Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFODYDD MISOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD MISOL. AMSER CYMDEITHASFAOEOD A TETREfW Y C.M. Y Gymanfa Gyffredinol—Bethlehem, Treorci. Meh. 18--21, 1917. Brychániog-Llandrindod, Tachwedd 29. Dwyrain Meirionydd-Glyndyfrdwy, Rhagfyr 6ed. Dwyrain Dinbych—Seion, Gwrecsam, Tach. 29. Gorllewin Meirionydd-INI,in,ffordd, Rhag. 11, 12. Hen. Trefaldwyn.—Abermule, Rhag. 14. Hen. Dwyrain Morgannwg-Brynmenyn, Rhag. 6, am 10.30 a.m. LJeyn ac Eifionydd-Salem, Pwllheli, Rhag. 4ydd. Hen. Lancashire, &c.—Rhostyllen, Rhagfyr 6ed. Manchester-Onward Buildings, Tachwedd 28. Trefaldwyn Uchaf-Machynlleth (S.), Rhagfyr 7. LLEYN AC EIFIO'NYDD.—Seion, Criccieth, Tachwedd 6. Llywydd, Mr. Henry Jones, Engedi. Dechreuwyd gan Mr. D. J. Williams, Brvncir. Ar- weiniwyd gyda gwrando profiadau Swyddogion a Hanes yr Achos yn y lie, gan y Parch. W. Jones, M.A.. a Mr. G. Jones, Rhydbach. Datganwyd cyd- ymdeimlad a'r Mri. J. Owen, Cedron, 0. Owen, Pen- mount yn eu gwaeledd, ac a. Mr. H. Williams, Pen- treuchaf, a Mrs. Griffith, Criccieth (gweddw y di- .weddar Cadben Griffith). Cadarnhawyd cofnodion y C.M. blaenorol. Penodwyd y Parch. T. Llewelyn Thomas a Mr. E. R. Elias, Atoriah, i dderbyn y casgliadau. Galwyd sylw at y Casgl. Dirwestol, Casgl. yr Achosion Saes'neg, a Chas. Neuadd Ym- neilltuol Cinmel. Anogwyd yr eglwysi i fod yn ffyddlon ac yn brydlon gyda'r oil. Hysbyswyd y g cynhelir y CM. nesaf yn Salem, Pwllheli, Rhagfyr 4ydd. Y Parch. O. Pritchard a Mr. J. T. Jones, Criccieth, i arwain gyda phrofiadau'r swyddogion a hanes yr achos yn y lie. Mater trafodaeth, Y Cyn- lluniau sydd gerbron y wlad ynglyn a'r Fasnach Feddwol." I'w agor, Parch. G..Parry Hughes, Y C.M. dilynol i ;fod ym Morfa Nefyn. Galwyd sylw drachefn gan y Parch. J. Pulestom Jones, M.A., at y pamfHed Pwy sydd ar du yr Arglwydd? o waith y Parch. T. Powell, Cwmdar. Rhoddwyd anogaeth i bawb brynu a darllen y pammed rhagorol hwn. Pen. derfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn rhoddi ca-n- iatad i'r Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D., i wneud cais at eglwysi Cymraeg Porthmadog am gymorth ariianniol er galluogi yr eglwys Saesneg yn y dref honno i ddod i fyny a'r telerau sydd ynglyn a'r rhodd neilltuol a gynhygir iddi. Hysbysodd y Parch. H. D. Lloyd, B.A., B.D., fod y Prifathro Prys, yr Athro T. A. Levi, ac un o'r efengylwyr, i dalu ymweliad yn ,fuan a rhai eglwysi o fewn cylch y C.M. hwn ynglyn a'r Symudiad Ymosodol. Cafwyd agoriad rhagorol gan y Parch. J. H. Williams i'r mater trafodaeth sef, Y Gwaith Cenhadol." Siaradwyd ymhellach ar y níàter gan ajnryw frodyr, a phasiwyd pleidlais gyn- nes o ddiolchgarwch i'r agorwr. Derbyniwyd Mr. D. H. Parry, o eglwys Penrhos, yn aelod o'r C.M. Yr oedd y brawd hwn wedi ei alw i'r swydd o ddiaoon gan yr eglwys honno er ys peth amser bellach, ond rhwystrwyd ef gan amgn,lchiadau; &c. i fod yn bresennol yn y C.M'. cyn hy'n. Ymddiddan- wyd ag ef, a rhoddwyd gair o gyngor iddo, ar achlysur ei dderbyniad gan y Parch. G. Parry. Pen- odwyd y brodyr ,canlynol yn aelodau o'r Pwyllgor Enwi at y flwyddyn nesaf: Mri. H. W. Jones, Pen- ygraig, H. Griffith, Neigwl, J. R. Owen, Bwlch- derwen, Parchn. W. L. Jones, RRoberts, a J. Ben- net Williams, B.A. Ar awgrymiad y Parch. D. Roberts, cytunwyd yn unfrydol Ein bod am y tro yn atal y Rheolau Sefydlog er ein galluogi i leihau rhif ein Cynrychiolwyr i'r Gymanfa Gyffredinol y flwyddyn nesaf." Yn ddilyiiol,, pasiwyd drwy fwyaf- rif, Ein bod yn dewis dau, yn lie chwech, o Gymrychiolwyr o'r C.M. hwn i'r Gym. Gyffredinol am y flwyddyn nesaf." Darllenwyd a mabwysiadwyd' adroddiad y Cenhadon fu yn Ala Road. Penodwyd Mr. R. Parry, Salem, i gymryd lie Mr. T. G. Jones, Salem, fel cynrychiolydd Dosbarth Pwllheli ar

.--------------_-_,_-__-.-__-_--Cymdeithasfa…