Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENI, PRIODI, A MARW. PRIODASAUr Edwards—'Hartley.—Awst 23, yng nghapel Saesneg y M.C. Llandudno Junction, gan y Parch. Richard Williams, Corporal Edward Edwards., 19th Batt., R-.W.F., a Miss May Hartley, merch ieuengaf Mr. R. K. Hartley, Sprdngwood, Deganwy. Jones—Hughes.—Awst 3, yng nghapel Tiegid, Bala, gan y Parch. H. 0. Hughes, HenlHan, Mr. D. Lloyd Jones, mab Mr. David Jones, Birmingham House, Bala, a Blodwen Hughes, merch y diweddar Mr. a Mrs. Owen Hughes, Rosedale, Bala, a chwaer i'r Athraw E. Ernest Hughes, M.A., Caerdydd. Gweinyddwyd ar y priodfab gan Mr. O. Lloyd .Hughes, flenlilan (oefnder), ac ar y briodasferch gan Miss Katie Jones, Dolgellau (cyfnither). Eiddunwn iddynt hir oes a. phob dedwyddwch. Lewis—Price.—Awst 16, yn Gwystre, Llandrindod, gan y Parch. Stephen George, B.A., Mr. Thomas Lloyd Lewis, Glaneten, Rhaiadr, a Miss Minnie Price, merch Mr. a Mrs. John Price, Penilan, Nantmel. Richards—Prichard.—A.wsi 30, yng nghapel Saes- neg, Pontfaen, gan y Parch. D. W. Howell, Pen- coed, Arthur Richards, London and Provincial Bank, Llundain, a Miss Ethel Prichard, jnerch hynaf Mr. Benjamin Prichard, Pontfaen. M ARWOlLAETHAU. Daniels.—Awst 28, yn 79 mlwydd oed, Mrs. Eliza- beth Daniels, gweddw Mr. Daniels, Llwynrhida, iLlechfaen, Bryche.iniog. Davies.-Aws,t 25, yn 32 mlwydd oed, Mr. William J. Davies, Bryngwyn, Llanrug. Yr oedd yn wan- aidd ei iechyd er ys blynyddau lawer. Yr oedd wedi m'lned yn ddiweddar i gyfl-wr isel iawn o ran ei iechvd. Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd y newydd fod ei frawd, Private T. J. Davies, w,edi cwympo yn y rhyfel. Pan y clywodd y newydd am ei frawd, fe aeth yr aroholl deimladau, nes prysuro ei ddiwedd. Yr oedd yn gymeriad eithr- iadol ar lruwer ystyr. Yr oedl yn meddu ar feddwl cryf, yn llawn synwyr, yr oedd ganddo wybodaeth ddiwinyddol a chyffredi-nol fwy na'r cyffredin o'i gyfoedion. Efe oedd yr uchaf yn arholiad sirol y M.C. y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd yn ddyn r tawel, didwrw, a chrefyddol, yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Pant-y-coed. Mae ei. farwolaeth wedi gadael lie gwag yn y cylch yr oedi yn-troi ynddo. Edwards.Awst 28, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Ann Edwards, priod Mr. James Edwards, Tyisa'r-llan, Llanbedr. Edwards.—Awst 25, yn 75 mlwydd oed, Mrs. M. Ed- ward?, annwyl brdod Mr. David Edwards, Bank House, Abermaw, aelod ffyddlon yn eglwys Park Road. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. E. Afonwy Williams, y bug ail, a J. Gwynoro Davies. Jones.—Awst 30, yn 45 mlwydd oed, Gwen, priod Mr. G. Thomas Jones,, miner, Sarn Road, Dol- gellau. Jones.:—Awst 28, yn 80 mlwydd oed, Mr. T. W. Jones, Y..H., Manchester House, Penrhyndeu- draeth. Y. oedd yn enedigol o Llandderfel. Pan yn 12 oed bu yn egwyddorwas gyda Mr. David Jones, Llandderfel, wedi hynny David Jones and Co., Lerpwl. Wedi. gorffen ei brentisdaeth aeth am gwrs o addysg i Goleg y Bala. Ymsefydlodd mewn busnes yn Clawddnewydd, a phriododd. a Miss Catherine Jones, merch y diweddar Mr. Robert Jones, Gyffyiliog, a symudodd yno i fyw. Yn y flwyddyn 1881, aeth i fyw i'r Benrhyn, a llwyddodd yn dda ac eangodd ei fusnes yn fawr. Cymerai ddyddordeb mewn cerddoriaeth, ac yr oedd ef yn un o'r ychydig sydd yn fyw, fu yn oanu o dan y diweddar Mr. Armhrose Lloyd. Yr oedd yn selog neilltuol pan gychwynwyd gyda'r Tonic Solffa, a phan yn Oldham oafodd wersi mewn cerddoriaeth gan y diweddar "Tanah." Bu yn athraw Ysgol Sul am 60 mlynedd. Yr oedd yn Rhyddfrydwr aiddgar. Cafodd farw yn ol ei ddy- muniad, o dan yr un amgylchiadau o'r bron ag y bu farw ei annwyl briod 25 mlynedd yn ol ym Mhorthmadog. Cydym^eimldT yn fawr a'r ddau fab, Dr. J. O. Jones, Y.H., Treffynnon, Mr. R. T. Janes, C.S., a'i ferched Misses Jennie, Sally a Pollie Jones yn eu profedigaeth lem. Claddwyd ef dydd Iau yn Nazareth. Lewis.—Awst 20, yn 49 mlwydd oed, Mr. R. Morris Lewis, adeiladydd, Penrhyndeudraeth. Lloyd-Jones.—Awst 20, Ellen Eunice, merch hynaf John Lloyd-Jones, Y.H., D.L., gynt o Deganwy. Owen.—Awst 20, Mrs. Catherine Owen, Parkia Bach, Criccieth (gweddw Mr. Edward Owen, yr hwn a'i rhagflaenodd wyth mis yn ol, yn hynod o sydyn). Yr oedd hi yn aelod o eglwys Capel Mawr (M.C.). Er wedi ei chaethiwo drwy lesgedd a gwendid teimlai ddyddordeb yn achos ei Gwaredwr. Ddydd Iau diweddaf, hebryngwyd ei rhan farwol i fynwent Llanarmon, i orwedd yn yr un bedd a'i hannwyl briod. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. John Owen, M.A. (iM.C.), Sion, ac wrth y bedd gan y Parch. Isfryn, y Rheithor. x Cydymdeimlir yn fawr a'r brawd a'r chwaer a adawyd yn amddifaid i wylo eu colled am fam dyner a charuaidd. Imlaf- ei mab yngltyn a'r fyddin yn Kinmel Park, a thrwy ddylanwad Mirs. Lloyd George, cafodd ryddhad i fod yn breslennol i drefnu yn ystod yr amigylohiad chwerw. Cysured Duw yr amddifaid traltodus. Yr oedd yr ymadaw- edig yn fodryb i'r Parch. E. Afonwy Williams, Abermaw. Parry.—Awst 62, yn 56 mlwydd oed, Miss Ellen Parry, Wern, Talysarn. t arry.—Awsc 28, yn 95 mlwydd oed, Mr. Griffith Parry, Llwyngriffin. Dyffryn Ardudwv. "rice.—Awst 26, yn 62 mlwydd oed, Mrs-. Jane Price, annwyl briod Mr, Robert Price, Rhewlgoch, Llanelidan. 'PUigh.Awst 15, Riichie, annwyl fab Mr. a Mrs. Richard Pugh, Egryn Cottage, Abergynolwyn. Rowlands.—Awst I7eg, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Rowlands, Ty Slates., Tywyn, Abergele, gweddw y Parch. William Rowlands, gweinidog cymerad- wy gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Claddwyd hi yn mynwent Mynydd Seion, Abergele, Awst 21am. Daeth cynulliad parchus i'w hebrwng i dy ei hiT gartref. Yr oedd yn dra chrefyddol a heddychol ei hysbryd, ac yr' oedd marw yn ehv iddi. Gwasanaethwyd yn ei hangladd gan y Parchn. David Jones, Rhuddlan; Lewis Owen, a John Roberts, Rhyl; T. W. Thomas, Llajiddulas J. H. Davies, Abergele, a Robert Williams, Tywyn. Gadawodd fab a merch mewn galar dwys am dani, sef Mr. R. S. Rowlands, M.R.C.V.S., Abergele, a Mrs. Hughes, Ty Slates, ynghyda brawd, s,ef Mr. Morris Jones, Garllwyd. Rowlands.—Awst 26, yn dra sydyn, yn 73 mlwydd oed. Mr. Jiolant W. Rowlaiidc. Paris House, Felin- heli. Claddwyd yn breifat ddydd Mawrth, y Parch. J. E. Hughes, B.A., B.D yn gwasanaethu. Rowlands.—Dydd Mawrth, Awst 29, yn 25,ain ml. oed, Evan Rowlands, ,mab y diweddar Edward Rowlands a Mrs.. Ellen Rowlands, Cambrian Terrace, Dolgellau. Bu mewn Sanatorium ychydig arnser yn ol, a daeth adref i bob ym- ddangosiiad wedi cael llwyr adferiad. Ond cafodd ail-ymosodiad a daeth y diwedd yn sydyn yr amiser a nodwyd. Yr oedd Evan yn aelod dichlyn- aidd a blaenllaw yn eglwys Judah (B.), ac yn un A fawr hoffid gan bawb fel y tystiai y dorf luosog a pharchus hebryngiai ei weddillion i'r Cemetery ddydd Gwener, Medi. iaf. Gwasanaethid wrth y ty ac ar lan y bedd gan ei weinidog y Parch. Henry Rees, a darllenwyd Gwasanaeth yr Odydd- ion gan Llew Meirion. Cydymdeimlir yn fawr a'i fam weddw, ei frodyr a'i chwiorydd yn eu profed- iigaeth ch werw.- Thomas.—Awst 26, yn 74 mlwydd oed, Miss Thomas, Turnpike Bach, Pentrefoelas. Williams.—Awst 26, yn 77 mlwydd oed, y Parch. Robert Williams, Tanyfron, Llansiannan, Wiiliaitis.—^Awst 25, yn 63 mlwydd oed, Mrs. Catherine Williams, Cellfawr, Llanaber, Meirion- ydd. Williams.—Awst 22, yn Sanatorium, Caernarfon, yn 27ain mlwydd oed, Jane, merch hynaf Mr Cad- waladr Williams, Adwy D-eg, ger Trawsfynydd, gynt o Gyfanedd Fawr, Friog. Vr oedd yn ferch ieuanc o gymsriad prydferth, tawel, a d-iymhongar, ac yn fawr ei pharch gan y rhai a'i hadwaenai oreu. iPan yr oedd y teulu yn byw yn ardal y Friog, byddai yn chwareu yr offeryn yng aghapel y Friog, ac o wasana-eth mawr i'r acho-s. Am y chwe blynedd olaf o'i hoes bu yn house-keeper i Mr. Robert Jones, Hafod-dywyll, ac yn aelod ffyddlon yn eglwys fechan Rehobo.th. Cafodd rai misoedd o gystudd, yr hwn a ddioddefodd yn dawel a dirwgnach. Cliaddwyd y gweddillion yn 9 mynwent Trawsfynydd ar y sbain, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn. David Hughes, Trawsfyn'- ydd, Trevor Evans, ;Llwyngwri], a William Jones, Pare. Daeth ynghyd dyrfa luosog i ddangos parch i goffadwriaeth y ferch ieuanc, a chydym- deimlad a'r teulu yn eu galar a'u hiraeth.

CYDVMDEI.MLAD.

MARiWOILAETH Y PARCH. J. M.…

MARWOLAETH Y PARCH ROBERT…

ST. HELEN'S JUNC"TION. .

TIlE" STRAND'S " SEPTEMBER…