Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

.--------------_-_,_-__-.-__-_--Cymdeithasfa…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithasfa Connah's Quay, TACHWEDD 7, 8, 9. (Parhad o'r rhifyn diweddaf), DYDD MERCHEB. AM 8.30 CYFARFOD Y BiLAE NOR I AID. Dechreuwyd gan Mr. John Evans, iLlansanan, Dewiswyd Mr. Goodman Edwards yn gadeirydd. Dewiswyd yn Ysigrifeniiydd am y tair blynedd nesaf Mr. Roberts, Foxhall. Enwi tri brawd i'w cyflwyno i'r Gymdeithas'fa i ddewist un ohonynt i roddi yr Araith ar Natur Eg- lwys. Enwyd y Parchn. J. PuLeston Jones, M.A., W. M. Jones, Llahsantffraid, D. iD. Williams, Ler- pwl. 1 Enwi tri brawd i'w- cyflwyno i'r Gymdeithasfa i ddewis un ohonynt i roddi y cyngor. Enwyd y Parchn. Wm. Thomas, Llanrwst, John- WiJlhams" Caergybi, John Owen, Lerpwl. Terfynwyd gan Mr. W. Hughes. Jones, Cemaes, Man. YR ACHOS DIRWESTOL. N Araith Mr. Glyn Davies. Yn y Cyfarfod Dirwesltol nos Fawrth dywedai y Parch. J. Glyn Davies, Rossdtt, fod yn dda ganddo fod mewn cyfarfod dirwestol ynglyn a'r Gymdeith- asrfa-Dirwest yn cael ei gysylltu a chrefydd. Iddo ef, cwestiwn crefyddol ydoedd dirwest. Yr oedd yn gwestiwn politicaidd, ond nid cwestiwn politicaidd ydoedd y mae yn gwestiwn cymdeithasol, ond nid cwestiwn cymdeithasol ydoedd, ond cwestiwn cref- yddJot Teimlai yn gryf yn y dyddiau hyn mai yr eglwys yn arbennig ddylai arwain gyda dirwest. Y mae eisieu'r senedd; fed,rent hwy ddim gwneud heb- ddi, a diolch am y dirwestwyr oedd yn y senedd. Yr oedd eisieu y fainc ynadol, a diolch am yr-yn- adon dirwestol, y dynion cyfrifol oedd ar y fainc yn- adol yn gofalu am fuddiannau sobrwydd. Yr oedd eisieu yr ysgolion dyddiol a gwaith y meddygon, ond, iddo ef, goleuni, a gwresl a grym eglwys Dduw oedd i fod y tu ol i'r oil, ac yn yr oil, ac ar ol yr all. Am hynny, y mae'n rhaid i'r eglwys ei hun ifod yn lam, ac nid yn unig yn lan, ond yn selog dros sobrwydd a phurdeb. 'Dydyw hi ddim; nid yw eg- lwys y Methodistiaid Calfinaidd heddyw, gyda'i holl ragorfreintiau, mor danbaid dros Ddirwest ag y dylai hi fod. Ni wyddai lawer am y Sasiwn; prin y byddai byth yn dyfod iddi, ond gwyddai dipyn am eglwysi Gogledd Cymru heddyw. Yr oedd yn dda .ganddo gael dweyd fod y pulpud yn nodedig o lan hyd y gwyddai ef nid oedd ganddynt ond un gweini- dog nad ydoedd yn ddirwestwr hyderai na cham- ddeallent ef pan y dywedai fod y pulpud yn sych— (chwerthin). Nid felly y bu bob amser. Gwelodd ef dro yn ol hen lyfr cyfrifon un o eglwysi Arfon, ac ynddo un 'item,' "Am gwrw i'r pregethwr, pum- swllt." Nid oedd peth felly yn bosibl heddyw; ac ychwaneg, fe ddaw amser y tybaco hefyd; mae'n siwr o ddod; ni wyddai paham na roddent 'cheer' i hynyna, ond, mewn difrif, onid ydyw yr amser wedi dod i droi y tybaco dros y drws hefyd gyda'r ddiod. Gwerid deugain miliwn o bunnau bob blwyddyn am dybaco, ac yr oedd rhai o fewn y muriau hynny yn cynorthwyo i wario y swm hwnn,w. Yr oedd ganddo ef eglwys o 101 o aelodau, a phob un o'r 101 yn ddirwestwr. Beth pe bai pob eglwys felily? Dyna rym aruthrol fyddai ganddynt i gyfarfod a'r fasnaeh feddwoi. Yr oedd ganddynt waith enfawr o'u bla,en; yr oedd arno ofn am yr hen wlad yma 'doedd-arno ddim gronyn o ofn Germany; ond pe caent Brydain FaWr yn Brydaim sobr, pur a glan, ni fyddai ganddo ofn unrhyw wlad ar y ddaear; ond yr oedd pethau yh ein gwlad yn bwyta rhannau bywydal ein gwlad. Er pan y dechreuodd y rhyfel yr oedd y wlad wedi gwario pedwar' can' miliwn o bunnau-papur pum- punt bob eiliad. Yr oedd dyn yn gweithio yn y maesi, a thybiai ei fod yn clywed swn yn yr- awyr, ac wedi edrjxh gwelai eryr a'i ehediad dipyn yn an- sicr, yn igam ogam deuai yn is., ac yn y diwedd syrthiodd yn fanv wrth draed y dyn. A great, power- ful, full grown eagle with a snake fastened to its vital's. 'Doedd dim eistieu iddo ef ddweyd yn y fan hontno fel yr oedd Prydain Fawr, yn rhagluniaeth Duw, wedi ei dyrchafu ymhlith cenhedloedd y ddae- ar; 0 mor uchel yr oedd wedi ehedeg yn ffurfafen hanes ond ofnai oherwydd un peth yr oedd rhyw neidr wenwynig wedi gafael yn rhannau bywydol y y I deyrnas. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy ddeffro fel ,eglwys y Duw byw, oblegid ganddynt hwy yr oedd y gras oedd i iachau y deyrnas. Ac na fydded idd- ynt roddi i fyny y dynion oeddyn arfer y diodydd na fydded iddynt roddi y meddwon i fyny. Cyd- deithiai a dyn yn y tren y noson flaenorol, yr hwn a ddywedai am ddyn arall, "He is. perfectly hope- less." Protestiai ef yn erbyn y dywediad; tra yr oedd croes Crist yn bod a gras Duw yn effeithiol, nid oes un dyn yn 'hopeless.' Na fydded jddynt roddi meddwon Connah's Quay a Shotton i fyny. Gras Duw yn treiddio trwy eu bywyd a'u cymeriad hwy, fel pobl Dduw fydd yn ioddiom iachawdwriaeth i ddynion a chyfodiad y ddynoliaeth i fyny. Bydded iddynt dreio tanio tipyn dros ddirwest yn Connah's Quay, dangos dipyn o sel dros ddirwest a phurdeb. Yr oedd gan yr hen Roegiaid air tair llythyren— "Zeo"—am y swn a wnai dwfr pan yn dechreu berwi yn y tegell, ac o'r syniad yna y daeth gair sel. Beth ydyw sel? Y swn a wnai pobl pan y byddai eu hargyhoeddiadau yn dechxeu berwi tipyn a dyna oedd eisieu yn Coiwiah's Quay a Shotton, He mae milioedd o ddynion wedi dyfod i weithio—tan eglwys Dduw yn berwi ac eglwys Dduw yn lincio ei hunan a gorsedd Duw. A gaent hwy ddeffro ati yn Sasiwn Conn'ah':S>Quay-'c'datsoff' yn erbyn y 'brewer' "> heddyw? Yr oedd pob llywodraeth yn Iwrob wedi cyhoeddi yn swyddogol fod y fasnach feddwol yn 'menace.' What will you do with a menace? Manage it?—"Not a bit of it." Control it?— Never. You have nothing to do 'with a menace but to destroy it—(cheers). "The Son of God was mani- fested for this, that He might destroy the works of the devil." Dyna i chwi -ad nod ar genediaetholi, a z:> I busnes eglwys Dduw ydyw dinystrio gweithredoedd y diafol, ac os bu gan y diafol ei weithredoedd er- ioed, y maent yn y tafarnau yma heddyw. Wel, ddynion annwyl, codwch, ati; y mae ein gwaith ni ar y ddaear, ac y mae ein Duw ni ar y ddaear hefyd cysylltwn ein hunain ag Ef, ac yne. hyrddiwn ein nerth yn erbyn y gelyn ac fe gawn fuddugoliaeth. ADRODDIAD Y CYD-BWYLI.GOR. Yfk- Y cyfarfod ddydd Merche.r, fel yr hysbyswyd yn ein coJofnau yr wythnos ddiweddaf, cafwyd ad- roddiad y Cyd-bwyllgor ,ar Reolaeth y F,asnach Feddwol ar ol y rhyfel, ynghydag anerchiad, ar gais y Cyd-bwyllgoir, gan y Parch. J. Glyn Davies, Ros- sett.- Dywedai ei fod yn gobeithio ei fod. yn hollol ddealledig i'r Gymdeithasfa ei fod yn rhoddi yr an- erchiad ar wahoddiad y Cyd-bwyllgor, i geisio, os medrai, amlihellu rhyw fath o 'policy' dirwestol i Gymru ar hyn o bryd. Yr oedd yn meddwl y cytun- ent i gyd, i ddeichreu, ar ryw fynegiad fel hyn :—Os ydym ni ,am ennill y rhyfel yma yn fuan, ac os ydym am fynd yn anrhydeddus ac yn deilwng trwy y cyf- nod cynhyrfus fydd yn dilyn heddwch, ac yn arben- nig iawn, os ydym am fyw yn gysurus a llwyddian- nus ar .01 y rhyfel'y mae rhyw fesurau effeithiol yn angenrheidiol er trin y fasnach ddiod; a'r cwestiwn pwysicaf, mi goeliaf, ar hyn o bryd, ym Mhrydain Fawr ydyw hwn Beth fydd y mesurair effeithiol liynny? Y mae y cwestiwn yn ymrannu ar unwaith yn ddwy ran, a dyma'r rhan gyntaf: i. Beth sydd gennym ni i'w wneud tra y pery y rhyfel yma? 2. Beth fydd gennym i'w wneud wedi yr el y rhyfel heibio? i. Beth sydd gennym i'w wneud yn awr er trin y fasnach yma? Hyd y gwelaf, yn ol y profiad sydd gennyf ii, fodd byniiiag, 'does yr un mesur yn hollol effeithiol, yn hollol ddigonol, i gyfarfod a gofynion difrifol y s'efyllfa bres,ennol ond llwyr waharddiad y fasnaeh—(cymeradwyaeth)—yn yr oll o'r bragdai a'r darllawdai, a'r tafarnau, a'r clybiau trwy yr oil o'r deyrnas. Y mae ei difrod hi a'i gwastraff hi mor fawr fel os ydym am wynebu y galwadau trymion sydd arnom, y mae yn rhaid i ni afael yn ei gwar hi a'i throi o'r tir-llwyr waharddiad y fasnaeh. Paham nad yw y llywodraeth wedi gwneud hynny ei&oes dwn i ddim. Y mae y llywodraeth eisoes wedi gwneud peithau anhygoel o. dan 'Sltress' y rhyfel yma y mae y rheilffyrdd heddyw yn nwylaw y wladwr- iaeth y mae rheolau y 'trade unions' wedi eu rhoi heibio y ma,e gorfodaeth filwrol yn ddeddf y deyrn- as. Yn y pethau yna y mae y llywodraeth wedi gwneud ei dyledswydd ond yr wyf fi yn teimlo, yn wyneb y fasnach feddwol, nad yw y llywodraeth wedi gwneud ei dyledswydd. Yr wyf yn addef fod cwestiynau aijihawdd ynglyn & hi; ond yr wyf yn dweyd hyn, pe buasai un o weinidogion y goron— ni enwaf neb—wedi cymryd ei 'stand' at y mater, ac wedi ymddiswyddo er mwyn arwain croesgad yn y wlad i ymladd y fasnaeh feddwol fe fuasai wedi gwneud y peth mwyaf gogoneddus, ond fe aeth yr awr heibio, ac y mae arnaf ofn fod y cyfle wedi mynd heibio, ond 'dwn i ddim. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd anerchiad Mr. Glyn Davies, rhoddwyd mynegiad i dybiaeth ei fod, yn y geiriau hyn, yn cyfeirio at Mr. L^kyd George, ond dywedai mai nid ato d y cyfeiriai, a phan ofyn- id iddo at bwy ynte y cyferiai, atebodd mai at Mr. Asquith. Pe buasai llywodraeth Prydain wedi dweyd fod eisieu arian, a grawn, a glo i'r deyrnas, a llongau, i helpio y bechgyn yn Ffrainc, tybed na buasai yn mwyafrif mawr pobl ein gwlad ddigon o synwyr, a gwladgarwch, ac o ysbryd aberch i ddweyd, "Go ahead stop tap; we are with you." Ond hyd nes y ceir hynyna, beth sydd i'w wneud? Dyna un peth sydd gennym i'w wneud, gweithio deddf 1904 i'r eithaf—("CTywoh, clywch")—y mae hynyna yn ddigon agos atom—deifnyddio, yr hyn sydd gennym. "Hen ddeddf sal," meddech chwi; wel, ie, ond y mae deddf sal o beidiQ' ei defnyddio, yn mynd yn salach. Er y flwyddyn 1905, hyd yn oed o dan y ddeddf sal yma, y mae 274 o drwyddedau wedi eu diddymu yng Nghymru. Y mae tair o> siroedd Gog. ledd Cymru wedi defnyddio y ddeddf i'w heithaf bob blwyddyn-Sir Feirionydd, Sir Fon a Sir Fflint- "Clywch"—y maent wedi codi y 'maximum levy' yn rheolaidd o'r dechreu, ac wedi gweithio y ddeddf i'w heithaf. Gan fod y Gymdeithasfa yn cyfarfod, yn Sir Fflint, a gaf fi ddweyd fod Sir Fflint yn gwneud gwroil-waith gyda'r mater yma; mae yma ddynion ar y fainc sydd. yn gofalu am fod yn bres- ennol ymhob 'licensing council,' ac ymhob 'quarter session,' i gyfarfod ag ystrywiau y 'trade, right and left,' a mynnu barn i fuddugoliaeth. Diolch i Sir Fflint; ac os a Sir Fflint ymiaen fel y mae yn awr fe fydd y lanaf yng Ngogledd Cymru cyn bo hir. Y mae y tair sir.arall yn araf ddifrfol. Ma,e Sir Dref- aldwyn yn gloff-(:Lllais, "Nac ydyw")—ydyw yn wir. Mae Sir Ddinbych wrth ei dwyffon. Mae Sir Gaernarfon yn mynd wrth ei baglau—-(chwerthin). Yn ol y lyfr glas sydd newydd ei gyhoeddi y mae gan Sir Drefaldwyn weddill o .I) ,600 yn y 'compen- sation fund,' heb ei ddefnyddio i weithio y ddeddf; Sir Ddinbych, gweddill o £ 4,000 Sir Giaernarfon, gweddill o £6,400. Ac fe aeth Sir Ddinbych mor bell ag 'investio' rhan o'r gweddill mewn 'war loan stock'-(chwerthin). Onid yw yn bosibl i nii, gyf- eillion, ddeffro ynadon Gogledd Cymru at eu gwaith? Teimlai weithiau pe bai rhai 'o-'r boneddigion yn mynd i fyw i 'slums' Gwrecsam, neu Gaernarfon,, neu Drallwm, a gweled fel y mae pobl yn dioddef oddiwrth ieffeithiau y fasnach y gwnaent yr oil' a all- ent er gweithio deddf 1904. Dyma'r Hall, cynorth- wyo hyd y medrwn waith y Bwrdd Ganolog—"y b y Bwrdd Calonog" yn ol brawd a ysgrifennai ataf y dydd o'r blaen, ap enw da ydyw. Dyma'r gallu mwyaf enfawr ynglyn a'r fasnach feddwol, ac y mae ei ffrwyth i'w weledeisoes; y mae nifer y rhai a gosibwyd am feddwi wedi mynd i lawr fwy na'r hanner, ac nid peth bach ydyw nad oes un dafarn o Gaergybi i Gaerdydd yn ago-red i werthu diodydd meddwoil cyn hanner dydd. Yr oeddwn yn sefyll ar un o ystrydoedd Caerdydd, a'r holl 'gin palaces' yng nghauad yr oeddwn bron a thaflu fy bet i'r awyr a gwaeddi Haleliwia. Nid peth bach ydyw fod pob ty tafarn yng nghauad ar ol wyth o'r gloch. Nid peth bach ydyw fod 'treatio' yn drosiedd yn erbyn deddf y wlad, ac yfed cyhoeddus. Fe ddywedir Bawer oherwydd yfed ymhlith y merched, ac yfed yn y tai gmtrd. Osi gwyddoch am ffeithiau felly anfonweh fany lion ohonynt i mi, ac fe'u hanfonaf i'r Bwrdd Canolog; y maent yn gofyn am danvnt. Y mae eisieu cyfyngiad pellach, ac y mae y" Bwrdd Canolog yn barod i wneud ychwaneg. Pe cawn i fy ffordd fe gauwn i bob tafarn am s,aith, ac fe wa- barddwn i neb werthu unrhyw fath o ddiodydd meddwol i ferched ac i filwyr. Dyna gyfnewidiad sydd eisieu. Ychwaneg, a gaf fi awgrymu fod 'Watch Committees:' yn cael eu penodi ymhob rhan- barth trwy Ogledd Cymru i wylio y tafarnau, ac i weled fod yr 'order' yma yn cael ei chadw yn llwyr a diduedd. Daeth mil'wr adref 'on leave' i un o drefi Deheudir Cymru dro yn ol; nid o-edd neb o'i deulu yn ei gyfarfod, ac fe aeth yn syth at ei dy ei hun a, chafodd y drws yng nghlo; fe aeth i dy un o'i gymydogi-on, a chlybu fod ei wraig yn y carchar, a'i bl'ant bach yn cael gofalu am danynt gan un o'r cymydoigioni. Dyna 'home-coming' onide! Ac meddai wrth y cymydog, 'Could you not put a trench between my home and the public house?" Dyna sydd arnom eisiau ei wneud. Our boys are fighting hell in France, let us fight it here. 2. Y cwestiwn arall ydyw hwn Beth fydd gen- nym i'w wn,eud wedi yr el y rhyfel heibio? Y mae dau beth y medrwn ni eu gwneud. Yr wyf yn credu os ydym am fod yn unol ar ol y rhyfel y dylem ben- derfynu yr egwyddor fod gan Gymru hawl arbennig i drin y fasnaeh ei hun, ac yn ei ffordd ei hun o fewn ei therfynau ei hun. Y mae hyneisoes wedi ei gydnabod yn neddfwriaeth y wlad—ym mesur addysig ganolraddol, ym mesur .cau y tafarnau ar y Sul, ym mesur datgysntiad a phethau eraill. Y mae Scotland wedi cael deddf i'w galluogi i ddelio a'r fasnaeh ddiod, ac y mae hynyna ar unwaith yn gwneud hawl Cymru yn beth y gellir ei ystyrried ar lawr Ty'r C,yffredin--mesur diirwestol i Gymru. Yr wyf yn meddwl y gaHwn gytuno a hynyna-mesur yn dwyn i mewn hawl y bobl, dewisdad y bobl, gyda golwg ar y fasnach. Y mae Cymanfa Ddirwestol Gwynedd wedi pasio penderlyniad i anfon dirprwy- aeth at aelodau sleneddol Cymru i drin a thrafod gyda hwy gynnwys mesur dirwestol arbennig i Gym- ru y -mae cenadwri. wedi mynd at Gymanfa Ddir- westol' Deheudir Cymru i ofyn am eu cvdweithred- iad, ac y maent yn addaw hynny. Yr wyf yn medd- wl y bydd cyfle i'r enwadau crefyddol, trwy eu lillysioedd uchaf ymuno a, ni a chael dirprwyaeth un- edag i drafod gyda'n haelodau seneddol gynnwys meSiUT dirwestol i Gymru. Cyn pen dwy flynedd fe fydd Scotlland wedi pleidleisio,, ac mae'n sicr y bydd o Ifeiaf dair rhan o bedair o'r wlad honno wedi mynd yn 'sych' at .a stroke, heb dalu dimai o iawn i neb. Y mae Scotland yn mynd i'w gael. Am rai bLyn- yddoedd y mae Syr Herbert' Roberts' -(cym-eradwy- aeth)-gyda ILaw, Mr. Llywydd, y mae yn anhawdd mesur gwasanaeth Syr Herbert Roberts, i ddirwest yng Nghymru. Y mae wedi bod yn 'ploughing his lonely furrow," ac wedi bod yn sefyll ar ei ben ei hun yn Nhy'r Cyffredin. dros ddirwest. Yr wyf yn gobeithio y hyddwn yn trefnu ein byddinoedd, fel y byddom yn barod wedi'r rhyfel. Yr wyf am i'r ys,- bryd oedd yn anerchiad Proff. Phillips—'attempt great things.' Y mae y teimlad am wneud pethau arwriaethus yn mynd trwy'r wlad. Yr oedd tri bachgen bach yn yr ystryd yn eich tref chwi ychydig amser yn ol-un. yn 'sergeant,' a'r ddau arall yn 'privates.' "Form fours," meddai wrth y ddau. Wel, fe ddarfu i'r ddau dreio—(chwerthin). Wel, a gawn mi ddeffro i'r un peth yn y Sasiwn yma hedd- yw? Y mae cael y fasnaeh i lawr yn aruthrol o en- fawr, ac nis gwn am un gallu yn y wlad a all ei chael i lawr ond eglwys Dduw. Y mae gennym ddigon o oleuni, a gwres, a grym i dado hyd yn oed y fasnach mewn diodydd meddwol ym Mhryd- ain Fawr. Y mae gennym ddigon o rym yng Nghym- ru, ond i ni deimlo. fel yr oedd Proffes,wr Phillips yn dweyd. Onid yw yn bryd gyfeillion arinwyl, i ni dreio trefnu rhyw fath o genhadaeth i slobri merch- ed Cymru-cysylltu mesur dirwestol a'r eglwysi, a dwyn 'forse' e-glwys:i Cymru-dynlon da Cymru— dynion gwedthgar Cymru-siaint y Duw byw o dan y rhan yma? "Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd" yn gweithio ar la-Wr Ty'r Cyffredin llais Cymru yn llais Duw yn 'interest' meddwon ein gwlad ni. Gawn ni ddechreu peth fel hyn, a pharatpi Mesur yn ddioed ar gyfer yr.amser pan y bydd y rhyfel wedi mynd heibio ?—(cymeradwyaeth). Y SEIAT GYFFREDINOL. Am 8.30 bore dydd Iau, cynhaliwyd y Seiat Gyff- redinol. Dechreuwyd gan y Parch. H. G. Roberts, Croesor. Y Mater—Gwaith. Y Llywydd—Un gair ydyw y testyn, ond yn ami iawn po fyred fydd geiriad-y mae hwnyna wedi dod yn air Cymraeg, yr wyf yn mecidwl-po fyred fydd geiriad y pwnc mwyaf yn y byd fydd e'. Ni ddy- wedir gwaith mewn perthynlas a pha beth, ond gwaith—peth sydd yn perthyn i fywyd. 'Dwn i ddim a fuasech yn dweyd ei fod yn un o hanfodion bywyd, yn un o bethau anhebgorol bywyd, ond y mae bywyd yn golygu* gwaith "Dyn a i all an i'w