Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PERSONOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PERSONOL. Mae Mr. Clement Edwards ychydig yn well, ond yn parhau yn wael iawn. 0- Mae Dr. Pan Jones wedi ail-ddechreu preg- ethu ar 01 bod mewn gwaeledd. Mae yn llawn yni, ac yn pregethu cystal ag erioed." --0-- Y Parch. Watkin Williams fydd cynrych- iolydd y Symudiad Y mosodol yn Sir Benfro yn ei gylchdaith yno yn Ionawr. —o— Taflwyd Syr Samuel Evans i lawr gan y bus pan yn croesi yr heol yn Llundain, a thor- wyd ei goes. Mae yn dod ymlaen cystaj ag y gallesid Tisgwyl. --()- Cafodd Mrs. Lloyd George anwyd trwm, a bu raid iddi roi heibio bob trefniadau am yr wythnos. Dia gennyf glywed ei bod yn gwella. --0-- Mae eglwys E-v-erton Brow, Liverpool, v?di gwahodd i'w bugeilio y Parch. Philip Oliver Williams, mab y diweddar Barch. John Wil- liams, Caer, a'r Gilfach Goch wedi hynny. -0-- Mae eglwys y Presbyteriaid, Crouch Hill, Llundain, wed'i anfon galwad i'r Parch. EL G. Miles, M.A., Sefton Park, Liverpool, efe yn hen weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. --0-- Ysgrifennydd newydd Henaduriaeth Dwyr- ain Morgannwg ydyw y Parch. J. J. Thomas, B.A., Bod Elan, Ton, Pentre, Glam. Bu y Parch. Thomas Bowen yn y swydd am dros ddeng mlynedd. --0-- Y Parch. D. J. Jones, M.A., ficer Llan- wnda, ger Caernarfon, sydd wedi ei ddewis yn brifathro Ysgol Ystrad Meurig. Addysg- wyd Mr. Jones yn yr hen ysgol, a g'raddiodd yn weddo-I dda yn Rhydychain.

, -. CYMRU AR KHYFEL.