Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
ADOLYGIADATL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ADOLYGIADATL LLYFR NEWYDD I'R BOBL IEUAINC AT Y GAEAF.* Pan yn cefnu ar hilrddydd a hindda yr haf, teim- lwn fod gan y gaeaf ei wobrau i hi. Ar drothjwy y gaeaf daw bias ar ddarllen ac awch am gyfarfodydd. Cawn fantais ar yr aefrwyd ac yn y cyrddau i ferthrin y rhan uchaf a godidocaf ohonom, sef y meddul a''r cymeriad. I gvfarfod a hyndYlem deimlio yn rhwym- edig i'r Parch. J. E. Davies am ddwyn allan lyfr mar gymwys i'r bobl ieuainc ar Wyrthiau Crist. 0 ran ymddangosiad y mae yn llyfr destHusi, wedi ei argraffu mewn llythyren glir sydd yn hyfryd i'w dar- llen. Y mae yn ffaith nodeddg mai yr unig esboniadau yn hanes yr eglwys sydd yn para i gael eu hargraffu a'u darllen yw, esboniadau ei phregethwyr. I ddangos hyn ni raid ond enwi tri-,Bengel, Calfin a Chrysostom. Y maent wedi cyfuno nodwedddon yr esfbdniwr a'r pregethwr—yr 'exegete' a'r 'homiiist — yn y fathi fodd, fell y mae eu gweithiau, hyd- yn oed faeddyw, yn meddu gwerth a dyddordeb arbenpig. Nid esboniad fel y cyfryw, ond llawlyfr i'r bobl ieu- ainc y mae Mr. Daviesi wedi ei gynyrchu; eto, wrth ei ddarllen, gorfodir ni i deimlo o byd mai pregethwr ydyw yr awdur. Y mae ei brofiad fel gweinidog ac athraw wedi bod o fantais iddo gynyrchu llyfr mor fuddiol i athrawon a. deiliaid yr Ysgol) Sul. Fel y gellid disgwyl, nid arddull drymaidd a chymy'.iog sydd yma, ond un fyw, hoew a semi. Na thybied neb, oherwydd ei eglurder, mai "ffarmio y wyneb" y mae, gan adael yr haenau dwfn heb eu cyffwrdd. Fe all profiad gyflwyno hanfod gwirionedd yn syml. Nid yw y Llawlyfr yn myned i mewn i'r cwestiwn "A oes gwyrthiiau? Wedi ei fwriadu y mae ar gyfer y rhai sydd yn credu dilysrwydd cofnodiad yr Efeng- yJwyr o'r gwyrthiau. Rhennir y gwyrthiau i dri dosbarth,—(i) iByd natur, (2) Byd iechyd; (3) Byd ysbryd. Yr hyn sydd yn gwahaniaethu y llyfr, a'c i'n tyb ni yn peri iddo ragori, ydyw ei Gynllun. Ei gynllun ydyw trafod pob gwyrth o dan 'bedwar .pen, sef Eglurhad. Cyflwyniad, Effeithiau a Gwersi. Y ihan bwysicaf ydyw y Gwersd; y maent yn fyw, ac yn lilawn o gyffyrddiadau tarawiadol. Hwyrach. fod ein hesboniadau yn ddiweddar wedi bod o nodwedd 'critical,' ac heib fod yn ddigon o gyfarwyddyd i'n hathrawon i gymhwyso y gwirionedd. Y perygl yw i'r Ysgol Sul gael ei hysear oddiwrthr y Seiat. Wrth ymberffeithio fel moddion i gyfrannu addysg, gall fynd yn llai o ddylanwad ysbrydol ar ei deiliaid. Ei hamcan uchaf ydyw bod yn feithrinfa i gymer- iadau. I gyrraedd. hyn yn effeithaol y mae gan yr athraw eisieu cymorth. Caiff hyn yn Llawlyfr Mr. Davies ar y Gwyrthiau. Oherwydd hynny, e,iddun- wn i'r gyfrol y cylchrediad helaeth a deiltynga. Bydded iddi dywys lliaws! o'n pobl ieuainc i'r rhan- dir oludog yma o etifeddiaeth Gair Duw. Tremadog. JOHN BENNETT WILLIAMS. RHANGAN (PART SONG). Gan Mr. T. J. Morgan (Penoerdd Cynon.), F.T.S.C., a'r geiriau Cym- raeg a Saesoneg gan Mr. J. Rhys Jones (loan Rihys), Ljanon, Aberystwyth. Pris i^c. I'w chael oddiwrth yr awdur, CwrrAach, Aberdar, Glam. Un o'r cerddorion ieuainc mwyaf lLwyddiannus, a dyfodol disglair o'i flaen, os caiff fywyd, yw iMr. Morgan. Ystyrir ei gyfansoddiadau—yn Anthemau, Rhanganau, Pedrawdau, a T'honau i Blant, &c., yn rhai ucheH o ran safon cerddorol; ac y mae y werin yn eu cymryd i fyny, gan y swyn a'r newydd-deb sydd ynddynt. Y mae y Rhangan hon etc, "Serch- gan yr Adar"—"Ye Merrv Birds,' yn gyffyrddiadau arnfovg a byw o'r swyn MendeLsonaidd sydd yn rliedeg trwyddi. Hyderwn y cymerir y Rhangan hion i fyny gan ein Heisteddfodau, fel darnau eraill ein cerddor ieuanc talentog. W. SAMLET WILLIAMS. •Liawlyfr ar y Gwyrthiau, gan y Parch. J. E. Davies, Treffynnon. Pris i/ Cyhoedd-edig gan E. W. Evans, Srwydd,fa'r 'Cymro.'
LLANBERIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBERIS. Ymweliad Syr Henry Jones.—No.s Fawrth y i6eg cyf., cynhaliwyd cyfarfod ymrestrol yng Nghapel Coch, pryd y icafwyd anerchiadau gan David Rhys, Ysw., J. A. Siddon, Cyn-A.S., a Syr Henry Jones. Yr oedd disgwyliad arbennig wrth yr olaf fel cyd- wladwr enwog a gwladgaroJ, ac oherwydd yr atgof- ion ibyw sydd gan lawer am dano pan yng ngwawr ei addewidion. Ond rhaid cydnabod na chawsom Syr Henry ar ei oreu. Wedi llawer o berswad y dywedodd air o gwb.1, a chan iddo benderfynu bod yn fyr gorfodwyd ef i ddarnio ei araith. Cwynai yn erwin oherwydd oerni yr adeilad, a datganai nad oedd yn bosibl argyhoeddi neb a'i draed yn oerion. Er mor rhagorol oedd araith Mr. Seddon, ac er mor bwysig ei safle ym :myd lLafur, canmiil! gwell i bwrpas y cyfarfod fuasai boddlohi ar y ddau areithiwr Cym- raeg. Pasiwyd y penderfyniad cenedlaethol yn un- frydol trwy i'r gynulleidfa godi ar ei thraed. IClyW- yddwyd y,cyfarfod g,an Thomas Hughes, Ysw., C.C., yr Hafod. Diwiylliant.Dyma., oedd testun anerchiad Mr. H. H. 'Roberts, Brynffiynnon, Llanberis, i Gym- deithasi Hyff-orddia-dol Gorffwys,fa nos Fercher yr 17eg. Rhtoddodd Mr. Roberts syni,ad clir i'r bob- ieuainc Sbethi mewn gwirionedd a olygir wrth ddi- wylliant, a dangosodd fel y cychwynai bob amser yn y Beibl. Nododd, hefyd, mewn duD ymarferol berth- ynas Barddoniaeth, Hanesiaeth. a Gwyddoniiaeth. Diolchwyd yn gynnes iddo am yr anerchiad.
---------"""---------"'-'--MARl…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARl ANDRO Merch i Edward Edwards, Cefnuwch, oedd Mari Andro, ac yn gweini yn siop y cwmni fel yr adna-. ibyddid hi. Merch dalt olygus ddengar oedd Maxi: yr oedd yn wastad ar ei gwen. Yr oedd gwr ieuanc yn y ipentref yn byw, mab amaethwr parch us yn y gym-. dogaeth gerllaw,—'bachgen glew, astud a .chydwybod- ol oedd John Daniel, ac wedi gosod ei nod yn bur uchel. Ni fynnai fod yn amaethwr. Yr oedd wedi penderfynu bod yn adeiladydd, gan hynny yr oedd yn rhaid iddo grwydro tipyn er mwyn iddo ymber- ffeithid yn ei a^twedigaeth. Yr oedd Mari a John wedi ymserchu yn eu gilydd, a chyn iddq ymadael- am Canada yr oeddent "yn deal", eu giiydd." Yr oedd John wedi addaw cadw, i fyny ohebiaeth gyson a Mari. Kfwrdd ag ef i'r Gorllewin, ac ysgrifennai at Mari gyda chysondeb ond ni chafodd hi ei jythyrau. Yn. yr un stop yr oedd merch arall o'r un enw,—merch gynllwyngar eiddigeddus oedd y Fair aran, yr hon drwy ei chyfrwystra Iwyddai i gaei yr olwg gyntaf ar" yr holl Oythyrau, a phan ddeuai un oddiwrth John- Daniel hi a'i cymerai ac a'i darllenai, a iphan we:, odd hd fod John Daniel wedi penderfynu gwneud Mari Andro y>n wiaig. iddo ei llid a ennynwyd. At- ebodd ei lythyrau yn y fath fodd' fell ac i beri iddo. ddrwg-dybio ei ffyddlondeb iddo. ,.y. Marihebwybodam ei lythiyrau a ofidiodd.am è siewniant, a ijwienderfynoddi ymadael a'r siop a'r' rhanbarih honno, a mynd i Gaerdydd ac ymiestru fel nyrs. Pan dorrodd y rhyfel ofnadwy aDan, hi wnaeth, apel am gael ei symud i weini-, kir, filwyr- clwyfedig.r Bu am fisoedd yn ddiwyd weini ar y dewrion..cl\vyf- edig mewn gwahanoK ysbytai tramorol, nes yr oedd ei hiechryd wedi ei wanychu yn ddirlawr,hen. derfynodd fyned am dair wythinos o seibiant. Pan ddaeth i Gaerdydd iperswadrwyd hii fyned am wyth-" nos i'w hen gartref. Talodd ymweliad a siop y cwmni. Cafodd roesaw nid toychan gan ei hen gym- deithion, a hysbyswyd fod y Fair arall yn iawn." Aeth Nyrs Andro ar ymweUad a hi yn union. Caf-j odd hi yn wael iawn. Hysbysodd ei hen gyfeiules, fod John Daniel yn parhau yn ffyddlon iddi. Ateb- odd y Nyrs hi gan ddweyd nad oedd wedi derbyn. yr un llythyr oddiwrtho. "Wel yn sicr i chwi mae ef wedi ysgrifennu lliawer 0 lythyrau y gallai unrhyiw ferch anrhydeddid a'r cyfryw fod yn falch ohonynt. "Ond," meddai, dan wylo, "yr wyf. wedi bod yn euog o dwyllo cyson drrwy gyfrwystra, a chtef-af am eich maddeuant. Yr wyf yn sal iawn, gallaf farw yn. dawel ond cael eich maddeuant, ac hyderaf y cyf. arfyddwch a John Daniel eto, er fy mod wedi ceisio dinystrio eich bywyd." Fe faddeuodd y Nyrs mewn dagrau. Blin gennym ddweyd na weCilhaodd y Fari arall. 'Gadawodd dyslt- i-Glaethau cryfi-o-n o'i hedifeiTweh, ac a llaw igrynedig cyfeiriodd fwndel o lythyrau John Daniel i'w Fair, ac wedi hyniny bu farw. Fe ddychwevodd y Nyrs at ei1 dyledswyddau. A phan yn rhwymo clrwyfau bachgen dewr ddygid i fewn i'r ysbyty, hi ganfyddai un arall yn aros ei dro er cael triniaeth. Pan aeth y Nyrs ato, yr oedd y meddyg yn ei arcbwilio ac yn siglo ei ben gan ddweyd "y mae wedi ei chael yn ddrwg, dibynna ei adferiad yn gyfangwbli ar ei ibenderfyhiad ei hun, a'r fagwraeth gaiff." iMewn ychydig funudau yr oedd y Nyrs wedi ei adnabod, ac yn fuan yr oedd Lieuten- ant Daniel allan o berygl. Fe eglurodd i'r Nyrs ei fod wedi ymuno a'i gatrarwd yn Alberta, Canada, ac wedi cael ei dd-yrchafu ar y maes o fod yn breifat i fod yn Lieutenant, ac wedi bod yn ymladd yn galed am fisoedd ,fe'i clwyfwyd. Yr oedd i'w weled yn gwella yn ddyddiol. Wedi gwella cryn lawer hi gafodd fantais i egjuro y gorff- ennol, a gweithrediad y ddiweddar Miss Andro. Llawer gwaith y cawsant fantais o, ail adnewyddu eu cyfamod. Yr wythnos ddiweddaf daethant adref efo'i gilydd, a phriodwyd hwy gan yr un gweinidog ac a'i bedyddiodd hwy pan yn fabanod. Yn y papur dyddioH gwelsom yr hysbysiad Daniel—Edwards.—Ar y 27ain cyfisol, gan y Parch. Dafydd Rowland, Lieutenant John Daniel, unig. falb Daniel Daniel, Pentwyn, a. Nyrs Andro Ed., wards, unig ferch y diweddar Edrward Edwards- dim cardiau. A Mair a ddaeth i'w heiddo. Porthcawl. T. JAMES.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. GENEDIGAETHAU. Davies. -Tachw,edd 19, priod Mr. John Sidney Davies, 25, Welldon Crescent, Harrow-on-the-Hir, ar ferch. Owen.—Hyd. 20, yn Utica House, Treffynnon, priod Sapper W. F. Owen, R.E., ar fab. Walking.—Tach. 22, priod Mr. Sidnejy Watkins, cyf- reithiwr, Dinbych, ar fab. PRIOiDASAU. Jones—Jones.—Tach. 20, yng nghapel Gellilydan, Maentwrcig, gan y Parch. David Hughes, Traws- flynydd, Mr. E. Jones, fOTeman yn y gwersyll, Trawsfymydd, a Mrs. Jones, merch hynaf Mr. a Mrs. Rogers Owen, Glynarfbn, Llandudno Junct. Lewis—Edwards.—Tach. II, yng nghapel Taber- nael, Aberystwythi, gan y Parchn. E. Morgan, B.A., Pennant, a W. Llew. Davies, Blaenplwyf, Mr. J. D. Lewis, athraw y Chancery School, a Miss Katie Edwardsi, Cefngwyn .Hall, Llanon. Roberts -Williams. LTach. 2ofed, yng nghapel Bryn- menai, Port Dinorwig, gan y Parch. Edward Griffith, B.A., Mr. H. LI. Roberts, L.C. & M. Bank,' Caernarfon, mab hynaf Mr. a Mrs. H. S. Roberts., ■ — www IN SJM-A. I n —— \sgol y Cyn.gor, Corris, a Miss Grace Williams, I ail ferch y Parch. W. Williams, 28, Segontiuffli n Terrace, Caernarfon. 'V MARWOLAETHAU. | '*■ Bebb.—Tach.. 22, yn 55. mjwydd oed, y Parchj Llew. John Montford Bebb, M.A., B.D., PnfathrorColeg Dewi Sant, Llanbedr. Davie,s.-Tach. 21, yn Llundain, yn 42 mlwydd oed, Miss 'Catherine Davies, merch y diweddar Gapten Evan Dvies" Panteg, Llanon. f Davies. '13011. 21, yn 31 mlwydd oed, Evan David Evans, mab hynaf Mr. a Mrs. Richard Davies, Gwarhos, Pontarfynach. Edwards. --Ta-ch.- ig, yn "77 mlwydd oed, Mri John Edwar-ds, teiliwr, Water St., Abergynolwyn. Edwaids.: Tach. -13, yn 79 mlwydd- oed, Mr^. Ed- w,ards,. Berth: Ddu, Rhosesmor. Griffith.—Tach. 20, yn 75 mlwydd oed, Mr. William Griffith, Ty Capel, Nazareth, Penrhtyndeudraeth. Harries.-Tacbi. 24, yn dra sydyn, Mrs. Harries., Pen- try11) Dolgellau, chwaer. i'r diweddar. Mr. óOwen' Thomas, Garthmaelan, ger Dolgellau. Jones.—Tach. 12, ar ol afiechyd maith, yn 44 mlwydd oed, Miss Elsie Jones, 2, Effie Place, Walham Gi-een, ,Llundain, merch y diweddar Mr-. Richard Jones. Y.IT., Pwllheli. Lewis.—Tach. 23, yn 49 mlwydd ó!d; "Mi. Robert Lewis, ail fab y diweddar Mr. John Lewis Mrs: Lewis, Dyffrydan, Islaw'rdref, iger Dolgellau. I Cydymdeimlir yn-fawr a'i fam,yn eu hiraeth a'u galas' am un oedd yn annwyl iawh gan- ddynt. Gwelodd ami a blin gystuddiau, ond daeth drwyddynt gyda gwydtiwch rhyfedd,' hyd .hes y daeth yr alwad oddiuchod yn glir a diamheuol. Biydd colled drom ar ei ol yn eglwys fechan Re- hoboth, lie y dewiswyd ef yn, flaenor ss y blyn- yddoedd. Preifat oedd yr angladd ddydd Gwener, J pryd y rhodd\Vyd' ef i orffwys gerllaw' y capel, y Parch. E.- Jones Edwards yn gwasa'naethu. n Luimley.—Tach. 20, yn 62 mlwydd oed, IMr. James Lumley, Aberystwyth. ^forris.—Tach- 22, yn 31 mlwydd Oed, iMr. John Morris, Tanyfron, Llangernyw. Roberts.—Tach. 1.7, yn 58 mlwydd oed, Mrs. Roberts, annwyl briod-iMr. William Roberts, Tanybryn St., Abergynolwyn. • Roberts.—Tach, 19, yn 84 mlwydd oed, Mr. William R. Roberts, 4, Cambrian Terrace, .Borth, axwein- ydd y gan yng nghapel Litxanus. Claddwyd ef yn Penygarn, y Parchn. J. C. Evans, D. Caron Jones, a J. Llewelyn yn gwasanaethu. Roberts.—Tach. a:2, yn 72 mlwydd .oed, Mr. Richard 'Rbberts, Brynmair, Llandudno Junction, blaenor hynaf eglwys Pensarn. Richards.—Tach. 23, yn 43 mlwydd oed, Mr. Ernest J Richards, Ardudwy, Aberdyfi. -| Thomas.—Tach1. 25, yn ,13 mlwydd oed, Hilda, ^n- 1 Richards, Ardudwy, Aberdyfi. Thomas.—Tach1. 25, yn ,13 mlwydd oed, Hilda, an- 1 nwyl ferch Mr. W. J., a'r ddiweddar.iMrs. Bryimer Thomas, Liverpool Stores, IBeaumaris. Smith.—Tach. i8fed, Mr. Wi 1 liam. Smith, Niwbwrch. (tad y P,arch, John Smith), yn 74ain mlwydd,oed. Claddwyd ef ddydd Mawrth ym mynwent Dwyran. Gwasanaethwyd gan y Parchn. H. Pryse Jones, D. E. Jones, -iC,as,sam (A.), W. Morris Williams, J. i Idris Owen, a iMr. Hwgh. Evans. f,
CYDNABOD C YD YM D EIM LAD.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYDNABOD C YD YM D EIM LAD. Is Dymuna Mr. Williams, Pr.ifathro -Ysgol :/Sir y Bechgyn, Bala, ar hun a'r teulu gydnabod gyda didlchgarwch y cydymdeimlad a'r caredigrwydd a dderbyniwyd g-anddyrit oddiar law Iluogyfeill- ion yn y brofedigaeth fawr a'i goddLweddodd trwy ymadawiad ei annwyl briod, a mam ihoffus o'u plith, ahynny mor sydyn ac annisgwyliadwy., 5 — 7— r—-— £
Esboniad ar Feusydd Llafur…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Esboniad ar Feusydd Llafur ylr Ys" gol Sal an! 1915-16. I Gan y Parch. D-. M. PHILLIPS, M.A., -Ph.D., Tylorstown. .• J i. ESBONIAD AR II. CORINTHIAiID, yn 203 tudalen (2/6 a 4/-) yn cynnwys Rhagymadrodd cyf- lawn, Dadansöddiad manwl o'r penodau, Eglurhad ar bob brawddeg, Materion Ystyriaeth Bellach, Gofynion ar bob pennod, a 13 o Draethodau ar y pynciau canlynol :—Am can Ysbrydol Dioddefiadau, Perarogl Crist, Nodweddion Gwir Weinidogion, Y Gorcbuddlar Wyneb Moses. Y Ty nid o waith' LlaW Y Ddau Blant, Y Ddau Ediifeirwch, Y Dyn Drwg, Pum' Egwyddor Cyfranu Crefyddol, Cnawd ac Ys- hryd, 'Gweledigaethau a Datguddiadau, Swmbwl yn y Cnawd, Cyflwr yr Enaid ar ol Marw. II. ESBONIAD AR EFENGYL MARC (3/6 a '1 5/-), yn cynwys nodiadau eang ar y gwyrthiau, sef v; Maes Llafur y Dosbarthiadau dan 21 a 16. Rhodd- ir yr argraffiad lleiaf o'r ddwy gyifrol yng nghyd am 3/- yn lie 6/ gan fod gwasgfa amgylchiadau oblegid • y rlhyfel yn ei gwneud yn anhawddach i brynu llyfr- au. Gall y rhai sydd a Marc ganddynt ddewis fy nghyfrol ar Evan Roberts a'i Waith- neu fy Esbon* J iad ar. y Damhegion yn ei He ar yr un telerau. Byddai yn dda genyf pe y cymenai rhyw frawd yn eich heglwys at gasglu enwau. Rhoddir y telerau arferol i lyfrwerthwyr a dosbarthwyr. Pob archebion i'w hanfon 4tyr Awdwr— i' GILANFFRWD, TYLORSTOWN. J