Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
.. GOHEBIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr).
COL EC Y BALA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COL EC Y BALA. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl -Mr. Evans,—A fyddwch chwi mor garedig ag hysbysu yn y CYMRO fod y mwyafrif Qi'r efrydwyr eto yn y Bala. Ymddengys fod argraff ar y mwyaf- frif o Eglwysi y Gogfledd fod yr oil o'r efrydwyr wedi gadael1 y coleg, ac oherwydd hynny yn credu mae ofer yw anfon am eu gwasanaeth. Y ffaith yw fod bron yr oil ohonynt yn parhau gyda'u hefrydiau ac yn barod i wasanaethu yr eglwysi pan y bydd angen am eu gwasanaeth. Byddwn yn dr.a diolchgar os hyddwcbj mor gar- edig a gwneud hyn yn hysbvs yn y CYMRO. Ydwyf, yr, eiddoch yn bur, Coleg y Bala. R. LLOYD (YSIg.). Rhagfyr 4. LLYTHYRAU LLUNDAIN: GAJR BACH AT « D.E." AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-PI-esepus bob amser ydyw darllen gwaith fy hen gyfaill D.E. a theithiais :gydag ef yn eich rhifyn diweddaf i bob cwr o'r byd. Ond, yn wir, carwn iddo dreulio ei amser yn nes gartref a'n harwain ar bererindod drwy Lundain Gymreig a iMethodistaidd. Nid oes! neb a wyr fwy ,nag ef am hianes y Cyfundeb yn y Brifddinas, a dyddorol f'ai ei atgofion sy'n estyn,, mae'n debyg, dros, gyfnod o ddeugain neu h,anner can' mlynedd. Apeliaf ato ac ihefyd at yr hynaws Olygydd. i'm cefnogi yn hyn 0, ,gais a gadawer y tramwyo dros; for a thir i rai fel Ashmead Bartlett .a John Buchan. Yr eiddoch, &c., 'COF AM A FU. BETH YW GOiRFODAETH FILWROL? AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Nid wyf yn sicr, beth yw eich golyg- iad chwi ar Orfodaethi Filwrol; ond teim:af fod llawer o siarad gw.a,g ar y mater. Pa beth olygir wrth Orfodaeth? Ai gorcihymyn a hawl cyfraith yn gafael mewn dyn nad yw yn ymdeimlo a'i ddyled- swydd, ac yn rhoi dilLad milwr am dano, a chleddyf wrth ei glun P Ynte dynion yn cael eu penodi i ym- weled ac ail-ymweled a dynion nes eu dwyn i deim- lo y rhaid iddynt ymrestru pe oherwydd dim ond cywilydd? Gyda'r trefniad cyntaf, chwi iddaliwch y .gweilch anonest sydd yn llechu gartref, ac yn cyf- oethogi ar draul eu brodyr. Gyda'r trefniad arall, yr ydych yn rhoddi gorfodaeth foesol ar y dosbarth goreu, ac yn gadael y gweilch y sonia-is am danynt yn rhydd. O'r ddau, gwell gennyf y trefniad sydd yn gpsod arnddiffyn eu gwlad yn ddyledswydd" ar bawfo fel ag y mae ei breinti-au yn disgyn i ran pawb. Ydwyf, MAB I FFERMWR. ARWEINIAD I BiREGETHWYR IEUAINC AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-Hoffwn yn fawr pe gallai rhywun roi arweiniad i ni, bregethwyr ieuainc, yn yr ar,gyf- wng presennol. Mae tri, os nad rhagor, wedi bod yn ein hannerch; pob un a'i ne,ges ei hun. Cawsom areithiau rhagorol; ond dim gronyn o ,arweiniad ar y cwestiynau mawr a phwysig i ni. A ydyw yniawn i ni gymryd arfau milwrol yn erbyn ein gelynion? Neu a ydym ;ni i gymell pobl eraill i wneud hynny, a llechu ein hunain yng nghysgod. ein swydd ? A ydyw yn iawn i weinidog iEfengyl Crist gymell dyn- ,g ion ieuainc i ymrestru, ac ar yr un pryd i ddweyd Had yw yn iawn i weinidog Crist i wneud yr hyn y ,gofyna efe i eraill ei wneud? Nid wyf yn dannod, nac yn beio gofyn am arweiniad yr wyf, oblegid nis gwn i iba Ie j droi. Gwelaf fod un o'r; esgobion yn anghytuno a'r archesgobion ynghylch moesoldeb y cwestiwn, ac yn awgrymu fod tuedd i wneud 'cloak' o'r swydd. Buasai yn dda gennyf allu credu fod gwahaniaeth rhyngof fi a'm brawd syddgartref yn .gweithio ar y fferm ond nis gallaf gael goleuni. Yr eiddoch yn brudd, Rhag. 3. UN MEWN DYRYSNI. GWERSYiLL KINIMEL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Teimlir yn wir ddiolcbgar os anfonir i mi enwau a dhyfeiriadau ein bechgyn annwyl a dewr ydynt wedi ymuno a'r Fyddin, ac wedi clod i aros i'r 'Gwersyll uchod. Pleser, calon fydd ymweled a hwy, a gwneud a ellir er eu cysur, ac yn y ffordd o'u gwasaliaet-hu mewn ystyr ysbryd'ol. Ar hyn o bryd disgwylir i mi 'fugeilio'r' oil .ohonynt sydd yn daJ cysylltiad a. thri chyfundeb, sef y Meth- odist: aid Calfinaidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Gallaf ddweyd fod y gwaith yn 'un yr ymhyfrydir yn fawr ynddo, a gwna'r sylweddoliad o'r fraint a'r cyfriioldeto i un fod yn barod iaw.n i weddio am Ddwyfol gymorth ac arweiniad er bod yn deilwng o'r ymddiriedaeth. Diau y bydd llawer yn llawen o ddealt fod gennym Ysgol Sul bur flodeuog wedi ei sefyd'ai. Ceir cynulliad,au da ar fore Sul; a C hwy1 ac eneiniad neilltuol ynglyn a chanu ambell emyn. Cysur yw credu fod ami weddi yn esgyn i'r nef, a'i bendith gyfoethog yn esdnwyth ddisgyn ar ein gwer- sy'loedd ar yr Sadeg ryfedd Son yn ein hanes. Da gennyf aHu dwyn tystiolaeth fod yn Kinmel lawer o fechgyn ydynt yn anrhydedd i'n cenedl o ran di- wylMant, moes a theyrngarwch i'w crefydd. Yr eiddoch yn gywir iawn, Gwyndre, W. G. OWEN. Abergele. GAIR- ODD I WRTH FTILWR AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Cyfeiriais yma o sFanceinion yng nghwxnni ntimp o fechgyn ieuainc crail", ar y iofed o Dachwedd. Cawsom siwrna lledi ddifyr, a chyr- haeddasom yng ngorsaf Blandfo-rd, oddeutu 4.30 yr un dydd. Derbyniwyd ni yuo. gan y Caplanac un o'r is-swyddogion. Parodd geiriau caredig y Caplan (Capten Primrose) i ni deimlo'n hoLol gartrefol mewn parth dieithr. Deallaf ei fod ef yn frawd 1 Arglwydd R'oseberry. Cyrchiwyd ni 1 r gwersyli mewn Ambulance Motor.' Wedi cyrraedd ohonom yno cawsom ein hunain ym- h:ith lliaw.s mawr o fechgyn o bob rhan o'r wlad. Gallwn dybio fod y mwyafrif ohonynt o'r dosbarth canolig. Pa wahani,aeth bynnag allai fodoli yn y bywyd cyffredin, unwaith y gwistgir y brethyn llv/yd," nid ces mwyach nac Iddew na Groegwr. Y Sabothi cyntaf i mi dreulio yma aethum yn y bore i'r .gwaaan-aetli Presbyteflaidd gynhelid yn y gwersyli. Daeth cynulliad da ynghyd hyd om Ian- wyd yr adeilad. Anerchid gan y Caplan (Capt. Primrose), a chafwyd sy:wadau buddiol a phwrpasol; yn wir gymwysiadol i'r bywyd ar amjgylchiadau y trown ynddo'n awr. Alethum i dref Blandford at wasanaeth yr hwyr. Troais i mewn i'r eglwys Annibynol lie y gwemidog- aethir gan y Parch. Gomer Evans, B.D., a phregeth- wyd yno gan y gweinidqg yn effeithiol iawn. Un peth neiJtuol a sylwais oedd y nifer o oedohon yn 'bresennol—dynion gan mwyaf. Diweddar mewn eymhariaeth yw Blandford fel y saif yn awr, ond y mae yno olion o henaftaeth yn y cylch. Gerllaw yr Eglwys Blwyfol gwelir adeilad a godwyd mewn'ffurf o fynedfa. Codwyd hon yn 1760. a ch,eir tabled yn nodi'r hanes. Ymddengys 1 dan difrifol donli allan yn 1733, pryd y dmystriwyd amryw o bentrefi ac y coLwyd rai bywydau drwy r alarms. Ystyrrid hyn gan y triigolion fel ymwehad o eiddo Duw, erys yr adeilad crybwy.ledig fel eot; eolofn o'r digwyddiad hwnnw, ac o^ddioIchgarwch_i Dduw ,n.a ddinys'triwyd yr holl drefydd. Peth cyff- redin wel yr ymwe:'ydd yn y cylchoedd hyn ydyw ty lo gweTlt. Dichon yr esbonia hyn famt yr alanas ddwy ganrif yn flaenorol. Pah&m yr edrychid ar hyn fel ymweliad dwyfol nis gwn, ond am;w¡g yw fod y lamp yn oleu ar aelwydydd Blandford yn y C^Ni°ymhelaethaf yn awr. Os caf gyfle anfonaf lith eto. Yr eiddoch yn bur, ;Medical Unit., PHILIP MORRIS. C2, AI. Lines, Royal Naval Div. Camp. Blandford, Dorset; Rhag. 3, 1915. "SYMUD ,HEN DEiRFYNAU." AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-Credaf fod y rhyfel yma yn symud llawer o derfynau ym meddyliau crefyddwyr Cymru gyda ni y MethodistLaid o'r hjyn lleiaf. Yr wyf wedi .c.,ywed llawer o ffryndiau yn gweddio yn afaelgar, yn fwy gafaelgar na chlywais i hiwy o'r blaen, ac yn eu dio'chiadau i'w Tad Nefol, yn diolch am ddewr- der ac aberth y gwyr ieuainc grymus ymunodd a'r fyddin, ac yn gofyn i'r ,Brenin mawr roi bywyd tra- gwyddol iddynt ar gyfrif eu haiberth. Drwy weddi- au o'r fath yna, anwybyddir aberth y Meichiau. Beth am Pen Calfaria nac aed hwnnw byth o'm cof?" Oes gennym ni le i gredu yr edrych Duw ar weithred. o eiddo'r milwr yn yr ystyr yma ai dan,gos yn y man gyda chymeradwyaeth ? Pan yr y,styrir fod imiloedd o'n milwyr ni yn hollol anghrefyddol, ond fod crefydd wedi rhoddi ystyr i ryw bethau yn y wlad yma nag sydd mewn gwledydd eraill, isef yr anrhydedd personol sydd yn meddiant mwyafrif ein pobl Y cwestiwn ydyw hwn, a ydyw Duw yn cyfrif eu gwasanaelth yn gyfiawnder iddynt? Eto, 'Gweddio dros y marw. Oes rliywbeth yng Ngair Duw yn groes i hynyma? Oes yna ryw sail i'w condemnio ond ar ddysgeidiaeth ein henwad? Yr wyf wedi cael amryw ymgomion gyda rhai o'r prif bregethwvr, rhai yn fyw a rhai wedi marw; ac wedi y siarad, y mae y peth yn dod i hynyma. Yr ydym ni yn edrych, wedi arfer edrych ar angeu yn iselio tynged pawb. Yr hlwn sydd frwnt a'r hwn sydd lan fe:ly y byddent mwy." Ond meddyl- ier am filoedd. 'bechgyn y wlad sydd yn cael eu hyrddio i dragwyddoldeb ar amrant ymroai! Mae miloedd lawer o weddiau yn cael eu hoffrymu yn ddyddiol am eu hachubiaeth. Mae Pawer o'r bech- gyn wedi eu lladd a'u rhieni a'u cyfiellion yn par- hau i weddio. Oes yna le i ni gredu gan fod eu hysbrydoedd gyda Duw fod yna obaith gwaredig- aeth gyda'u Barnwr? Atgofiaf yn dda ddigon gofyni i hen weinidog an- nwyl oedd wedi claddu mab—ei fab hynaf oedd wedi marw o dan effeithiau pethau meddwol. Ydych chwi yn credu fod chance ganddo am fywyd?" Cyf- ,ai:l bore oes i mi oedd y ibachgen. Tom bach," meddai, a'i ddagrau yn treiglo i lawr ei wyneb llwyd, pan byddaf yn. agor ei Feibl, yr hiwn a gafodd am ddysgu ü'i wirioneddau a gwel'd .sylwadau craff an- nwyl ar ambell i frawddeg, yn erbyn fy nghred i fy hunan byddaf heb obaith am atebiad yn anfon am- bevl ochenaid ar ran fy mab, fy mab!" Ai ein dysgeidiaeth ni sydd yn erbyn gweddio ar ran enediau y rhai sydd wedi croesi, neu a ydyw y gwirionedd yn glir a phendant ar y cwestiwn yma? T filoedd o riaint yng Nghymru y dyddiau yma, mi fyddai gwarant i weddio dros eneidiau eu hanwyliaid dewr yn ysgafnhad rhyfeddol. Mae rhywbeth hyfryd iawn o gysurlawn yn I I Chron. xxx. diwedd yr 18, 7, 19, a'r 2ofed o'r, adnod- au. Yn eiddoch, Porthcawl. T. JAMES. CYNNYRCH BWYD YN SIR CAERNARFON. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Ar nan Pwyllgor Amaethyddol (Rhyfel) y sir, carwn apelio at berchenogion a thenantiaid tirol i osod caeau neu ddarnau llai o dir at wasanaeth gweithwyr ac eraill ewyllysiant gynorthwyo gyda'r gwaith o ychwanegu at a gwe11.a ein cyflenwad o fwyd cartref. IRhaid fod rhannau lawer 00 dir ag y gejlid yn rhwydd eu hebgor i'r amcan hwn drwy'r Sir hteb effeithio ar, na lleihau y gwaith a gerir ym- laen eisoes gan Ffermwyr a Thyddynwyr. Ffaith ofidus yw fod uwchlaw ugain mil o aceri yn Sir Gaernarfon yn unig wedi myned yn ddigynyrch yn ystod yr 20 mlynedd diweddaf. Bydd yn dda gennyf hefyd gael enwau a chyfeir- iadau personau sydd yn barod i drin rhannau bych- ain o dir yn y gwahanol ardaloedd. Tybir yn gyffredin y cyfyngir apej y Llywodraeth i godi mwy 0 wenith cartref. Telir am gyflenwad bwyd o wledydd tramor (yn cynnwys y Trefedigaeth- AU) dros 300 miliwn 00 bunnau yn flynyddol. Nid yw gwenith yn cynrychioli ond y seithfed ran o'r draul. Yn 1914 cynhiwysai y bwyd tramor a bryn- wyd gennym y pethau a'r gwerth a ganlyn, sef,- bacon, ^18,226,000; ymenyn, 624,013,000; caws ^7,966,000; wyau, ^8,653,000 siwgr, ^32,988,000 beef, ^23,265,000 mutton, ^11,595,000. Anhawdd yw amgyffred ystyr a phwysigrwydd ffigynau anferth fel hyn. 'Gellir yn well o bosibl arylweddoli eu neges drwy ddweyd fod swm y gwa- hanol fathau ar fwyd tramor a brynwyd gennym yn cynrychioli y pwysau a ganlyn am bob pen o'n poblogaeth :— Bacon, 14 pwys:; ymenyn, 9l pwys caws, St pwys wyau, 50 (mewn rhif); siwgr, 82 pwys; beeif, 21 pwys; mutton, 12t pwys. Yn sicr fe ddylai athryMth ein pobl fod yn alluog i drefnu moddion i ychiwanegu yn sylweddol at gyn- nynch cartref ynglyn a'r rhan fwyaf o'r mathau hyn ar fwyd sy'n anhebgorol i'n ffyniant fel cenedl. Trefnodd Arglwydd Selborne gyda'r Swyddfa Rhyfel i stario dynion sydd mewn gwasanaeth amaeth- yddol profedig. Buddiol i'r wlad sylweddoli y gwnaed y trefniant ar yr ystyriaeth fod diogelwch y wlad yn caej ei sicrhau gan y rhai sydd yn cyn- yrchu bwyd yn ogystal a'r dynion sydd yn gwneud munitions neu yn dwyn arfau, ac yn diogelu ein gwlad yng ngwasanaeth ein Llynges odidog. Ond rhaid i'r rhai sydd yn trin y tir ddangos yr un ys- bryd o hunan-ymroddiad a hunan-aberth a'r rhai sydd wedi rhoddi i fyny broffeswriaeth a masnach a igadael cartref a theulu i ymladd dros ryddid ac iawnder. Mae'r angen i godi mwy o fwyd cartref, ac fel:,y leihau y swm a brynir o wledydd tramor, yn rheid- rwydd diamheuol. tBethbynnag fu ein syniad am fantoM gwerth ein pryniadau o, a'n gwerthiadau i, wledydd tramor, y mae'n ffaith anwadadwy ac ech- rydus fod gwedd'ill ein pryniadau dros ben ein gwerthiadau wedi cynyddu o 110 miliwn o bunnau am y cyfan o'r flwyddyn 1014 i 300 miliwn o bunnau am y 10 mis yn diweddu Hydref 30. Erbyn diwedd Rhagfyr bydd y gweddill yn ein herbyn am y flwyddyn yn ddim llai na 360 miliwn 0 bunnau. Amlwg yw y rhaid talu y swm enfawr hwn i raddau perl o'n cyfalaf. Ni all unrhyw wlad barhau i fas- nachu ar y llinellau hyn heb beryglu ei safle a'i diogelwch. Sut bynnag, un ffordd effeithiol i lei- hau y gweddilj a'r fantais yn ein herbyn yw cyn- yddu yn sylweddol swm a gwerth y bwyd a gyn- yrchir gartref. Dadleuai rhai, o bosibl, mai ofer pwyso ar am- aethwyr i yohwanegu at gynnyrch y tir pan y mae llafur mor brin. Eto, dylid cofio yr addefir yn rhwydd y gellid ychwanegu at gynyrch y tir sydd dan driniaeth eisoes drwy daju mwy o sylw i ddeth- oliad gwrtaith a hadau. Yn wir, dygwyd i'm sylw yn ddiweddar ddau achos yn arbennig sy'n profi hyn. Nid, yw' cyfartaledd cynnyrch. gwenith yng, Nghymru yn fwy na 28 bushel i'r acer. Ym- -Mon, y mae 'Mr. E. T. John, A.S., wedi codi 48 bushel i'r acer yn Llanidan, ac y mae amaethwr yn ymyl Gwrecsam wedi codi 61 bushel i'r acer. Nid yw amaethwyr wedi manteisio fel y dylent ar y cyfleusterau gynygir yn ddidrauj ym 'Mhrif-Ysgol y Gogledd ym Mangor i gael cyfarwyddyd dynion profedig ynglyn a gwrtaith a hadau. Y mae aelodau adran amaethyddol y Coleg, yn ogystal ag athrawon Fferm-Ysgol Madryn, bob amser yn barod i hyff- orddi amaethwyr, tyddynwyr, a garddwyr, o berth- ynas i bob adran o'u gwaith. Ni raid iddynt ond ysgriffennu at y Proff. R. G. White, Coleg y Brif Ysgol, Bangor, neu at y Prif Athro R. H. Evans i Ysgoj 'Madryn, ger Pwllheli. 'Gwnaeth Arglwydd Selborne yn glir eisoes ei fod yn benderfynol o gynorthwyo amaethtwyr hyd eithaf ei allu i symud pob rhwystr ar y ffordd i sicrhau gwell cynnyrch. Erys. y cyfrifoldeb yn awr ar am- aethwyr y wlad i ddatgan yn gjir beth yw yr an- hiawstefau, nid yn unig er eu mwyn eu hunain, ond oherwydd y gall eu hesgeulustra olygu colled a chyni i'r wlad. A Dymunaf yn igalonnog apelio at amaethwyr, man- dda'wyr, garddwyr, a phawb eraill sydd yn gysyllt- iedig a'r gwaith o gynyrchu bwyd yn y sir, i anfon manylion o unrhyw anhawsterau i mi, fel Ysgrifen- nydd y Pwyllgor Sioot Gweithreda y Pwyllgor mewn cydweithrediad agos a chyson a Chyngor Amaethyddol Cymru yn ogystal a Bwrdd Amaethydd- iaeth. Yr wyf yn hyderus y gwna Cymru yn y mater hwn, fel ymhob cysylltiad arall, ateb yr alwad am ym- roddiad a gweithgarwch diflin. Carwn hefyd i amaethwyr a gweÏJnidogion amaeth- yddol sydd mewn anhawster ynglyn a chwestiwn yr ymrestru ysgrife-nnu ataf gyda manylion cyflawn yn ddiymdroi. Yr eiddoch yn gywir, Swyddfa Addysg, EVAN R. DAVIES. Caernarfon. Tachwedd 24ain, 1915.