Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

CYFFRO GWLEIDYDDOL YN GERMANI.

YR ACHOStON.

SUDDIAD Y'VANGUARD

Y FRWYDR GER Y TRAETH.

YR YMOSODIAD.

RHAI YSTYRIAETHAU. »

SYMUDIAD MAWR RWSIA.

PERYGL LLUNDAIN.:

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PERYGL LLUNDAIN. Cynhyrfodd ymweliad yr awyrennau gelynol a Llundain yr wythnos ddiweddaf deimlad ang- erddol yn y Brifddinas ac yn y wlad, a da y gwnaeth y Llywodraeth roi sylw dioed i'r sefyll- fa ac i'r perygl. Nid oedd trafod y mater mewn eisteddiad cyfrinachol o'r Ty- yn boddhau pawb; ond pan eglurodd y Prifweinidog fod ffeithiau a ffigyrau a allent brofi'n fantais i'r gelyn yn rhwym o gael eu dadlennu, boddlon- wyd i gau'r drysau ac i roil eisteddiad dirgelaidd' i'r cwestiwn. Wedi'r eisteddiad, gellir dweyd fod y rnwyafrif wedi eu boddloni mewn rhan, tra y rhaid addef nad yw'r anesmwythter wedi ei symud yn llwyr. Gwnaeth y Prifweinidog yn glir fod mwy o berygl mewn gwanhau ein nerth yn yr awyr ar y ffrynt na hyd yn oed y perygl i Lundain, er difrifoledi yw hwnnw. Nis gwyddf- om pa addewidion a wnaeth y Llywodraeth ynglyn ag effeithioli amddiffyniad y Brifddinas. Mae'r aelodau Llundeinig yn benderfynol y rhaid cael ad-drefniad a sicrha ddiogelwch y ddinas oddiwrth ymweliadau fel y rhai diwedd- af, a disgwylir fod y ddarpariaeth honno wrth y drws. Ond nis gellir disgwyl llwyddiant hyd nes y gosodir gwr cyfarwydd a phenderfynol yn drefnydd ac yn arolygydd arbennig ar y gangen hon. Gyda phob dyledus barch i Arglwydd French, rhaid dweyd na fedd y cymhwyster a'r ynni angenrheidiol i'r gwaith pwysig hwn.

DINISTR Y MOR.