Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
--_---._--__---ER COF.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER COF. MR. ROBERT LLOYD, 44, ELSPETH ROAD, CLAPHAM JUNCTION, LLUNDAIN. Diwrnod a go fir yn hir gan holl eglwys Clapham Junction fydd dydd Mercher, Hyd. 24, 19x6, oblegid dyma'r diwrnod y rhoddwyd gweddillion y gwr annwyl hwn i orffwys yn mynwent Wandsworth. Yn ol ei ddymuniad torwyd ei fedd yn ymyl ei hen gyfaill a'i gyd-swyddog, David Edwards, Blackmoor St., yr hwn oedd wedi ei ragflaenu o agos bum' mlynedd. Gariadus ac annwyl fuont yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth nis gwahanwyd hwynt." Ar y ffordd o Elspeth Road i'r gladdfa aed a'r corff i gapel Clapham JunCtion, lie y caed gwasanaeth dan arolygiaeth y Parch. D. Tyler Davies, yr hwn er ei waeledd oedd wedi methu cadw draw o ddyfod i dalu y warogaeth hon o barch i un oedd mor annwyl ganddo. Yr oedd yno dorf fawr wedi dyfod ynghyd. Ei holl gyd-swyddogion yn Clapham Junction, a mwyafrif yr eglwys, a chynrychiolwyr yn weinidog- ion a blaenoriaid ymron o'r holl eglwysi Cymreig. Ar ol canu un o'i hoff emynau, arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. T. F. Jones, Shirland Road. Gweddi ryfedd oedd hon, yn amlwg dan yr eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnnw," pan yn diolch i'r nefoedd am gael egwyddorion mawr Efengyl Crist wedi eu corffori mewn cymeriad dyn da." Mor arddunol yw symledd y Beibl yn cyfuno fel hyn holl ragoriaethau cymeriad mewn un gair, Da was, da a ffyddlon." Cafwyd ar ol hyn fraslun tyner iawn o'i hanes gan un a'i hadwaenai yn dda yn ei holl gysylltiadau teuluaidd, sef y Parch. D. S. Owen, gweinidog Jewin. Yna aeth y dorf yn orymdaith i'r gladdfa. Darllenodd y Parch. D. S. Owen eto y gwasaruaeth claddu, a gweddiodd y Parch. D. Tyler Davies. Yr oedd yn amlwg fod teimladau Mr. Davies yn fwy nag y medrai ddal. Yr oedd hyn yn rhoi rhyw ddwyster a thynerwch dwyfol af'yr holl wasanaeth. Yr oedd yno 18 o goron-blethau o bob llun a lliw o'r blodau mwyaf teg a phersawrus yn addurno'r coffin a'r elorgerbyd oddiwrth gyfeillion a'i gyd-swyddogion o'r Army and Navy Stores, a chalon o blethflodau oddiwrth ferched ieuainc ei ddosbarth oedd mor hoff o hono, ac ami— We loved thee much, But Jesus loves you best—farewell." Ac yr oedd yno un werthfawr a thlws iawn o arwydd- flodeu mewn 'China,' gan yr eglwys, ac yn sicr yr oedd dwyfol ys-brydoliaeth wedi arwain Mr. R. L. Davies yn newisiad geiriau yr arwyddair—" Dagrau hiraeth." Cafwyd gwasanaeth coffadwriaethol nos Sul, Hyd. 29am, pryd y pregethodd y Parch. D. Tyier Davies, gan gymryd hoff ad-nod Mr. Lloyd fer sail ei sylwad- au,—" Yr Arglwydd yn graig ac amddiffynfa ac uchel- dwr," Psalm xviii. a, a chiais a gweddi Eliseus am ddeuparth o ysbryd Elias. Tynodd amryw wersi buddiol ac ymarferol iawn, ac anogaeth daer ar i'r bobl ieuainc ddyfod i lenwi'r bwlch oedd yn cael ei wneud yn ymadawiad Mr. Lloyd. Darllenwyd llythyr tyner iawn oddiwrth Mr. James Evans, ac ar ran y Cyfarfod Misol oddiwrth y Parch. J. Thickens, athalodd Mir. R. Parry deyrnged o'i barch ef a'i gyd- swyddogion mewn geiriau doeth a llawn tynerwch, gangyfeirio at symledd ac unplygrwydd bywyd Mr. Lloyd. Canodd cyfaill i'r teulu yn effeithiol iawn, Lead, kindly light," a 'Be thou faithful unto death." Byr iawn fu ei gystudd, dim ond bythefnos, ond cystudd "a weithiodd gyfnewidiad blynyddoedd yn ti wedd. Rhyw bum' mis yn ol gelwais gydag ef. Yr oedd wedi dychwelyd o Gymru y nos hono o gladdu ei ddwy chwaer, sef Mrsi. Winter, Rhuthyn, a Mrs. J. D. Owen, Bodfari, dwy chwaer annwyl a duwiol iawn yn ddiau, ac yno yr oedd a box o'i flaen yn cyn- nwys llythyrau ei dad at y ddwy chwaer, ond at Mrs. Winter yn bennaf, ac yn eu plith yr oedd yno anerch- iadau oedd ei dad wedi draddodi mewn gwahanol gyfarfodydd. Cadwodd fi am ddwy awr i'w darllen, a chefais rhyw gipolwg i'w hanes boreuol. Cymer- iad hynod oedd ei dad, ac y mae hanes Morris Llwyd yn bensiod ddyddorol yn hanes Methodistiaid Sir Fflint. Yn Llandegle, tua chwe' milltir o Rhuthin, yr oedd ei gartref. Efe oedd yr unig fab a phedair o chwior- ydd. Y mae hyn yn ddiau yn cyfrif am y nodwedd- ion tyner oedd yn ei gymeriad. Pan benderfynodd adael cartref, nis gallai benderfynu pa un ai Liver- pool, ai Manchester, ai Llundain, a cheisiodd ar- weiniad gan yr Arglwydd. Daeth ar draws 'adver- tisement.' Ysgrifenodd ar unwaith i'r Army and Navy Stores, Llundain." Daeth llythyr yn ol yn cynnwys y telerau. Yno yr aeth pan yn 21 oed, ac yno y bu gan godi o ris iris mewn. parch ac ymddir- iedaeth ei feistriaid am 37 o flynyddau, ac yr oedd yr Ironmongery Dept.' yn gwbl dan ei ofal. Cefais y fraint o gofnodi ar ddalennau y Cymro rhyw wyth mlynedd yn ol ddewisiad yr eglwys o io o swyddogicm. ar ddyfodiad Mr. Davies i gymryd bugeiliaeth yr eglwys. Efe oedd yr unig un oTr deg o'r Gogledd. Ni fu swyddog erioed yn fwy ei barch, o'i a chan ei gyd-swyddogion. Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pirydferth. Nid oedd yn siarad- wr mawr, yr oedd yn gofidio na fuasai ganddo ddawn1 ei dad ond yr oedd dylanwad distaw cyson ei fywyd, a'r boneddigeiddrwydd a'i nodweddai, yn ennill parch a serch pawb a ddeuai i gyffyrddiad ag ef. Nid oedd neb yn petruso rhoddi pob ymddiried- aeth iddo, ac iddo ef yr ymddiriedwyd trysorydd- iaeth yr eglwys, ac ni fu erioed drysorydd gwell. Arwain ac nid 'drivio' wnai ef yn hyn fel ymhob peth. Yr oedd ei gariad yn angherdd-ol at ei eglwys, ac yr oedd yna rhyw rwymau ag oedd er ys blyn- yddoedd wedi priodi y teulu a'r eglwys. Y mae Gladys, ei unig blentyn, wedi bod yn organist er yn blentyn, a phan aeth yr hen organ yn rhy ansoniarus i ddelfrydau Gladys, mynodd organ newydd ar ei draul ei hun, a chyflwynodd hi i'r eglwys. Mae Mrs. Lloyd ymlaenllaw gyda phob gwaith, a'i gofal arbehnig am y Cenhadaethau. Rhaid imi gael dweyd gair am ei gariad a'i ddydd- ordeb yn ei ddosbarth. Ni fu athraw erioed mwy annwyl gan ei ddosbarth. Boed Duw o'i ras yn agos iawn at ei annwyl blentyn a'i weddw ffyddlon, a datguddier iddynt y colofnau i'w harwain yn nos eu profedigaeth yw dymuniad calon eu hen gyfaill D. EDWARDS. Y DDIWEDDAR MRS. DAVID EVANS, TWR- Y-FELIN, TYDDEWI, PENFRO. Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gwr hefyd, ac a'i canmol hi." Gyda thon o hiraeth yr ydym yn ysgrifennu y gair ddiweddar o flaen enw y foneddiges uchod, yr hon ymadawodd a'r fuchedd bresennol Hydref 30, yn ei 71 ml. oed, ar ol byr gystudd, yr hwn ddioddef- odd yn wrol a thangnefeddus. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig i Mr. David Evans (y Felin Wynt gynt), yr hwn sydd yn adnab- yddus i luaws darllenwyr y CYMRO fel Rhyddfrydwr pybyr, lienor gwych, ac emynydd tlws. Mae mar- wolaeth Mrs. Evans wedi gwneud bwlch llydan mewn llawer rheng-yn y teulu, yn yr eglwys, ac yn y ddinas lie y preswyliai. Adnabyddid hi fel gwraig rinweddol, mam ,ofalus a thyner, a dinesydd caru- aidd, ac ar ddydd ei hangladd talwyd iddi warog- aeth haeddianol gan y rhai fu'n gwasanaethu, a chaf odd ysgrifennydd hyn o linellau adnabyddiaeth ddi- gonol o'r foneddiges i dystio mai gwir oedd yr hyn lefarwyd am dani. Mae eglwys y Tabernacl wedi colli aelod ffyddlon iawn, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos. Yr oedd yr ymadawedig yn ddirwest-wraig egwyddorol, ac yn bleidiol iawn i achos sobrwydd a moesoldeb, a bu ganddi hi law fl,aenllaw, flynyddoedd yn ol, mewn cychwyn I.O.G.T. Lodge yn y ddinas, ac yr oedd nifer yr aelodau ar un adeg yn rhifio tua 250. Er mwyn dangos, ei theyrngarwch i'r achos, fe agorodd Westdy (Temperance Hotel) yn y dref, yr hwn fu o fendith fawr, yn enwedig i bobl ieuainc a'r ymwel- wyr. Rhaid yw crybwyll yn y fan hyn am adeg ymwel- iad C'ymanfa Fawr Wesleyaid Deheudir Cymru a Thyddewi flynyddoedd yn ol. Darfu i Mr. a Mrs. Evans roddi gwahoddiad i'r holl weinidogion, ac i rai ugeiniau o leygwyr o wahanol enwadau, i ddod i reception fawr ddarparwyd ganddynt yn Nhwr- y-Felin. Fe'i cadwyd fel ryw fath o gwrdd agoriad. ol' i'r gwestdy newydd ac eang,-ac wrth basio, nid anghofir yn fuan yr areithiau draddodwyd a'r gweddiau offrymwyd gan y cewri ddaeth i'r wyl. Costiodd hyn gryn drafferth ac aberth.i Mrs. a Mr. Evans-ond aberth cariad oedd. "Wrth hyn y llety- odd rai angylion yn ddiarwybod iddynt Carem hefyd gyfeirio at ei charedigrwydd a'r dydd- ordeb gymerai yn y lluaws bechgyn o'r Homes fu, ac sydd yn eu gwasanaeth, llawer o honynt erbyn hyn mewn sefyllfaoedd pwysig. Bu Mrs. Evans yn fam dirion iddynt, yn gwylio eu symudiadau, yn cyfeirio eu meddwl at y dyrchafol a'r pur, ac yn myned a hwy yn dorf raenus gyda hi i'w sedd i oedfeuon y cysegr. Cyfeiriodd ei gweinidog yn dyner at yr uchod ddydd y cynhebrwng. Cafodd angladd dywysogaidd, ac er arwed yr hin, daeth torffwy nag a ddisgwylid i dalu i'r ymadaw- edig y gymwynas olaf. 'Roedd pleth-dorchau drud- fawr yn addurno caead ei harch. Canwyd emyn o flaen y ty cyn cychwyn, yna aeth yr orymdaith i'r capel. Chwareuwyd ar yr offeryn pan ddygwyd y corff i fewn "0.1 rest in the Lord," gan Mr. Watts Williams, Y.H. Yna siaradwyd geiriau tyner a tharawiadol gan ei gweinidog (y Parch. T. Eurfyl Jones), y Parch. H. Solva Thomas, a Mr. William Davies, Rhoscribed. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aeth gan y Parch. J. Abel, B.A. (A.), a'r Parch. E. R. Davies, Caerfarchell. Canwyd hefyd yn dodd- edigiawn "Pan ballo ffafr pawb a'i hedd" (yr hwn emyn adroddodd yr ymadawedig ychydig cyn ei marw), ac hefyd O1! angau, pa le mae dy golyn! Wrth ymadael, chwareuwyd eto yn fedrus iawn y Dead March Ün Saul). Ar lan y bedd offrymwyd gweddi fer a thyner odiaeth gan y gweinidog, a chanwyd y don IBlabel-" Bydd myrdd o ryfeddodau." Traddododd y Parch. T. Eurfyl Jones bregeth angladd nos Sul diweddaf, a llefarwyd ganddo wir- ioneddau tarawiadol a phwysig iawn. Y mae {'n hannyl frawd (Mr. David Evans) a'r teulu, a'r perthynasau oil, ein cydymdeimlad cywir yn eu galar. Er colli ein cyfeillion hoff Yn yr Iorddonen gref, Mbr hoff yw gwybod, wedi hyn, Cawn gwryddyd yn y Nef." Solva. KILMOREY,
P'OENAU AR OL BWYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
P'OENAU AR OL BWYD. Ols yw eich organau tufewnol mewn ystad iachus; os ydynt yn tynu maeth o'r bwyd a fwyteir gennych, ni ddylech fod yn dioddef oddiwrth unrhyw fath o boen. Ond heddyw, y mae gan filoedd ofn bwyta, oherwydd y boen sydd yn dilyn hyd yn oed bryd ysgaifn o ymborth da a phriodol. Hwyrach fod y cylla allan o drefn, yr afu braidd yn farwaidd, neu y coluddion yn rhwym. Dygwch hwynt yn ol i ystad iachus, drwy gymryd Mother Seigel's Syrup, ac yna giellwch fwyta heb unrhyw effeithiau poenus ar ol hynny. Fe dreulia eich ymborth yn dda. Ni wydd- och ei fod yn cael ei dreulio, ond hynny wedi'r cwbl sydd yn dangos fod y treuliad ar ei oreu-peidio gwybod am y peth- Y mae deg dyferyn ar hugain o Mother Seigel's Syrup ar ol pryd wedi cynorthwyo degau o filoedd i fwynhau ymborth, heb deimlo poenau arteithiol diffyg treuliad.
UNDEB DIRWESTOL GOGLEDD ABERTEIFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB DIRWESTOL GOGLEDD ABERTEIFI. Cynhaliwyd cyfiarfod o'r undeb uchod dydd Mercher, Tach. iaf, yn Horeb, M.C., New Cross, ger Aberystwyth. Bwriedir i'r undeb hwn fod yn undeb holl eglwysi Ymneilltuol gogliedd y sir. Rhaid cyf- addef nad yw'r undeb mor llewyrehus ag y dylai fod: eto diameu y gwna ddaioni yn y cylch y cyn- helir y cyfarfodydd o dro i dro, a phasir yn yr undeb weithiau benderfyniadau amserol a ddyliai, ac y sydd hefyd o ran hynny, yn carlo dylanwad. Eleni yn Horeb, ca:fwyd pregeth ddirwestol- gwir deilwng ac amserol, gan yr henafgwr galluog, y Parch. David Morgan, Penllwyn. Y mae i'w ganmol am ei ymdrech a'i lafur, a phasiwyd pleid- Jais o ddiolchgarwch iddo yng nghyfarfod yr hwyr. Cafwyd a;JTrcbiadau rhagorol gan Mrs. Evans, Bryn- paith, Aberystwyth, Mr. Jones, Postfeistr o'r dre, a'r Parch. J. L. Williams, B.Sc., gweinidog yr A-nnibyn- wyr o'r un lie. Yma, fel mewn mannau eraill, y cwestiwn llosgawl oedd, a ddylid oenedlaetholi'r fasnach. Nid oedd weledigaeth eglur, yn enwedig ar y dechreu; ond wedi i Mr. Williams siarad, caf- odd y mwyaf mawr eu hargyhoeddi mai peth perygl- us fyddai hynny, a phasiwyd ar y diwedd benderfyn- iad yn eribyn cenedlaetholi'r fasnach feddwol, ac i ddanfon y penderfyniad i Vaughan Davies, Ysw., A.S., er mwyn iddo wybod deisyfiad yr Undeb Dir- westol yn y rhan yma olr* Sir a gynrychiola. Gofidus oedd clywed rfod pobl y wlad ar ddydd Llun, sef dydd y farchnad, yn llawer o help i gadw'r fasnach weel yn fyw yn Aberystwyth. Gobeithio fad yr hyn a ddywedwyd braidd yn eithafol; ond digon tebyg fod llawer, a gormod o wir ynddo, a dylai pobl y wlad fod ar eu gwyliadwriaeth, ac ym- ryddhau oddiwrth yr arlferiad ffol ac anfoesol. Bendith ar bob ymdrech i hyrwyddo Dirwest. Dwrn i fedd-dod; llaw i Ddirwest.
RHONDDA FACH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHONDDA FACH. Cynhaliodd eglwys Ebenezer, Mardy, yr Organ Recital" blynyddol ar y 25ain o Hydref. Y cantor- ion eleni oedd Madame James Ellis, Mr. Lewis James, a Mr. Torr, Abertawe, yn organydd. Cadeir- iwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch. W. E. Williams, B.A., gweinidog Bethania. Cafwyd gwledd gerdd- orol yno, a chynulleidfa"fawr i'w mwynhau. Haedda yr Ebenezeriaid glod nid bychan am eu hymdrech gyda'r achos yn wyneb llawer o anhawsterau. Dis- gwylir swm sylweddol tuag at leihau y ddyled'. Haedda eglwys Carmel, Blaenllechau, ei llon- gyfarch ar ei hanturiaeth yn sicrhau gwasanaeth y Gwir Anrhydeddus Will Crooks, A.S., i roddi Hanes ei ymweliad a'r Milwyr yn Ffrainc." Er mai Ionawr 4ydd, 1917, yw dyddiad ei ymweliad a Ferndale, y mae eisoes ugeiniau wedi gwneud cais am docynau. Y mae Cyfarfod Dosbarth1 Rhondda Fach wedi gwneud symudiad i'r iawn gyfeiriad wrth ethol Mr. Henry Owen, un o flaenoriaid Seion, Pontygwaith, i fod yn ganolwr y cyhoeddiadau Sabothol o fewn y Dosbarth. Yn y dyfodol, pan ddaw cyho-eddiad, yn wag mewn eglwys, gweinidogion y Dosbarth sydd i gael y cynnyg cyntaf arno. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu undebol Ynyshir a Wattstown ym Mioriah, Ynyshir, dydd Llun, Hydref 30. Dr. David Evans, Caerdydd, oedd yn arwain, a chafwyd Cymanfa a hir gofir. Gobeithio y bydd hon yn foddion i ddwyn oddiamgylch fwy o gyd- weithrediad rhwng y gwahanol eglwysi. Cydymdeimlir yn ddwys a Mr. Richard Jones, Graig Road, Ynyshir, yn wyneb y newydd blin a gafodd fod ei fab, Mr. (David John Jones, wedi syrthio ar faes y gad. Bachgen tawel a dirodres ydoedd, a gair da iddo gan bawib.
RHYL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHYL. Warren Road.—Dydd Saboth, yr wythnos ddiwedd- af, cawsom ddwy bregeth rymus ac amserol gan y gweinidog, y Parch. John Roberts. Y mae yn dda gennym ddwyn tystiolaeth i boblogrwydd Mr. Roberts ar ol gwasanaethu o hono fel bugail am 4 mlynedd ar ddeg ar yr eglwys uchod. Y mae mor gymeradwy a hoffus gan ei ddeadell heddyw a'r diwrnod cyntaf y sefydlwyd ef, a phrofir hyn am na fedr neb sydd yn dyfod atom dynnu mwy o wranda- wyr nag ef; a'r rheswm mawr am hyn i raddau hel- aeth iawn ydyw y ffaith ei fod o ddifrif: ei fod yn pregethu yr efengyl yn bur a syml, ac yn cynhyrchu teimlad dwfn yn meddyliau ei wrandawyr am eu mater mawr tragywyddol. Nid oes arno ofn gwaith. Dyma restr y cyfarfodydd gynhelir tymor y gaeaf, fel y canlyn :-Nos Lun, Cyfarfod Gweddi; ac ar ol, y Gymdeithas Lenyddol. Nos Fawrth, Gobeithlu. Nos Fercher, Seiat y Plant, y Seiat Gyffredinol, wedi hynny Cyfarfod y Bobl Ieuainc. Nos lau, Dosbarth i baratoi rhai ar gyfer cael eu gwneud yn gyflawn aelodau. Nos We-ner, Cyfarfod Darllen i rai mewn oed. Dyma waith bugail mewn gwirionedd, ac nid rh'yfedd fod y gynulleidfa yn cyrchu i wrando arno, ac o lafur fel hyn nid oes ond cynhaeaf toreithiog i'w ddisgwyl. Dymunwn iddo lawer iawn o flynydd- au i weithio yng ngwinllan ei Arglwydd. Yr oedd yn llawen iawn gennym glywed Mr. T. H. Roberts (Ysgrifennydd), yn dwyn tystiola,eth i barod- rwydd yr aelodau i gyfrannu yn haelfrydig at y cyfarfod pregethu blynyddol gynhaliwyd yma mis Medi diweddaf, heto ofyn nac angen i gymell neb. yr hyn sydd yn profi ei bod o dan ddylanwad gwir gariad at yr Hwn a'u pryifcdd. Oblegid ffydd heb weithredoedd, marw yw.' Hyderwn y bydd y brawd annwyl, MI. John Jones, blaenor, yn alluog i ddyfo'd i rodfeydd y cysegr cyn bo hir, yr ydym yn teimlo ei golli. Caffed adferiad buan. Credaf nad difudd fydd rhyw gofnodiad byr fel hyn o weithrediadau eglwys Warren Road, ac efallai y bydd yn symbyliad i'r rhai hynny o'n gweinidogion nad ydynt i fyny yn hollol a'r safon. <