Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

< CEFNDDWYSARN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

< CEFNDDWYSARN Angladd Milwrol. Diwrnod hynod iawn oedd y dydd olaf o Awst yng Nighefnddwysarn, dydd yr angladd milwrol cyntaf a fu'yn yr ardal. Clwyfwyd Mr. Thomas Jones Hendref y Cwm Main, yn y rhyfel yn Ffrainc. Daethpwyd ag ef i Ysbyty yn Leith, a bu farw yno Awst 27ain, yn 21ain oed. Cludwyd ei gorff i'w gartref, a chladdwyd ef yn mynweTit gysegredig Cefnddwysarn, Angladd milwrol oedd ei angladd,. ac un lluosog iawn, oherwydd 'hynny, ac yn bennaf oherwydd y parch i Tom ei hun. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parchn. J. 0. Jones, ei weinidoig, a H. Gwion Jones, Bethel; wrth y bedd gan y Parchn. J. 0. Jones, a J. H. Williams, Mynydd Isaf; yna aed i'r capel, a chaed gwasanaeth yno, a chymerwyd rhstn ynddo gan y Parch. J. 0'. Jones, a'r Athro Richard Williams, M.A., Bala. Yn yr hwyr bu seiat goffa, a siaradwyd gan y Parchn. J. O. Jones a J. H. Williame, Mri. Robert Evans, Hugh Owen, Evan Davies, Thomas Davies, Robert Rowlands Roberts, Ellis Ellis, Ellis Davies, a Mrs. Owen, yr Hendref. Un o'r pethau mwyaf taraw- iadol yn y seiat oedd un o'r plant—Alice Anwen Humphreys—yn adrodd y pennill a ganlytj "0 dewch at Iesu heddyw Miewn gostyngedig ba-rch, Rhag ofn mai un;ar-hug;ain A welir ar eich arch Y corff yn cael ei roddi i Mewn bedd o wydd y byw, j A'r enaid bach yn dioddef Dan lid digofaint Duw." Ang;Add Tom yr Hendref yw y oondemniad mwyaf ynddo'i hun fu ar y rhyfel yng Nghefnddwysarn eto. A thestun diolch yw iddo gael ei ddwyn i fro ei febyd i'w gladdu. Huned bellach yn dawel yn mynwent faoh y Cefn, yn ymyl Tom arall, set yr annwyl Dom Ellis. Un o'r rhai caredicaf fu yn y byd erioed oedd Tom yr Hendref. Yr oedd wed,i pasio i fod yn ysgolfeistr, ac wedi bod yn athraw yn Gellifor cyn inynd i'r Coleg. Ymunodd a'r fyddin pan yn gor- ffen ei gwrs yn y coleg. Ac erbyn hyn y mae ei ysbryd liawen mewn gwlad heb ddim ond llawenydd o'i mewn, heb fagnel na chleddyf o fewn i'w ther- fynau. Y mae ei ysbryd caredig yng nghartref Car- ediigrwydd ei hun. Nid oes yno. orfodaeth, nid oes yno glwyfo, nid oes yno ladd a llofruddio, nid oes yno neb yn caelel gablu a'i regi gan ei salach. Yno y mae cydwybod yn rhydd, yno ni chlwyfir cariad mam, yno rhoddir ei le i gariad tad, yno ni chwelir cartreli, ac yno ni thorrir calonnau. Ynghanol trychineball mawr y dyddiau hyn, co.f- iwn ninnau oil, mai' delfryd mawr Cristionogaeth yw—'Byd.Heb Ryfe]. :"=--==::='i:=:=:==-=:====-=-=-==:='

YMADAW IAD Y PARCH. G. H.…

XOIHOX OR GLWYD

"GWRECSAM.

. NODION 0 FON.

MEIRION A'R GLANNAU.

O'R YSTWYTH I'R DDYFI.

Advertising