Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR LLUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR LLUNDAIN. DYDD SADWRN. Y Senedd. Ychydig iawn o ddyddordeb gymerodd yr ael- b 9 odau Cymreig yn y ddadl ar Dr. Ethe. 0 saf- bwynt Cymru nid oedd dim pwys yn y ddadl. Mae'r aelodau Cymreig yn edrych ar Dr. Ethe o safle Ty y Cyffredin, lie mae'r teimlad yn gryf y dylai pob German drwy'r Deyrnas gael ei an- fon i dir neilltuaeth. Yn hyn mae'r Ty yn ad- lewyrchu barn a theimlad pob dosbarth yn y Brifddinas. Prynu'r Fasnach. Mor bell ag y gallaf wneud allan mae'r farn yn aeddfedu yn Nhy.y Cyffredin o blaid prynu'r Fasnach. Yn araf y daw barn aeddfed ar y cwestiwn, ond yn sicr i'r cyfeiriad yna y mae'r gogwydd, a chofnodi ffaith ac nid dadleu yr wyf wrth ddweyd hyn. UU Y Cadfridog Owen Thomas. Mae'r ymchwiliad drosodd, a rhaid aros am farn y pwyllgor cyn dweyd dim. Ond gallaf godi ewr y lien mor bell a hyn,—rhoddodd y Cadfridog yr achos i lawr mewn dull rhagorol, ac nid wyf yn credu y rhaid i Gymru bryderu ynghylch y canlyniad. Ni bydd Cymru yn dawel nes y gosodir pethau yn eu lie. UU Cymru a'r Fyddin. Yn araf ond sicr daw trefn ar, bethau yn y Fyddin yn eu cysylltiad a Chymru. Dylem fod yn amyneddgar, oblegid y mae Mr. Lloyd George wedi gafael mewn gwaith sydd yn gofyn am amynedd Job a nerth Samson. Glywsoch chwi hanes ei ymweliad a Ffrainc a'i ysgwrs gyd- a'r Cadfridog Joffre? Nis gallaf ei hadrodd yma. Pan y daw rhywun o'ch teulu 1 Lundain y tro nesaf, byddwch yn siwr o ofyn iddynt alw yma am yr hanes. Gwelsoch am ysgrech y "Morning Post" ac awgrymiadau'r "Times." Ond na ofelwch, fe ddysgodd Mr. Lloyd George ddau neu dri o bethau i'r awdurdodau, ac y mae'r milwyr ar eu mantais o hynny. Fe ddanghosodd y Cymro mai nid awrlais a magnel yw'r cyfan sy'n eisieu,—fod yn rhaid wrth ym- enydd heTyd. A chyda'r Fyddin Gymreig, rhaid i Gymru gael yr un breintiau a'r Gwyddelod a'r Ysgot- iaid,—a'r Saeson hefyd, o ran hynny. Mae'r anhawsterau yn aruthrol, ond fe ddaw gwelliant-. au yn y man. Dylai Cymru ddal i guro wrth ddrws y Swyddfa Ryfel, ond dylai gofio fod er- aill yn curo yr un pryd. UU Giroeg1. Dyma un anhawster mawr ar ffordd buddug- oliaeth yn y Rhyfel. Ac y mae'n ofnus fod rhywfaint o'r cyfrifoldeb yn nes yma na Groeg ei hun. Ond y mae'r Weinyddiaeth yn gryf, a rhaid yw i bob anhawster, bydded Frenin neu Caisar, symud o'r ffordd. m Ennill Buddugoliaeth Lwyr. Dyna nod Mr. Lloyd George, ceidw ei lygad ar y presennol a'rdyfodol, ar ennill y frwydr a sicrhau heddwch ar sylfeini parhaol a chadarn. I'r pwrpas hwn, rhaid wrth ddigon o ddynion i gadw'r Fyddin yn gref anorchfygol, yn y diwedd. Dyna'r nod sydd yn tynnu allan holl ynni ac ym- adferthoedd yr Ysgrifennydd Rhyfel. Mae eis- oes wedivcreu chwildroad yn y Swyddfa Ryfel drwy anfon allan bob un sydd yno yn gymwys i'r Fyddin. Mae llawer lie arall sydd i fyned drwy gyffelyb oruchwyliaeth. 88 Y Munition. Works. Beth am y Munition Establishments drwy'r wlad Dyna un ym Mhenrhyndeudraeth,—yn sir y CYMRO,-mae yno le i wella, a da gennyf glywed fod Mr. Haydn Jones, eich aelod sen- eddol ymdrechgar, wedi gafael yn y gwaith. Dylai eraill ddilyn eikesiampl. Rhodder gwaith 1 Gymry yn y lleoedd hyn, a danfoner rhagor o'r Saeson, sydd mewn oedran milwrol, allan i ym- ladd. W Rhai yn 41 oed. Mae'r gorchymyn newydd i alw rhai sydd yn 41 mlwydd oed i fyny i'r fyddin wedi peri llawer o bryder mewn miloedd o deuluoedd. Yn ol y gorchymyn diweddaf gelwir i fyny bob dyn sengl oedd dan 41 ar yr ail o Fawrth, a phob gwr priod oedd dan 41 ar y 24ain o Fehefin, pa un bynnag a fyddont wedi atestio ai peidio. Wrth gwrs, ni bydd hyn yn ymyryd a hawliau i apelio fel y darpara'r Ddeddf. mm Addysg Rydd. Syniad sy'n ennill tir yn gyflym ydyw yr un "• dros gael addysg Cymru yn hollol rydd o ffon isaf yr ysgol i'r uwchaf. Mae eisoes felly yn yr isaf, a rhaid cael yr ysgolion canol a'r brif- ysgol yn hollol rydd. I gyrraedd hyn gyda'r Brifysgol, credaf y buasai ceiniog y bunt o'r -trethi a'r un cyfanswm o'r Llywodraeth yn cyf- arfod yr eisieu. Byddai y ddau ynghyd yn gan' mil. Dyma yr hyn y dylai Cymru ymgyrraedd ato. mm Ac Addysg Uwch. Rhaid i Gymru wneud rhyw ddarpariaeth i roi chware teg i'n bechgyn wedi iddynt raddio ym Mhrifysgol Cymru. Dylent gael myned ymlaen i'r hen brifysgolion, Rhydychain a Chaergrawnt, neu afael mewn research work. Mewn gwleid- yddiaeth mae Cymru wedi codi Cymry i lanw'r lleoedd blaenaf, ond nid yw'r Brifysgol Gymreig wedi codi neb o'r dosbarth blaenaf. Nid diffyg talent yw'r rheswm am hyn,—diffyg cyfleustra i fyned ymlaen gyda'u hastudiaeth, a phrysurdeb i ennill arian.
CRICCIETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CRICCIETH. CYFARFOD SEFYDLU Y PARCH!. W. E. HUGHES, M.A. Nos Lun, Hydref 30, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu y Parch. W. E. Hughes, Mi.A., yn Capel Mawr fel olynydd i'r Parch. Wm. Williams, yr hwn sydd wedi ymadael am Arfon i fyw. Trodd y tywydd yn hynod anffafriol, ond daeth tyrfa dda ynghyd, a teimlwyd dyddordeb dwfn yn yr amgylchiad gan y gymydog- aeth. Y prynhawn rhoddwyd te a danteithion i'r plant a'r dieithriaid gan nifer fawr o chwiorydd yr eglwys, ac am saith llywyddai Mr. J. T. Jones, Y.H., l'arciau, dros y cyfarfod cyhoeddus. Dechreuwyd y moddion gan y Parch. Griffith Parry, Borthygest, yn hynod bwrpasol i'r amgylchiad. Yna cafwyd can gan y plant, o dan arweiniad Miss Mei Jones. Dy- wedodd y Llywydd eu 'bod yn gofidio fod llawer wedi eu lluddiaSl i fod yn bresennol oherwydd y dymhestl, ond gobeithiai had oedd yr hin erwin yn ddangoseg o berthynas oedd i icdoli cydrhwng y gwemidog newydd a'r eglwys, ond fel ag yr oedd ystorm yn puro yr awyr ac yn paratoi am dywydd teg a heulwen, y byddai iddynt hwythau oil yn eu perthynas a Mr. (Hughes gael mwynhau pethau dym- unol felly. Yr oeddynt wedi bod yn hynod ffodus fod eu coelbren wedi disgyn mor unlfrydol ar wr ieu- anc ac. y credent oil a fyddai yn gaffaeliad mawr iddynt yny Capel Mawr, ac yn allu yn y dref a'r cylch. Knoddodd Mr. William Roberts, ysgrifen- nydd y Pwyllgor dewisol, adroddiad o'r camrau a gymerwyd i lenwi y bwch, ac fod galwad yr eglwys yn hollol unfrydol i Mr. Hughes. Nid oedd cymaint ag un yn ei erbyn, hyderent fod hynny yn argoeli yn dda am ddyfodol eu perthynas fel bugail ac eglwys. Yna galwyd ar y Parch. D. J. Lewis, Waenfawr, bugail yr eglwys y magwyd Mr. Hughes ynddi, i'w ■ gyflwyno ar ran yr eglwys, ac ar ran Cyfarfod Misol Arfon, i'r eglwys ac i Gyfarfod Misol Lleyn. ac Eifionydd. Dywedai Mr. Lewis ei fod yn adnabod Mr. Hughes er yn fachgenyn, a'i fod wedi ffurfio syniad- uchel iawn am dano, am ei dalentau disglair, am ei ymroddiad a'i lafur diflino i gyrraedd y nod uchel a osododd o'i flaen, ac hefyd am ei gymeriad dilychwin a'i grefyddolder. Cafodd ei fagu ar aelwyd wir grefyddol, yr oedd ei dad yn hynod am ei sel ynglyn ai pethau y Deyrnas bu am gytnod o dros ddeugain mlynedd yn gofalu am blant capel y Waenfawr, ac yr oedd ei ol ar genedlaethau o honynt. Yr oedd y teulu yn amlwg am ei ford i weinidogion y Gair, ac i'r eglwys a'i hordeiniadau, dyna yr awyrgylch oedd wedi cynhyrchu Mr. Hughes. Yr oedd yn berffaith sicr fod crefyddolder yr aelwyd wedi cael argraff d-dof-n ar ysbryd a bywyd y gwr ieuanc oedd ger ei fron. Onid dyma un o ddiffygion llawer o aelwydydd y dyddiau hyn, ie, ymysg proffes- wyr crefydd. Cafodd Mr. Hughes bob cynhorthwy ac anogaeth gartref i wneud y defnydd goreu o bob mantais mewn addysg. Chwarelwr cyffredi-n oedd ei dad, ond credai mewn aberthu llawer er mwyn rhoddi yr addysg oreu i'w fab, a gwnaeth Mr. Hughes y goreu o'r cyfleustra a ddaeth i'w ran. Aeth i ysgol ganolraddol Caernarfon yn ddeuddeg oed, wedi sicrhau ysgoloriaeth, o'r Ysgol Sirol aeth i Goleg 'Bangor trwy ennill ysgoloriaeth Price Davies, gwerth £30, ac ysgoloriaeth y Sir gwerth 620 am dair blynedd, yr oil yn werth ,Coo y flwyddyn. Dyna yrfa go dda i fab chwarelwr, onide? Graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn y Lladin, hefyd mewn Groeg, yna enillodd Studentship gwerth ^65 am ddwy flynedd i baratoi gogyfer a'r gradd o M.A. Aeth i'r Bala, ac enillodd yno y Pierce Scholarship o ^50 bob blwyddyn tra y bu yno. Gyrfa wych i fab chwarelwr tlawd yn Arfon; llefarai y record hwn yn hyawdl, nid yn unig am ei allu meddyliol, ond hefyd am ei benderfyniad di-ildio i lwyddo, I
CRONFA GYNORTHWYOL GANOLOG…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CRONFA GYNORTHWYOL GANOLOG CYMDEITHASFA Y DEHEUDIR. Fel y mae yn wybyddus i'n darllenwyr, pen- odwyd y Parch. Thomas Bowen, Caerdydd, yn Ysgrifennydd taledig i'r Gronfa uchod ar y de- alltwriaeth ei fod i roddi i fyny ei fugeiliaeth er mwyn rhoddi ei holl amser i'r swydd am dair blynedd. Awdurdodir ni i hysbysu fod cyfeill- ion caredig wedi ymgymeryd a thalu cyflog yr Ysgrifennydd am y cyfnod a nodir er mwyn sym- ud ymaith pob gwrthwynebiad i'r trefniant.
ATGOFION AM Y PARCH. THOMAS…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
weinidogaeth bob amser. Clywais ef yn pre- gethu mewn ami i le yn ystod ei oes, ond y tro goreu oedd mewn Cyfarfod Misol yng Nghon- wy. Yr oeddwn yn byw yno ar y pryd, ac yn cydgerdded gydag ef a Mr. David Jones, y Bank, a Mr. William Mona Williams (yr hwn oedd yn byw yn Deganwy ar y pryd) at y capel. Pan ddywedwyd wrtho wedi cyrraedd y capel fod y Parch. James Donne i bregethu gydag ef, chwarddodd yn galonnog, gan gyfeirio at y stori am y done. a'r well done. Gallesid dweyd well done am ei bregethu lawer gwaith, ond ddim yn fwy felly na'r tro hwn. Hanes Lot yn Sodom oedd ganddo, a phregethai gyda rhyw nerth a hyawdledd na chlywais ddim yn gyffelyb ganddo erioed. Sonir am y bregeth yma yng Nghonwy hyd y dydd hwn. Y tro olaf i mi ei glywed yn pregethu oedd yng nghapel Maenoff- eren, Blaenau Ffestiniog, capel ag oedd yn annwyl iawn iddo ef fel i minnau. Yr oedd yn byw ym Mangor er ys llawer blwyddyn yn awr, a'r foment y daeth i lawr o'r pulpud y bore, gofynodd i mi fyned gydag ef i weled gweddw hen gyfaill iddo oedd wedi marw yn ddiweddar. Eis gydag ef ar unwaith, ac wedi cyrraedd y ty ac eistedd i lawr, dechreuodd siarad am farw, a dywedodd bethau nas gallaf byth eu anghofio. Ymhlith pethau eraill, dywedai gyda'r urddas a'i nodweddai, mai dydd i edrych ymlaen ato yn llawen ydoedd dydd marwolaeth; fel y prif ddydd yn hanes pob un, ac nad oedd ond un dydd arall, sef dydd genedigaeth, i'w gyffelybu ag ef, ac na ddylai neb wylo a bod yn drist pan fyddai rhai annwyl gennym yn ei gyfarfod. Yna trodd ataf yn sydyn, gydag edrychiad llym, ac meddai, gan droi i iaith arall am y foment, "Yes," meddai, death is a grand thing," gan adrodd yr un geiriau drachefn. Yn fuan wed'yn, fe'i cymerwyd yn wael, ac fe fum am flynyddau lawer heb ei weled, ond pan y daeth i Lanberis i gladdu ei annwyl briod, fe gofiodd. rywfodd fy mod yma, ond nis gallasai roddi ar ddeall iddynt pwy oedd arno eisieu ei weled. Deallodd ei gyfaill ffyddlon, Dr. Rich- ard Jones, Y.H., Blaenau Ffestiniog, mai am danaf fi yr oedd yn meddwl, ac anfonwyd am danaf i Bryngwyddfa, lie yr oedd yn aros gyda Doctor a Mrs. Roberts. Ni fum am foment heb ateb i'r alwad, ac yr oeddwn yn falch ei fod „ wedi cofio am danaf. Synwn ei weled yn ed- rych mor dda ar ol ei holl gystudd, ac fe fu. yn hir heb ollwng fy Haw wedi gafael ynddi. Wrth 1 9 ei weled yn wylo pan yn cyfeirio at Mrs. Whel- don, atgofiais ef o'r hyn oedd wedi ei ddweyd yn y Rhiw .flynyddau yn ol am ddydd marwol- aeth, a thawelodd ar unwaith. Cawsom ym- gom felus, ac yr oedd wrth ei fodd pan oeddym yn siarad am Ffestiniog a Gorllewin Meirionydd. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd yn y Gymdeith- asfa ym Mangor, rhyw ddau fis yn ol, yn gwrando yn astud ar ei olynydd teilwng y Parch. R. R. Williams, M.A., Bala, yn rhoddi yr adroddiad am y Drysorfa Gynorthwyol, ac yr oeddwn yn meddwl wrth edrych arno ei fod yn diheu am gael dweyd gair ei hun, am symudiad ag oedd mor agos at ei galon. Y mae erbyn hyn wedi myned i'r Orffwysfa, ac y mae ein dyled yn fawr i'w annwyl ferch, Miss Gwladys Wheldon, am y gofal mawr a gymerodd ohono, ac hefyd i."w annwyl fab Major Wynn Wheldon. Bachgen iawn ydyw Wynn, hollol ddi-rodres a naturiol. Pan gydag ef a chyfaill arall Mr. Silin Roberts yn cynnal Recruiting Meetings am rhyw bythefnos tua di- wedd y flwyddyn 1914, byddai y mab yn dyfod a'r tad yn fyw iawn i fy nghof wrth ei glywed yn siarad, a phe heb 'ei weled, buaswn yn cymryd fy llw mai yr hen arwr oedd yno. Bellach y mae wedi ein gadael, ond fe fydd y gwaith a wnaeth yn Ffestiniog, Bangor, a lle- oedd eraill yn aros am amseroedd i ddyfod.