Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
11 erthygl ar y dudalen hon
GOHEBIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr). Y MIILWYIR YN BARRY. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Caniatewch i mi air ynghylch yr uchod. Os oes gan rai o'ch darllenwyr berthynas- au neu gyfeiMion ymhlith y milwyr yn y Barry a'r cylch, byddaf ddiolchgar am eu henw.au fel y gallaf ymgydnabyddu a hwy. Bydd yn bleser; gennyf fi yn bersonol, ac hefyd bob] fy ngofal wneud yr hyn a a',Iwn er eu cysur tra yn y lie. Yr eiddoch yn bur, Ivor Street, J. LEWIS EVANS. Barry Island Rhagfyr 6, 1915.
THE WELSH HOSPITAL AT NETLEY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
THE WELSH HOSPITAL AT NETLEY. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Sir,—I venture to appeal through your columns for gifts for Christmas. for the Welsh Hospital at Netley. (Christmas this year will not be a season of festivity in 'the home, but in our hospitals, full with the men who have so bravely fought for Britain's sake, it is fit that we should make things as bright and cheery for them as poss.ible. Gifts of turkeys, Welsh mutton, Christmas cakes, sweets, crackers, cigarettes, fruit, or little pesents will be most acceptable.—Yours, &c., A. W. SHEEN, Lieutenant-IColonel, R.A.M.C. (T.F.), [Commanding Welsh Hospital. Netley, Dec. 8, 1915.
GWEDDIO DROS Y MEIRW.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWEDDIO DROS Y MEIRW. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Y diwrnod cyn i'r CnIRO ddyfodi i law, ac i mi ddarllen llythyr Mr. James, Porthcawl, yr oedd- wn wedi darllen hanes y Gynhadledd gynhaliwyd yn Liverpool ar y 24ain o Dachwedd. Yn ol ad- roddiad y Church Times," fe ddarllenwyd yno lythyr oddiwrth y Parch. John Owen, Anfield. In it Mr. Owen said that there had been a great change of attitude towards, this question (Prayers for the Dead). Hundreds of Welsh .Methodists-strong Protestants of the Puritan type—were praying for the dead.' Teimlaf, fel IMr. James fod rhywbeth dymunol iawn i galon tad yn yr athrawiaeth hon. Ond a ellir ei dderbyn heb ar yr un pryd dderbyn Athrawiaeth y Purdan? Yr eiddoch, &c., J. G. JONES.
SUT I GYNHILO
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SUT I GYNHILO AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Yn y dyddiau hyn, pan y mae cyn- ifer o eglwysi vn teimlo gwasgfa'r amseroedd, ai nid doeth fyddai ceisio cynhilo gydag arian y Weinidog- aeth? Gallesid gwneud hyn yn hawdd drwy ddeall- twriaeth rhwng yr eglwysi a'u gilydd. Yr wyf fi yn swyddog mewn un o eglwysi y M.C., ac yr wyf yn meddwl y telir ar gyfartaledd yma 32s 6c. y Saboth i'r pregethwyr. Wrth weled fod yna 10 o rai o'r tuallan i'r cylch, a 21 o r,ai o'r sir i l,awr ar y daflen eleni, htawdd oedd gwneud allan faint oedd yn cael ei dalu i'r tren. Mae ^7 12 6c. y fan leiaf o'r ar- ian wedi myned yn dreuliau teithio Ac i ba beth ? Mae yma wel: cynulleidfa o lawer pan fydd y gweini- dog igartref..Rhaid i unrhyw gynllun gynygir i wella y gydnabyddiaeth gychwyn yn y fan yna. Ydwyf, &c., BLAENOR.
SYMUD HEN DERFYNAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SYMUD HEN DERFYNAU. AT OLYGYDD Y CYMKO. 1 Syr,—Mae y cwestiynau a godid gan T. James, Porthcawl, yn y CnIRO diweddaf yn wir bwysig, ac v. yn haeddiu sylw difrifol. U Athrawiaeth a ddysgir gan rai y dyddiau presen- 1 no! yw, y gall y bechgyn sydd vn y ffosydd yn ym- ladd dros eu gwlad, gael trugaredd ar sail yr aberth a wneir ganddynt. Crediwn fod gras a maddeugar- wch yr Arglwydd. yn fawr. j Y mae cariad Duw yn lletachi •j Na mesurau calon d--n." Mae lie i obeithio i rai a ddaethant wyneb yn wyneb ag angau a'i ofnadwyaeth yn y gyflafan f.awr 1 ddod i'r noddfa trwy ymddiried eu henaid yn hollol ar haeddianau aberth y groes. Ond y mae tybied y caiff neb ei gadw ar sail unrhyw aberth o'i eiddo ei hun yn groes i ddysgeidiaeth bendant yr Ysg- rythyr. Pe buasai modd i hyn gymryd yna bu Crist farw yn ofer, ni buasai angen y geni ym Meth- lehem, na'r marw ar y groes. Dyna oedd cyfeil- iornad y gau athrawon a derfysgent eglwysi Galatia, y rhai a wrthwynebent ddysgeidiaeth yr aoostol parthed cyfiavvnhad trwy ffydd. Nid ydym yn bychanu unrhyw aberth a wneir gan ddynion, ond yr aberth a gynyrchir g,anaberth Crist ei hun sydd yn gymeradwy, a lie mae hynny yn bod ceir edifeir- wch am bechodi, ac ni ellir meddu gwir edifeirwch heb gasau pechod ai adael. Pe y rhoddwn fy nghorff i'm llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesad i mi." Gwirionedd elfenol yw hyn a bregethiwyd gan y tadau ag sydd eto mewn grym. Cwyd eich gohebydd eto y cwestiwn o weddio dros y marw. Mae y pwnc hwn yn cael sylw mynyeh yn y dyddiau hyn, ac mewn amrywiol gylchoedd. Dy- wedir nad yw y ffaith fod eglwys Rhuf.ain yn dal y dylid erfyn ar Dduw dros y rhai sydd wedi ymadael a'r fuchedd hon, yn un rheswm dros i Brotestan- iaid gredu a gweithredu yn wahanol. Cydunwn yn galonnog a hyn. Dylid derbyn y gwirionedd o ba gyfeiriad by-nnag y daw, ac ymwrthod a'r gau hyd yn oed os ydyw ein cyfeillion anwylaf yn ei goleddu. Y cwestiwn gan hynny ydyw, beth yw y gwirionedd j ar y mater hwn? At y gair, ac at y dystiolaeth, oni ddywedant yn ol y gair trwy hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt." Ein cyfarwyddyd ni, yw yr Ysgrythyr Lan, ac ni cheir yno un gorchymyn i weddio dros y marw, nac un esiampl o neb yn gwneuthur hynny. Un mawr mewn gweddi fel ym- hob peth arall oedd ein Gwaredwr. Gweddiai ar bob achlysur, fel y ceir yr Efengyl Luc yn arbennig yn cofnodi. Ni anturiai ar unrhyw orchwyl neu ym- gymeriad heb fyned at ei Dad. Gweddiai ar ran ei ddisgy'blion ar iddynt gael eu cadw rhag y drwg, a rhag diffygio eu ffydd. Gweddiodd dros ei lofrudd- wyr ar y groes. Rhoddodd weddi i'w ddisigybldon i fod yn gynllun, beth bynnag am ei hymarfer. Yn hyn oil, ni cheir arLiw o weddio dros y marw. Yn Llyfr yr Actau rhoddir He mawr i weddio. Yr oedd yr eglwys. apostolaidd yng ngrym ac egni ei bywyd ieuainc yn disgwyl pethau mawr oddiwrth Dduw, ac yn anturio pethau mawr dros Dduw," a dangosir yn y llyfr hwn fod llwyddiant y gweddlau yn fawr. Ond ni cheir un enghraifft o weddio dros y marw. Yn yr Epistolau ceir anogaethau Lawer i'r saint i weddio dros eraill a throstynt eu hunain, dros gyf- eillion a gwrthwynebwyr, dros bob gradd a dos- barth o ddynion, dros irenhinoedd- a phawb oedd mewn goruchafiaethi, ond dim un sill am weddio dros y marw. Yr oedd erbyn hyn liaws wedi croesi y llinell, rhai ag y meddid gobaith cryf ddynt huno yn yr Iesu, ac eraill yn ddiau wedi colli perthynas- au na feddent gyffelyb werthfawr ffydd, ond ni son- ir am weddio dros y naill na'r llall. Mae lien o ddirgelwch yn amdoi y dyfodol,-Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd. Ond ystyriaf mai ein diogelwch ni yw dilyn cyfarwyddyd yr Ysgrythyr, obegid os unwaithi y gadawn y gair, ac y dilynwn ein dychmygion ein hunain byddwn Fel l'ong ar wyllt gefnfor, | Heb lyw, heb raff, heb angor." Corwen. H.C.W,
GWEITHIO AR Y SABOTH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWEITHIO AR Y SABOTH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Gwelaf fod y Commisioners a apwyntiwyd gan y Llywodraeth i edrych i mewn j. waith y ffactri- oedd sydd yn cynyrchu defnydd lanfau wedi rhoddi eu dyfarniad pendant yn erbyn gweithio ar y Sul. Gwnant hyn o safle fydol yn unig, am fod profiad yn dangos na ellir gwneud cymaint o waith wrth ddal ati am saith niwrnod, nag a geid with gym- ryd un diwrnod o seibiant, iac hefyd am y rheswm fod y cyflog uche: a dderbynir wrth' weithio ar y. Saboth yn temtio amryw i fyned i ddiota, ac esgeu- luso gwaithar ddyddiau eraill. Dyna y wedd fydol. Ond y mae gwedd foesol i'r mater, a'r syndod ydyw fod yr eglwys' Gristionogol' mor ddistaw ar y wedd honno. Meddylier am hyn yn ddifrifo., a hyderwn y ceir diwygiad1 buan. Mae y Sabothi yn mynd i rywle, ond faint sydd mewn mawr ofal calon o'r herwydd? PRYDERWR.
--JOHN ELIAS A'R MENYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JOHN ELIAS A'R MENYN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Svr,—Yn v Cn-IRO am Rhagfyr iaf, dan y penawd, Cvnhaliaethl y Weimdo.gaeth," dywed D. Evans, Tyddewi—" Neu, meddylier am John Elias yn ei syched am wybodaeth, yn crafu'11 ymenyn oddiar y bara i wneud lamp fechan i gae:1 ychydig o oleuni i ddarllen eli lyfrau wedi amser gwaith." Ai gormod- iaith ynte gwirionedd am John Elias yw hyn ? Cred- af i mi glywed phywbeth tebyg am dano o'r blaen. Yr hyn sy'n dywyl) yw, pa fodd yr oedd y menyn yn cyneu i gynyrchu goleuni; oherwydd ni welwyd menyn yn yr oes hon a wnai gyneu, gan fod halen yndd'o. Cyn dweyd dim am yr haeriad hwn na'i debyg, apeliaf am oleuni pellach arno, pan D. Ev.ans, neu rywun. Ni e'lir ei dderbyn yn ddiamheuol heb ryw eglurhad arno. Y mae traddodiadau wedi bod o werth mawr, wedi creu ysbrydiaeth lawer tro a dymunaf wybod pa un ai ffaith ynte traddodiad yw hyn am John Elias. Ydwyf he'b na.digter na dadl,
SYMUD HEN DERFYNAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SYMUD HEN DERFYNAU. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Da gennyf weled eich gohebydd galluog iQ Borthcaw:, yn darllen arwydd- ion yr amsenau. Yr wyf, fel yntau, wedi clywed pethau rhyfedd yn cael eu dweyd gan weinidogion oddiar yr esgynlawr. Er enghraifft dysgir fod ein bechgyn wrth aberthu eu bywyd ar allor gwasan- aethi eu gwlad yn sicr o ennLl bywydi tr.agwyddol. Dywedir hyn i gysuro rbiieni galarus ac i gymell er- aill i fod yn foddlon i'w plant fyned1 aLan. Gofid mawr yw i mi glywed yr hyn ddywedir. Os gwir ydyw, yna onid oes. miloedd enaill yn enni'l bywyd tragwyddol,—rhai sydd yn aberthu er mwyn eraill, ac yn colli eu bywyd: wrth wneud hynny? lln o'r pethau gofidus i mi ynglyn a'r Rhyfe:, ydyw dull rhai gweinidogion. o chwarae a gwirioneddau mawr yr efengyl. A ydynt yn deall beth fydd eu safle wedi i'r Rhylel fyned drosodd1? Ydwyf, &c., HEN D'DARLLENYDD.
GWEDDIO DROS Y MARW A PHURDAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWEDDIO DROS Y MARW A PHURDAN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,-Hoffwn wybod gan rywcai o'ch dar'.lenwyr a yw yn bosibl gweddio dros y marw heb gredu mewn Purdan? Yr ydym wedi cael ein dysgu fod eneidiau y rhai sydd yn marw yn cael eu dwvn yn ddioed at orsedd Duw yna fod' y rhai cyfiawn i aros mewn mwynhad perffaith o Dduw yng Nghrist,, a'r rhai anghyfiawn i aros yn tyw- yllwch eithaf hyd farn y dydd mawr. Nid oes 'e i eneidiau wedi ymadael a'u cyrff, ond y ddau hyn." Dyna ddywed y Cyffes Ffydd.' Os felly, sut y geMir dysgu fod yn briodol gweddio dros lar, y meirw ? A ydyw gweddio i ddylanwadlu ar y rhai anghyfiawn yn unig, ynte ar y naill a'r llall? Teim'.o yr wyf fod y brodyr sydd yn syrthio mewn cariad a'r syniad wedi colli y ffordd. Os am dder- byn un athtrawiaeth rhaid denbyn y ddwy. Hoffwn gael rhagor o oleuni cyn newid yr hen olygiad Protestanaidd. Rhag. gfed. HENADUR.
NATIONAL FUND FOR WELSH TROOPS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NATIONAL FUND FOR WELSH TROOPS. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Dear Sir,—The evergrowing number of Welsh soldiers, of which a veny considerable proportion is now ,c,erving overseas has added enormously to the c'.aims upon the National Fund' for Welsh Troops, and I have once again to appeal to the generosity and sympathy of all friends and well- wishers for a continuance of the aid that has been freely given to the National Fund since its incep- tion. The letters received from Commanding Officers. bear ample testimony to the value of the services rendered by the Fund in adding to the com- fort and weLlbeing of Welsh Troops who have so gallantly responded to their Country's call. So far every requisition received has. been com- plied with, but the work done hitherto is small com- pared with the needs of the present winter. Help can be given in various ways (a) By Subscription. (b) By Contribution of Comforts, particularly Mufflers, Mittens, Socks, Helmets and Cardigan Jackets. (c) By the purchase of the Welsh Gift Book: Land of my Fathers," which can be obtained from any bookseller, or bookstall. It makes an ideal Christmas Gift Book. The Executive Committee has recently been added to, and strenuous efforts are being made to make this Fuai if every way a National one so as to cope with the overlapping and inequality of distribution w -1 of comforts which is productive of much waste and dissipation of energy. All subscriptions and contributions of ( omiorts may be addressed to me at II, Downing St., \V Yours faithfully, 11, Downing St., M. LLOYD GKOTGE. London, S.W. 8, December, 1915.
GWERSYLL CONWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWERSYLL CONWY. APEL AM LYFRAU HYIMNAU. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr>—Yr wyf wedi symud er vr wythnos o'r. blaen o Kinmel i wasanaethu i'r Milwyr sydd yn awr yn gwersyilu ar Forf.a Conwy. Nid imyfi a benodwyd i'r :1 swydd hon ond yn hytrach brawd arall a berthyn i'r Cvfundeb a ddanfonwyd yma mae'n debyg yn y lie cyntaf gan. y Cadfridog Donald, ein pennaeth oil ym mharc Kinmel ond cafwyd a.Ian ar yr awr^olaf bron nad ydoedd y brawd annwyl hwn er yn Gym- ro o waed—yn hollol hyddysg yn1 yr laith Gymraeg, fel ac i w,as,aniaethu i'r 'Cymry uniaith o ganlyniad penderfynwyd fy nanfon yma i wneud y goreu y medrwn yn y ddwy iaith. Dechreuais* ar fy ngweinidogaetb) gyhoeddus y bore yma, a Lawenydd mawr i mi oedd gweled y Y.1-1.IC.. Hut wedi ei orlenwi a chyn-,il.eid.f,a yn rhifo saitih cant, ac i gor- oni yr oil daeth Band y 2.0th Royal Welsh Fusiliers gyda"r bechgyn i'r gwasanaeth, i estyn croesaw i'w caplan cyntaf. Dyma y church parade swyddog- 01 Huosocaf i mi ei annerch er pan yr ymunais; a'r fvddin ar dori.ad y 'Rhyfel. A siarad am Fand, beth pe baem wedi cae, gafael yn hwn pan yng Nghaer- grawnt Eglwysyddol? Dyna 'stroke' a dorwyd gennym vng nghwmpeini cyieillion, y Parchedigion Thomas Lloyd, Llanberis, Owen Ellis, Llanuwch- llyn, David Jones, Edge Lane, a Hugh Roberts, Capel Curig pan yn ymdaith i. fyny ar fore Sin 1 gapel Sant Columbus t-rwy heolydd y King's Par- ade, Petty Curry, a Downing Street; ond rhaid oedd dychwelyd yn ol i Gymru fynyddig i gael gafael ar asgwrn cefn Ymneilltuaethi un waith eto. Ond at y testun :—Yr wyf yn ape-io at garedigion yr achos da am hi—ar unwaith o lyfrau hymnau Cymreig at was.anaeth y milwyr, y rhai sydd wedi eu cyhoeddi gan y Free Church Council, ydyw y rhai mwyaf derbyniol a p'hoblogaidd gyda'r bechgyn, 0 lawer. Ni ddisgwylir i'r u.n person i ddanfon yr oil, ond dyweder foa rhyw hianner dwsin o gyfeill- ion yn danfon parseli o gant neu ddau cant yr un. Yr ydym wedi penderfynu cael dau wasanaeth ']K swyddogol bore y Saboth nesaf, un yn Gymraeg a'r |H llall yn Saesneg, i ganlyn ei gilydd. Disgwylir y ^9 bydd ychwanegiad mawr at yr eiddom yr wythnos- j nesaf. Y mae pedwar cant o filwyr ar eu ffordd at- j om o Winchester, tra y mae v Recruits yn dylifo i fewn yn ddyddiol wrth- y cannoedd. Oni bai am y '9 ffaith mae Temporary ydyw v gwersyll yma i fod bu- fl aswn yn barod i awgrymu i'r awdiurdodau i apwynt- fl io caplan swyddogol arall i ofalu am y Cymry un- iaith fel ag y gwneir mor dda yn Kinmel, gan fy W hoffus gyfaill Llifon (y Parch. W. G. Owen, Aber- gele). Modd bynnag bydd ychydig gymorth dros, y gwyl- ilau yn dderbyn:ol, a theimlid yn ddiolchgar os bydd i rai o'r eglwysi i ryddhau eu gweinidogion i wasan- aethu ar y Milwyr. Da gennyf ddeall oddiwth y bechgyn, ac hefyd oddiwrth y Capten Christopher Jones, mab y Parch. Elias Jones, Talsiarnau, fod holl eglwysi y dref yn fugeiliaid a phraidd wedi estyn pob croesaw a chyn- orhwy iddynt er pan y maent yn y gwersyll cyfagos. 1 Yr eiddoch, &c., B. CEITHO DAVIES. Gwersyll Conwy, Nos Saboth) Rhag. 12fed, 1915.