Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ATGOF AM MR. DANIEL DAVIES,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATGOF AM MR. DANIEL DAVIES, TON. GAN Y PARCH. MORGAN EVANS, TREGARON. II. YR wyf yn awr wedi cael gweledigaeth fwy clir ar waith Mr. Daviee yn cadw ysgol. Yn Tre- garon yn unig y byddai yn gwneud; ac yn nhym- or y gaeaf yn unig y byddai yn ei chadw. Bydd- ai yn codi y tal o ddwy geiniog y pen, i rot yr wythnos am ei wasanaeth,—pob un yn ol ei allu Enwir rhyw dri neu bedwar o wahanol dai lie y bu yr ysgol hon yn cael ei chynnal ar wahanol adegau. Pan na byddai Mr. Davies yn cadw yr ysgol hon, byddai ei law yng ngafael a rhyw waith, ond yn amlach ei ben yn astud ddi-ysgog mewn rhyw lyfr hoff ganddo: Ai yn ami i un o dafarnau y dref, ond hid, cofier, i ymofyn dyfiryn o'i diod; ond diod felusach iddo ef oedd darllen y llyfrau oedd yno; 'doedd dim amser at chwareu, fel y dywedwyd. Adroddir am dano un tro, os nid ychwaneg yn dringo y mynyddoedd o Dregaron i'r Dalar; deng milltir neu chwaneg o ffordd, ac yn aros yno am byth- efnos lawn, i ddarllen yn ddi-dor, am na chai un llyfr allan oddiyno. Yn yr argyfwng presennol, cawn ei bod yn waith caled i gadw y cwch teuluaidd ymha un y teithiai Mr. Davies, ac y gwnelai ei ran, goreu y medrai, yn ddiameu, i nofio y wyneb; gellir dweyd fod y gwyntoedd yn wrthwynebus, fel gyda'r disgyblion gynt; ond da, ac iachus iawn oedd i'r teulu hwn yn awr, fel llawer o deulu- oedd eraill ar ol hynny, gael eu gyrru megis i ddannedd yr ystorm, a"u dwyn er hynny, er berw y moroedd, a rhuad y corwyntoedd, a thywyllwch a gwasgfa yr amgylchiadau, i deimlo fod yr Hwn sydd yn Feistr arnynt oil i'w gael yn yr un cwch a hwy; ac na bydd eisieu ond un gair o'i enau i beri tawelwch mawr. Mae yr ystorm, bob amser, yn dwyn dan ei haden ynni a diysgogrwydd i blentyn Duw. Felly gyda Mr. Davies. Pwy fedr ddeall gwerth hwn? Mae y mor, bob amser, a'i ystormydd yn creu llu o wroniaid! Yr ydym yn dyfod unwaith eto i gyffwrdd a'r elfen dra rhagorol hon yng nghar- acter Mr: Davies, sef ei ynni a'i ddiysgogrwydd. Nid wyf yn meddwl fod un cymeriad o lawer eto wedi cyrraedd ei berffeithiad oni bydd yr elfen hon, o leiaf, i fesur mwy neu lai yn amlwg yn- ddo. Hebddi, mewn dull o ddweyd, bydd heb asgwrn cefn, nen fel eiliog y gwynt, yn troi gyda phob awel. Mae dau fath o ddiysgog- rwydd un o werth amhrisiadwy, ac i'w gael yn unig gan rai wedi dyfod i lawn adnabyddiaeth „ o'i wir werth, ac yn foddlon i dalu y pris gofyn- ol am dano. Y llall, mae yn well bod heb- ddo er ei gael am ddim! Sef yw hynny—cyn- dynrwydd. Nid oes raid i mi ddweyd wrthych pa un o'r ddau hyn a danbeidiai allan o ysbryd a character Mr. Davies. t;allai ambell un weithiau, efallai, oherwydd bod heb ei adnabod yn iawn, ei gymryd am wr cyndyn;, ond y gwir yw, yr oedd ei holl gyndynrwydd ef yn deyrn- garwch pur i wirionedd, nes dyfod yn argy- hoeddedig ohono; tra y bydd yr eiddo eraill yn nod ar Hunan, ac yn ddim ond mympwy. (2) Nod arall amlwg iawn ar Mr. Davies oedd ei fod yn wr manwl, a thra gofalus am bob peth mawr a bach. Yr oedd felly, fel y mae yn wybyddus i'r rhai oil a'i hadwaenent oreu yn y cylchoedd mwyaf cysegredig gan ei galon, sef yng nghylchoedd crefydd. Mynnai i'r oil gael ei wneud yma yn y modd puraf a pherffeithiaf; nid oedd dim yn fwy dirmygus ganddo nag annhrefn ac annibendod. Felly hefyd, fel y mae yn wybyddus yr oedd ynglyn a phob dim a berthynai i"w swydd bwysig—gwr tra manwl, fel y dywedir am Daniel gynt yn Babilon. (3) Ond yn nesaf, sylwn yn fyr ar y dyddor- deb neilltuol a deimlai mewn chwilio i waelod- ion pethau a phersonati. Diau fod Mr. Davies yn un o'r Hynafiaethwyr pennaf oedd yn fyw yn ein mysg ni fel cenedl y Cymry. Dim ond ei sel, a'i ymroddiad dibaid ynglyn a hyn, a allai ei gario a'i godi i dir o gymaint perffeithrwydd yn yr achos cymhlethedig hwn. Yr oedd yn dra medrus mewn olrhain achau llu mawr o deulu- oedd yn 61 am oesoedd, ac i fyny i'r cyfliau o ba rai yr oeddynt wedi tarddu; gwaith hylaw hefyd iddo oedd darllen nodweddion a neilltu- olrwydd y gwahanol gyfnodau; a nodi allan y prif ysgogyddion ynddynt. Yr oedd yn cario ymlaen y study hon, cofier, tra yn cadw ymlaen gyda'i orchwylion beunyddiol yr un pryd. (4) Ond mwy na'r cwbl a ddywedwyd, neu yn wir, a ellir ddweyd y tuallan i hyn, yw hyn, sef fod Mr. Davies yn Gristion cywir a phur. Yr oedd felly mewn ffydd, a'r un modd mewn ym- ddygiad. Trwy ei ddyfal ddarlleniad a'i fyfyr- aodau cyson ar- wahanol erthyglau y ffydd, yr oedd Mr. Davies wedi dyfod yn alluog i draethu ar bob un ohonynt yn y modd mwyaf dysgedig a goleuedig. Gwyddai yn dda am y gwahanol syniadau a'r dadleuon a gododd o oes i oes yn yr eglwys o berthynas i un neu arall ohonynt; a phwy a garai fyn'd i ddadl ag ef ar unrhyw bwynt? Eto, er y cwbl, mynai i ddynion wel'd ei ffydd a'i wybodaeth o grefydd, nid trwy broff- es a geiriau yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd, mewn daioni-mewn gwneud daioni i'w gyd-ddynion. (5) Eto, perthynai i wrthrych ein hanes ber- sonoliaeth gref; ie, un o'r rhai cryfaf oil. Dygid chwi i deimlo pan yn ei gymdeithas, ac yn ym- ddiddan mewn modd serchus a brawdol ag ef, tra mae ei symledd nodedig, a'r modd di-rodres y caria ymlaen ei ymddiddan a chwi, yn peri i chwi deimlo yn agos; eto ni ellwch, efallai, os- goi yr ymdeimlad fod rhyw ddirgelwch yn eich cyffwrdd trwy y cyfan; a'r dirgelwch hwn yn eich cario i gyfeiriad byd yr angel. Mae y mwyafrif o ddynion heb ddim ond cnawd a byd o'u cwmpas, tra y mae eraill fel dor yn ymagor i'r*Tragwyddol!

CYMDEITHASFA CONNAH'S QUAY.