Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithasfa Beaumaris. TACHWEDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithasfa Beaumaris. TACHWEDD 15-18, 1915. (Parhad o'r nhifyn diweddaf). AM 1.30, PEDWERYDD CYFARFOD- Y GYM- DEITHASFA. Dechreuwyd gan Mr. Wm. Williams, Caernarfon. Adroddiad Ychwanegol y Cyfeisteddfod. Yr Ysgrifennydd a hysbysai fod y Cyfeisteddfod yn cyfiwyno i'r Gymdeithasfa genadwri a ddaethai y bore hwnnw o Gyfarfod Misol Mon fel y canlyn — Yn ein Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Beau- maris, Tach. 17, pasiwyd y penderfyniad canlynol 1 Gofidus gennym hysbysu y Gymdeithasfa ein bod heddyw yn gorfod d'iarddel y Parch. Griffith Roberts Hughes, Llanfaethlu, o fod yn weinidog yn ein plith, ac yn awdnrdodi y Parchn. John Williams, Hyfrydle, a John Williams, Brynsiencyn, i gyflwyno y genadwri. Cynhygiodd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, fod y Gymdeithasfa yn cadarnhau yr hyn a wnaed gan y Cyfarfod Misol a'r Cyfeisteddfod. Eglurodd 'Mr. Williams beth oedd y trosedd, a dywedodd fod hwn yn un o'r achosion mwyaf gofidus ar lawer cyf- rif. Yr oedd y brawd ieuanc wedi dod i Fon yn gymharol ddiweddar ac wedi ennill graddau o sylw a chymeradwyaeth yn y wlad. 'Doedd ganddynt hwy fel C.M. ddim i'w wneud ond ei ddiarddel. Yr oeddynt yn gwneud hynny mewn ysbryd priodol iawn, tyner iawn, gan deimlo rnai eu dyledswydd mewn amgylchiad fel hwn oedd ymostwng gerbron Duw. Yr oedd yn glwy mawr i achos crefydd yn y sir ac i'r achos Methodistaidd yn y sir, ond nid chwerwder na digofiaint oedd yn eu meddiannu, ond y teimlad o ddwyster mawr, ac awydd i ymostwng o ran eu hysbryd gerbron yr Arglwydd, ac i ofyn am ei amddiffyn ef drostynt yn y cyfwng yma. Yr oedd eu gweddi yn mynd dros yr eglwys a'r gymydogaeth, a gobeithiai yr ai eu gweddi dros y ddeuddyn hyn er eu bod y tu allan i gylch eu heglwys a'u cyfundeb erbyn hyn. Gobeithient y byddai y peth yma yn wers i rai ieuanc. Fe gymerai pob un ystyriol y peth at ei galon. Yr oedd yr un drwg yn ymosod ar rai yn dwyn pob arwyddion o ragoriaethau, nid yn unig ar rai gwan, eiddil, ond yn yr achos hwn ymosododd ar fachgen llawn gwell na'r cyffredin. "Y neb sydd yn sefyll edryched na syrthio." Yr oedd yn ddrwg iawn ganddynt orfod cyflwyno achos mor boenus a hwn i'r Gymdeithasfa. Y Parch. Owen Owens, fel mater o ffurf, a eiliai. Yr oedd yn ddrwg iawn gan y Gymdeithasfa wneud hyn. Yr oedd yn adnabod y brawd a'i briod, ac yn adnabod eu teuluoedd. Yr oedd eu cydymdeimlad a'r Cyfarfod Misol, afr eglwys, ac a'r teuluoedd oedd wedi eu daroistwng. Go fidioent oherwydd fod y fath anair wedi ei ddwyn ar yr Enw mawr. Gob- eithiai y byddai eu gweddiau dros y rhai oedd yn y camwedd, ac am i'r Arglwydd oruwch-lywodraethu yr oll-fe fedr ef wneud hynny ond iddynt hwy nes- au ato—am iddo oruwch-lywodraethu y cyfan er lies pawb a gogoniant ei enw mawr. Yr wyf yn cefnogi, a hynny yn bruddaidd gorchwyl pruddaidd ydyw gwneud hyn. Cadarnhawyd hyn gan y Gymdeithas- fa gydag arwyddion o ddwyster. Mr. John Matthews, Amlwch, a gyflwynodd i'r Gymdeithasfa adroddiad o Gyfarfod y Blaenonaid, yr hwn a ymddangosodd yn y rhifyn diweddaf, ac a gynhygiodd ei fod yn cael ei gadarnhau. Eiliwyd gan Mr. John Griffith, Bangor, a phasiwyd ef. Etholiadau ar gyfer y Cyfarfod Ordeinio Nesaf. I draethu, ar Natur Eglwys, y Parch. Thomas Chas. Williams, M.A., Porthaethwy. I roddi y Cyng- or, y Parch. William William Williams, Talysarn. Adroddiad o Gynhadledd yr Eglwysi Rhyddion yn Llundain, Cyflwynwyd yr Adroddiad hwn gan y Parch. Mor- gan W. Griffith, B.A., Wilton Square, Llundain. Yr oedd y Gynhadledd wedi ei galw i'r pwrpas o ys- tyried safle yr enwadau vmneilltuol, a oedd modd dod i fwy o gyd-ddealltwriaeth, yn enwedig mewn lleoedd heb fod yn boblog iawn, i osgoi ac yn y blaen. Yr oedd yno 17 o enwadau yn cael eu cynrychioli. Yr oedd yno bob cydymdeimlad, a sel dros gael gwneud rhyw ymdrech i ddwyn yr en- wadau yn nes at eu gilydd heb ymyryd mewn un modd ag enwadau fel y maent, a'u hawdurdod na dim o'r fath ond fod rhywbeth yn cael ei wneud ] brofi ein bod yn amcanu symud at ein gilydd, ac i ddod i ddeall ein gilydd mewn lleoedd y mae yn- ddynt ormod o enwadau ar gyfer y boblogaeth. Fe bwysleisiwyd y'no yr angen am i ni fynd yn ol yn fwy pendant i hen egwyddorion ymneilltuaeth. Mae tu- edd i anighofio y pethau cyntaf-yr egwyddonon mawr ysbrydol a chrefyddol, yr angenrheidrwydd am argyhoeddiad personol dynion, eu hargyhoeddi o bechod, o Dduw, o dragwyddoldeb ac o ddigonedd Crist i gadw mai rhai felly sydd ganddynt hawl i fod yn eglwysi. Y Parch, J. H. Shakespeare yn bennaf sydd yn symud ymlaen, ac y mae yn awgrym- iadol mai Bedyddiwr ydyw efe. Mae'n debyg y caent hwy yng Nghymru fwy o anhawster gyda r Bedyddwyr na chyda neb arall. Ond Bedyddiwr yd- oedd Mr. Shakespeare, a Bedyddwyr, yn y gynhad- ledd oedd yn ymddangos yn fwyaf awyddus, a r rhai a alwent eu hunain yn Fethodistiaid oedd yn gweled mwyaf o lewod ar y ffordd. Yr oedd y cynrychiol- wyr o Loegr yn ymddangos yn benderfynol o wneud rhywbeth, a cheisio ei wneud yn awr er osgoi, ar un Haw wastraff mewn lie nad oe,s, angen am dano, ac i ddangos ar y llaw arall fodjr egjwysi .Jyddion yn amcanu at fwy o undeb. T'ybiai Mr. Griffith gan fod Lloegr,gyda chymaint a 17 neu ychwaneg o enwad- au yn penderfynu gwneud rhywbeth, gellid tybied na byddai yr anhawster yn gymaint yng Nghymru gyda dim ond pedwar o enwadau. Parch. John Williams, Brynsiencyn, a atgofiai y Gymdeithasfa fod pwyllgor o'r gwahanol enwadau yng Nghymru wedi ei benodi i ystyried pa fodd i wneud hyn yng Nghymru. Y duedd ydoedd i ni gael ein llywodraethu o Loegr gyda phob peth, yn wladol, yn grefyddol, ac yn filwrol. Ond fe wydd- ent hwy yng Nghymru fwy am danynt eu hunain ac am eu gilydd nag a wyddai neb o Loegr. Yr wyf yn cynnyg fod cenadwri yn cael ei hanfon at y pwyll- gor yn cynrychioli y pedwar enwad yng Nghymru yn gofvn iddynt drefnu cyfarfyddiad. Parch. Daniel Rowlands, M.A., a eiliai, a phas- iwyd hynny. Addawodd Mr. W. Griffith fynd eto i'r gynhadledd yn Llundain. Darbodaeth. (Cenadwri Dyffryn Conwy). Parch. 0. Selwyn Jones, Deganwy.—Ystyr y gen. adwri ydoedd fod Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy yn teimlo yn gryf y dylai y Gymdeithasfa wneud rhYiWIbeth i drefnu darbodaeth gyda golwg ar y Cyfarfodydd Misol a'r eglwysi, er mwyn sicr- hau gwell tre-fn gyda'r cynhorthwy a roddid i eglwysi o'r gwahanol gymdeithasau, megis y Gen- hadaeth Gartrefol, yr Achosion Seisnig, a'r Dry- orfa Gynorthwyol. Fe geid yn y Cyfarfodydd Mis- ol fod rhai teithiau yn cael cynorthwy o'r tair ffyn- honnell hynny; tair o eglwysi mewn taith ac un o'r eglwysi yn cael £24 o'r Drysorfa Gynorthwyol, un arall ^50 neu £60 o Gymdeithas yr Achosion Seisnig a'r llall o ryw £30 o'r Gymde-ithas Genhadol Gar- trefol. Cynygiai fod y Gymdeithasfa yn cymryd y mater i ystyriaeth drwyadl. Cafwyd sylwadau ar hyn gan y Parchn. Owen Owens; John Williams, Brynsiencyn; Robert Williams, M.A., Ellis James Jones, M.A. (Ysgrifennydd y Genhadaeth Gartrefol'a Chenhadaeth yr Achosion Seisnig); R. R. Williams, M.A. (Ysgrifennydd y Drysorfa Gynorthwyol); tuedd y sylwadau hynny ydoedd y dylai y Cyfarfodydd Misol drefnu y teithiau a'r gofalaethau yn y fath fodd ag i wneud yn amhosibl fod yr hyn y cyfeiriai y Parch. O. Selwyn Jones ato yn digwydd. Pasiwyd fod cenadwri i'r perwyl yn cael ei hanfon i'r Cyfar. fodydd Misol. Hanes yr Achos. Parch. R. Prys Owen, B.A., Llangefni, a ddyw- edai fod Hanes yr Achos yn argraffedig yn llaw y cynrychiolwyr, ond dymunai gyfeirio at rai cyweir- iadau angenrheidiol, a chyflwyno yr adroddiad. Parch. Edward Griffith, Meifod. a gefnogai fod yr Adroddiad yn cael ei dderbyn. Ategwyd gan y Parch. John Owen, Anfield, yr hwn a ddywedai eu bod yn teimlo y dyddordeb mwyaf yn hanes crefydd ym Mon ac yn holl siroedd Cymru. Yr oeddynt yn fawr eu dyled i Fon am y gweinidogion enwog y mae hi wedi eu codi, a thrwyddynt hwy, am y dylanwad sydd wedi bod ar y wlad. Nid oedd cywair yr ad- roddiad. hwyrach, yn uchel, ac nid oedd chwaith yn rhedeg yn ormodol i'r lleddf mae yna don o gymesuredd a chymedroldeb yn treiddio trwyddi oil. Gwelir nad yw y sir yn cynyddu yn ei phoblogaeth, fel rhai o siroedd Cymru. Dywedai y diweddar Barchedig David Roberts, y_ Rhiw, nad oedd dim prawf gwell o ansawdd ysbrydol gwlad na'r nawdd a'r haelioni a ddangosai tuag at y weinidog- aeth. Yr oedd rhai siroedd wedi cychwyn gyda gwneud gwell trefniant ynglyn a'r weinidogaeth ac eraill am gychwyn. Fe allai M6n roddi arweiniad a symbyliad i siroedd Gogledd Cymru. Dywedid nad oedd rhannau amaethyddol y wlad yn dioddef cym. aint yn awr. 'Gadewch i ryw gymaint o'r llwyddiant fynd at y weinidogaeth, ac os oes aberth i fod peid- iwch a phrinhaui yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn dda ganddynt weled y gwaith cenhadol a wneir ym Mon. Yr oedd syniad gan rai pobl mai Methodist- iaid oedd pawb ym Mon. Y maent yn casglu pob blwyddyn, ac wedi gwneud am bum' mlynedd ar hugain rhyw £ 8o yn y flwyddyn at y lleoedd cen- hadol hyn, y rhai oedd yn fendith, nid' yn unig i'r oedd yn cael eu dwyn iddynt ac i'r Ysgolion Sul, ond yn fendith hefyd i'r eglwysi eu hunain. Un o'r peryglon mewn rhai siroedd ydoedd gwneud j lleoedd bychain hyn ar unwaith yn eglwysi, a thrwy hynny greu anhawster iddynt eu hunain. Yr oedd yn dda gennym weled fod Methodistiaid Mon wedi gwneud cymaint yn y mater o geisio cau tafarnau, ac fod cymaint o Iwyddiant wedi dilyn eu hymdrechion. Pasiwyd fod yr Adroddiad am Hanes yr Achos yn cael ei dderbyn. Yr oedd yr ystadegau am 1914 fel y canlvn —Gweinidogion) 52 Pregethwyr 16 Blaenoriaid 403; Cymunwyr 12,300; Plant 4,158; yr holl gynulleidfa, 19,478; swyddogion yr Ysgol Bui, 1,674; Aelodau yr Ysgol Sul, 12,167; Casgliad at y Weinidogaeth, ^5,999; y Cenhadaeth- au, £ 672; at Ddyled, ^1,630; yr holl Dderbyn- iadau, ^14,592; yr holl Ddyled, ^15,218; yr Achos- ion Seisnig £53; y Drysorfa Gynorthwyol £ 183; y Symudiad Ymsosodol Cio5 y Gronfa Fenthyciol £ 32. Er y gofyn fu ar y wlad am arian at ddiben. ion eraill daliodd y casgliadau cyfundebol eu tir, a chynyddodd rhai o honynt. Y mae gan y CJM. fath o symudiad o'u heiddo eu hunain, ac adeiladodd y C.M. gymaint ag 28 o ysgolion mewn lleoedd nad oes moddion gras wedi ei drefnu ar gyfer y trigolion. Casglwyd £100 i gynorthwyo eglwysi gweiniaid y sir i gael gweinidogaeth gyson ac effeithiol. Perthyn i'r C.M. 85 o gapelau, 28 o ysgoldai cenhadol a 17 o dai gweinidogion. Tynwyd c726 o'r ddyled i lawr y llynedd Mewn ambell fan ceir nifer dda yn bresen- nol yn y moddion fore Sul, ond cwyna eglwysi eraill oherwydd difaterwch. yn hyn. Er nad yw y cyfajfod- ydd eglwysig yn lluosog ceir newyddion am amser- oedd hyfryd a bendithiol yng nghymdeithas y saint mewn llawer lie, ac nid oedd y seiat brofiad wedi diflanrfu o'u plith. Credid fod y cyfarfodydd gweddio wedi cymryd gafael ddyfnach ar serch y bobl yn wyneb amgylchiadau dyrus ein gwlad. Yr oedd rhai cannoedd wedi ymuno a'r cynllun cyd- h genedlaethol o ddarllen y Beibl yn ddyddiol. Deil 9 y wlad i gael bias ar wrando yr efengyl. Y mae 58 0 eglwysi dan ofal bugeiliol, ac amryw yn symud i alw sylw gweinidogion i'w gwasanaethu. Nifer yr eglwysi 87, o ba rai y mae 3 yn eglwysi Seisnig. Ofnir fod, llawer o deithio dialw am dano ar y Sab- oth. Un o bob deg o'r aelodau dan gyfrifoldeb gwaith athraw; y mae derbyniad mawr i esboniadau a chylchgronau y Cyfundeb yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer y gwersi ysgrythyrol am y flwyddyn, a bu gwyr cyfarwydd yn cael eu galw i roddi cynllun- wersi ac i draethu ar y gelfyddyd o gyfrannu addysg. Aeth y wobr flaenaf yn yr arholiad sirol i un oedd wedi ymrestru ym myddin y brenin. Y mae preg- ethu i'r plant yn dod i fwy o fri bob blwyddyn. Rhydd y Cyfundeb yn y sir gefnogaeth gref i ddir- J west a phurdeb, a thraethir yn rymus ar hyn bob :m mis Tachwedd' yn y C.M. Pwysir yn drwm ar bob swyddog newvdd a dderbynir, ar iddo lwyrymwrth- od ac arwyddo llyfr Dirwest y C.M. Ymunai y Cyf. undeb yn y gwaith hwn a Chymdeithas Ddirwestol y sir, yr hon sydd yn mynd yn allu cryfach bob -blwyddyn. Cymer llu mawr o'r aelodau ran ym mywyd cyhoeddus y sir, ac yn yr hyn a wnant ac a draethant, ac yn y delfrydau a arddelant profant fod Methodistiaid yr ynys yn fyw i'r agwedd gymdeithas- 01 ar grefydd Iesu Grist. Gwneir ymdrech i leddfu dioddef, ac yr oedd y casgliad at gynorthwyo y tlod- ion yn ^23 y llynedd. Cofir am yr ysbytai; aeth ^15 i Fangor a ^13 i Dublin. Y Cyfarfod Misol yn ddiau ydoedd y cynulliad crefyddol mwyaf ei ddyl- anwad a'i allu yn y sir; cydnebydd yr eglwysi ei awdurdod a theimla'r wlad barch mawr iddo; nid yw wedi dirywio i fod yn bwyllgor mawr o bregeth. wyr a blaenoriaid; y "Seiat Fisol" yw, fel cynt, a theimlir yn ami naws ac eneiniad rhyfedd ar y draf- odaeth. Cydwethreda y Corff a chyfundebau eraill mewn llawer rhan o waith Teyrnas Dduw yn y sir. Ar awgrym y C.M. cyfarfu cynrychiolwyr o bob en- wad ac Eglwys Loegr i drefnu dydd ymostyngiad ar. bennig yn Ynys Mon. Gwahoddwyd gwr adnabydd- us o enwad arall i arwain trafodaeth yng Nghyman- fa y Sir flwyddyn yn ol, a gwyr y wlad am rai o weinidogion Mon a wahoddir yn ami i wasanaethu enwadau eraill yn eu cylchwyliau blynyddol. Daeth amgychiadau presennol ein gwlad a'r enwad- au yn nes at eu gilydd mewn cydweithio ar ran y milwyr, a gobeithir trwy hynny fod cydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth gwell. wedi eu hennill. Yr oedd 400 o bobl y Cyfundeb ym Mon wedi ymuno a'r fyddin i fyny i Ragfyr, 1914, aeth nifer luosog ar ol hynny, a chredir am y doreth ohonynt eu bod yn wyr y cyffyrddodd Duw a'u calon. Aeth tri o'r gweinidogion ordeiniedig allan fel caplaniaid. Mae ysbryd hunanaberth a hunanymwadiad ar daen trwy y wlad, ymunodd rhai o'r chwiorydd ieuainc a Chymdeithas y Groes Goch, llenwir yr ysgoldai gan gwmnioedd o rai yn paratoi dilladau a chysuron i'r dewrion draw. Cafodd ugeiniau o ffoaduriaid Bel. gium gartref yn yr ynys, atebir yn galonog apel ar ol apel am arian, nwyddau a rhoddion, a diau fod dynion yn y pethau hyn yn clywed, nid galw'r wlad yn unig, ond galw egwyddorion ac efengyl y bendig- edig Dduw a'n Harglwydd Iesu Grist. Adroddiad Cyfeisteddfod yr Ordeinio. Cyflwynwyd hwn gan Ysgrifennydd y Gymdeithas- fa, a chadarnhawyd ef. Adroddiad Cenhadaeth y Milwyr. Cyfiwynwyd hwn gan y Parch. Ellis James Jones, M.A., yr hwn a ddywedai fod y pwyllgor yn teimlo yn ddiolchgar. a diau fod y Gymdeithasfa yn teimlo yn ddiolchgar, fod y fath nifer o eglwysi wedi dangos parodrwydd i ollwng eu gweinidogion i fyn'd i was- naethu gyda'r milwyr dros dymor. Yr oedd y der- byniadau erbyn hyn tua ^500. j^49° y trysorydd, ond crediai ei fod yn llawn ^5°° erbyn hyn. Dylid dweyd fod £ 100 wedi dod oddiwrth un teulu; 'doedd dim eisiau dweyd pa deulu oedd hwnnw Nid oes ond rhyw £100 mewn llaw, ac yr oedd gwaith mawr o'u blaen. Dymunai wneud apel at yr eglwysi, a gwneud yn eglur mai i Mr. John Owens, J.P., 20, Old Bank Buildings, Chester, yr oedd yr arian i'w talu. Yr oedd y pwyllgor unedig o Dde a Gogledd perthynol i'r Cyfundeb wedi cael ei gydnabod gan y Llywodraeth, sef gan yr Army and Navy Board, a dymunir i'r Gymdeithasfa gadarnhau dewisiad y brodyr o'r Gogledd: y Parch. Owen Owens, John Williams, Brynsiencyn, a Richard Ll. Jones, M.A., Llandinam; Mr. Edward Jones (Llyw. ydd y Gymdeithasfa), Mr. John Owens, Caer, ac Ysgrifennydd y Pwyllgor. Ymrestriad Gweinidogion. Yr Yg¡grifennJydd-Fe gododd brawd y mater hwn ddoe, bu dian ystyriaeth y Cyfeisteddfod, ac fe gyf- Iwynir y penderfyniad canlynol1 i'r Gymdeithasfa: Yn .gymaint a'n bod yn fod ein gweinidogion ieuainc wedi derbyn llythyr oddiwrth Arglwydd Derby, yr ydym yn hawlio fod i'r Llywodraeth estyn i weinidogion ordeiniedig ein Cyfundeb ni1 gael eu gosod ar yr un tir a gweinidogion perthynol 1 eg- lwysi eraill. Tra yn datgan hyn ni fytmem ymyryd yn y gradd 1'leiaf 4 hawl a braint pob gwemidog• 1 benderfynu drosto ei hun beth yw ei ddyleds^ydd i'w wlad a'i frenin, ac edrychwn gyda chymeradwy- aeth ar bob aberth a wneir gan ein brodyr. Gyda golwg ar y. brodyr aydd yn ymrestru yr ydym yn an- nog ein heglwysi i fod yn oddefgar a mawrfrydig tu ae atynt, er iddynt fod am dymor oddi wrthynt, gan wneuthur popeth a ellir i ysgafnhau y beich- a ddvgir arnynt trwy eu gwasanaeth 1 w gwllaa. Pasiwyd y penderfyniad, ac fod cyfieithiiad (yr fewn