Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

NODION DIRWESTOL. --..¡

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION DIRWESTOL. -¡ Yh y Spectator am yr wythnos ddiweddaf fe ddywedir, a,r dystiolaeth y Glasgow Herald,' ddarfod i wneuthurwr melusion ofyn caniatad Arolygydd y Bwydydd yn Llundain i ddefnyddio rhyw gyfran o frag, oedd yn ei feddiant, at wneud toffee. Dyma yr atebiad a gafodd o Swyddfa y Bwydydd With reference to your letter of the 13 April, I am to say that you can- not be allowed to use your stock of one cwt. of Malt for the manufacture of toffee. You are recommended to sell i't to a local brewer if possible." Y mae gan y Spectator sylwad.au lied fin- iog ar y llythyr, yr hwn a'i hatgofia am sylw a briodolir i'r brenin lago iaf pan yn mwynhau y tamaid diweddaf o'r pine-apple cyntaf a ddygwyd il Brydain—" Y mae yn ffrwyth rhy ddanteithiol i ddeiliaid ei brofi." Dyna, medld- ai y Golygydd, yw syniad swyddfa y Bwydydd am frâg-h. y., ei fod yn rhy werthfawr i fodau cyffredin, ac mai darpariaeth ydyw yn unig ar gyfer y dosbarth neilltuol hwnnw o gymdeithas a nawddogir gan y Llywodraeth. Y mae yn yr un rhifyn baragraffs gwawdiol anghyffredi'n ar y rhinweddau amrywiol a ddar- ganfyddir o ddydd i ddydd mewn cwrw. A dyma fedd-argraff i Brydain a ymddangps- odd yn yr un newyddiadur yn ddiweddar—> Here lies a Race, of no armed foe afraid, Yet self-consigned to doom by craven fear Lest it should hurt the feelings of a Trade That seized its bread to drug its brains f. with Beer." Parha y British Weekly i feiirniadu y Weinyddiaeth yn Ilym yn ei hymddygiad tuag at y fasnach feddwol. Yn y rhifyn diweddaf cyhuddir y Llywodraeth o anwybyddu yr Eg- lwysi—o'r hyn, yn ol barn rhai, y cafwyd ar- wyddion ar adegau ymweliad y gwahanol ddir- prwyaethau a'r Prifweinidog. Ymddengys,' meddai y Golygydd, fod y Prifweinidog wedi dyfod i'r casgliad mai d'iwerth ydyw barn yr Eg- lwysiar y cwestiwn neilltuol hwn; nadi oes un- rhyw bwys i roddi a,r eu golygiadau; ac y gall y Llywodraeth fyned ymlaen heb gymryd sylw o neb ond o ategwyr y fasnach yn y Weinydd- iaeth.'Ac ychwanega—" Hyderwn a chredwn fod yr eglwysi wedi cymryd sylw arbennig o'r gwarthnod a roddir arnynt o< ddechreu y drafod- aeth hyd yn awr. Er gwaethaf y Llywodraeth credwn fod calon yr Eglwysi yn iach, a'u bod yn meddu nerth digonol, ond iddynt ei ddefn- yddio i fyny eu ffordd.. 'Ac mewn paragraff dilynol rhybuddir y dar- llenydd fod aelodau eraill yn y Weinyddiaeth yn selog o blaid eenedlaetholi y rhai a wnaent eu heithaf il rwystro y mater ddyfod ii farn y cyhoedd. Nid oes gan y Golygydd ddim, am- heuaeth mai ymwrthod a'r cynllun a wna y wlad ond iddi gael cyfleustra teg i ddatgan ei barn arno. Er hyn oil glyn y Golygydd wrth arweiniad y Prifweinidog—ymhob cylch arall o weithredu mae'n debyg—oherwydd dywed mewn cysyllt- iad ruraU-" Few things are more striking than the way in which the nation simply hangs on the Premier's words. The whole trust of the nation i's placed in Mr. Lloyd George, and his strenuous optimism is an immense asset. He gives heart-not only to his own people, but to all the allies." Dyna warogaeth, ond nid gor- modiaeth! Mae ^n lied amlwg oddiwrth nodwedd gyff- redin yr hyn a ysgrifennir gan Olygydd y British Weekly,' mai yr hyn a amcana ydyw gwaredu y Prifweinidog o law y dosbarth neill- tuol o'r Weinyddiaeth a arferent gefnogi' y fas- nach feddwol ar hyd yr amser trwy wrthwynebu pob ymdrech i lesteirio ei dylanwad. Nid y British Weekly" yn unig a ofyna gydag amheuaeth naturiol-" A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y Ilewpard ei frych- ni "?

MEIRION A'R GLANNAU.

[No title]

Advertising