Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

o Ein Cenedl yn Manceinion

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

o Ein Cenedl yn Manceinion Y MAE Manceinion yn hynod am ei holidays. Dyma Wyliau Nadolig er engraipht, ac amryw weithfaoedd pwysig yn sefyll am wythnos gyfan-a dim gwaith dim cyflog wrth gwrs, ac mae colli wythnos o gyflog yn fwy nag a all y mwyafrif o weithwyr fforddio ar adegau celyd fel hyn, ac mae y seibiant oddiwrth lafur yn mynych droi allan yn fwy baich nag o bleser, a theuluoedd yn gorfod dyoddef yn fynych oddiwrth brinder. Ond y mae pethau yn dechreu d'od i'w trefn arferol y flwyddyn hon eto, am yr hon y gellir dweyd y bydd- Yn fis lonawr mewn einioes i rai, I eraill fel Ebrill ymegyr A'r flwyddyn i eraill fydd megys mis Mai, I eraill bydd hon yn fis Rhagfyr." Da iawn gan bob Cymro yn sier yw deall fod 11 Cymru lân-Gwlad y gan," yn dal i fynu ei henw anrhydeddus fel GWLAD Y. MENYG GWYNION, ac nid rhyw ddigwyddiad unig mewn un sir yn Nghymru yw hyn. Ond gwelaf fod sir Fflint, sir Fon, a sir Andronicus hefyd, wedi anrhegu y barn- wyr a menyg gwynion am nad oedd carcharorion i sefyll eu prawf,—dechreu blwyddyn a newydd dda iddi eisioes Nid oes dim a'm boddlona i yn fwy na chael cofnodiadau o'r fath yn y newyddiaduron Seisnig yma. Oblegyd 0 mor brysur y maent os bydd i rywbeth ddigwydd ag achos i'w gondemnio yn Nghymru Dechreuir trefnu genym ar gyfer dathlu DYDD GWYL DEWI SANT. Y mae yn anffodus nad ellir coffhau yr hen Sant ar ddydd cyntaf o Fawrth eleni, am fod y diwrnod cenedlaethol yn disgyn ar y Sabbath, ac ar gyfrif hyny bwriedir cadw yr wyl flynyddol ar yr 2il o Fawrth, yn ol yr hysbysiad a welir mewn colofn arall. EINION EFELL.

PWLPTJDATJ CYMREIG MANCHESTER,…

CYNHEBRWNG DR. HUGH O. THOMAS-

o NEWiDDION CYMREIG.

: o : DYFFRYN EDEYRNION.

[No title]

Advertising

Y DIWEDDAR BARCH. JOHN PUGH,…

--0-Y GYMDEITHAS GENEDLAETHOL.