Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

----CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

iaid perthynol i bob enwad yng Nghymru. Wedi treulio dros bum' mlynedd1 ar hugain yn fug'ail ar yr un eglwys, gwn yn bur dda beth yw byw gyda blaenoriaid. Rhaid i mi ddweyd na chyfarfyddais a deg o ddynion anrhydedd- usach na blaenoriaid fy eglwys; ac ni fu gair croes rhyngom yn ystod chwarter canrif er gwahaniaethu yn ein syniadau ar faterion yn fynych. Buont yn wastad o blaid eu bugail ymhob profedigaeth ac anhawster, a gofalas- ant fod ei dal yn ddigon i'w gadw uwchlaw pryder. Rai troion, ni fuont yn ol o ofyn i'w bugail os oedd arno eisiau, ac y buasent yn barod i'w gynorthwyo* yn bersonol, os buasai galw. Dyna fy mhrofiad i o fy mlaen- oriaid, ac nid wyf mor ffol a ch-redu eu bod yn well na duwiolach dynion na blaenoriaid mwyafrif mawr eglwysi eraill y Cyfundeb, ac eiddo enwadau eraill. 0, oes y mae gan Ym- neilltuwyr Cymru flaenoriaid nad oes eu rhag- orach fel dynion na'u duwiolach—dynion hael eu Haw, cynnes eu calon, carwyr pob daioni, gwir gyfe-illion pregethwyr, a rhai a ddygant fawr sel dros fugeiliaid eu heglwysi, dynion ddeuant gartref rai o honynt o lys yr Ynadon a manau cyffelyh i'r cyfarfod gweddi a'r seiat. Fy mhrofiad yw, ar ol pregethu yn y De a'r Gogledd, a manau eraill, ar hyd y chwa,rter canrif diweddaf, fod gennym ddynion yn y Set Fawr na fu eu gwell, os eu cystal, a chym- ryd yr oil at eu gilyddpobl anrhydeddus, a rhai y mae yn werth i'r eglwysi eu cael. Gwn Z, am rai o honynt nad ydynt ond gweithwyr tlodion, a 11 ond ty o blant, yn rhoddi ^4 a 1-5 y flwyddyn at yr achos.Nid oes eisiau i mi fyned hanner milltir o'r fan lie yr ysgrifennaf i gael blaenor dros 70 oed wedi methu gweithio, a roddodd ^5 at ddyled ei gapel y llynedd; ac un arall gododd ddeg i ddeuddeg o blant roddodd £ 2 iois., a gofalu cyfrannu yn anrhydeddus at achosion .eraill yn ogystal. Ni fu' y ddau ond gweithwyr caledi dan y ddaear ar hyd eu hoes, ac ni wenodd ffawd arnynt i ennill arian mawr. Un arall welodd lawer o brofedigaethau a chodi plant a roddai at bob achos y llynedd dros JQA, IOS. Nid yw y rhai hyn ond enghreifftiau o luaws mawr. Beth am lawer o'n blaenoriaid cyfoethOig Oni chyfranna llawer o honynt yn anrhydedd- Us Diau fod yn eu plith eithriadau poenus; ond eithriadau ydynt. Paham, atolwg, y gosodir y blaenoriaid yn yr un sypyn fel pe baent yn elynion crefydd a phregethwyr. Bu dda i la,wer o honom fod blaenoriaid pan yn cychwyn pregethu cawsom garedigrwydd di- hafal ar eu llaw, a llawer coron o'u llogell i'n helpu. Synwn yn fynych pa fodd y caniata- sant i lawer o honom i fyned yn y blaen, gan mor ddiobaith oeddym. Bydded gennym barch i lwch llawer o honynt am eu hanwylde'b a'u caredigrwydd. Ni feddyliwn wrth hyn, ddweyd eu bod yn berffaith mwy na meidrol- ion eraill. Da i ni yw hynny, oblegid pe bu- asent, ni chawsent fod mwyach yn y fuchedd hon, a buasai yn rhaid byw hebddynt. Ond beth bynnag yw eu ffaeleddau, dywedwn yn ddiofn, nad oes gwell dynion na hwy yng Nghymru a'u cymryd fel dosbarth, ac nid teg cymryd ambell un diegwyddor o honynt yn siampl o'r oil. Eito, nid iawn yn neb ohonom ni bregethwyr yw ymosod ar yr enwad a'n magodd-yr enwad heb yr hwn ni fuasem yn y pulpud. Meithrinwyd ni gan yr eglwysi, a thalwyd ni ganddynt am bregethu pan na theilyngem gymaint ag a roddid i ni; a chawsom ein haddysg gan mwyaf ohonom yn rhad, a llawer o freintiau eraill. Hefyd, caiiff nifer mawr eu talu yn anrhjdeddus gan eu heglwysi, onide ni allai mwyafrif ein gweini- dogion fyw a chodi eu plant a rhoddi yr adg Oireu iddynt. Digon gwir fod nifer o ddynion teilwng yn ca,el llawer rhy fach, ond ni ellir dweyd hynny am y mwyafrif. Hefyd, nid iawn dweyd nad oes parch i weinidogion yn yr eglwysi. Derbynir ni fel brenhinoedd yn y manau yr arhoswn, cawn y He a'r llun- iaeth oreu gan y bobl, a pherchir ni i'r man eithaf. Yn ystod 30 mlynedd ar hugain, gallaf ddweyd yn bersonol, i mi gael fy modd- loni ymhob man y bum yn pregethu, mewn llety, parch, a lluniaeth. Oes, y mae parch i bregethwr yn a,ros yng nghalonnau'r saint. Byddwn ni yn ofalits. rhag bod yn achos i'r parch hwnnw i gilio. Pan gawn y goreu gan ein lletywyr, ni allwn achwyn pa mor wael bynnag y bo. Bum yn aros mewn ty yn yr hwn y iletyai y Parch. Edward Matthews, bythefnos cyn hynny, ac yr oedd y wraig wedi methu cael bara nos Sadwrn, ac nid oedd ganddi ond crystyn sych i osod o'i flaen. Dywedai y pregethwr mawr wrthi bore Llun P'eidiwch gwneud apology, darfu i mi fwyn- hau fy hun y ddoe ar eich bwrdd yn llawn cystal a Victoria. Yn y croesaw roddasoch i mi yr oedd y peth sylweddol, ac nid yn yr ym- borth." Fel y ceir gweled yn y man, nid ydym am ddweyd fod pethau gystal ag y dylent fod gennym o gryn lawer, ac y mae llawer o bethau yn goiyn am ddiwygiad, ond gofaler rhoddi y bai yn deg lie y byddo, ac nid lie na byddo. Pethau yw yr ymosodiadau hyn ar flaenoriaid y crwydrodd yr ysgrifenwyr atynt, pan nad oedd y pwnc yn galw am sylw arnynt. II1. Yr Ymosodiad ar Weinidogion.-Ni ofynai y pwnc am yr ymosodiad hwn chwaith. Diameu fod gennym bregethwyr gwael—rhai y byddai yn well iddynt fod wrth oruchwylion eraill. Meddant ryw nwyd bregethwrol heb ddim arall o gymhwys- terau pregethwyr. Nid yw awydd pregethu yn ddigon heb allu, dawn a medr i osod allan y gwirioneddau dwyfol. Credwn eu bod yn hen bryd, cael meistr mewn areithyddiaeth yn ein colegau i ddysgu ein pregethwyr ieuainc i siarad. Ni waeth beth fydd gan bregethwr i'w ddweyd os nad all ei ddweyd yn ddyddor- ol, yn hapus, yn ddylanwadol, a chymeradwy. Traffertha llawer i gyfansoddi pregethau da, ny a lladdant hwy wrth eu traddodi. Nid oes dim ddylai gael mwy 0. sylw na thraddodiad da. Y mae gwrandaw ambell siaradwr yn peri i ddyn gofio y tri achwyniad wnaed yn erbyn y pregethwr y rhoddodd ei eglwys rybudd iddo i, ymadael. Y tri achwyniad oeddynt,—ei fod yn d'arllem ei bregethau, nad oedd yn eu darllen yn gywir, ac nad oeddynt yn werth i'w darllen. Wei, nid ydym am wadu nad oes lie mawr i wella gan lawer mewn cyfansoddi a thraddodi pregethau, ond nid yw hyn yn wir am fwyafrif pregethwyr un- rhyw enwad yng Nghymru. A chymryd yr oil i ystyriaeth, ni fu cystal siaradwyr erioed ym mhulpud Cymru. Dichon nad oes gennym gymaint o'r hwyl nerthol ag a fu, ond beth yw hwyl, fel rheol, i wneud i fyny am ddiffyg pethau digon da i dynnu sylw cynulleidfa heb- ddi. Gwnai un brawd glalluog y dydd o'r blaen sylw treiddgar mewn atebiad i un ddy- wedai wrtho nad oedd wedi cael cystal hwyl a'r tro o'r blaen y clywodd ef. Naddo," meddai, yr oeddi pregeth gennyf y tro, hwn, ond nid oedd gennyf un pan y clywsoch fi or blaen." Ond wedi'r oil, cyfaddefaf nad yw y doreth o raddedigion sydd gennym wedi rhagori cymaint fel siaradwyr ag fel ysgol- heigion am na roddid mwy o bwys tra fyddant dan addysg ar iddynt ddysgu siarad. Dy- wedai y diweddar Edward Matthews yn iaith Bro Morgannwg, wrth nifer o bregethwyr ieuainc, mewn cyfarfod, Gwed (dweyd) yw gwaith pregethwr, ac os y ffaela wed y mae hi ar ben arno1. Ond i chwi weiddi, a gwed geirie mawr, ni waeth gan ryw ddynion beth yn y byd fyddwch yn wed, ond i chwi wed yn ddi-dor. Ymdrechwrh i wed ynte." Dyna gyngor un fedrai ddweyd yr efengyl nes syfr- danu dynion. Rhaid cael dyn all ddweyd ei bethau yn y pupud. Y mae gallu traddodi yn fwy gwerthfawr ar rai ystyron na gallu i gyfansoddi. Oind beth byiinag, yw diffygion rhyw ddosbarth o bregethwyr, nid teg siarad am weinidogion mewn termau cyffredinol, fel pe n:a byddai neb ohonynt yn ddynion teilwng, fel pe byddent oil yn byw i hunan-amcan ac yn sychedu am arian a dim arall. Yn ystod y chwarter canrif ddiweddaf ni chlywais ond am un yn anfo,ddlo,n ar ei dal mewn cyf'arfodydd pregethu, ac yn hawlio cael rhagor ar gyfrif ei uchel-ddysg, y draul yr aeth iddi i iiddysgu ei hun, a'i gymhwystera.u amryfal. Un mewn mil oedd hwn, ac nid un mewn deuddeg fel Judas, ymhlith y disgyblion. Ychydig iawn, mi goeliiaf, yw y rhai ganfasant yn y cymanfa- oedd fel y cyhuddir, ac nid wyf yn credu fed pethau waethed yn hyn agl y mynnir gan rai eu bod. Gwir fod ambell frawd yn ddigon haerllug i ganfaso yn anuniongyrchol, neu Z", I uniongyrchol, ynglyn a phregethu ymron ymhob cymanfa; oblegid yr wyf wedi gweled y llythyrau a fy llygaid fy hun, ac yr wyf wedi bod ar fedr cyhoeddi un neu ddau o'r docu- ments dyddorol hyn. Eithr nid teg i neb gon- demnio pregethwyr fel dosbarth am bethau fel hyn. Gellir dweyd yn ddibetrus fod ein gweinidogion gydag cithrio nifer bychan iawn, yn annhraethol rhy anrhydeddus i wneud y fath beth a chanfasio am bregethu Z, mewn na chyfarfod misol, cyfarfod pregethu, na chymanfa. Na, yr wyf yn beiddio dweyd na fu ym mhulpud ein cenedl lanach dynion o ran moes, dwyfolach eu hamcanion, mwy ymdrechgar o blaid yr achos, na mwy hunan- aberthol nag yn bresennol; ac y mae y mwy- afrif ohonynt yn bregethwyr gwerth eu gwra.ndaw bob Sul, ac yn llafurio galeted, fel y mae yn well gan eu cynulleidfaoedd ev clywed na neb arall. Y maent hefyd yn fugeiliaid da, a phrawf o hynny yw llwydd- iant amlwg a, chynnydd mawr y fugeiliaeth. Nid yn yr un ffordd y byddant oil yn bugeilio. Bydd rhai yn cerdded llawer o dy i dy, ac yn syniad rhai, ni all neb fugeilio and felly; gwylia eraill. na chaiff neb o'u haelodau fod mewn angen na phrofedigaeth heb eu bod hwy yno. ac yn cydymdeimlo i'r eithaf a hwy nerth bugeiliaid eraill yw gofalu am y plant a'r bobl ieuainc, a rhagoriaeth y lleill yw darparu gwledd i feddwl a chalon eu cynulleidfa ar y Sul; gofala un arall yn fanwl am drefn ac am- gylchiadau yr achos, tra y rhydd y nesaf sylw mawr i'r tlodion. Rhaid cael y rhai hyn oil, ac y mae pob un 01 honynt yn rhagori yn ei ffordd ei hun. Gwna pob un o honynt yn ol y ddawn a rodded icido,. Y mae amryw ddoniau, eithr yr un ysbryd. Ond cofier, nad oes na, bugail na phregethwr all foddio' pawb. Methodd y Pen bugail, Crist, a gwneud hynny. Bydded bugail gystal ag y bo, a phregethed fel seraff, ni all foddio rhai gwenwynllyd eu meddyliau, hunan-dybiol, drwgdybus, a llygredig. Rhaid i'r gweinidüg da a'r bugail ffyddlon daro yn erbyn y rhai hyn o angenrheidrwydd wrth fod yn onest i'w alwedigaeth. Yng ngohebiaeth yr wythnosau hyn ar dal gweinidogion, yr ydys wedi ym- osod ar bregethwyr mawr. Dywedir eu bod yn derbyn tal enfawr am eu gwasanaeth. Amheus gennyf a oes sail i lawer o'r hyn ddy- wedir. Yr wyf wedi chwilio i ambell un o'r chwedlau hyn i'w gwraidd flynyddau yn ol, a cael iddynt ddyfod i fodolaeth ym meddyliau rhai garent i bethau, fod felly. Eu. dvmuniad oedd tad eu meddwl. Pur anodd gennyf gredu i eglwys fechan roddi £ 6 am un bregeth, fel y dywedir, i bregethwr mawr ar e; ffordd i le arall. Ond os gwnaeth beth ffoled, nid ar y pregethwr yr oedd y bai ond ar yr eglwys ei hun. Trueni na fyddai rhai wnant ymosodiadau fel hyn vn rhoddi eu henwau wrth eu herthyg-lau fel y gellid olrhain y mater i'w wraidd. Nid wyf yn credu y gall neb atal yr eglwysi i dalu yr hyn an fynant, na chwaith i atal eu hawydd i alw y pregethwyr a garant eu clywed yn eu huchel wyliau. Cy- hudda rhai o'r gohebwyr bregethwyr a'u gwragedd o wastraff mewn gwisg. Nid wyf yn credu fod gennym nemawr a wisgant yn well nag y dymuna dynion duwiolaf a challaf eu cynulleidfaoedd iddynt wneud; ond gwn am luaws yn gwisgo1 yn dlotach nag y dymuna eu heglwysi. Gwnant hynny er mwyn talu eu ffordd. Oind a chaniatau fod rhai yn gorwisgo, a ydyw yn iawn a boneddigaidcl i g-yhuddo pregethwyr fel dosbarth o wneud hynny Nac yw yn sicr. Nid yw ein gweini- dogion a'u gwragedd yn gwisgo yn well nag y gofyn eu lie yn yr eelwysi. Rhinwedd yn- ddvnt yw awisgo yn lan a gweddaidd pe ond i fod vn siampl i bobl ieuainc eu heglwysi. Cyn gadael y mater hwn yr wyf am ddweyd eto, nad oes un wlad dan haul, mor bell ag- yr wyf wedi darllen, a all fod yn falchach o'i gweinidogian a'u gwragedd na Chvmru. Fel y dvwedwyd, y mae rhai eithriadau, and nid ydvnt ond vchvdig. Y mae gwragedd llawer o honom vn aberthu eu hamser e-oreu gyda dosbarthiadau yr eglwysi, a. gwaith cyhoedd- us arall, ac yn blaenori ymhob peth da. III. Yr Ymosodiad ar Gyfrifon a Threfn yr Eglwysi,—I hwn nid oies sail i wneud cvhudd- iad cyffredinol mwy nag oedd i'r ddau fla,en- orol. Diau fod rhai eglwysi heb ysgrifen- yddion da, a hynny am nad oes neb yn digwydd bod yn hylaw vn y gwaith o gadw cyfrifon ynddynt. Gwyddom am rai nad oes neb ynddynt wedi cael ond ychydig ysgol: ac o ganlyniad, ni all y cvfryw fod yn vsgrifen- vddion cymwvs. Rhaid gwneud y goreu o r hvn sydd ynddynt. Dichon fod ysgrifennydd ambell eglwys yma a thraw yn achos yr a.n-