Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MEIRION A'R GLANNAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MEIRION A'R GLANNAU. Hysbysir fod (Mir. Louis Jones, cyfreithiwr Llan- fyllin, mab Dr. Jones, a Mrs. Jones, .Harlech, wedi ei ddyweddio i Miss Elizabeth J. Uoyd, M.A., athrawes Gvmraeg yng Ngholeg Bangor, unig ferch y diweddar Mr. John Lloyd, Aberystwyth, a Mrs. iLloyd, Rofft, Llanilar. Mae iDr. Orthin Jones, Capten yn yr R.A.M.C., mab Dr. Jones, (Harlech, yn wael ac wedi dyfod yn ol o'r Aifft. Dymunwn iddo. adferiad buan. Dadleua Mrs. Cassion dros roi clocsiau i bllan1 tlod- ion y Penrhyn, gan ddweyd eu bod yn Hawer gwell nag esgidiau lledr. Diau fod hynny'n. wir. Ond tra y byddo pawb ond y Hodion yn gwisgo esgidiau, anhawdd tynnu'r gwarth sydd ynglyn a chlocsiau mewn rhai ardaloedd. Diau pe byddai i'r gwarch- eidwaid eu gwisgo y deuai pethau yn well. Nos Lun y cynhaliwyd Cyfarfod BJynyddol y Feibl Gymdeithas yn Ysigoldy yr Eglwys-, Abermaw. Y cadeirydd oedd y IParch. E. J. Parry (W.). Dech- reuwyd gan y lparch. Edwin Jones. Cynrychiolid y Feibl iGymdeithas gan y goruchwyliwr, y Parch. A. Welliesley Jones, B.A., B.D. Caed anerchiad rhagorol ganddo. Yna rhoddodd yr Ysgrifennydd Lleol (Mr. Rhys Jones, Glanymor), adroddiad o'r cyfrifon pa rai oedd wedi eu harchwilio gan Mr. Joseph Thomas, Council School. Pasiwyd i anion cofion at Mr. Wynne Williams, y try&orydd lleol, yn ei waeledd. Siaradwyd ymhexlach gan y Parchn, E. V. Humphreys, R. Ward, B.A., a Peter H. Lewis. Terfynwyd gan y Parch. D. Phillips (A.). Y mae Gymdeithas Lenyddol Undebol wedi cael ei chychwyn y tymor hwn yn yr Abermaw, a hyd y gallwn gael allan am y tro cyntaf. Y Llywydd yw Mr. John Lloyd, M.A.; Is-Lywydd, Mr. J. R. Thomas, Goruchwyliwr y 'Prudential.' Mr. R. W. Williams, Central Stores, yn Drysorydd; a Mr. Griffith, Glantraeth, yn Ysgrifennydd. Y mae pwyll- gor o ddau o bob capel wedi ei ffurfio yn bwyllgor gweithiol. Cychwy-n-a y gymdeithas {yn jaddawol. Yn un o'r cyfarfodydd cyntaf oeir anerchiad gan y Parch. Zechariah Mather ar hen gymeriadau yr Abermaw. Yr oedd y Sul diweddaf yn Sul newid pulpudau yn yr Abermaw. Ni chlywyd erioed gymaint o ganmol ar y weinidogaeth trwy y cylch. Yn Siloam nos Sul gwnaed sylw gan y Parch. E. J. Parry o'r pris uchel godir am fwyd. Ysgrifennodd hefyd lythyr i'r un perwyl i'r papur lleol. 'Cyfarfu gweinidogion yr Abermaw y tro diwedd- af yn nhy y Parch. E. J. Parry, a diolchwyd yn wresog i Mr. a IMrs. Parry, am eu croesawu. Odan arweiniad medrus y Parch. E. Afonwy Williams, llwyddwyd i fyned drwy y chweched bennod o "Until the day dwn." Yn -absenoldeb y trysorydd newydd, cyflwynwyd yr arian oedd mewn Haw gan yr hen drysorydd i ofal yr ysgrifennydd. Yn y Pwyllgor lleol diweddaf ynglyn a Dirwest yn yr Abermaw, dewiswyd Mr. Rhys jones, GJany- mor, yn llywvdd, Mr. Griffith Roberts yn drysorydd, a Mr..Richard Davies., Llanaber, yn ysgrifennydd. Claddwyd Miss Roberts, chwaer hynaf Mr. Cad- waladr Roberts, Y.H., Ynysfaig, yn y Dyffryn dydd Mawrth. Bu yr/byw yn yr America am dros. ddeu- gain mlynedd. • Yn nhy ei nith, un o ferched Mr. John Wynne, Arthog, yr oedd yn cartrefu yn y d.i- wedd, ac yno y bu farw. Cydymdeimlir yn ddwys -a'i hunig frawd a'i chwiorydd, a'r perthynasau oIl yn eu gallar ar ei hol. Y mae cyfaill, na charai roi ei enw, wedi rhoi ..Cioo at gapel Caersalem, Abermaw, trwy law y 'Parch. J. 'Gwynoro Davies. ■Cynhaliwyd C.M. Gorllewin Meiriojiydd yn y Friog ddydd Llun a dydd Mawrth. Y Llywydd yw y Parch R. T. Owen, Aberllefeni. Daeth cynull- iad rhagorol ynghyd, a rhoed croesaw ardderchog iddynt gan gyf eil,lion y Friog. Da oedd gennym weled Mr. H. Ariander Hughes, y tnysorydd, yn bresen- nol. Hysbyswyd fod brawd ffyddlon wedi cyflwyno Thodd o ,Cioo i eglwys Llwyngwril, a'i briod £100 i edwys Caersalem, Abermaw. Diolchwyd yn gynnes riawn iddynt ill dau. Bu amryw bethau pwysig dan sylw, ond rhaid peidio rhagflaenori'r cofnod swydd- ogol. iCyrhaeddodd Mr. Rowland Williams, blaenor yn eglwys ¡Salem, Dolgellau, ei 96ain mlwydd oed ddydd Llun. Danfonwyd pellebyr o longyfarchiad a chof- ion iddo o C.M. y Friog. • .)lt (Hefyd anrhegwyd -ef a dwy owns o thick twist gan un o fawrion y dref, sef Mr. Edward Griffith, Y.iH., DolgeHau: <

LIVERPOOL.

BIRKENHEAD

Family Notices

NEUADD YR EGLWYSI RHYDDION…

YR OEDD MR. HUGHES YN EI LE!

Cysondeb y Ffydd.