.), T:a.!wrn,a J. W. Rowlands (A.), Nant. Ymysg y blaenoriaidyroood o eglwys yr Adwy, Mri. G. J. Jones, W. Williams, Price Parry, R. l !Roberts, iBryndedwydd, o eglwysi eraill— Mri. J. Roberts, Thomas Jones, T. 'Biackshaw, Rhys Edwards, Nant, R. Hughes, J. Jones, Bethel, S. Moss, J. Richards, Samuel iRoberts, Talwrn, Lloyd Evans, R. Kyffin, W. Roberts, Thos. Hughes, Lla»- degla, Seth Roberts, Peel Road, Lerpwl, J. W. Parry, Wrecsam, E. Goodwin, Treuddiyn, ac eraill na chaf- wyd eu hienwau. Anfonodd lliaws o gyfeilOion lyth- yrau o gydymdeimLad a Mrs. Roberts a'i theulu yn ei cholled a'i thristwch. Gofalwyd am y trefniadau gan 'Mr. IK Roberts, iBryndedwydd, yn cael ei gyn- orthwyo gan swyddogion yr egCwys. Colli- aelod gwerthfawr.—Yr un dyddi claddwyd gweddillion Mrs. Margaret Davies, yn 415 mlwydd oed, priod Mr. John Davies, Ty Newydd, Adwy'r Clawdd. Adnabyddid hi fel gwraig rinvved,d a mam dyner. Bu yn aelod ffyddlon o eglwys yr Ad- wy ac yn lletya pregethwyr am flynyddau. Gadaw- odd weddw a dau fab ieuanc i alaru ar ei hoi. Gwasanaethwyd yn yr ang'ladd gan y Parchn. Evan Jones, £ iL«wis, J. W. sRowlands (A.), a W. J. Jon«s, Bethel.
GWAUN-CAE-GURWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWAUN-CAE-GURWEN. Oynhaliwyd cyfarfod pregethu banner blynyddol eglwys, Sildh, Saiboth a Llun Tach. i4eg, 15 fed. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. ;Dewi Jones, Ton- nau; VV. Griffiths, Cwmgiedd; a Clement Evans, gweinidog, Cafwyd oedfaon grymus, a llewyrch. gwyneb yr Arglwydd ar y Weinidogaeth. Yr oedd Bardd-bregethwr o Gwmgiedd yn swynol iawn, a'r gwrandawyr wrth eu bodd yn addoli yr Arglwydd ym mbirydferthweh ei Sancteiddrwydd, wrth. wmndo arno. A'r athronydd-bregeth w r or Toniiau yn plymio i "ddyfnion hethau Duw," gan godi o'r dyfnder berlau teg o. feddyuiau, a gwirioneddau i gyfoethogi y gynulleidfaastud a'i gwrandawai. Yn ddiau, mae'r doethawr o'r Tonnau yn adnewyddu ei ieuenctid fel yr eryr.