Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

".'.'.....;;CONGL YR ALLIANCE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONGL YR ALLIANCE. GAN Y PARCH. ELLIS JONES, BANGOR Penfro yn Sycfc.! Llongyfarchwn Sir Benfro yn y ffaithi ei bod yn caelei chyhoeddi, o gwr bwy gilydd, o dan wahardd- iad yn ymarferol. Nid: yw v Bwrdd Canolog yn hepiah yn hollol. Efallai mai bob yn damaid y ceir yrbyn yr oeddym yn Nghymanfa Lerpwl yn galw am ei gael, sef cael Cymru oil wedi ei chyhoeddi yn Dalaeth i ,bwrpas sobrwydd. Diau fod rheslymau dros osod Penfro o dan waharddiad nad ydynt yn bod i'r un graddau ym Mon, Arfon a Meirion. Ond gallem ninnau ddwyn digon o resymau, ysywaith, dros yr angen am yr un fraint a gwyr 'Lloegr tuhwnt i Gymru. Y Merched Etc. Y mae'n .anodd gwybod beth i feddwl o'r merched. Dyna un ohonynt o flaen y Llys y dydd o'r bla,en am feddwi, a thystiai ei bod yn fynych. yn cae;, ei beio g.an ei phriod ei bun o fod yn feddw pan na byddai wedi cyffwrdd1 diod feddwol o gwbl: ymddengys fod menthol, mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn cael eff- eithiau meddwol ami, yn ol ei thystiolaeth ei hiun. Ni rocldwyd un pwys i'w chwyn. :Cosbwyd hi am feddwi. Cynyddu wna meddwdod ymysg merched yn yr Iwerddon. Erfod meddwi ymysg dynion wedi llei- hau yn sylweddol yn yr Ynys honno, mae'r cynnydd yn frawychus ymysg y merched. Cyffelyb ydyw yn Sir Fflint yn ol tystiolaeth y ffigynau roddwyd ger- broh Pwyllgor iHeddgeidwadol y Si:r gan y Dr. J. H. Williams. Yn ystod y ohwarter diweddaf yr oedd 14 wedi eu cosbi am feddwdod yn y sir, an gyfer 8 y chwarter blaenorol. Pedair yn unig gosbwyd yn yr un tymor flwyddyn yn ol. Y mae y meddyg yn awgrymu ibethi yw yr achos o'r dinywiad hwn ymysg merched y sir. Yn lie dilyn yr hen arferiad da o groesawueu gilydd i'w tai drwy baratoi cwpanaid o de, rh.aid yn y dyddiau difrifol hyn ymofyn dwy neu dair botelaid o stout o'r dafarn gerllaw i wneud ■croesaw! Yn ol barn y Paflch. H. Carter, welir mewn ysgrif o'i eiddo yn y irevi-ew of 'Reviews," am y mis presennol, meddwdod merched ydyw yr unsolved problem ar hyn o bryd. Ac y mae arwyddion fod iyn awdurdodau yn ym- ddeffro. Yn Ffrainc gwaherddir gwerthu Gwirodydd i ferched a bechgyn dan oed. Ac yn y wlad hon, deallwn fod y 'Bwrdd Canolog wedi apwyntio is- bwyllgor o foneddigesau i chwilio i mewn i'r mater ac i gyfarwyddo y .Bwrdd ar y moddion i roi atalfa ar y gwaithi. Mae enwau y boneddigesau gyfansodd- ant yr Is-Bwyllgor wedi eu cyhoeddi, amryw ohonynt yn adnabyddus fel rhai yn teimlo dyddordeb ym mhethau goreu y wlad. Disgwyliwn ganfod effeith- iau daionus yn dilyn. Yr ydym wedi methu canfod fod cymaint ag un o'r boneddigesau yn meddu un math o gysylltiad a Ohymru, nac unrhyw wybodaeth arbennig o gyflwr pethau yn ein mysig. Gresyn hyn. Ond mwy difrifol na hynny ni ddeallaf fod unrhyw ymholiad swyddogol yn cael ei wneud gan yr Is- Bwyllgor i gasglu ffeithiau QI Gymru. Gallai Merched iy De iac Undeb Merched Dirwestol y Gogledd fod mewn safle i roi cryn gynorthwy. Hyderaf nad tybied ei bod yn nefoedd arnom yng Nghymru sydd yn gyfrifol am yr esgeulusÜa hwn. Mae pethiap ymhell o, fod fel y dylent, ac y gallent fod yn ein plith. Beth i'w Ddarllen? Mynych y gofynir i mi gan gyfeillion ar fedr para- toianerchiad ar gyfer rhyw amgylchiad neu gilydd am rywbeth i'w ddarllen i gyffroiÏ myfyrdod ac aw- grymu materion. Ac ystyriaf hynny yn anrhydedd a phleser. Nid oedd gennyf ddim gwell i'w gynnyg un tro na chopi o'r CYMRO. Hyderaf nad anfudd- ioL y gymwynas. Mae gennyf rywbeth amgenach i'w gynnyg y tro hwn. Nid wyf yn gwybod am ddim y byddai yn fwy buddiol i'n Hareithwyr Dirwestol ar hyn o bryd ei ddarllen yn fanwl nag Adroddiad Blynyddol yr U.K.A. am y flwyddyn newydd ddi- bennu. Paratowyd yr Adroddiad swyddogol i'w gyf- lwyno- i'r Gynhadledd flynyddol, ac y mae yn cael ei werthu am geiniog. Rhydd hanesi y flwyddyn yn gyflawn oMfle yr Alliance bid siwr. 'Gwerthfawr y tuhwnt ydy« yr hyn geir ynddo am sefyllfa pethau yn, ac o gwmpas y senedd. Cyn dal yr Alliance yn ,gyfrifol am aflwvddiant cynyg Mr. Lloyd George i brynu y Fasnach dylid bod yn siwr faint o sylwedd sydd yn y cyhuddiad.: yn ol yr Adroddiad Ihwn, y mae yn gwbl ddisail: swyddogol nac answyddogol ni chafodd Pwyllgor yr Alliance wy'bod dim oil am un- rhyw ymgais o eiddo y 'Llywodr.ae'th i symud dim yn ycyfeiriad hwn. Er, wrth gwrs, nid yw yr Adrodd- iad yn ceisio cuddio syniad.au yr Alliance am bolisi o'r fath. Ail-adroddir y rhesymau yn ei erbvn. Ceir llu o faterion pwysig eraill yn cael eu trafod yn yr Adroddiad, materion y dylai pob dirwestwr o ar- gyhoeddiad wybod yn 'eu .cylch. ..Pamffledyn gwerthfawr dros ben, eto am geiniog, ydyw "Europe's 'Revolt against Alcohol," gan y Parch..Henry Carter, Ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol y Wesleyaid. I'w ,gael oddiwrthi Ch. H. Kelly, City iRoad, Llundain. Y mae yn ddiguro. fel 'iBird's' Eye View o'r hyn svdd wedi cymryd lie er dechreu y Rhyfel yn yr holl wledydd car, gelyn, ac amhleidiol. Cymer olwg lal brawychus na'r cyff- redin ohonom ar gyflwr pethau gartref tra yn dadleu yn gryf dros weinyddiad llawer mwy Llym i atal meddwdod ym Mhryd-iain, nid yw ef yn oanfod llawer o arwyddion fod meddwdod! wedi cynyddu yn ein-mysg er clechreu y RShyfel. Y Normal drink- ing wel ef yn galw am ei dorri i lawr. Bydd y pamffledyn rhagorol hwn yn werth ei brynu a'i gadw wrth law i gyfeirio ato yn y dyfodol wedi i'r 'rihyfel [yned heibio1. Ac y mae yr un sylw yn gymwysiad- at Adroddiad Swyddogol yr U.K.A. Yn Our Churches and the Drink Problem," ceir ymdriniaeth ddyddorol ar gwestiwn iy dydd" i" bob dirw%stwr, sef y cwestiwn o genedlaetholi y fasna.ch feddwol. Nid yw yn cynnwys ffeithiau newyddion, nag .argument newydd. Ond y mae yn werth ei ddar- llen er hynny, yn enwedig gan ddirwestwyr ieuainc. Y m.ae yn gryf yn erbyn prynu y Fasnach. Darllen- wyd cynnwys, y Pamffled gan J. W. Hopkins o flaen Cyngor Eglwysi Rthyddion Glo'ucester-ryw'bryd ym mis Medi. Ei bris yw ceiniog. Cyhoeddwyd gan Brooke, 2, Westgate St., Glouctster.

--ABERHONDDXJ.

CAERNARFON A'R CYLCH

Y GOLOFN GYMRAEG|

Advertising