Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

-, NODION CYMREIG.i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYMREIG. "CYMORTH HAWDD E1 GAEL." Mae- cymorth mewn cyfyngder Hawdd ei gael; A chysur yn y dyfnder Hawddi ei gael; Yng nghanol blin ystormydd, Ac ymcliwydd yr afonydd, Mae Ceidwad ar y glennydd Hawdd ei gael, Yn gysgod rhag dialydd, Hawdd ei gael. Wynebodd ar beryglon, Ar fy ol, A hiraeth ar Ei galon Ar fy ol; Aeth drwy gawodydd dagrau, Gwaradwydd, a gofidiau, Ac i ddyfnd'eroedd angau Ar fy ol; A'i waed yn lliwib'r creigiau, Ar fy 01. y Mae cyfoeth Duw Ei hunan Ynddo Ef; < A bywyd nef yn gyfan Ynddo Ef; Caf fythol oruchafiaeth, Ar bechgd a, marwolaetli, Ar dir fy etifeddiaeth, Ynddo Ef; A chanu buddugoliaeth Ynddo Ef. DYFED. —1 Prynhawn ddydd Gwener cynhaliwyd cyfarfod dyddorol yng nghapel M.C. Dyffryn Ardudwy i ddathlu Can'mlwyddiaint Genedigaeth y Parch. Edward Morgan. Ar yr zofed o Fedi, 1817, y ganwyd Mr. Morgan, ac felly drannoetb y dtydd- iad y cynhaliwyd y cyfarfod. A chyfarfod nod- edig ydoedd ar lawer cyfrif. Cawsom ni,—y rhai canol oed ac ieuanc,—lawer o atgofion na cheir mo honynt mewn flyfr, gan Mr. R. J. Williams a'r Parch. H. Barrow Williams, y naill yn un o blant y Dyffryn, a'r Hall wedi bod yno yn yr ysgol pan: oedd Mr. Morgan yn an- terth ei boblogrwydd a,'i ddylanwad. Danghos- odd Principal Prys beth wniaeth Mr. Morgan dros addysg a'r fugeiliaeth yn ei enwad a'i sir. A rhwng pawb cawsom gipdrem lied gyflawn ar hanes y g.wf y danghosid y parch eithriadol hwn i'w (yoffa!dwriaeth. 41 Ond goddefer i mi ddilyn fy nodiadau o araith y Parch. J. H. Williams, Porthmadog, ar Mr. Morgan fel-nregethwr. Nid wyf yn hollol sicr ai fel pregetHwr yr ystyriai Mr. Williams fod Mr. Morgan yn rhagori ym mlaenaf oil. Ond dyn,a'r pwnc a roddwyd iddo gan y Parch. W. M. Griffith1, M, A., llywydd y cyfarfod, a trienn- lai, pawb fod Mr. Williams wedi gafael ynddo yn drwyadl a meistrolgar. Fy amcan fydd -rhoddr syniad i'ch darll'enwyr am gynnwys yr anerchiad rhagorol hwn. Hawdd gweld fod Mr. Williams wedi paratoi yn fanwl. Cyfeiriodd yma a thraw yn ei araith at ymron bopeth oedd yn dal perthynas a Mr. Morgani,-o"r Cofiant a'r ysgrifau yn y cylch. gronau a'r Gwyddoniad'ur,' hyd at atgofion y Parch. Elias Jones, ac erthygl y Parch. Evan Davies, yrl; y CYMRO. Ffrwyth darlleniad ac efrydiiaeth fanwl ylD; y riiaes yna oedd yr araith, a hyderaf y bydd y nodiadau anghyflawn a roddir ynrn o honi yn symbyliad i lawer i' awyddu am ei chlywed yn gyflawn, Mae Principal Prys eisoes wedi gofyn am gyhoeddiad gan Mr. Williams i'w thraddodi yn y Coleg Diwinyddol. I, Beth oedd safle Mr. Morgan fel pregethwr i Un peth rhyfedd am dano yw hyn,—nad oes neb wedi ceisio beirniadu ei bregethau, hynny yw, nid oes neb wedi oeisio dal eu rhagoriaeth" au a'u diffygion wyneb yn wyneb, a mantoli rhyngddynt. Ceir yr ymgais oreu at hyn yn y Traethodydd gan Dr. Hughes yn 1875; ond yno-, fel yn y Cofiant, mae'r feirniadaeth yn troi yn werthfawfogiad,—criticism yn troi yn appre- ciation yn barhaus. Dyma'r prawf cryfaf o wir fawredd pregethwr.. t Yr oedd swyn ynddo fel llefarwr. Enillai bawb. Yn nhloty y Penrhyn, gofynai Owen Jones i Mr. Williams a oedd efe wedi clywed Mr. Morgan yn pregethu. "Naddü," ebai Mr. Williams. a Brensiach annwyl," ebai Owen Jones, "chlywsoch chwi erioed y fath beth." Tebyg iawn i Owen Jones ydyw Dr. Hughes yn y Traethodydd,' a'r Parch. Griffith Ellis yn y Cofiani,-dywedant Brensiach aninwyl, dyna i chwi bregethwr," yn eu ff ordd eu hlinain,. e Beth oedd safle Mr. Morgan o'i gymharu a Henry Rees a John Jones, Talsarn ? Yr oedd, ebai Dr. Hughes, mor boblbgaidd lawn a Henry Rees, ac agos mor bobloga,idd a John Jones, Talsarn, a hynny er gwaethaf gwendid corff. Ni byddai y bobl byth yn blino edrych ar ei wyneb a'i lygaid. Rhaid fod-rhyw swyn yn ei -lais. Pa fath lais ydoedd tybed? A oedd efe yn bloeddio ? Tybed? Ai tenor ynte baritone ? Pa'run bynnag yr oedd yn gwynor wlad er Jwaethaf gwendid corff. Yr oedd Mr. Morgan mor wael fel yr oedd Griffith Williams, Talsarni- au, yn. ei farwnad yn dweyd am dano "Ni raid i'r un archangel, yn hawdd y oredaf fi., Ymddadleu byth a diafol ynghylch dy wan gorff di." 0 N id yn unig yr oedd yn boblogaidd yn ei fywyd,-—pery felly drwy ei bregethau argraffed- ig. Cyfieithir hwy gan bregethwyr o Gymru sydd ymhlith Saeson, a dywedir eu bod yn cael eu pregethu o bulpudau yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru. Yn y Beiliau Gleision yn Bry- cheiniog, darllenir pregethau Edward Morgan ar nos Sul yn y gwasanaeth a gynhelir mewn amaethdy yng: nghanol y wlad,—ac mewn llawer man arall. —-♦—- Beth sydd yn cyfrif am y poblogrwydid eithr- iadol hwn Yngyntaf, ei nauirioldeb. Gwnaetfi chwarae teg a'r ddawn arbennig roddwyd iddo gan 'yr Arglwydd. We are born originals, and die copies," ebai Martensen. Cadwodd Edward Morgan ei nodweddion naturiol, ac y mae pob dyn naturiol yn meddu ar swyn am ei fod yn wreiddiol a newydd. Efe oedd un o'r artists perffeithiaf fu mewn unrhyw bulpud, ac etc cadwodd y gelfyddydo saernio pregeth dan reolaeth mor llwyr fel na cheir yn eu cyfansodd- iad yr un. e^ighraifft o gywreinrwydd diamcan. Nid yw yr artist yn} llyncu y pregethwr., 4 Diddorol iawn i leygwyr,—ond mwy diddorol i bregethwyr yn ddi-au,-oed,d clywed Mr. Williams yn egluro ac yn cymharu y gwaha.n- -iu. ol ddulliau o wneud pregethau. Dull poblog- Aidd yw un John Elias, ac Owen Thomas ar ei ol,—cael tri neu bedwar o bennau, a climax ar ol climax uwch o hyd, ac esgyn felly nes gorch- ,9 fygu pawb a phopeth yn y diwedd. Perthyn i oes diwygiad' yr oedd y dull yna, a byddai y bregeth yn gorffen mewn gorfoleddu. Ond rhaid wrth nerth corfforol at y dull yna o breg- ethu, ac yr oedd Edward Morgan yn ddigon o athronydd i gymryd ei, dywys i ddewis y cynllun oedd yn cyfateb oreu i'w nerth a"i,did'aw-ii eil hun. Mentrodd Edward Morgan bregethu yn ddiddorol o'r dechreu i'r diwedd. Dyma, bregethwr mwyaf diddorol yr iaith. Gallech flino ar ddarllen pregethau Henry Rees a John Jones, ond mae pregethau Edward Morgan yn torri tir newydd, a phob amser yn ddiddorol. Yr oedd' 1111 hen chwaer yn dweyd ei bod wedi1' colli ei chysgu, ac iddo cldyfod yn ol wrth iddi ddarllen cyfrol or bregethau ei gweinidog. Nid oes dim perygl i! neb fynd i gysgu wrth ddarllen pregethau Edward Morgan. Yn ol Dr. Hughes rhagorai ar John Jones a Henry Rees yn mywiogrwydd ei ddoniau. Yr oedd ei feddwl mor fywiog a Ffrancwr, ac yn llawn yni. Yr oedd, ebai Dr. Hughes, yn deb- ycacbryn nheithi ei feddwl i'r hanesydd Mac- aulay nag i neb o awdwyr pobologaidd yr oes, a gwyr pawb mai prif nodwedd Macaulay fel ysgrifennwr oedd brilliancy. Teimlid wrth ddarllen y pregethau yn sicr fod pawb yn deali Mr. Morgan beth bynnag oedd eu cyrhaeddiad- au. Nid felly gyda Henry Rees na John Jones. Ymdeimlo a phresenoldeb y Mawr y byddai llawer o'r gwrandawyr heb ddeall ystyr yr hyn ZD a draethid. Mae yr un peth yn wir am un o bregethwyr mwyaf Cymru y dyddiau hyn,— Joseph Jenkins. Nid oedd pawb yn ei ddeall bob amser, ond yr oedd.y peth Mawr yna. Yr oedd Mr. Morgan yn bregethwr mor ddiddorol fel nad oedd arno eisiau yr art o grwydro yn ei bregeth. Yr oedd hynny gan Henry Rees, fel y gwelir wrth gymharu un o'i bregethau argraffedig a'r un bregeth fel y cymerwyd hi i lawr mewn llaw-ferac y cyhoedd- wyd hi yn y Lladmerydd. Yr oedd Owen Thomas yn gwneud yr un peth er mwyn tynnu ,-sylw y gynulleidfa. Ond nad oedd ar Edward Morgan angen mynd gam, o'i ffordd A ennill sylw y gynulleidfa. —, Peth arall oedd yn peri fod pregethau Edward Morgan yn ddiddorol yw y wybodaeth eang ddaw i'r golwg ynddynt. Yr oedd hyn yn amlwg yn mhregeth Cyfraith y Llofrudd, ac fe ddywed- ai Owen Jones, Penrhyn, wrth sonl am hono, fod Mr. Morgan yn deall y gyfraith cystal a'r un twrne. A chyda hyn gosodai y cyfan allan,. mewn brawddegau byrion, cryfion, bachog, bob yn ail a brawddegau dipyn yni faith. Anfan- tais i'r werin i ddeall ystyr pregeth yw brawdd- egau hirionj troellog, cymhalog. Gwir fod rhai areithwyr yn feistri'aid ar y dull hwnnw, megis Gladstone, Asquith, Churchill, Dr. Dale, a Dr. Owen Thomas. Ond nid oedd nerth corff nac arddull Edward Morgan yn caniatau iddoi dra- ddodi brawddegau felly. Pregethwr ysgrythyrol ydoedd,-y math goreu o bregethwr ysgrythyrol. Dywedir i Robert Thomas, Llidiardau, anghofio ei! bregeth, ac i-ddo droi i adrodd adnod'au yn un llinyn, a dweyd mai dyna. oedd pregethu,—adrodd ad- nodau yn ysbryd yr efengyl. Yr oedd sylfaen pregethau Mr. Morgan bob amser yn y Beibl. Nid gwneud pregethau ar fater yr ydoedd, a bachu testun wrthi. Nid canu corn i ddweyd ei fod ar gychwyn i rywle nad wyr neb i ba le. Nid gwneud araith ar ryw bwnc a rhoi adnod yn destun. Ni byddai byth yn gwneud cam a'i destun; dygai yr holl Feibl dan deyrnged i'w bregeth, ac yr oedd ganddo ddarfelydd bywîog, yn gwneud defnydd o bopeth drwy yr Ysgrythyr- au i gyd i bwrpas ei bregeth. --+-- Mewn un peth gosodai Mr. Williams y Prif- weinidog presennol a Mr. Morgan yn yr un dos- barth, a dim ond hwy ill dau yn dclosbarth. Y tebycaf i Edward Morgan heddyw am ddisgleir- deb cymhariaethau, ebai Mr. Williams, yw y Prifweinidog. A chyda'r darlun yna o Edward Morgan a Lloyd George yn annerch cynulleidfa o Gymry y terfynodd un o'r areifhiau goreu a draddodwyd mewn gwvl goffa, erioed.