Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Have you used T. Ambrose & Co,'s Uocoa. It is the finest made. Ask your Grocer for it, and insist upon having it.
TYLDESLEY.
TYLDESLEY. PRYDNAWN ddydd Gwener, Ionawr 2, rhoddwyd gwledd odea bara brith i blant y Gobeithlu yn y lie uchod, pryd y cyfranogodd dros ddau gant o blant a phobl mewn bed yn helaeth o'r darpariadau, ac y gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y chwior- ydd da a gweithgar Mrs. A. Hughes, A. Southern, S. Southern, J. Hughes, J. Evans, M. Parry, A. C. Jones, Miss E. Hughes, a Miss Jones, Ashton. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyngherdd y Parch. J. Lewis, ein gweinidog, yn y gadair. Cymerwyd rhan yn y cyngherdd gan amryw o blant y Gobeithlu, a Mri. Joseph Dodd (Ashton), James Weston (Atherton), Richard Hughes, Ed. Jones a'i barti, a Miss Boker. Cawsom hefyd ddadl, How we cured a drunken husband," gan Mr. Thomas Hughes a'i gwmni. Gwnaeth pawb eu rhan yn rhagorol, a rhoddwyd bodlilonrwydd cyffredinol. Y Sabbath, Ionawr 4, cynhaliwyd cyfarfod pre- gethu, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Gethin Davies, D.D., Llangollen. Yr oedd yr elw o'r cyfarfodydd uchod yn myned. i drysorfa y capel newydd. Y mae yn dda genyf ddweyd fod yr achos goreu yn llwyddo gyda ni yma er pan y mae y mae ein parchus weinidog yn ein plith. -R. H.
Advertising
WILLIAMS & CO. The Well-known Grocersy 1, ST. PAUL'S SQUARE, 173, BRECK ROAD, AND 101, BRECK ROAD, ANFIELD Speciality-Our Noted 2/- Tea. Fainily Orders executed witli care and despatch. Customers waited upon. Postal Orders promptly attended to. PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS clpRrrirt^T"pAhe LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, MALTA, and other Ports. taking the following two routes alternately (1) MALTA, SYRA, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic of the Black Sea, Greece and Spain. BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling ocSa k on the homeward voyage at Spanish Ports ccasionally No over crowding. Superior accommodation. Lofty well- ventilated Saloons and .State-rooms. Stewardess carried Safety. Home comforts. Good and liberal table. Moderate, fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships' stay at Ports g Tourists and pleasure-seekers taking a trip bv this Line will fars, appfy toeDJ°yab 6 interestin^ ^or further par^ lars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpool.
CYFRES Y CEINION-Pris is.…
CYFRES Y CEINION-Pris is. Yr un. i.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch. W. REES, D .D. 2.-Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch. W. REES, D.D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch. W. REES, D.D. T TRI LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Lhan. Pris 4s. 4-Gardd Eifion: .sef, Barddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDU O EIFION. KI 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddoncu y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Facsimile 0 1 Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwvs Walton 6. Gwaith Beirdd Mon sef, LEWIS MOKYS YBARDD COCH (Hugh Hughes), A ROBIN S?U Bardcbnol111 BlaCkwe11 (Ahm)- Ei holl Waith Y PEDW AR LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Lhan. Pris 5s. 8-~Yr Hen Berenmofl: sef, Hanes Bywvd RICHARD JONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BREN), ac EDMUND JONES o Bontvnwl ,nU B"ddas: sef' CyfanL>ddiadau Barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies) 9 a II*T^1&lon Eng-lynion Fy Ng-wlad vn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iafth We £ eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar JAN EIFIONYDD.—YGyfres \afa'r2il. g yddol Rheina^t ab Gruffydd. Rhamant Hanes- l3-7"^WfIedifa?thau y Bardd Cwse-. Yn nghyda darlun o'r Lasynys, hen gartref yr Awdwr a darluniau eraill. Gan ELIS WYN 0 LASYNYS. 14- Christmasia, gan DAVID OWEN (Brut us). "Bywgraffiad campus o'r enwog CHRISTMAS EVANS, gan ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yn dda." h?:' £ S £ ;*3'.Sry•1 c™°*- n° y sanwyd ef,. e" °"M*d ° 1 Y DDAU LYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 2s. 6ch. 17.-Llyfr y Tri Aderyn. Dirgelwch i rai 1 w ddirnad ac i eraill i'w watwar. Gan MORGAN LLWYD o WYNEDD. Un o'r llyfrau hynotaf yn yr Iaith Gymraeg. Gyda NODIADAU AR FYWYD YR AWDWR, gan y Parch. OWEN JONES, B. A., Liverpool
Advertising
PHIENIX OIL MILL CO. LIMITED, Uvevpool, MANUFACTURERS OF FEEOTNG STUFFS EXTENSIVELY USED ■ THE LEADING PEDOEE STOCK OWTTRS "PHOENIX PURE" CALF MEAL Per 17/6 Owl. Delivered at any Station. UMSEEfl C ? a COTTON CAKE -mum fo
/RHWNG BRYNIAU ERYR1.
RHWNG BRYNIAU ERYR1. Nos Sadwrn. BYDD yn dda gan ddarllenwyr y Oymro ddeall fod ein cyfaill PLENYDD WEDI MENDIO eto, ac os nad ydyw wedi decbreu eisoes ar ei waith areithyddol y mae yn barod i wneud hyny. Rhaid i'n cyfaill gymeryd mwy o ofal ohono ei hun-rhaid iddo gofio nad ydyw wedi'r cwbl end cig a gwaed ac esgyrn, fel rhyw greadur arall, ac nad gwiw iddo roddi gormod o strain ar ei gorphyn. Yr wyf yn meddwl mai un o ddiffyg- ion ein cyfaill ydyw teithio gormod i gyflawni ei engagements-yn y De nos Lun, yn Lerpwl nos Fawrth, yn sir Fon nos Fercher, yn sir Dre- faldwyn nos lau, yn sir Gaernarfon nos Wener, ac yn Ffestiniog nos Sadwrn. Mae arnaf ofn mai rhywbeth yn debyg i hyny y mae ei gy- hoeddiadau. Dylai gymeryd dalen o ddyddiadur yr ben bregethwyr Methodistaidd-y rhai y dywedai Owen Williams o'r Waenfawr y byddai 4'y cesig yn sigo danynt." 'Doedd fawro deithio can' milldir mewn diwrnod yn eu hanes hwy. Rhywbeth yn debyg i hyn oedd taith diwrnod ddydd Sabbath, Corwen a Chynwyd ddydd Llun, Llandrillo am 10; Llandderfel am 2; Bala am 7. 'Doedd fawr ryfedd fod golwg raenus ar y meirch a'r marchogion a rhaid cofio y byddai y pregethwyr y pryd hyny-H the good old times "—yn cael peint o gwrw cartref cyn dechreu y bregeth a pheint ar ol darfod. Ond nid oes ganym, ar ol chwilio holl groniclau capelau Cymru, hanes fod Plenydd erioed wedi cael cymamt a haner peint yn y ty capel yn ystod ei fywyd. Wel, wrth gwrs, mater o opiniwn ydyw a fuasai haner peint yn help iddo ai peidio, a gwyddom fod gan Plenydd very decided opinions ar y pwnc. Wel, y mae yn dda genym ddeall fod ein "Gough Cymreig" wedi mendio, a gobeithiwn y caiff bob iechyd a nerth i fyn'd yn mlaen i ymlid meddwdod o'n tir, Llythyr doniol dros ben oedd eiddo eich go- hebydd H. yn rhoddi hanes y derbyniad a gafodd TOM ELLIS, A.S., yn neheubarth Affrig. Pwy byth a fuasai yn meddwl fod cynifer o Gymry gwladgarol wedi ymsefydlu yn y wlad hono ? Yr wyf yn sicr fod chwarelwyr Ffestiniog yn teimlo yn falch ac yn ddiolchgar i H a'i gyfeillion am roddi y fath groeeaw i'w haelod Seneddol. Bobl anwyl, fel mae'r blynyddoedd yn myned heibio—y mae yn ymddangos megys yr wythnos diweddaf, pan oeddwn yn llencyn yn mhriodas tad a mam yr aelod dros Feirion, a llawer noson ddifyr o flaen tan mawn Tycerrig, Llangower, hen gartref teulu Tom Ellis, a llawer gwaith y bum pan yn hogyn bychan yn cerdded yn llaw Thomas Ellis i gapel y Glyn, adeilad bychan a safai, ac a saif eto o ran hyny, ar un o'r llanerchi mwyaf rhamantus. Yr oedd tri brawd yn y Tycerrig, Thomas, Edward, a John, a dwy chwaer, sef Gwen a Catherine. Y mae yr oil yn gorwedd yn mynwent Llangower, oddigerth Mr Thomas Ellis, Cynlas, tad ein gwron, a Mrs Peters, gweddw y diweddar Barch Evan Peters, Bala, "Apostol y Plant." Digwyddodd tro lied ysmala i'eh gohebydd ar un o'i ymweliadau a Thyeerrig. Gwahoddwyd ef yno i dreulio Sul, a phrydnawn Sadwrn daeth Miss Catherine Ellis i farcehnad y Bala ar gefn y gaseg wine', fel y byddai arfer y dyddiau hyny, a chafodd eich gohefcydd y fraimfc, yn grwtyn bychan wyth oed, farchogaeth wrth egil ei fodryb Catrin. Oud cymsrodd trychineb enbyd le cyn cyrhaedd I Tycerrig. Pan oedd yr hen gaseg wine yn myned jog trot o dan Bryn Hynod, dyma hi yn rhoddi wib nes yr oedd modryb Catrin a'i nhai i lawr yn y baw, a "Black Bess yn carlamu tua ehartref. Ar ol teimlo a deall nad oedd asgwrn wedl ei dori, aethpwyd i edrych beth oedd yr achos o'r trychineb, a chafwyd allan mai hen ddafad ddu oedd wedi dychrynu "Black Bess" ae iiidyr ysbryd a f-yddai ambell dro yn aflon- yddu teithwyr trwy goed Pant yr Onen. Nid dyna y tro cyntaf i "ddafad ddu" aflonyddu ar heddwch. Y mae llawer "dafad ddu hyd y dydd heddyw, mewn llawer teulu, wedi peri poen a blinder. Cyrhaeddodd "Black Bess" fuarth y Tycerrig yn ddyogel wedi llamu dros lidiardau, fel y byddai Black Bess Dick Terpyn" yn llamu dros y lurnr)ike Gates" pan yn dianc o afaelion y cwnstabliaid, a chyrbaeddodd eich gohebydd a'i fodryb ben eu taith. Tri o ddynion tal a chedyrn oedd y tri brawd o'r Tycerrig. Unprydnawn Sabbotb,pan yr oedd y teulu oil wedi myn'd i'r -capel, torwyd i'r ty gan ddau leidr, ond tra yr oedd y dyhirod wrthi yn chwilota am y trysorau, daeth y teulu adref, ac mewn ychydig funydau yr oedd y lladron wedi eu rhwymo yn ddyogel gan y tri brawd, ac un o'r gweision ar gefn "Black Bess" ar ei ffordd i'r Bala i nol y cwnstabliaid. 'Doedd dim son y pryd hyny am ddynion y cotiau gleision, na threth drom ar y sir i gadw "plismyn," y rhai mewn llawer lie nid ydynt "neither use or ornament." Maegenymadgofion melus am lawer tro yu CAPEL Y GLYN, un o'r capelau lleiaf mae'n debyg (oddigerth Cefndwygraig) yn sir Feirionydd. Onderlleied ac anaddurniadol oedd yr ben gapel, fe godwyd dynion da yno, nid amgen Thomas Jones, cenhad- wr, a'i frawd Evan Jones, Evan Peters, ac eraill. Ardal grefyddol iawn oedd ardal y Glyn. Gellir dweyd ei bod yn unique yn hanes Methodistiaid Cymru. Nid oedd yr un o wrandawyr y Glyn heb fod yn perthyn i'r seiat. Yr wyf yn cofio bod yno rhyw nos Sabbath tuag amser y diwygiad mawr yn y flwyddyn 1859, yn nghwmni y Parch Dr. Dickens Lewis-yr oedd yntau y pryd hyny yn llanc ifanc newydd ddod o Lerpwl i'r Bala, ac yn llawn tan y diwygiad. Cafodd y pregethwr hwyl anarferol. Ar y diwedd dyma yr hen flaenor yn codi ar ei draed ac yn dweyd, Mae yma seiat ar ol;" ond nid aeth un enaid byw allan. Yr oedd pawb yn perthyn i'r seiat. Wrth I gerdded adref, gofynais i'r pregethwr (Dickens Lewis), "Wel, 'does dim eisiau i chi ddyfod i'r Glyn i bregethu eto-y mae pawb wedi eu hachub." "Wel, gyfaill," meddai yntan, "y mae hyny yn fwy nas gallaf fi ddweyd. Y mae arnaf fi ofn nad ydyw pawb sydd yn perthyn i'r seiat ddim yn gadwedig." Mae arnaf finau ofn hefyd, Mr. Gol. Mae defaid duon yn mhob deadell, ac us yn mbob gwenith ond fel y dy- wedai yr hen Robert Thomas o'r Llidiardau yn aml Daw dydd o brysur bwyso Ar grefydd cyn bo hir Ceir gwel'd gan bwy mae sylwedd, A phwy sydd heb y gwir. Yr wyf wedi tramwy gryn dipyn oddiwrth fy nhestyn heno, Mr. Gol., ac wedi myn'd dipyn yn mhell i'r gorphenol, megys ag y mae arfer "hen bobl." Byddaf yn cael llawer o bleser yn y gorphenol. Y mae y presenol yn ddigon helbulus yn ami, ac y mae y dyfodol yn dywyll —ydi, yn dywyll iawn i bawb. Nos Tun. Y FRENHINES A WHISKEY'R BALA. Fe ddywed y papyrau beddyw fod ei Mawrbydi y Frenhines wedi ei boddhau yn fawr gyda plans gweithfeydd Whiskey y Fron- goch, ger y Bala, a'i bod wedi cydsynio i dderbyn presant o gasgen fechan o'r chwisgi Cymreig." Gan mai fferm ydyw y Frongoch ac nid tref na phentref, rhyw dair milldir o dref y Bala, mae'n debyg mai "Bala W htskey ei gelwir, ac felly ceir Dublin Stout," London Gin," "Burton Ale" a "Bala Whiskey." Y mae y stwff o ba un y gwneir y Bala Whiskey yn tarddu yn mynydd yr Arenig, ac y mae yn treiglo i lawr trwy fawndir, o dan yr enw Afon Treweryn, ac yn cyrhaedd y Ddyfrdwy ger Haw y Bala Junction Station. Mae'n debyg fod y drychfeddwl o wneud chwisci o ddwfr yr Arenig i'w briodoli i'r ffaith fod bias mawn arno-" smack of bog." Ac fe ddywed y rbai sydd yn deall pethau felly, nad ydyw cbwisgi heb flas mawn arno i fynu i'r mark. Mae yn debyg iawn pe buasai whiskey y B,,la yn bod yn amser dyddiau Profedig- aetbau Enoc Huws," poor fellow, mai dyna fuasai Capten Trefor a Mr. Simon, gweinidog Bethel, yn yfed yn lie Scotch Whiskey," pan oeddynt yn ewyllysio "Llwyddiant i'r achos dirwestol," a Mr. Simon yn gwaeddi "prime, prime." Wel, wel, y mae y Bala wedi bod yn nodedig am lawer o flynyddoedd am ei "Sasiynau," ei Cholegau," a'i "Llyn o ddwfr glan gloew." Ond gan fod y Frenhines wedi gwel'd yn dda roddi ei nawddogaeth i'r Arenig mountain dev)," sef dyfroedd alcohol edig y Tre- weryn, o hyn allan bydd y Bala yn nodedig am y "Royal Welsh Whiskey," as used by the Royal Household. Ysbrydion Dafydd Cad- waladr, Dafydd Rolant, a Simon Jones, pa le yr ydych ANDBONICTJS. Caernarfon.
EISTEDDFOD DOLGELLAU.
EISTEDDFOD DOLGELLAU. NODIADAU. DYMA "hen wyl anwyl Meirionydd am 1891 wedi Jlithro i blith y pethau a fu, gan adael amryw bethau ar ei hoi yn ffrwyth myfyrdod am ychydig ddyddiau. Un o'r rhai hyn yw y ffaith na ddaeth y cadeirfardd na'i gynrychiolydd yn mlaen. Pa faint bynag o swyn a synwyr sydd yn y ddefod o gadeirio bardd, mae yr oil yn cael ei golli os na bydd y bardd buddugol yn bresenol ei hunan. Mewn naw o bob deg o achosion, cynrychiolydd a gadeirir; ac yn wir, nis gall yn hawdd fod fel arall,oherwydd tra y mae y bardd yn disgwyl cadair, ac yn bresenol ei hunan yn Eisteddfod Cae Lienor, y mae wedi anfon cyfansodd- iadau i mewn i eisteddfodau Cwmderwen, Tanyddol, a Glyn Caradog, ac felly gan nad yw ef, mwy na rhyw feidrolyn arall, yn hollbresenol, rhaid iddo wrth gynrychiolydd. Eithr pan y gwelwn, fel yn Nolgellau, y bardd yn absenol, ei gynrychiolydd heb ei eni, a'i enw yn nghudd, y mae yn insult o'r mwyaf i'r Eisteddfod. Y mae yr ysgrifau ym- ddangosasant yn ddiweddar yn Nghymru Fydd wedi codi cywilydd i wyneb rhai o'r helwyr cadeiriau a gwobrwyon sydd yn fwrn ar ein heisteddfodau. Y mae y wlad yn gweled nad yw yn anrhydedd na chlod i gadeirfardd cenedlaethol enill yr unrhyw oruchafiaeth yr ail waith. Os oedd y buddugwr yn Nolgellau yn gadeirfardd cenedlaethol, pa reswm oedd ganddo dros ymgeisio eilwaith mewn eistedd- fod lai ei phwysigrwydd ? Y gwirionedd am dani yw fod marwnadu, a galarnadu, a chystadlu wedi dirywio gymaint fel ag mewn lluoedd o achosion nid ydynt ond mater o £ s. c. Ond ar yr un pryd, buasai yn llawer gwell i'r ymgeisydd hwn dderbyn ei wobr a'r gadair, na thaflu anfri ar dref a phres- wylwyr Dolgellau drwy eu gwrthod. Llawenydd i lawer o gyfeillion Mr. Wilfrid Jones oedd clywed ei fod yn fuddugol ar oddeutu ugain o gydymgeiswyr ar gyfansoddi Anthem Fer Gynull. eidfaol. Cadd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Mr. Bennett, a hyderwn y clywir canu ar yr anthem yn Eisteddfod Dolgellau 1892. Nid oes dim o'r braidd mor aahawdd ei ddeall a'r hyn a feddylir wrth anthem gynulleidfaol, ac y mae yr anhawsder yn fwy fyth pan ychwanegir "fer" neu "syml" at hyny. Dywed un dosbarth mai yr hyn a feddylir yw, anthem fyddo yn meddu graddau o boblog- rwyd(I yn ei halawon, ac o symlrwydd yn ei chord- iau, fel ag y gall y gynulleidfa oll cyn pen ychydig amser ei chanu yn y gwasanaeth. Meddylia dosbarth arall mai yr hyn a olygir yw, anthem ag y gall cor cynulleidfaol ei dysgu, a'i chanu yn y gwasanaeth. Y mae dosbarth arall yn credu mai yr hyn a olygir yw, anthem ag y gall cor o leisiau gwrteithiedig, megys cor Westminster Abbey, neu St. Paul's Cathedral ei dysgu a'i chanu yn y gwasanaeth Un o'r dosbarth diweddaf hwn yw Mr. Wilfrid Jones, ac felly hefyd Mr. Bennett. Ein rheswm dros restru Mr. Jones yn y dosbarth hwn yw hyn. Y mae yn yr anthem fuddugol solo bass, quartette, ac hefyd independent accompaniment for the organ. Gwel pawb oddiwrth hynyna na fyddai'r anthem yn "gynulleidfaol" iawn yn Nghymru ar hyn o bryd. Mae yn debyg y gallasai amryw o'r cystadleuwyr gynyrchu rhywbeth yn debyg o ran style, eithr yr oeddynt yn cadw eu hunain in check fel y dywedwn, ac yn cuddio llawer o gelfyddyd gerddorol er mwyn dyfod i lawr i safon yr hyn a feddylient hwy yn anthem gynulleidfaol." Wrth gwrs, nid ydym yn beio Mr. Wilfrid Jones o gwbl, ond yn hytrach yn ei edmygu am ei allu, a'i barch i dalent gynulleidfaol Gymreig. Eithr ar yr un pryd buasai yn eithaf peth cael gwell cyd-ddealltwriaeth gyda golwg ar yr hyn a feddylir wrth anthem gynulleidfaol." Yr oedd y cyngherdd eleni eto, fel arfer, yn wledd gerddorol o'r fwyaf blasus. Perfformiwyd Spohr's Last Judgment gan y c6r, yn cael eu cynorthwyo gan Mr. Lucas Williams, Mr. Mal- dwyn Humphreys, Miss Madge Roberts, a Miss Naomi Hardy, yn nghydag orchestra gyflawn dan arweiniad Mr. V. V. Akroyd, Liverpool. Y flwyddyn ddiweddaf perfformiwyd "Holy City" (Gaul), a'r flwyddyn cynt "Mors et Vita" (Gounod). Fel hyn gwelir fod Mr. 0. 0. Roberts yn gwneud ymdrech egniol (fel y diweddar J. J. Roberts yn Mhorthmadog), i gyfodi chwaeth gerddorol Dolgellau drwy sicrhau perfformiad rhagorol o un o weithiau y prif feistri y naill flwyddyn ar ol y llall. Cam hapus yn yr iawn gyfeiriad oedd rhoddi cyfleusdra i ni glywed "March" o waith Mr. J. T. Rees, Aberystwyth, yn cael ei chwareu gan y gerddorfa, a'r cyfansoddwr ei hunan yn arwain. Yr oedd yna elfen gref o boblogrwydd yn yr alawon, a chadd dderbyniad croesawgar gan y dorf. Nid llawer o orchestrators sydd genym yn Nghymru; ai nid priodol iawn fuasai rhoddi gwahoddiad i un o'n eerddorion ieuainc i gyfansoddi rhywbeth tebyg erbyn yr Eis- teddfod nesaf? Un atalfa fawr i lwyddiant Eisteddfod Dolgellau yw prinder lie. Nid ei llwyddiant mewn ystyr arianol a feddyliwn, ond ei llwyddiant er sicrhau cysur i'r gwrandawyr. Nid oes ond oddeutu dwy lath o le ar y Uawr wrth y pared pellaf i rai yn talu swllt am fyned i mewn. Yn y cyngherdd cymerir oddeutu haner y llawr gan y reserved seats. Y mae yn sicr genym fod digon o gyfoeth yn Nolgellau— gwlad yr aur, onide ?—i sicrhau Neuadd Drefol well o lawer na'r un bresenol. Gan hyderu y cymerir y peth Hynu y terfynaf.—Yr eiddoch, CRITIQUE. o
Profedigaethau Enoc Huws.
Wel, be sy'n myn'd ym. mlaen ? Tipyn o seiat mi wranta 1 Sut mM hi arnoch chwi erbyn hyn, Sarab 1" Pur gwln, Richard, ac onibae mod i'n gwbod ifod gynoch chi gwaaapeini mi faswn yn meddwl y'ch bod chl'n o ddiifeind ohona i," ebe Mrs. Trefor. Dyna'r unig reswm, Shrah, ni buasai yn wedl.dusii mi adael Mr. Simon, er bod fy meddwl i gyda chwi yn barhaus, a nghalon i yn llosgi eisiau cael d'od i ddweyd y aaewydd da i chwi, yr hwn a glywsoch er's meityn, mi wn, gan Susi neu Mr.. Huvvs," ebe'r Capfeen. Na, iddaru mi son dim,dada, wrth y mam," ebe Susi. u Does bosib ebe'r Capten, eich bod heb ddweyd wrth eich mait am yr hyn sydd wedi ein Ileuwi b, llawenydd a gorfoledd heno ?" "Beth ydio, Richard? Oes ene ddiwygiad wedi tori allan 1" gofynai Mrs. Trefor. "Na," ebe'r Capten, ''nid newydd o'r natur yna sydd genym heno, er, mae'n rhaid i mi gyfaddef, fod llwyr angen am ddiwygiad, ac ar neb yn fwy nag arnaf fi fy bun, ac, os nad ydwyf yn twyllo fy hun, fe fuasai yn fwy peth yn fy ngolwg, ac yn fforddio mwy o lawenydd i m glywed am ymweliad grymus mewn ystyr grefyddol na'r llawenydd a gynyrehwyd yn fy nghalon gan y aewydd da a swniodd ar ein clyb- oedd ychydig oriau yn ol, oblegyd mae'n rhaid i ni, os bydd ystad y galon a'r ysbryd yn eu lie, roddi y flaenoriaeth i bethau ysbrydol a chref- yddol, gan nad beth, mewn ffordd o siarad, ydyw-" Mae Sem Llwyd, mam, yn deyd ei fod wedi taro ar y faeu yn Nghoe lmadog dene'r newydd," ebe Susi. Edrychodd y Cap ten yn geryddol ar ei ferch, ond cyn iddo ddweyd dim yn gas, cofiodd fod Enoc yn bresenol, a lliniarodd ei olwg, ac ychwanegodd Susi, "Mae hi yn dechreu myn'd yn bwyr, dada." Quite right," obe'r Capten. "Dyna fo, Sarah, mae Susi wedi dweyd y newydd da i chwi mewn un gair." Yr oedd Mrs. Trefor wedi clywed gynifer o weithiau yn ystod ei hoes am daro ar y faen fel na ddarfu i'r newydd effeithio rhyw lawer arni, a'r unig beth a ddywedodd oedd Ho Cododd Enoc i ffarwelio a Mrs. Trefor, ac i fyned adref. Aeth Miss Trefor i "ddangos Enoc allan," gan adael ei thad i ymeangu ar y newydd da i'w mam. Ond nid dyna oedd y peth pwysicaf gymerodd le y noson hono. (]'w barhau yn ein nesaf.) o