Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
SEEDS Secured from a reliable source are bound to give Satisfaction. Send for my Garden Seeds Catalogue, free. Kay's Nurseries, Fairbourne, S.O. ■ *1 ARGRAFFU Adroddiadau Eglwysig, Ystadealu, Tafleni Cymanfaoedd, &c., &c. Yn brydlon a destlfts, ac am y prisiau mwval rhesymol Anfoner archebion ar unwaith i- Swyddfa'r gGymro Dolgellau. ■ Use K EENORA. SELF-RAISING FLOUR IT MAKES PERFECT PASTRY, SCONES, &c, &c. SOLE WHOLESALE AGENTS— MORRIS & JONES, Ltd., LiAerpool & Manchester. I SASIWN LLANIDLOES, MEHEFIN 1916. Y Gwasanaeth Ordeinio GYDA DARLUNIAU. v I'w gael oddiwrth y PARCH. R. W. JONES, Aberangell, Mont. PRIS 3c. (Trwy y Post 4c.). Porfeydd Gwelltog. ADNODAU AR WAHANOL DESTYNAU At Wasanabth Plant y Seiat, Athrawon yr Ysgol Siabothol, Gweinidogion y Gair, A Saint Duw o bob Oed a Sefyllfa. Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. WILLIAM LEWIS, Pontypridd, Gyda RHAGAIR gan y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. Llyfr cymwys i fod yn rhodd i'r Milwr. TELERAU.—Danfonir un copi yn rhad gyda'r post sum 23. 6 copi ac uchod am is. 6c yr un a'r cludiad. Ychydig o gopiau ar law. Danfoeier at- Rev. W. LEWIS, THE GROVE, PONTYPRIDD.
CYMDEITHASFA CONNAH'S QUAY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMDEITHASFA CONNAH'S QUAY. BUASID yn meddw.1 mai digon o orchwyl i achos lied newydd a chydmarol wan fel un Connah's Quay fuasai cynnal Cyfarfod Misol yn ei dro, ac anturiaeth eofn oedd derbyn y Gymdeithasfa, hyd yn oed, un y gaeaf. Ond yr oedd gan gyfeillion siriol y lie galon i weithio, a rhodd'asant iddi groesaw teilwng ymhob modd. Cawsant wrth gwrs, gymorth parod gan aelodau eglwysi eraill yn y cylch. Canmolid y lletygarwch ddangoswyd at aelod- au y Gymdeithasfa. Cafodd pawb luniaeth rhagorol, a chyflawnder o hono. Gallasai lleoedd gyfrifir yn bwysicach d'dilyn esiampl Connah's Quay yn y modd tawel,—heb un- rhyw fuss,' mewn rhannu tocynau na dhyfrif pennau,—y trefnwyd pethau gyda'r byrddau. Y Parch. J. C. Roberts oedd yn cyflwyno Hanes yr Achos yng nghylch Cyfarfod Misol Fflint, a chaed ef yn gryno yn ol arfer y blyn- yddoedd diweddaf hyn yn y ffurf o bamfflet. Maes anhawdd i weithio ynddoi yn llwyddian- nus yw hwn yn awr fel yn y dyddiau gynt. Ceir yma luaws cymysg-Cymry a Saeson— crefyddwyr a, phaganiaid. Bu y Methodist- iaid Calfinaidd hefyd o dan anfantais ddirfawr yn yr ardaloedd hyn trwy i'r Fugeiliaeth Eg- lwysig gael ei hesgeuluso am amser maith. Yr oed'd yma wyr cefnog yn pregethu ac wrth law i weinyddu yr ordinhadau, a'r teithiau yn cael eu gwasanaeth am dal bychan, gan eu bod. eisoes yn cael cyflogau yn y gweithfeydd neu enillion sylweddol O"'u masnach. Y mae gweinidogaeth rad ac adfeiliad yr eglwysi yn ffeithiau a berthynant yn. agos i'w gilydd. Mae yn awr nifer o fugeiliaid1 ieuainc llafurus yn y cylch, a rhai eraill mwy, profia,dol. Eto mae'r cyfleustra wedi ei golri am byth i Feth- odistiaeth fod y prif allu yn y rhan hon o'r tir. Ychwanegir at gyfrifoldeb yr eglwysi man hyn yn1 awr trwy fod nifer mor fawr o ddyfod- iaid a dieithriaid yn yr ardaloedd yn gweithio i'r Llywodraeth; mewn 'munition works,' &c. Gwneir ymdrech i gyfarfod a'u hanghenion ysbrydol, ond nid doeth fyddai prysuro i adell- adu trhagor o addoldai gan fod yn bosibl y byddant yn' fuan yn dychwelyd i'w cartrefi: i lanw 'y byldhau a wnaed mewn llaweroedd o eglwysi trwy eu hymadawiad. Hyfryd yw deall fod caredigion sobrwydd yn y Sir hon yn d'ra byw i'w cyfrifoldeb, a hysbysir hefyd fod y Cyngor Sirol yn Flflint yn un o'r 'rhai goreu yn y Dywysogaeth yn ei ymdrech i 9 sobri'r wlad. I'r Cyfarfod Misol hwn' y perthynai y Parch. J. M. Humphreys, Hanley,—un o'r gweinidogio,n y gwnaed ooffad am danynt yn y Gymdeithasfa hon. Gwr cryf o feddwl, gostyngedig o ysbryd, a grymus ei weinidog"- aeth oedd efe; a chaiff glod, yn lied helaeth gan y Cyfundeb wedi ei farw. Bu y Parch. R. Williams, Tanyfron, yntau yn wasanaeth- gar iawn am iflynyddau lawer i eglwysi yr ardal honno. Dywedir iddo wneud y goreu o'r d'dau fyd. Gwr mawr yn Israel oeddi y Parch. T. J. Wlheldbn, a rhoed yn briodol arbenigrwydd ar ei goffadwriaeth ef. Cyfrifid, ef yn un o statesmen goreu y Corff o Feth- „ odistiaid. Yswyd ef yn ddiau yn anterth ei nerth gan ei sel danbaid dros weinidogaeth yr Efengyl yn nhy yr Arglwydd. Rhodd'odd ei hyawdledd uwchraddol i ddadleu achos y Fugeiliaeth yn ei heffeithiolrwydd a'i chynhal-' iaeth, a llafuriodd drosti yn gwhl d'diarbed, fel y darostyngwyd ei nerth ar y ffo,rdd-nerth ei gorff hardd a nerth ei feddwl bywiog. Pas- iwyd penderfyniad doeth a phriodol yn amlygu parch y Gymdeithasfa i'w goffadwriaeth oher- wydd ei waitih dirfawr o fewn ei therfynau. Ond canwaith mwy o gyfiawnder a. choffadwr. iaeth Mr. Wheldon fuasai trefnu gwell ym- geledd i'r eglwysi a mwy o degwch a'r bugeil- iaid sydd yn llafurio mor ddyfal heb ddrbyn nemawr. gwell na starving wage.' Cred y Gymdeithasfa ormod 0 lawer mewn papur. "Action, gentlemen, action!" Cenadwri pur bwysig oedd un Henadur- iaeth Lancashire o berthynas i gael addysg Feiblaidd fwy cyflawn a thrwyadl yn ysgolion dyddiol ein gwlad, a ohael mwy o ysbryd a bywyd crefydd yn awyrgylch yr holl y&gol- ion—yn enwedig y rhai sirol. Credwn fod graddau o gyfnewidiad meddwl -a theimlad wedi cymryd lie ar y pwynt hwn. Dadleuai llawer rai blynyddoedd yn ol dr-os addysg fydol (secular) yn unig yn yr ysgolion dyddiol gan adael addysg grefyddol i'r aelwydydd ac i'r eglwysi fel eu gwaith priod eu hunain. Ffaith bwysig i'w chofio er hynny yw fod can- noedd o filoedd o blant ein gwlad1—yn arben- nig mewn siroedd fel Fflint a Morgannwg;— na ddysgir egwyddorion crefydd na gwir- ioneddau Beiblaidd iddynt o gwbl oddieithr i'r gyfryw addysg gael ei chyfrannu iddynt yn yr ysgolion dyddiol. Yr oedd llawer o gydymdeimlad ag amcan y neges amserol hon o'r Henaduriaeth. Yng Nghymdeithasfa'r Gaeaf y dewisir brawd i draddodi'r Araith, ac un arall i roi y Cyngor yn Ordfeiniad y flwyddyn ddilynol. Dewisir tri gan Gyfarfod y Blaenoriaid i'r Gymdeithasfaethol un allan o honynt. Mae yn amheus iawn gennym a yw y dull hwn yn un doeth a theg. Credaf fod nifer fach iawn o flaenoriaid yn cael eu ffordd eu hunain yn hollol gyda'r pethau hyn, ac mewn cysylltiad- au pwysig eraill o ran hynny. Tecach fuasai gadael y dewisiad i reddf a doethineb y Gym- deitihasfa. Ond nid oes amheuaeth am deil- yngfdod y rhai etholedig y tro, hwn,—y Parch. Puleston Jones, M.A., i areithio1, a'r Parch. J. Williams, Caergybi, i roi'r Cyngor. Ym Mehefin y bydd yr Ordeiniad fel arfer; ond naturiol yw ceisio d'yfalu a fydd amgylchiad- au yr Ordeiniad fel yn y blynyddoedd gynd A welircynifer o hyn allan yn cael eu neill- tU0'1 Ai am dymor y bydd prinde'r? Cymer newidiadau a chwildroadau le y blynyddau hyn. Teimlid' fod yr ymwybyddiaeth o hyn yn meddwl y rhai drefnodd fater Cyfarfod y Pregethwyr, Nodwedd a rhif ein cyfarfod- ydd wythnosol," a gallesid ychwanegu y rhai Sabo-thol. Dywedodd y gweinidog oedd yn agor y mater ffeithiau a syniadau teilwng o ystyriaeth ar y pwnc. Ond ni chaed ac ni wnaed dim arall. Gallasai y cyfleustra hwn droi allan yn fwy buddiol. Bu agos i'r Gymdeithasfa ethol gwr lied ieuanc y tro hwn i fod yn Llywydd. Casting vote y Cad'eirydd aeth a'r anrhydedd oddi- wrtho i weinidolg sydd bellach yn hynafgwr, ac un ddylasai fod wedi ei anrhydeddu fel hyn 4 10 neu 15 mlynedd yn Kynarach--gwell fuasai hynny iddo ef a'r Gymdeithasfa. Ond nid' oes weinidog teilyngach o'r swydd' yng Ngogledd Cymru na'r Parch. Gwynedd Roberts, nac oes un, ac y mae ei wybodaeth o'r ba,rnedigaethau yn berffaith. Ni welais