Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y BYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CWRS Y BYD. Prynodd Mr. D. A. Thomas ddau gastell yn ddi- weddar yn Sir Fynwy ac ystad o 4,000 o gyferi. Da gweled castelli Cymru fad eto yn myned yn feddiant i 'Gymry. Hip oes. i IMr. D. A. Thomas i fwynhau ei gastelli, ac wedi iddo orffen a hwynt bydded iddo eu trosglwyddo yn eiddo i'r genedl. Y mae un o Ynadon Swyddi Lancaster wedi cy- hoed-di pamffled yn dweyd pethau arswydus, ,am foesoldeb Manchester, ac y mae'r Cyngor Dinesig wedi ethol pwyjlgor i wneud ymholiad i'r achos. Hwyrach mai distawrwyd-d. sydd weddus biyd nes y daw adroddtiad y pwyllgor, ond os gwir y pethau hyn y mae'n hen bryd ysgubo y fasnaah feddwol o'r wlad. Y mae llawer o fechgyn o Gymru yn y fyddin yn aelodau Methiodistaidd, ac yn goddef cael eu hystyr- ied fe: deiliaid! Eglwys, Loegr, ac ar sail hyn y mae Esgobion cibddall Cymru yn cadw twrw ac yn aw- grymu mai hyn a hyn o Eglwys 1L0e.gr .sydd at bob un o Anghydffurfwyr. Y mae crefydd An-ghydffurf- iol 'Cymru yn dysgu ei deiliaid nad oes llawer 0 bwys mewn ffurflau allanol-, a bod crefydd yn rhywbeth y tudnaw i gredoau a ffurfiau. Ni waeth gan lawer ohon-m beth y gelwir ni-galwer ni yn Babyddion os mynnir; nid gwaeth y'm, o hiynny; vr hyn sydd yn bwysig ydyw a ydym yn feddiannol ar rywbet'h heblaw enw o grefydd. Y mae un 0 leiaf o bregeth- wyn yr Hen 'Gorff yn cael ei ystyried yn aelod o Eg- lwys Loegr i bwrpas y fyddin. Ni waeth ganddo pwy dderUyn y gwasanaeth claddu uwchben ei Iwch o fcydd efe wedi ei ladd wrth ymladd dros iawnder- au'r ddynoliaeth. Y mae dau goJeg diwinyd'dol yn ardal Manceinon wedi eu cau. Y mae naw o'r hen ôfrydwyr yn gap- laniaid o Egerton IHalI, ,a rhai eraill yn dal com- isiwn. Y mae 8 arall yn y Y.M.C.A. ac yn y rheng- oedd. Y mae'r Prifathro ,a'r Vie-e o'r un coleg wedi myned yn gap"aniaid, a Warden o go leg arall St. Anselon. [Rhyfedd fel y ca ambell le ei anrhydeddu. "Lloyd George Ffraincv gelwir M. Albert Thomas, ac y mae rhywbeth ddigon tebyg rhwng y ddau wr t.alentog. Efe ychydig flynyddau yn ol oedd y cryfaf ei ddaliadau o blaid heddwch, ond er- byn hiyn y mae fel Lloyd George y Cymro yn brif- ddyn y bwled'i a'r magnelau. Yn y blynyddoedd boreuol bu yn athnaw yn nheulu Victor Hugo. Mab ydyw i giopwr yn Ch.anpigny, ac yn oed, ac yma y trig efo'i wraig a'u dwy ferch fach. Yn Ffrainc drwy ei ddylanwad ef nid oes neb yn cael aros- adre i wneud munyddon (munitions) ond y rhai anheb.gor- ol i'r gwaith. Llenwir- y ff-actrioedd a merched, hen- afgwyr, Arabiaid, Kabyliaid, ac Annamiaid, y rhai weithjient ochr yn ochr yn heddychlawn, gan adael y gwyr nerthol i fyned i'r frwydr. Yn hyn y maent yn esiampH i'n gwlad ni. Dyddorol iawn ydyw sylwi ar enillion y darllaw- wyr. Y .mae y Yates Castle Brewery, Manchester, medd y papurau, wedi cael blwyddyn dda, a'r enijl- ion yn fwy n.a'r llynedd, tra m.ae'r Birfeenhead Brew- ery Co. yn talu 14 per cent. Y mae ganddynt re- ,9 serve fund o £ 129,316. Ei enillion y llynedd oedd £ 40,744- 'Does ryfedd fod anhawster hyd yn oed i'r ywodraeth i drin y galluoedd hyn. Y mae'r re- serve funds hyn megis submarines ar for o gwrw, a deuant i ddinystrio bywyd uchaf a goreu y genedl. Mae'n warthnod arnom fel gwlad ein bod yn goddef y fathl elyn. Yn lie adeiladu ffactrioedd newyddion dylasid troi y bragdai yn ffactrioedd. Y mae'r nerth yno'n barod 'does ond eisieu tynnu y vats ,a:tlan a rhoddi lathes i mewn. Buasai corneli y fasnach feddwol yn rlhyddhau miloedd o ddarllawyr, tafarnwyr, plismyn, ac .adar y carchar- dai i ymuno a'r fyddin. Credwn na enillir i fudd- ugol'iaeth hyd nes y bydd y dosharthiadau hyn yn y trenches.' IGwyddant hwy am erchyllderau yn well na neb arall. Dylasai y Kywodraeth fabwysiadu y reserve funds enfawr hyn at les y wlad yn yr am- ser enbyd hwn. Y mae Dr. Oswald, fu yn chwiliota yng Nghano' barth Affrica dros yr Amgueddfa Brydeinig wedi dar- ganfod pethaHi go hynod, yn eu plith lyn o soda a llwyth o bolhl na wisgant ddiDad 0 un math. Dyma le i rywun agor siop! Dywed Esgob Manceinion (y dylasem fel gwlad drei at yr Arglwydd .gydag wylofain a gweddi ac ympryd. Noda fel pechiodau y mae ,Prydain yn euog ohonynt: amhurdeb, tor-priodas, meddwdod, chwenychu eiddo, enlli'b, cweryla, torri Saboth, ac yn bennaf oil difaterwch parthed Penarglwyddiaeth ac awdur- dod y Brenin mawr. Nid yn ami y ceir esgobion yn siarad fel hyn. Gan am'laf Datgysylltiad a 'Dad- waddoliad yr Eglwys yng Nghvmru sydd fel gwenyn yn eu gwallt! Y mae'r Eglwys yn iLIoegr yn dech- reu sy^weddoli ei chenadwri. Hwyrach y ceir clyw- ed esgobion Cymru yn son am ddagrau a wylofain am bechod a gweddi cyn hir. Ar adeg raor ddifrifol dylasai fod cwrdd gweddi ymhob eglwys blwyfol drwy Gymru bob dydd, a,c ymhob caroel hefyd, o ran hynny. Torodd tan ,aDan yn ddiweddar yng nghadlys Conwy. Llosgwyd lluest y swyddogion a'r holl ddmad, &c. Yr oedd y ff'lamau meddir yn cyrraedd tua 100 troedfedd. Yr oedd dau ddyn dedwydd yn San Francisco yn dymuno ymbriodi, ac aethant at yr offeiriad.- Nid oedd gan y parchedig awydd eu priodi oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o ari.an i'w dalu ef. Gad- ewch i mi fyned adref am hanner awr a dychwelaf a digon o arian," meddai y ferch, a ffwrdd a hi gan ddychwelyd ymhen y rhawg. Priodwyd y ddeu- ddyn dedwydd," ac wedi talu i'r offeiriad, cyn ym- adaw eb ai'r- ferch d'digywilydd, 'Dyma y pawn tickets eich hiybarch, cymerais eich hat a'ch coat o'r festri i dy 'newyrtih! Dengyspapuraù Llundiain fod y genedigaethau i Iiawr ryw 77,000 y flwyddyn hon drwy y rhyfel a'i ganlyniadau.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae y Parch. E. Vaughan Humphreys, wedi ym- gymeryd a igofalaeth eglwys Saesneg Abermaw yn y cyfwng presennol.
,,,......_,-v-"""--'''''''''',.....----.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
,v- ABERTAWE Ba fydd gan Iu o gyfeillion ddarllen y copi hwn sydd yn ddanghoseg o deimladau da'r Dosbarth at y gwr anrhydeddwyd. Anerchiad Cyflwynedig i Mr. John Thomas-, Caradock St., Abertawe, gan Gyfarfod Tri-Misol Ysgolion Sabothol Abertawe a'r cylch. Em Hannwyl Frawd,-Hyfrydwch o'r mwyaf gen- nym gyflwyno i chwi yr Anerchiad hwn fel ar- wydd fechan a chywir o'n. serch atoch a'n gwerth- fawrogiad o'ch gwasanaeth fel Trysorydd y Dos- barth uchod am chwarter canrif. Cydttabyddwn eich ffyddlondetb a'chi parodrwydd i wasanaethu,. mewn arnser ac aI:i<ln o amser, eu hyrwyddo gwaith Teyrnas Dduw yn ein plith. Gweithiasoch yn, egniol o blaid y cymianfaoedd canu a'r .cymanfaoedd pwnc, a choronwyd eich ymdrechion a llwyddiant diamheu- ol. Dyledus ydym i chwi am eich barn aeddfed, eich cyngor diogel, eich profiad hielaeth, a'ch am- canion cywir. Buont i ni yn dwr o ddioge:wch. Gwyddom nad oes ond un esboniad yn bosibl ar eich gweithgarwch, sef eich cariad) dwys at eich Ceidwad ac at eich qyd-ddyn. Ein dymuniad yw ar i'r Duw a'ch bendithiodd hyd yma. barhau i'ch; benditihio, a rhoddi i chwi ddyddiau lawer i'w wasanaethu, a chyfran helaethach eto o'r wobr anghymharol sydd yn ei waith.-Ydym, oyr eiddoch yn ddiffuant,—T. E. Davies, Llywydd Walter Davies, Is-Lywydd W. P. Williams, Cyn-Ysgrifennydd; Morgan Richards, Ysgrifennydd.
MEIRION A'R GLANNAIJ.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MEIRION A'R GLANNAIJ. Cawsom gyfariodydd nodedi,g o iblaid ymrestru yn Aberdyfi a'r iBala, Syr (Osmond Williamsi, y Cad- fridog Owen Thomas, y Parch. John Williams, Brynsiencyn, a cMr. David Rhys, L'undain, oedd yn areithio, ac nid oes eisiau eu gwell. Mae ffrwyth da yn dilyn hefyd, oblegid fe arhosodd amryw ar ol i ymrestru. Dengys M.antolen Derbyniadau a Threuliau Cym- deithas y Boneddigesau Dalgellau sydd er dechreu- ad y Rhyfe" wedi bod yn paratoi ac yn anfon cym- orth i gleifion a chlwyfedigion .mewn Ysbytai, eu bod wedi casglu drwy wahanol faddion dros ^'164, ac wedi gwario dros£I40 ar nwyddau tuag at ddilladau, rhwymynau, &c. Heblaw y ilafur o gasglu yr arian, maent wedi bod yn ddiwyda digoU, wythnos ar ol wythnos, yn gwnio y cyfryw a'u dwylaw eu hun- ain, gan dalu i'r gronfa ^25 16s. gc. am eu te bnyd- nawniau gwnio. Dyddorol yw sylwi fod, Z127 7s. oc. o'r arian wedi eu gwario yn siopau'r dref. An- fonid yr holl ddilladau hyd Hyd. laf i Gymdeithasl y Groes Goch yn Llundain i'w rh.annu i'r gwahan'ol ysbytai fel y byddai galw; ac o Hyd. iaf ymlaen, anfonir hwynt i'r Ysbyty Oymreig yn Netley. An- fonwyd i)ffwrd,d o'r dechreu hyd yn. awr dros. 1,500 o wahanol bethau. H,aedd,a"r boneddigesau caredig a gweithgar bob diolchgarwch, ac yn enwedig dylid cydnabod llafur diflino Mrs. Myles, yr Ysgrii^pydd- es, sydd wedi aberthu oymaint mewn arian, amser a go fa; i. gadw'r gwaith da yn fyw a llewyrchus. Gyda'r amcan o dynnu i lawr y ddyled sydd ar gapel Caersalem, Abermaw, cynhaliwyd Sale of Work lwyddiannus prynhawn dydd Mercher "di- weddaf yn Belle Vue Hall. Gwnaed elw clir o £3°' Ar ol dioddef llesgedd iechyd am flynyddoedd, bu farw Mrs. Griffith Price, Bryngoleu, nos Iau, Tach. 25ain, yn\64 mlwydd oed. Cafodd ei magu yn Clwt- ybont, a chafodd ei derbyn yn gyflawn aelod- ar un- waith a'r Parchn. Willia-m Thomas, Llanrwst, Ellis James Jones, !M.A., ac eraill. Daeth i'r Abermaw yn ferch ieuanc ugain oed, ac ymhen ychydig flyn- yddoedd unwyd hi mewn g.An 'briodas gyda Capten Price. Buont yn hynod1 0 ihapus gyda'i gilydd hyd y diwedd, ac yr oedd yn beth mawr yn ei golwg i wneud 'cartref mor hapus ag yr oedd moddj mor bell a,g y caniataodd ei hiechyd yr oedd yn aelod ffydd- Ion 0 eglwys Caersalem. Trysorodd lawer o'r -Beibl yn ei chof, ac wedi i'w golwgballu cafodd" lawer o gysuri oddiwrth yr adnodau a'r penillion a fyddent yn ymryson a'u gilydd i gael ei sylw. Yr oedd yn gymeriad addfwyn a thyner, ac yr oedd bob amser o dymher siriol. a charedig. Y mae v plant-tri m ab a dwy ferch-yn tystio yn groew yn eu bucheddiau am y dyl.anw.ad daionus a'r addysg grefyddol oedd yn y cylch teuluaidd. Yr o-edd hii yn frerihinesi yn- ddo. Cydymdeimlir yn gyffredinol a'i phriod ac a'i phlant yn eu galar ar ei hoi. Cymerodd ei chladd- edigaeth ]e yn mynwent iLlanaber, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn. J. Gwynoro Davies ac E. V. Humphreys. Nos Lun,. Tach. 2oain, sef noson ei chynhebrwng, gwnaed coffhiad tyner am dani hi ac am y diweddar Mrs. Owen, Llys Llywelyn, yn seiat Jerusalem. Dywedai Mr. Gwynoro Davies- mai Mrs. Price oedd y ddegfed o'r aelodau a gollwyd1 trwy farwolaeth y flwyddyn hon. Prynhawn dydd Iau caed cwrdd y gweinidogion yn 'Minydon, Abermaw, preswylfodi yr athraw y Parch. Edwin Jones. Cafwyd dadl fywiog ac adeil- adol, ar yr hyn :sydd yn rhoi ar'benigrwydd ar y Beibl o'i gymharu a llyfrau crefyddol eraill ac yng- hyloh bedydd yr Ysbryd. Diolchwyd yn gynnes iawn i IMr. a Mrs. Jones, am eu croesaw sirio" i'r frawdoliaeth. Rh odd wyd croesaw i'r Parrh. Z. Mather ar ei ddychweliad yn ol o Ilkley. Treuliwyd amser gwell- na'r cyffredin. Y mae cyfarfod ymostyngiad wedi ei drefnu gan Gyngor Eglwysi Rhyddion yr Abermaw i'w gynnal prynhawn a'r hwyr dydd Mercher nesaf. Bydd cyf- arfod y prynhawn yn E'benezer a'r hwyr yn Caer- salem. Mae llawer o ffyddlondeb drwy Feirion gyda cha-sglu at ddiarpar cysuron i'r milwyr, Casglodd chwiorydd Dolgellau £164 179. 4c.; ac mewn ar- werthiant fe gaed £62 12s. Ac niidi yw hyn yn cyn- nwys agos y cyfan. Et nad yw'r amaethwyr wedi bod yn flaenllaw gyda rhoi eu bechgtyn, maent yn barotach nag arfer i roi nwyddiau ac arian. Cnoesodd ton o afiechyd dros, y wlad yr wythnos- au diweddaf, a bu nifer y ,marwo]aeithau yn eithriad- ol o luosog. Da .gennym glywed fod Mr. W. G. Jones, Dolgellau, yn gwella o afiechyd pur ddifrifol. Mae'n dda nad aethi yr oil o'r meddygon ymaith! Cyhoeddwyd cyfrifon manwl o gasgMadau Dolgell- au a'r cylch at gynnal y Belgiaid a noddwyd yn y droef ar hyd y flwyddyn. Cyfranwyd fel y canlyn :— Eglwys Saesneg yr Annibynwyr, £23 8s. Eglwys Tabernacl (A.), ^72 Salem (M.C.). £74 16s. Bethel ('M.C.),, £21 is. Saesneg (M.C.), £57 13s. Ebenezer £34 6s.; Judah (B.), ^24. Llanfachreth, £25 13s., amrywion, £27 2s. gc. Mae /41 os. 2c. mewn raw yn dechreu'r aij flwyddyn. Bu farw un o'r Belgiaid, a chymerodd y pwyllgor v tair merch fach dan eu nodded, a chynorthwyir yn awr i'w haddysgu. Oherwyddmarwolaeth d.au o'r cwmni, mae chwar- el Abercwmeiddaw, Corris, wedi atal gweithio. Y diweddar 'Mrd .Morris Thomas, Corris, a W. Jones, Aberdyfi, oedd y ddau flaen.af yngliyn a'r cwmni, a theimlir coMed f.awr ar eu hol. penderfynodd eglwys y M.C. Hadedl anfon rhodd- ion NadoMg i'r bechgyn o'r lie sydd yn y trenches.
OR YSTWYTH I'R DDYFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OR YSTWYTH I'R DDYFI. Proffwyd Eto.Un o fechgyn y dref ydyw Mr. John Hugh Edwards, A.S. Gwyr pawb ei fod yn bregeth- wr poblogaidd, yn areithiwr hyawdl, ac yn meddu ar y dd.awn o ysgrifennu tuhwnt i lawer. Ond y :Sul diweddaf wrth annerchcymdeitbas yn Llundain, ma,entumiai fod diwedd y rhyfel echryslon yn y golwg. Amser a ddengys a ydyw y boneddwr cystal proffwyd ag. ydyw 'mewn cyfeiriadau eraill. Gob- eithio ei fod yn y mater hwn er mwyn gwareiddiad a dyfodol y byd,; ond i bobl gyffredin nid yw y dyf- odol mor glir ag yr ymddengys i'r Aelod1 Seneddol. Anrhydedd.—Yrnddengys fod enw Lance Corporal Joseph Thonjas, mab Mr. a-Mrs. John Thomas, Llan- badarn, sydd ymysg y Royal Scots. wedi cael ei ar- gymhell am .anrhydedd gan arweinydd y corfflu hwnnw ar gyfrif gweithred o. ddewrder neilltuol yn Ffrainc. Yr oedd y gwr ieuanc hwn gartref yn ddi- weddar aim seibiant byr, ond yr adeg honno nid oedd yr hysbysiadi am yr anrhydedd, wedi cyrraedd. Dyma y cyntaf o blant y cyfiiniau i gael ei enwi Tnewn ad- roddiadau swyddogol o- faes y gw-aed. Pob ljwydd iddo eto. O'r wlad bell.—Hysbysir fod Mr. John Arthur Hughes, mab Mr. a Mrs. Hughi'Hughes, Bodarfon, ac wyr i'r hybar-ch 13 arch. John Evans, Abermeurig, wedi ymuno a'r fyddin yn Awstralia. Aeth Mr. Hughes ,a:l,an i'r wlad bell rai blynyddoedd yn ol er mwyn ei iechyd, a rhoddwyd iddo anrheg yn Salem (M.C.), lie yr oedd yn dra defny-ddiol fel athraw ar ddosbarth o blant. Gwrthodwyd ef i'r,, fyddin dair gwaith; ond d,aliodd lati, a'r pedwerydd tro c.add ei dderbyn. Sonir am, ail gynnyg i Gymro; ond ni lwfr- h-aodd y Cymro twymgalon hwn ar ol ei wrthod deirgwaith. Rihwydd hynt iddo i gael dychwelyd adref etc ar derfyn y rhyfel. Llawer tro y bu yn cadw y dorf yn y Radical Club yn ddifyr gyda'i ganu doniol. Ceisio Milwyr.—Yr wythnos ddiweddaf aeth dir- prwyaeth o'r Cyngor Trefol i Lundain i geisio gan y Swyddf-a Ryfel anfon milwyr i'r dr-ef i letya y gaeaf hwn eto, lond hyd ag y mae yn wybyddus, nid yw y rhago'ygon o lwyddiant yn rhyw ddisglair i-awn. Y llynedd bu dyfodiad y milwyr yn gaffael- iad mawr i d.ai-ddalwyr a im-asnachwyr y dref. Y Gymraeg.—Bu dadl fywiog ymhlith Rheolwyr yr Ysgol 'Ganolraddol Macihynlleth ynglyn a Chad- wraeth Addysg Gymreig yn y rhaglen. Yr oeddynt wedi penderfynu rhoddi amser i ymarferiad milwr-ol- yn ddyddiol yn y cyfarfod blaenorol, a,r anhawster oed-d mai yr unig amser i gyfarfod a'r newydd-b-eth oedd yn ystod yr awr ginio. Protestiai Dr. A. O. Davies yn erbyn hynny, a d-adleuai mai gwell fydd- ai rhoddi y <JriM yn lie un o'r pethau eraill a ddysg- id gan enwi y Gymraeg. Tybed os oes. angen am Jonahi ynoi, mae nid mwy cydnaws a theimlad yr ardal fu.asai bwrw rhywbeth heblaw iaitih c,artrefi y plant dros y bwrdd. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod y cynygvdd a (Mr. T. R. Morgan yn Gymry rhag- orol eu hunain. Gohiriwyd v mater am y term presennol, ac yn y cyfams-er ,gobeithio y canfyddir rhyw fwch, arall i'w offrymu, os oes eisieu offrwm .hefyd. Doniau mawr.-C.afwyd. cyfarfod cyhoeddus rhag- orol yn Aberdyfi o blaid ymrestru, pryd y cadd y pentrdwyr y f-antajis 0- wmndo ar ddoniau tra gwa- hanol ar lawer cyfrif, sef y Cadfridog Owen Thomas, Bryndu, y Parch. John "Williams, Bryn-siencyn, yr hwn oedd yn ei wisg swyddogol fel caplan yn y fydd- in, a Mr. David iR-ees- y Bargyfreithiwr o iLlanarth, yr hwn a wn.aeth ruthr am sedd Syr fferbert Roiberts yn Sir Ddinych flynyddoedd yn ol. Caf- wyd cyfarfod hwyliog, ac areithiau grymus; ond ychydig 0 ddynion i-euainc sydd yn v pentref nad ydynt wedi ufuddhau yn flaenorol i hyn. Mae y gajwadau wedi bod mor daer a chyson arnynt. Gyda Haw a oes rhyw reswm digonol yn cyfiawnhiau cap- laniaid Protestanaidd i ym,wis,go. fel milwyr yn hytrach nac eiddo yr hen fam eglwys 0 Rufain? Ymddengys n,ad yw dylanwad y drosbarth cyntaf ar ei phraidd yn fwy wrth wisgo y livery na-c eiddo y Keill -sydd yn myned yn syml yn livery yr eglwys y pert-hynent iddi. Tybed nad oes dogn o falchter pers.onol yn yr arferiad newydd hwn, os ydynt hwy yn teimloeu bod yn llwyddo i bregethu a bugeilio yn well mewn dillad kaki na rhai duon, popeth yn dda, hwy a wyr oreu. Ar ymweliad.—Bu Lieutenant Llewelyn adref am ychydig ddyddiau o seibiant a chadd dderbyniad croesawus gan ei gyd-warcheidwaid cyn ei ymuniad' ,a'r fyddin. Yr oedd Mr. Llewelyn yn aelod defn- yddiol o'r cyngor trefo-J a bwrdd yr undelb, ac er yn absennol gyda'i ddyledswyddau newydd y mae yn dilyn gweithrediadau y dref yn ddifwlch. Cydna- byddir yn gyffredinol fod ty yr undeb yn Aberys- twyth o dan reolaeth Mr. a Mrs. William Lloyd, gynt o Ddolgellau, yn gartref i'r tlodion yng ngwir ysotyr y gair. Mae i'r ddau air da yn yrardalam eu mawr ofal am y di-,gartref.