Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.-::.-------,",_--CLAPHAM…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLAPHAM JUNCTION. Nos Sabotbi diweddaf cynhaliwyd gwasanaeth ar- bennig yng nghapel'M.C. Clapham Junction er coffa am y diweddar Ivor Vaughan Parry, un o aelod.au ieuainc yr eglwys a gollodd ei fywyd yn y brwydro yn y Dardanelles. Mae dros ddau ddwsin o fechgyn yr eglwys hon a'u henwau ar .gofres anrhydedd; mae rhai ohonynt ar faes y gwaed, ac eraill yai myned trwy gwrs o. hyfforddiad milwrol, ond trwy drugar- edd dyma'r gwasanaeth eyntaf o'r cyfryw natur y bu achlysur ei gynnal hyd yma. Pregethwyd g.an weinido.g yr eglwys, y Parch. D. Tyler Davies, oddi- ar, yn fwyaf arbennig, y geiriau Digon i'r disgybl fod fel ei athraw," a gwnaeth amryw Igyfeiriadau at gymeriad' glan yr ymadawedisr a chymwysodd wir- ioneddau ipwysig at y gynulleidfa yn gyffredinol. Canwyd amryw donau pwrpasol i'r amgylchiad ac iar ddiwedd y gwasa-nareth chwareuwyd y Dead March yn ddwys ac effeithiol gan yr organyddes, -M,isis,Gw:edys, Lloyd. iMab i Mr. a Mrs. Parry, 4, St. David's Terrace, Penmaenmawr, ydoedd ein cyfaill ieuanc, a chyn y rhyfel yn gwasanaethiu yn un o ariandai mwyaf y brifddiifas, I bob ymddangosiad yr oedd iddo ddy- fodol disglair a llwyddiannus yn ei alwedigaeth, Bu'n aelod ffyddlon a ,gwasanaethgar o'r eglwys a'r ysgol yn Clapham Junction. Nid oedd ond ugain oed, eto llefarai ar brydiau megis gwr mewn oedran teg. Yr oedd ei rodiad yn union a'i draed yn gadarn ar Iwybrau rhinwedd a moes. Hawdd oedd gweled yn ei gymeriad adlewyrchiad o- aelwyd grefyddol. 'Meddai wybodaeth eang o'r Ysgrythyrau, a gallai ymdrin gydag adeiladaeth i'r gweddill o'r dosbarth ar bynciau mawr ein crefydd, nes ein dwyn yn fyn- ych i giredu mae'r galon ioedd yn llefaru ac nid y pen. Perthiynai i'r ist County of London Yeomanry, ac yr oedd yn y rhengoedd er dyddiau cyntaf y rhyfel. Bu yn yr Aifft am both amser. Gadawodd yno ar y qeg o Awst diweddaf gan gyrraedd y Dardanelles ymhen ychydig ddyddiau. IBu wyneb yn wyneb a'r Twrc o'r foment gyntaf bron mewn ymdrech waedlyd. Derbyniodd glwyfau ar y 2iain o'r mis, a chludwyd ef wedi mawr drafferth i'r ysbytty yn Alexandria. Bu yn wael iawn am ddyddiau wedi cyrraedd yno, ond erbyn y gfed o Fedi yr oed yn gallu ysgrifennu ei lythyr cyntaf gartref i'w rieni wedi iddo gael ei glwyfo, ac yn y llythyr hwn adroddodd yn fanwl y digwyddiadau o'r diwrnod y gadawodd yr Aifft hyd yr adeg yr oedd yn ysgrifennu. Terfynodd y llythyr mewn ysbryd gobeithdol; credai y cawsai ei anfon gartref yn fuan, a thystiodd am y gofal tyner ddis- gynodd i'w ran yn yr ysbyty. Oind erbyn hyn, hwn heæyd fu ei lythyr olaf gartref. Yn lie parhau i wella gwaelodd ein cyfaill, ac er mawr alar i'w rieni a'i barthynas.au a llu o gyfeillion c.alon iddo bu farw ar yr 17eg o Hydref. Claddwyd ef y dydd dilynol yn y rhan ymneilltuol o'r gladdfa filwrol yn Alex- andria gyda full military honours" fel y teilyng- odd. Derbyniodd y teulu lythyr oddiwrth Gaplan yr ysbyty yn rhoddi hanes oriau olaf ein cyfaill, a thystiodd iddo ymadael a'r fuchedd hon yn hollol dawel a diboen, yn gwybod fod yr Arglwydd yn ei alw ac yn hollol barod i'r wys. Hydded i'r ymwybyddiaeth ddarfod i'n cyfaill ieu- anc annwyl .ateb heb betruster galwad ei wlad yn ei hawr gyfyng, ac iddo roddi ei fywyd yn aberth ar all- or gwasanaeth gynnal ei rieni tirion yn eu profedig- aeth, sychu eu dagrau ac ysgtaifnhau trymder eu calonnau. R.G.

Advertising

CYFARFODYDD MISOL.