Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. Germani a Pholand. Y dydd o'r blaen cyhoeddodd Germani bfo- clamasiwn mawr yn Warsaw yn addaw annibyn- iaeth i Boland. Diameu fod y Kaiser a'i gyng- horwyr yn amcanu rhoi argraff ar y byd fod y weithred hon yn haeddu ei hystyried yn un fawr- frydig a theilwng o bob derbyniad gan y Pwyl- iaid eu hunain, ac o bob edmygedd .gan y byd oddiallan. Ond ni raid ond sylwi ar ddatgan- iadau'r wasg yn Germani ei hun i weld pa mor bell yw'r weithred o argyhoeddi neb o ddidwyll- edd y cwrs. Gweithred ardderchog fuasai rhyddhau Poland, pe y gwnaethid hynny yn briodol a chyflawn. Gwarth Rwsia, Awstria, a Phrwsia yw iddynt ddwyn ei hannibyniaeth oddi- arni a'i gwasgu a'i gorthrymu'n ddidrugaredd. Yn gynnar ar y rhyfel, gwnaeth Rwsia addewid yr adferai annibyniaeth Poland; ond hyd yma ni wnaeth ddim ond addaw. Diameu JIlai y rheswm roddai Rwsia am hynny, pe y gofynnid iddi am dano, fyddai, fod yn amhosibl cymryd y cam ymarferol yn y mater hyd nes yr el y rhyfel heibio, am fod Germani wedi llwyddo i oresgyn y wlad. Ar yr un pryd, rhaid dweyd y gallesid disgwyLrhywbeth pellach nag addewid noeth, yn cael ei gwneud dan bwysau peryglon y rhyfel. Ond rhydd y diffyg hwn ar du Rwsia gyfle braf i Germani honni ewyllys da i'r Pwyl- iaid. Ni raid, fodd bynnag, edrych fawr is na'r web i weld geudeb a ffug y proclamasiwn mawrfrydig hwn. Yn y lie cyntaf, gellir gofyn i ba ran o Boland yr addewir annibyniaeth. A wneir hynny i'r rhan y mae Prwsia wedi ei meddiannu a'i gorthrymu yn fwy na'r un rhan arall ? Dim perygl o gwbl. Yr hyn addewir yw rhyw fath o .anftibyniaeth i'r rhannau fedd- ianwyd gan Rwsia ac Awstria. Ac wrth gwrs, nid yw ond annibyniaeth mewn enw. Dywed y proclamasiwn am dano ei fod yn golygu fod y Boland y proffesir ei rhyddhau i fod mewn cys- ylltiad agos, yn wleidyddol a milwrol, a'r Gallu- oedd Canol; fod y brenin newydd i fod yn un o dywysogion Germani, i'w benodi gan ymerawd- wyr y Galluoedd hynny. Os yr amheua rhywun wir amcan y cam hwn, darllened y papurau, er- manaidd. Yr amcan blaenaf a phennaf yw cael esgus dros orfodi'r Pwyliaid yn y rhannau sydd wedi eu goresgyn i ymladd yn y fyddin Germanaidd. Dengys hyn mor amlwg a'r haul fod. adnoddau Germani mewn milwyr yn prin- hau, a'i bod yn benderfynol o ddefnyddio pob ystryw i geisio cadw ei nerth ar y maes i fyny, hyd yn oed trwy orfodi'r Pwyliaid i gymryd eu lie yn ei rhengau i ymladd yn erbyn Rwsia. Ni raid dweyd nad yw Germani'n credu mewn rhyddid ac annibyniaeth unrhyw genedl.

Gorfodi'r Belgiaid. !

Etholiad yr Uno I Daleithiau.

«• Beth yw'r Esboniad.

Y Brwydro yn Rwmama.

Y Gorllewin.

I, Suddiad yr Arabia.