Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. Swmania yn y Rhyfel. Profodd yr wythnos ddiweddaf yn un o wythnosau mwyaf cyffrous y rhyfel; a phan ysgrifennir hanes rhyfel mawr y oenhedloedd bydd i'w digwyddiadau le pwysig ac amlwg ym mhennod olaf y cranicl rhyfedd hwnmw. Broil ar yr un adeg daeth y newydd fod Itali wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Germani, a'r newydd mwy cyffrous arall o'r Balkans,— fod Rwmania o'r diwedd wedi bwrw ei ohoel. brein gyda'r Cyngihreiriaid, ac wedi cyhoecldi rhyfel yn erbyn Aiwstria. Mae'r newydd olaf wedi cynhyrfu'r Balkans- i'w gwaelodion, wedi taro Berlin a Germani yn ogystal ag Awstria a syfrdandod a braw, ac wedi rhoi gobaith newydd yn yr holl fyd am derfyniad buddugoliaethus i'r rhyfel, ai hynny ynghynt nag y gobeithid ychydig ddyddiau yn of. Os y mynnir gweld effaith y digwyddiad ar Ger- mani, gwelir ef yn ei gwaith yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn Rwmania, ac yn diswyddo prif drefnydd ei byddinoedd Falkenhayn, gan osod Hindenburg yn ei le. Mae'r Twrc hefyd wedi ei ddychrynu, ac wedi bloeddio ei fod yn elyn i Rwma.nia ar unwaith; ac y mae Groeg wedi fcroi fel croehan berwedig, a Chystenyn Frenin yn fwy na neb yn y wlad. Mae Venizelos yn taranu ei rybuddion, a'r bobl a llawer o.'r milwyr yn galw am roi'r gwladweinydd enwoig, yn ei le, fel ag i Groeg 9 gymryd ei lie cyn iddi fynd yn rhy ddiweddar ac i'w chwymp a'i dinisttr fod yn ddiadfer. ir Pwysigrwydd y Symudiad. Gwel pawb ar y wyneb fod dyfodiad Rwmania1 i'r maes yn un 0. symudiadau pwys- icaf y rhyfel. Pan y mae'r Galluoedd Canol- og wedi eu dwyn i gyfwng difrifol ar derfyn dwy flynedd 01 ymladd, ac wedi eu gwneud yn analluog* i ymosod' ar unrhyw ran o'r maes, nid peth bychan. yw i rengau eu gwrthiwyneb- wyr gael eu chwyddo. gian, fyddin newydd a ffres yn rhifoi rhwng hanner a thri chwarter miliwn o, filwyr. Heb hyn, yr oedd Germani yn ymwyboclül fod yn rhaid erbyn hyn i nerth y Cynghreiriaiid gynhyddu ac r'w nerthhithau leihau; a chyda byddin Rwmania wedi ei liychwanegu, mae'n agor gwlad a llwybr newydd i Rwsia i Bwlgaria a Thwrci. Gall- esid enwi ychwaneg o fanteision milwrol, heb son am rai masnachol. Ond y mae ystyr foe sol o'r pwysigrwydd pennaf i'r ffaith. Profa fod R wmaniaJ wedi ei hargyhoeddi fod y Cynghreiriaid yn rhwym 01 ennill y rhyfel, ac nis Z!1 gall yr holl fyd lai na deall hynny. Nid yw Rwmania wedi gwneud unrhyw gel ,w o'r cychwyn am ei chymhellion. Gwyddid fod ei chydvmdeim 1 ad ar yr ochr iawn; ond ystyrriai mai ei dyledsiwydd flaenaf oedd gwylio ei buddiannau gwladol a chenedlaeth- ol ei hunan. Tra yr oedd posibdrwydd yn aros i Germani ei goresgyn a'i sarnu fel y sarnodd Bielgium. a Serbia, nid oedd yn credu fod galw alrni i o, mrydi-ei riaerthyru. Y&tyr- t,Y iai ei bod yn. gwneud ei dyledswydd wrth aros yn amhleidiol a gwrthod ymuno ym mrad Bwlgaria. Rhaid oofioi hefyd fod yr oediad i gryn fesur yn ddyled'us i'r iffaith fod Rwmania, fel gwledydd eraill, yn hollol am- harod mewn arfqgaeth i fentro wynebu peir- iant milwrol Germani. Yn awr, y mae wedi paratoi ei hunar gyfer y gwaethaf, ac wedi dyfod i fewn. yn yr amser a ystyriai hi yn gyf- Z, addas ac yn fanteisiol i'r Cynghreiriaid ac iddi ei hun. Dechreuodd air unwaith ar ei gwaith, ac y mae adran ü'i byddin yn llifo trwy fylchau Carpathia i Hungari, ac yn ol pob golwg bydd lluoedd Rwsia a Rwmania yn gwneud son am danyint yno yn fuan, yn ogystal ag yn gosod gwedd newydd ar holl ymgyrch y Balkans. IT Tasg newydd Hindenburg. Beth yw ystyr symud Falkenhayn a gor- seddu Hindenburg yin ei Ie 7Mor bell ag y gellir deall Falkenhayn. oedd yn gyfrifod aim yr ymgyrch yn erbyn Verdun, ac y mae ei symudiad yn gydnabyddiaeth ddiymod o feth- iant y symudiad trychinebus hwnnw. D'y- wedir fod Hindenburg ar y pryd yn gryf yn erbyn, yr antur, ac yn dad leu dros bwysig- rwydd ei ochr a'i linell ei hun yn erbyn Rwsia yn y dwyrain. Yn awr, gellid meddwl fod y. Caisar wedi ei argyhoeddi'ri fwjy hag* crioed o graffter Hindenburg, ac yn barod i roi tynged ei fyddinoedd oil 3*0. ei law. Ond rhaid cofio1 hefyd: fod pobl Germani wedi mynd i hanner addoli Hindenburg, ac i edrych arno fel prif waredydd y wlad. Efe a drodd lif Rwsia yn ol pan dybiodd y wlad fod llu- oedd y Csar air fedr ysgubo. trwy ddwyrain Prwssia hyd i Berlin ei hun. Ar gyfrif yr orchest honno, mae'r Germaniaid wedi mynd mor ofergoelus fel ag i gredu y gall Hinden- burg wneud gwyrthiau amhosibl i neb arall; ac y mae'r Caisar yn deall ei bobl i'r dim. Rhydd penodiad Hindenburg galon a ffydd newydd ynddyli-i-t eto. Ceidw hwy rhag an- obeithiioi am ganlyniad terfynol rhyfel, helpa hwy i roi eu harian yn yr echwyn newydd, a deil i lawr eu hanfoddogrwydd a'u gwrth- dystiad cynhyddol. Ond i bob meddwl di- duedd, ymddengys tasg bresennol y pennaeth 6y 6 newydd yn ddiobaith. Mae'r byddinoedd eisoes yn cael eu dal yn gaeth ymhob cyfeir- iad; ac nis gall yntau wneud dim ond gwingo yn erbyn y cylch hiaearn sy'n cau am danynt. Ni ryfeddem weld Hindenburg yn disgyn yn is na neb yn Germani, a'i waradwydd yn cuddio, yr holl glod hanner cableddus a delir ièdo heddyw. Nid oedd ei dasg' gyntaf agos mor orchestol ag y1 Karnai y Germaniaid, ac y mae'r olaf yn annirnadwy fwy nag, y maent wedi ei freuddwydio na'i dd'ychmygu. Ar yr un pryd gellir disgwyl i Hindenburg wneud ymdrech gawraid,d i roi grym adnewyddol ymhob dyfais ddieflig i frawyohu a dinistrio, vn enwedig gyda'r Zeppelins a'r suddlongau. IT Gwrhydri'r Mor. Gwnaeth y Marlys wasanaethl angenrheW- iol trwy roi cyfleustra i 'Mr. Alfred Noyes i godi cwrr y lien yn y wasg yr wythnos ddi- weddaf, ac i roi cipdrem- i'r wlad ar yr hyn a wnaed i gyfarfod a ph-erygl y suddlongau gelynod. Yr oedd gan1 lawer yn y wlad rhyw syniad fod -gwrhydri a gorchestion wedi eu gwneud mewn dal a suddo'r badau dinistriol; ond pethau yn cael eu hadrodid dan ein hanadl oeddynt, wedi eu clywed mewn, cyfrin- ach ar ol rhywun neu arall a ddigwyddai fod mewn cyfte a mantai's i wybod tipyn o'r hyn oedd yn mynd ymlaen y tu ol i'r lien ymro y dirgelwch. Ond yn awr, dyma'.r Moflys wedi gadael i lenor a bardd o uchel radd fynd i fewn y tu 01 i'r lien, ac wedi ymddiried iddo'r gwaith o adrodd yn ei ffordd ei hun rai o'r pethau a ganfu yno. Edrydd' fel y cafwyd ca'n' mil o fysg pysgx>twyr a morwyr i helat'r suddlongau mewn cannoedd o'n llongau, gyda gynnau a rhwydi a phob math 0 ddyfais, a phai rhyw lwyddiant a fu ar weithrediad'au'r llynges ryfedd a phwysig yma. Y mhola Mr: Noyes pa un ai Rhybuddion America ai ynte gorchestion y gwroniaid uchod barodd i Ger- mani roi i fyny ei1 hymdrech fawr gyda'r suddlongau, a dywed fod popeth yn profi mai'r olaf oedd y :gwir reswm. Os yw hyn yn gywir, ni raid pryderu llawer am yr hyn a wna Hindenburg yn y cyfeiriad hwn. Diau fod ein darpariaeth i gyfarfod a dychryn. yr awyr yn fwy1 amherffaith; ond ni fydd i'r naill na'r llall o'r dychrynfeydd hyn newid dim ar wir gwrs y rhyfel. IT Cyffro yn Groeg. Trwy ymuniad Rwmania yn y rhyfel y mae dydd barn Groeg wedi dyfod, ac y mae'n amlwg fod yr holl wlad wedi ei chynhyrfu trwyddi. Profir hyn gan y newyddion a'r sibrydion gwylltion ledaeniroi ddydd i ddydd air hyd yr wythnos. Diameu fod llawer o'r rhai mwyaf eithafol o'r rhai'n yn ddisail, megis yr ystori am ymddi'swyddiad y Brenin Z, Cystennin, a'i ffoedigaeth i Larissa, a phen- odiad y Tywysog Coronog yn Rhaglaw. Gellir dweyd yr un peth, hwyraoh, am yr ad- roddiadau am ad-drefniad y Llywodraeth, dan M. Zaimis,gydag M. Venizeios yn aelod o honi, ac am y sibrydion fod y fyddin wedi ei ,galw ynghyd. Rhaid air-os i weld pa nifer o'r sibrydiou hyn droant allan yn gywir. Ffrwyth teimlad a dychymysg wedi eu cyffroi a'u bywiog'i gan gfynhyrfiad y foment ydynt yn ddiameu gan mwyaf. Ar yr un pryd daw adroddiadau credadwy am ddigwyddiadau eraill. Yn Salonica, cododd dosbarth a wlad- garwyr Groegaiddi wrthlfyfe1 yn erbyn y fyddin. Amcan y cyahyrfwyr yw sicrhau rhyddhad Macedonia o ddwylaw'r Bwlgar- i^i^J. Cym^rodd General Sarr^il 31 mate'r yn ei law yn ddiymidroi pan- welodd fod y gfwlad- garwyr a'r .gw,archodlu, brenhinol yn mynd i frwydro a'u gilydd, ac ymddengys fod yr olaf wedi boddloni i gymryd eu cadw dan, warch- odaeth gan y, Cynghreiriaid. N ewydd araIl gyrhaeddodd ddiwedd yr wythnos. yw fod 23 o ryfel-longau'r Cynghreiriaid wedi angori bedair milltir y tuallan i'r Piraeus, porthladd Athen; a diameu y dealla'r Brenin ystyr hyn yn llawn cystal ag y dealla godiad ymysg y Groegiaid eu hunain, ac y pery fwy 0 fraw ac effaith arno. Dydd Llun yr oedd yn dangos awydd i ildio. Brjvydr y Somme. Ymladd ffyrnig a gwaedlyd sy'n parhau yn Picardy, ac yn yr ollceircadarnhad amlwp" d i'r adroddiadau am gyfnerthion aruthrol y gelyn yn y rhan ym o'r maes. Y mae'r gwrthymosodiadau a wineir i geisi-o gyrru'r Prydeinwyr yn ol o'r safleoedd y maent wedi eu hennill gyda'r fath wroniaeth yn parhau ac yn cryfhau. Ond er eu boil ruthriadau, hyd yn hyn y mae eu hyrddiadau arswydus yn profi'n aneffeithiol i adennill y tir y maent wedi ei golli. Nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn awr ac eilwaith yn llwyddo. i yrru ein milwyr yn ol o ychydig ffosydd neu ddarn- au 0' ffosydd yma a thraw. Mae'r nerth mewn diynion ac .arfau 01 bob math y maent wedi ei bentyru yn yr adran hon yn gwneud hynny yn anocheladwy. Ond yr hanes hyd yma yw, mai bychain yw'r enillion hyn ar y goreu pan z, y llwyddant i'w sicrhau, a mwy na hynny, nid ydynt ond enillion dros amser byr. Wedi i'w gwrth-ymosodiadau ddyfod i ben, a chyn iddynt bron anadlu yn yr ychydig ffosydd a ad-feddiannwyd ganddynt, ail-ddechreua ein gynnau a'n cyflegrau ar eu gwaith dinistriol a rhuthra; en milwyr dewr arnynt gyda grym anorchfygol, gan eu hysgubo oddiarnynt, a'u hysgubo hwythau'n ol, neu* eu hysgubo o fodolaeth neu euey mryd yn garcharorion. Felly y mae lleoedd fel Coed1 Delville wedi eu llwyr feddiannu gan ein milwyr,- ar ol ennill a cholli drosOldd a throsoOdd drachefn. Bu gwrthymosodiadau ofnaclwy ar ein ffosydd i'r gogledd-orllewin i'r Coed uchod un ü'r dydd- iau diweddaf. Hyrddiodd y gelyn ei luoedd JIll bedair gwaith yn ein herbyn gyda phenderfyn- iad a nerth mawr; ond gyrrwyd hwy yn ol y naill dro ar 01 y llall gyda cholledion difrifod. Y burned waith, fodd bynnag, buont lwydd- iannus i gymryid darn o dir yn cynnwys, nifer to ffosyd'd croes-ymgroes. Nos Wener llwyddodd ein milwyr, heb ymdreeh neilltuol iawn, i ddwyn. rhan o'r safle yn ol oddiarnynt, ac yn ol pob tebyg ceir clywed yn fuan fod yr holl dir wedi ei ad-feddiannu. Nid oes neb all ddweyd pa mürbell yr effeithia. penodiad Hindenburg ar y sefyllfa yn y gorllewin. Yn y dwyrain y mae ei obaith ef wedi bod; a thuedda llawer i farnu mai ei gynllun fydd ceisio sicrhau goruchafiaeth derfynol ar rhyw ran o'r llinell ddwyr,einiol,-un ai yn erbyn Rwsia yn y gogledd, neu- ynte yn y Balkans, hwyrach yn uniongyrchol yn erbyn Rwmania. Y cwestiwn yw a all Germani wneud ymdrech fawr yn y dwyrain heb fyfhau ei ffrynt yn y gorllewin. Addefi-r fod ei hadnoddau eto yn fawr1 ond y mae wedi estyn cymaint ar ei llinell ymhob cyfeiriad fel a, i osod ei hun yn yr anhawster mwyaf erbyn hyn, pan y mae'r cylch amdani mor gryf a chadarn yn y naill ran a'r llall. Byddai en-cilio. yn y gor- llewin yn rhwym o ddweyd ,ar hyder mil- wyr a phobl Germani Yn y cyfamser, mae byddinoedd Prydain a Ffrainc yn parhau i fyned ymlaen, ac wedi ennill llawer o ffosydd y gelyn am dros filltir o'r ffrynt Ac y mae'r newyddion ddydd Mawrth yn hollol foddhaol. 1f 1 Ymweliad Zeppelins. Nos Sadwrn a boreu Saboth daeth tair-ar- ddeg o Zeppelins drosodd gyda'r amcan o wneyd ymosodiad ar Lundain. Tair yn unig a gyrhaeddodd gyrion y Brifddinas, iL dwy o'r rhai hyny a lwyddodd i fyned yn ol. Saeth- wyd y llall i lawr, a disgynodd ger Cuffley, bedair milldir o Enfield, yn swp o adfeilion llosgedig, a chyrff tua 30 o'r rhai oedd ynddi yn gymysgedig a'r llwch. Dywedir fod un Arall wedi disgyn i'r mor ar ei ffordd adref. Dyma yr ymgais fwyaf beiddgar ac eang a wnaed i ymosod ar y Brifddinas, a methiant truenus a fu. Ni wnaed ond niwed dibwys i eiddo, lladdwyd dau, a niweidiwyd 15.