Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

* * * Y Rhyfel yn Serbia.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel yn Serbia. Dengys newyddion o Serbia yn ystod yr wythnos fod y sefyllfa yno am y pryd yn bur ddifrifol, a bod milwyr Ffrainc a Phrydain yn cael eu gwthio. yn ol gan y Bwlgariaid i gyf- eiriad Groeg. Daeth y newydd yn gynnar ar yr wythnos fod y Bwlgariaid wedi ymosod yn ffyrnig ar safle ein milwyr ni i'r gorllewin o Lyn Doiran gerllaw ffinau Groeg. Llwyddodd y gelyn i ruthro i linell gyntaf y ffosydd; ond gyrrwyd hwy yn ol drachefn gyda'r bidogau. Y dydd dilynol gwnaethant ruthr eilwaith, ac yr oeddynt mor niferus fel ag i orfodi ein milwyr i encilio a chymryd eu safle ar linell newydd fwy yn ol. Bu raid cilio ymhellach ddydd Mercher ac unioni'r llinell; ond dywed pellebr o Salonica fod y llinell newydd ddydd Iau yn dal yn gadarn er fod y gelyn yn parhau i ymosod ac yn ymddangos yn benderfynol o dorri trwodd. Hysbysir hefyd fod y Ffrancod wedi gorfod encilio1 o Demir Kapu, a bod yr ymladd yn parhau. D'ywed1 yr adroddiadau Ffrengig eu bod yn encilio am resymau hawdd i'w deall. Gan fod byddin Serbia am y pryd allan ogyfrif, dywedant nad yw presenoldeb milwyr Ffrainc yn angenrheidiol ar dir Serbia. Tra yr honna'r Bwlgariaid oruchafiaeth fawr, igwna'r adroddiad swyddogol hwn o eiddo ar- weinwyir byddin Ffrainc yn g-lir nad yw'n golygu mwy na bod y gelyn yn cymryd medd- iant o dir na cheisiwyd ei ddal rhagddynt.

* * * Germani a Heddwch.

* * * Bwriadau Brenin Grroeigr.

-----+--------Dyddiau Olaf…

Mesur y Senedd.

* * * Araith yr Arlywydd Wilson.

* * * Persia a Mesopotamia.

* * % Mesur y Bhenti.

* * * Pryder a Hyder.