Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

'.>---<""_""""--,,"-'.w----",,,,,-,,----'""_-..-,--.--.....…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

'.> <w-- DYLED Y GENHADAETH. Y mae'n hysbys. i'r holl Gyfundeb bellach fod diffyg yn.g nghyllid y Genhadaeth o dros £6,000. Bu raid eleni oherwydd hyn gwtogi y treuliau yn ol £lOa y mis. Gofid blin oedd gorfod gwneud hyn i'r Cyfeist,eddfod, a si omedigaeth chwerw i'r Cenhad- on. Ataliwyd hwy rhag agor ysgolion nejwyddion, a gorfodwyd hwy i igau amryw o ysgolion oedd eis- oes wedi eu hagor. Gwyr pawb sydd yn gyfarwydd a hanes y 'Genhadaeth mai lhvyddiant y gwaith sydd wedi ein harwain i ddyled. Er y flwyddyn 1911, fel y dangoisdd yn yr Adroddiad Blynyddol,.yr oedd ein treuliau bob blwyddyn yn, fwy na'n derbyniadau. Llwyddai y gwaith yn yr India yn gyflymach nag y cynhyddai haelioni yr eglwys gartref. Y mae pum mlynedd ar hugain wedi myned heibio er pan wnaed Casgliad y Jiwbili, ac y caed rhodd fawr gyntaf y diweddar Mr. Robert Davies. Y pryd hwnnw nid oedd nifer holl Gristionogian ein Maes Cenhadol ond oddeutu naw mil, tra y llynedd y rhifent dros ddwy fil a deugain. Gwyr ein darllenwyr fod y llwyddiiant hwn bron yn gwbl ymhlith lllwythau tlodion yn byw mewn pentrefi bychain, ac oblegid hynny nis gellir osgoi cynnydd blynyddol yn y treul- iau. Rhydd Duw i ni gyfleusterau newyddion o flwyddyn i flwyddyn i helaejhu terfynau Ei deyrnas, a'n braint ninnau fel Cyfundeb yW eu defnyddio. Gofyna rhywrai a aUwn ni fforddio gwneud hynny? Týbed na chytuna pawb ohonom nad yw deg cein- iog a dimai yn y flwyddyn ar gyfer pob aelod, llai na ffyrling yn yr wythnos, yn gyfraniad teilwng at y gwaith pennaf sydd wedi ei ymddiried gan Dduw i'w eglwys. P,e gellid codi y cyfraniad hwn i ddimai yn yr wythnos ar gyfer pob aelod, gellid cyfarfod holl alwadau presennol y gwaith yn ddibryder. Gofynai Carey i eglwysi Prydain dros chwech ugain mlynedd yn ol am geiniog yn yr wythnos at efengyl- eiddiad y byd paganaidd ond nid yw casgliad blyn- yddol eglw-ysii y Methodistiaid Calfinaidd, ar ol cym- aint o amser, yn cyrraedd ffyrling yn yr wythnos. Gwelir gan hynny nad yw y gwaith cenhadol trajnor yn doll drom ar ein hadnoddau. Y gwir yw, nifer bychan o frodyr a chwiorydd sydd yn cyfrannu yn deilwng ato. Gwylia llawer o'r rhai hyn bob symudiad o eiddo y Genhadaeth; darllen- ant y Cronicl Cenhadol-" yn y 'Drysorfa' a'r Ad- roddiad Biynyddol yn. fanwl, ac os cyfeirir yn y naill, neu'r Hall at rhyw angen arbennig, anfonant eu rhoddion atTsi gyfarfod heb eu igofyn. Pan welodd rhai o'r cyfeillion hyn ein bod mewn dyled, cyn i hynny gael ei grybwyll yn y Gymanfa Gyffredinol, anfonasant eu rhoddion yn ddioed. Dyma y rhes,tr Cyfaill o Ddwyrain Meirionydd > o 7 6 T. M. T. 500 Dr. Williams, Drim 10 10 o — Chwaer o Sir Caernarfon i o o Chwaer o Benllyn i o o Un yn cymryd dyddordeb yn y Genhad- aeth 6 10 o Mrs. M. Jaanes, Machynlleth i o o Anonymous 5 o o Moriah, Llanstephan 3 7 6 Mrs. -Davies, Llanerchymedd 5 o o Cyfaill I. i o o Mrs. Jones, 225, Upper Parliament St., Liverpool 10 o o Laurah 150 Yn y Gymanfa Gyffredinol a gynhaliwyd yng Ngholwyni Bay, penderfynwyd apelio at holl Eglwysi y Cyfundeb i wneud casigliad arbennig i symud y ddyled. Trefnodd y Cyfeisteddfod Gweithiol yn fuan wed'yn i nifer a'i aeliodau ymweled a'r Cyfarfodydd Misol a'r Henaduriaethau i osod yr .angen ger eu bron. Gwneir yr ymweliad hwn yn ystod y misoedd hyn.. Da gennyf ddweyd fod yr ap'el yn dra llwydd- iannus,. Yn Lerpwl ffurfiwyd Pwyllgor Arbennig i ofalu am hyn. Trefnodd y Pwyllgor hwnnw i wneud y casgl- iad neilltuol ym mis Hydref. 'Gofynwyd i'r holl weinidogion oedd yn gwasanaethu yn y cyleh ar yr ail Saboth o iHydref un ai traddodi pregeth genhad- 01 neu roddi anerchiad cenhadol, a threfnwyd brawd o flaenor i fyned o'r naill eglwys i'r llall i siarad ymhellach yn y Cyfarfod Eglwysig yr un Saboth. Anogwyd' yr eglwysi i roddi sylw i'r mater yn y Cyfarfod Eglwysig dilynol, a phenodi brocfyr neu chwiorydd i ymweled a phersonau unigol i ofyn am addewidibn, a gwneud casgliad cyhoeddus yn ystod y mis. Y mae y rhan fwyaf o'r eglwysi wedi oyd- ymffurfio a'r awgrymiadau hyn, ac yr ydym eisoes wedi derbyn y rhoddion, a ganlyn :— Eglwys Anfield Road- Mr. William Yenmore ^100 Mr. a Mrs. James Venmore £ 10° Mr. John Edwards 100 Mrs. John Williams, Fernhill E50 Mr. Robert Roberts ^25 5 Mr. a Mrs. Richard Williams ^10 Eglwys David Street— Teulu y diweddar Mr. John Morris, 18, Parkfield Road 250 o o Mrs. Jones, Tyrol 50 o o Mr. John Thomas, Waverley Road 10 10 o > Heb f any lion hyd yma 41 10 o Chatham Street— Misses, Williams, Grove Street 20 o o Eglwys Catherine Street— Mr. 'T. tH. Lljoyd, 40, Kelvin Grove, in memory of Mrs. A. and 'Miss J. E. Ll,oyd 25 0 0 Yr eiddoch, &c., t R. J. WILLIAMS.

"'._.n-,......_,_'"__-_..,-.....-,.,.,,p"-""""""-'>''''''''-'''-h..-.-"-'"-'"...--."-BOOKS…

Advertising