Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

OWEN REES: OR, A Story of…

CREFYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CREFYDDOL. DATHLWYD Jiwbili Cenhadaeth y Methodistiaid ar Fryniau Khasia trwy ordeinio pedwar o'r brodorion i waith y weinidogaeth, yn mhresenoldeb 1,000 o bobl. Traddodwyd anerchiad ar "Natur Eglwys," gan y Parch John Jones, Jowrai, a'r siars i'r gwein- idogion gan y Parch John Roberts. Rhoddwyd galwad i'r Parch J. N. Jones (A.), Trecastell, gan eglwys Bethania, Cwmafon. Bwriada y Parch E. T. Davies, Abermaw, roddi i fynu ofal eglwys y Bedyddwyr yno ddiwedd y mis hwn. Derbyniodd y Parch D. L. Owen, Gwyddelwern, alwad wresog oddiwrth eglwys y Methodistiaid yn Mettws-yn-Rhos. Gwahoddwyd y Parch P. Gelly (T.C.), Blaen- rhondda, i fugeilio eglwys Horeb, Treherbert. Adeiledir capel newydd i'r Methodistiaid yn y Bontnewydd Mynwy, ac y mae yr eglwys wedi dewis Mr. D. L. Jenkins, Athrofa Trefecca, i'w bugeilio. Trosglwyddwyd capel Cymreig y Trefnyddion Wesleyaidd, Llandaf, i'r gylchdaith Seisnig, oblegyd cynydd yr iaith fain yn y rhanbarth. Beth sydd i'w ddisgwyl os na ddysgir Cymraeg i'r plant ? Ymddengys yn ol Adroddiad y Cofrestrydd Cyffredinol fod 251 o wahanol enwadau yn Lloegr a Chymru yn bresenol. Dichon fod y rhif ychydig yn ormod, os yw amrywiol ganghenau yr un enwad yn cael eu cyfrif ar wahan, ond er hyny y mae lluosogrwydd yr enwadau yn synfawr, ac yn rhwym o fod yn ffynonell o wendid mawr. Y gamp yw cael yr oil yn un heb wadu na chuddio y gwirionedd. Rhif y Ileoedd addoliad sydd wedi eu cofrestru neu eu cofnodi gan y Llywodraeth yw 26,799, cynydd o 433 yn y flwyddyn ddiweddaf, a thybir fod llawer o leoedd heb eu cofrestru. Dywed Mr. Stead yn y Sunday Magazine fod Booth, Byddin yr lachawdwriaeth, wedi iddo gael ei ddiarddel gan y Wesleyaid wedi ymgeisio am dderbyniad i Athrofa yr Annibynwyr, ond iddo gael dau lyfr ar yr "lawn," gyda'r awgrym i ddod yno yn mhen chwe' mis wedi newid ei farn. "Bras-ddesgrifiwr yn y British Weekly a sylwa mai yr hyn sydd yn atdyniadol yn y Parch F. B. Meyer, B. A., Regent Park, Llundain, yw ei fod yn siarad a dyn fel dyn, ac nid fel dinesydd, ac nas gellir cael gwleidydfllaeth yn ei bregethau o gwbl. Onid oes Ilawer o bregethwyr hynod yn mysg y Cymry a'u barnu wrth y rheol hont? Adeiladwyd capel City Road, Llundain, gan John Wesley, 112 o flynyddau yn ol. Bu Wesley farw Mawrth 2, 1791, ond y mae yr hen bwlpud yno, ac yn cael ei ddefnyddio bob Sabboth, ac y mae ei hen gadair yn y festri. Derbyniodd Mr John Lewis, o Athrofa Ponty- pool, alwad o eglwys Abercwmboye, Aberdar. o Beth ydych chwi, ebai amaethwr wrth ei gym-

[No title]

YR WYTHNOS WEDDIAU.

o CYMANFA BEDYDDWYR DINBYCH,…

Eisteddfod Meirion.

Advertising