Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ADDYSG CANOLRADD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDYSG CANOLRADD. Y PUMED LLYTHYR: LLUOSOGI'R YSGOLION. Y SYNIAD a goleddir am brif amcan yr Ysgolion Canolradd a benderfyna eu rhif, dyweder a fyner. Os llanw'r colegau ydyw hwnw, fel y tybia llawer, a pharotoi bechgyn a genethod dosbarth canol y Cymry gogyfer a'r galwedigaethau bonheddig, bydd nifer bychan o ysgolion yn y trefi, yn nghyda'r gyfundrefn ysgoloriaethol ar gyfer plant galluocach yr ardaloedd gwledig, yn ddigon, ond os nad ofer ein hymbil am iawnderau gweithwyr Cymru, ac os mynwn roi moddion bywyd uwch, mwy diwylliedig a mwy ded wydd, yn ngafael plant goreu gwyrtlawd ein gwlad, rhaid i ni luosogi'r ysgolion hyd eithaf ein gallu. Cadwed fy nghydwladwyr olwg glir ar amcan yr ysgolion, ac nid oes achos petruso na fynir moddion cymhwys i'w gyrhaedd, ac ni lithir y werin a rhesymau coeg. Ond feallai mai doeth cydmaru yn ofalus fanteis- ion ychydig o ysgolion mawrion, a lluaws o ysgolion llai. Er mwyn gwneud pob chwareu teg a phleidwyr yr ychydig ysgolion mawr, caniataf iddynt, yr hyn nas gallaf ei gredu, y bydd modd cynyg digon o ysgol oriaethau i fechgyn a genethod y wlad i'w gosod ar yr un tir aphlant y trefi, fo'n byw gerllaw'r ysgolion. Y ddadl bwysicaf, yn wir yr unig ddadl, DROS YR YSGOLION MAWR ydyw, y cyfrenir gwell addysg ynddynt, a hyny am amryw resyniau. Yn gyntaf, gellir penodi mwy o athrawon, a dosranu'r gwaith rhyngddynt yn llawer gwell. Gellir penodi athraw ar bob un o'r prif ganglienau, un at iaith a llenyddiaeth Seisnig a hanesiaeth; un at yr ieithoedd clasurol; un at wahanol ganghenau Meintoneg; un at y gwydd- orau, ac un arall at y Ffrancaeg a'r Ellmynaeg. Gellid hefyd gael adran mewn ysgol fawr er addysgu egwyddorion gwaith llaw, a lie i'r merched ddysgu coginio, yn nghyda phynciau eraill anheb- gor i gysur aelwydydd Cymru. Os rhoir cangen benodol o dan ofal athraw, y mae gwell gobaith y gellir sicrhau gwir addysg yn y ganghen hono. Os rhoir amryw ganghenau iddo, bydd ei wybodaeth o rai ohonynt yn arwynebol, a'i addysg mewn can- lyniad yn ddifin a diysbryd. Yn y lie nesaf, gellid sicrhau gwell athrawon oblegyd gellid eu talu yn well. Ac yn y trydydd lie, byddai mwy o gydym- geisio rhwng yr ysgolheigion, ac y mae hyny'n help mawr iddynt hwy a'r athrawon; tra yn yr ysgolion by chain byddai'r dosbarthiadau mor fy chain, ac mor lleied o ymgystadlu ynddynt, fel mai anhawdd iawn, os nad anmhosibl, fyddai cadw bywyd ac yni gweithgar-hanfod pob twf meddwl a moes-yn y dysgyblion na'r athraw. Byddai eangach awyr- gylch, syniadau, ac esiamplau mwy dyrchafol yn yr ysgolion hyn rhagor mewn rhyw fan ysgolion yn nghymoedd Cymru. Ymgymysgai plant y naill ddosbarth a phlant y lIall; gwywai dylanwadau cul y sect a'r blaid, a gellid disgwyl gyda hyder y diflanai'r elfen hacraf yn mywyd cymdeithasol Cymru, ac y cyfanid y rhwyg sydd rhwng Eglwys- wr a chapelwr, a rhwng bon a gwreng. Gwell i ni o lawer fyddai ychydig o ysgolion da, a digon o rym ynddynt i newid agwedd ein bywyd fel cenedl, na lluaws o ysgolion bychain, dinod, a dinerth. Y mae grym yn y dadleuon hyn yn ddianmheu, a manteision mewn ysgolion mawr nas ceir mewn ysgolion bychain. Ond a oes digon o werth ynddynt i'w sefydlu hwy yn unig, a hyny ar draul yr ysgol- ion llai, sydd bwnc arall. ANFANTEISION YSGOLION MAWR. Yn y lie cyntaf, nid yw yn hollol sicr, er i'r dos- barthiadau fod yn fwy a'r athrawon fod yn well yn yr ysgolion mawr y bydd yr addysg ynddynt yn rhagori, os ystyrir yr holl amgylchiadau. 0 leiaf y mae yn anmheus iawn a ydyw ysgolion elfenol y trefi yn well ar gyfartaledd nag ysgolion elfenol yr ardaloedd gwledig. Oblegyd fel y lluosoga'r ysgol- heigion y mae cysylltiad a dylanwad personol yr athraw ar y plant yn lleihau; ac y mae hon yn elfen bwysig iawn mewn addysg dda. Heblaw hyn, digon prin y gellid rhoi sylw priodol mewn ysgol fawr i anghenion arbenig y gwahanol ardaloedd. Er engraipht, rhoddai ysgol yn Methesda le neill- duol i Ddaeareg a Mwneg, ond prin y gellid gwneuthur hyn yn Mangor, He y byddai anghenion y lluaws plant o'r gwahanol ardaloedd yn amryfal. Ond pa un bynag am hyn, bydd coll amser y plant wrth dramwyo gyda'r tren yn fwy na chydbwys a'r enill a gant oddiwrth ysgolion y trefi. Tebyg yw, a chymeryd Bethesda eto fel esiampl, nas gallai y bechgyn a'r genethod fyned o'u cartrefi i'r orsaf, o orsaf Bethesda i orsaf Bangor, ac oddiyno i'r ysgol, mewn Ilai nag awr o amser ar gyfartaledd, a chymerai awr iddynt ddychwel, a hyny hyd yn nod pe byddai y tren yn gyfleus. Ac y mae'r peltder yn llai a'r trens yn fwy cyfieus nag a geid yn y cyffredin o ardaloedd gwledig Cymru. Mewn rhai Ileoedd, megys Caergybi, collai plant y wlad oriau bob dydd; ac nid oes genyf fi un anmheuaeth na fydd teithio dyddiol yn anmhosibl mewn lluaws o leoedd. Heblaw hyn, tybier fod haner cant o fechgyn a deg ar hugain o enethod yn myned o Fethesda neu Lanberis hwyr a boreu gyda'r tren, beth ddywedai'r bobl hyny na fynant i'r bechgyn a'r genethod gyd- gyfarfod yn yr un ysgol? Ai doeth i gynifer o blant gyd-dramwy heb neb i ofalu am danynt? Pa un oreu hyn ai cael ysgol lai, ac os myner, lai effeith- iol, gartref? Os dyrchafol dylanwad ysgolion mawr, nid dyrchafol, a dweyd y lleiaf, fydd y teithio dyddiol iddynt foreu a hwyr. Ond yn y lie nesaf, byddai y cynllun hwn YN FWY COSTFAWR i'r dosbarth gweithiol. Yn un peth byddai raid, yn ngolwg llawer rhiant, dilladu'r plant yn well os elent i'r dref, ac y mae yn ddianmheu genyf fi y glynai wrth yr ysgolion mawr rai o arferion costfawr Ý Public Schools, ac y byddai llawer gofyn ar y rhiaint tlawd, fynent roi eu plentyn eu hunain aryr un tir ag eraill, na theimlent oddiwrthynt mewn ysgol lai yn eu plwyf eu hunain. Ac yn mhellach, fe deimlent lai oddiwrth bwys cynaliaeth y plant hefyd pe caent gyd-fwyta a'r teulu. Feallai y dywed rhywrai mai rhesymau bychain ydyw'r thesymau cyffredin ac agos hyn. Ni thybiaf fi hyny, ond i'r gwrthwyneb, y byddent yn ddigon pwysig yn ngolwg miloedd gweithwyr Cymru i beri iddynt ddewis ysgol fach yn agos atynt er holl fan- teision ysgolion y trefi. Nid bychan yn wir unrhyw ddylanwad ddelo a'r ysgol i gyrhaedd y plant, ac a'u cadwo mewn cysylltiad agos a'u teuluoedd. Ond y mae rhesymai mwy yn ol y dymunaf sylw arbenig atynt. Mewn lluaws mawr o leoedd gwledig byddai teithio mor annghyfleus fel y byddai yn angenrheidiol i'r ysgolheigion letya yn y trefi. Yn awr, pa le bynag y Iletya'r plant, pa un bynag ai yn yr ysgol ochn ofal yr athrawon, ai mewn adeilad (hostel) at y pwrpas, ai mewn tai cyffredin, fe gollant ddylanwad aelwyd eu rhieni. A dyma. i'm tyb i, golled foesol, a cholled rhy drom o lawer i ni ei gwynebu os gellir ei hosgoi. Nid wyf fi'n anmheu dim na fydd dylanwad athraw diwylliedig yn uwch a phurach na dylanwad llawer aelwyd, ond er hyny, anfynycli iawn, os byth, y ceir athraw all fod fel tad a mam i ugain neu ddeugain o blant fo dan eu gofal nos a dydd. DYWEDAI DEON LLANELWY yn ddiweddar, y gwyddai efe am fechgyn yn Nghymru ddinystriwyd gan ddylanwad eu tai llety. Dianmheu hyn a dianmheu hefyd y dinystriwyd canoedd lie y lletyai'r plant yn yr ysgolion. Nid wyf fi am godi dadl os gallaf beidio, na cheisio dweyd pa ddylanwad fu y mwyaf niweidiol i foes a chrefydd Cymru yr amser a aeth heibio ond gwn y cydwel lluaws fy nghydwladwyr a mi mai gwell o lawer, na'r naill na'r Ilall, yw cadw'r bechgyn a'r genethod dan ofal eu rhieni, os oes modd, fel y cydgerddo addysg yr aelwyd ag addysg yr ysgol. Pwy ond y rhieni a allant ofalu eu bod yn iawn dreulio oriau'r hwyr, ac yn defnyddio y moddion crefyddol yn ystod yr wythnos. Os nad wyf fi yn camfarnu'n ddirfawr, nid isel na gwael fydd dylan- wad aelwydydddinod y gweithwyr hyny anfonant trwy lawer aberth ddofn eu plant i'r Ysgolion Canolradd. Wrth ddadleu hawliau gweithwyr Cymru, mi wn i yn dda mai dros weithwyr crefyddol Cymru yr wyf yn dadleu. Cyfaddefaf fi gyda galar nas gallwn ni wneud dim ar hyn o bryd dros blant mewn amgylchiadau isel ag y mae eu rhieni yn ddilafur, neu yn wastraffus. Aelwydydd rhieni gweithgar, cynil, darbodus yn ystyr oreu'r gair, rhai a'u nod yn uchel, a'u hymgais dros eu plant yn cael ei lywodraethu gan syniadau doeth, fydd aelwydydd tlodion y gweithwyr hyny a fynant yr addysg oreli i'w plant. Bydd d.ylanwad y rhai hyn ar y plant eu hunain yn fwy gwerthfawr nag unrhyw ddylanwad arall. A dymunwn i weled rhieni Cymru yn teimlo yn fwy dwfn nag erioed mai arnynt hwy yn benaf, ac nid ar neb arall, y gorwedd y cyfrifoldeb o roi'r cyfeiriad moesol a chrefyddol i fywyd y plant. Nis gall nag athraw yn yr Ysgol Sabbothol na'r ysgol ddyddiol, nac unrhyw sefydliad na swyddog eglwysig, roi'r fath argraph ddofn a pharhaol ar ysbryd plentyn a mam neu dad rhin- weddol; ac y mae gofal ac arweiniad y rhieni yn neillduol o bwysig i'r plant ar yr adeg hono o'u bywyd pan y dechreuant hawlio eu rhyddid heb brofi ei gyfrifoldeb na gwybod nemawr am bwys an- nhraethol ymddygiad da. Y mae gormod o duedd eisoes mewn llawer i annghofio DYLEDSWYDDAU MOESOL YR AELWYD, ac i ymddiried addysg grefyddol y plant i eraill; ac yn hytrach na chryfhau'r duedd hon a Leihau moddion addysg foesol yr aelwyd, hoflwn i weled rhieni Cymru yn mynu hamdden nid yn unig i lafurio er darbod cynhaliaeth i'w plant, ond i'w hyfforddio trwy air a gweithred yn llwybrau rhin- wedd ar yr aelwyd gartref. Rhodder addysg grefyddol ac addysg foesol yn yr ysgolion ar bob cyfrif, pa un bynag font ai bach ai mawr rhodder mwy o le i hyn o lawer nag a roddwyd erioed yn Nghymru cyn hyn ond na thybied neb y gwna hyn i fynu am addysg yr aelwyd a gofaled gwerin Cymru na fyddo'r gyfundrefn addysg yn gosod an- hawsderau newyddion yn ffordd hyn. Y mae'r ystyriaeth hon ynddi ei hun yn ddigon o reswm, mi dybiaf fi, dros luosogi'r Ysgolion Canolraddol hyd eithaf ein gallu. Ond y mae un ystyriaeth eto y dymunwn ei gosod gerbron. Y mae yn anhawdd profi, feallai, yr addysgid nifer llai o lawer o blant Cymru er cael moddion arianol i dalu cost eu cludiad, neu eu llety yn y dref, na phe dodid ysgol yn eu hymyl. Ond nid oes neb anmheua hyn. Os disgwylid i bedwar ugain o blant fyned i ysgol yn Llanberis, a gred rhywun yr elai y pedwar ugain plant hyn yn ol ac yn mlaen i Gaernarfon bob dydd ? Dyweder fod cost cludiad crefyddwyr Llanberis i Gaernarfon yn cael ei dalu fel yr elont yn wythnosol i addoldai Caernarfon, a dybia rhywun yr elai cynifer o bobl Llanberis i Gaernarfon bob Sabboth ag sydd yn myned i'r addoldai yn y lie ? Nid oes un anmheu- aeth genyf fi y byddai pellder yr ysgolion ac an- nghyfleusderau a thrafferth teithio, yn ddigon i droi'r fantol yn erbyn addysg uwcliraddol miloedd o blant Cymru, ac mai'r unig ffordd i gyrhaedd corph y bobl yw d'od a'r ysgolion, hyd y mae'n bosibl, i'w hymyl. Nid oes angen ymhelaethu ar hyn- y mae yn ddigon amlwg i bawb synwyrol. Nid oes unrhyw nwydd naturiol na meddyliol, fel y gwyr masnachwyr yn dda, y mynir mwy ohono os dygir ef at y bobl. Ac nid oes dim grea'r fath awydd am addysg mewn ardal, na dodi ysgol ynddi. Y mae hanes plwyfydd bychain fel Bottwnog neu Ystradmeurig, a'r arweinwyr Cymreig fagwyd yn- ddynt, yn profi hyn. Gadawn ystyriaeth pellach y pwnc pwysig hwn hyd yr wythnos nesaf ond credwn ein bod wedi dweyd digon eisoes i ddangos mai annghydmarol well i Gymru fydd lluosogi man ysgolion, na sefydlu ychydig o ysgolion colegawl yn y prif drefi. HENRY JONES. Goleg y Gogledd, Bangor, Ion. 9fed, 1891. o

DYFFRYN CLWYD.

NODIADAU CERDDOROL.

o A AELWYD Y GAN.