Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--------I Blaenau Ffestiniog.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Blaenau Ffestiniog. YMADAWIAD. Nos Wener diweddaf, yn ysgol Gtanypwll, cynhal- iwyd cyfarfod o ffarwel a Miss Jane Jones a Miss Lizzie Davies ar eu hymadawiad o wasanaeth y Bwrdd. Cymerwyd y gadair gan Mr. E. Griffith, yr ysgolfeistr, ac wedi ychydig eiriau pwrpasol ganddo, aed yn mlaen gyda rhaglen ddyddorol. Caed caneuon gan Miss Madge Roberts, o Ysgol Uwchraddol y Merched, Mr. R. Ffestin Williams, Mr. William Owen, Nottingham, yn nghyda'r Select Amateur Glee Party dan arweiniad Mr. R. C. Williams, Tanygrisiau. Cafwyd detholiadan campus ar y violin gan Mr. W. Rees Jones. Ar ol gorphen gyda'r cyngherdd, caed gwledd ragorol, wedi ei pharotoi gan athrawesau ysgolion Glanypwll. Dymunwn bob llwyddiant i Misses Jones a Davies. CYMDEITHAS GWYR IEUAINC Y MASNACHDAI. Cynhaliodd y gymdeithas uchod ei chyfarfod nos Fawrth, y 6ed eyfisol, dan lywyddiaeth Mr. J. Kyffin, London House. Y mae y gymdeithas mewn sefyllfa ioddhaol iawn yn mhob ystyr, ac yn dal drws agored i holl wyr ieuainc ein hardal, pa un bynag ydynt yn gysylltiedig a'r masnachdai ai peidio. Nos Fawrth, aed trwy raglen ddyddorol, a chafwyd cyfarfod da. DAMWAIN DDIFRIFOL. Oddeutu dau o'r gloch brydnawn ddydd Mawrth, y 6ed eyfisol, brawychwyd amryw weithwyr yn chwarel y Graigddu gan dwrf ffrwydriid. Gwelwyd yn fuan fod damwain ddifrifol wedi digwydd i Robert Jones, chwarelwr, yn byw yn Bethania. Yr oedd ei law chwith wedi ei chwythu yn glir ymaith, ac nid oedd ond dau fys yn aros ar y llaw arall. Dinystriwyd hefyd un o'i lygaid, yr oedd ei ddillad wedi eu llosgi yn ulw, a gwnaed niweidiau trymion i amryw ranau o'i gorph. Nid oes gwybodaeth am y modd y cymerodd y ffrwydriad le, heblaw fod y truan anffodus wedi myned i chwilio am bowdr i r lie y cedwid ef. Cymerwyd ef adref yn union- gyrchol, a gweinyddwyd arno gan Dr. Roberts a Dr. Jones, ac y mae yn dod mlaen yn dda ar y cyfan, ac ystyried natur ei niweidiau. CYNHADLEDD FAWR Y GWEITHWYK. Bwriedir cynhal cyfarfod yn yr Assembly Rooms iios Iau nesaf, Ionawr 15fed, i ystyried penderfyn- iadau y gynhadledd uchod. Cymerir y gadair gan Mr. John Owen, High Street, a siaredir gan y Parchn. W. Pari Huws, a D. D. Williams, Peniel: yn nghyda Mri. W. P. Owen, Richard Jones (Meirion), D. G. Williams, a chyfeillion Ileol eraill. Bydd genyni adroddiad ilawn o'r gweithrediadau yn y rhifyn nesaf. Yr wythnos ddiweddaf y gwelsom yr arwydd cyntaf o fywyd yn y gwersyll Ceidwadol er yr etholiad diweddaf Cynhelir cyfarfod gwleidyddol yn ysgoldy Dubach, ac y mae yn ddianmheu fod yno lanvii gormod o le i gynwys hyny o Geidwadwyr sydd yn Ffestiniog. Gwehvn oddiwrth yr hysbys- len eu bod yn "gwahodd presenoldeb pawb." Nid ydym yn ddigon llygadog i weled pa beth a feddylir wrth hyny. Efallai mai yr hyn a olygir yw y gwahoddir pawb i fod yn bresenol. Nid oes le i bawb yn ysgoldy Dubach. Y BWRDD YSGOL. DYDD Gwener diweddaf cynhaliwyd cyfarfod neillduol o'r Bwrdd er gwneud ymchwiliad i achos Miss J. M. Roberts, is-athrawes gyat yn ysgol y Slate Quarries. Yr oedd yr holl aelodau yn bresenol. Parch W. P. Huws, B.D. Mr Cadeirydd, gan ein bod fel Bwrdd wedi ymffurfio yn Bwyllgor, a ydym i ystyried y cyfarfod hwn yn agored ? Yr wyf yn gweled fod rhai o'r gohebwyr i mewn. Y Cadeirydd (Parch T. J. Wheldon, B.A.) a ofynai a oedd Mr Huws yn dymuno rhoddi cynygiad ar y mater. Yr oedd ef yn tueddu i'r peth gael ei orphen yn gyhoeddus, gan ei fod wedi myned allan i'r wlad eisoes. Dr Evans Yr wyf yn cynyg fod i'r ymchwiliad fod yn gyhoeddus. Y Cadeirydd Nid oes angen os nad oes cynygiad gwahanol. Parch W. P. Huws: Nid oes genyf unrhyw wrthwynebiad, ond fy mod yn crybwyll y peth er mwyn cael cyd-dealltwriaeth ar y dechreu. Y Cadeirydd a sylwodd ei fod yn ystyried yr ym- chwiliad hwu yn un gwaradwyddus, ac yn ol ei farn ef yn annghyfreithlawn Yr oedd hefyd yn ei weled yn nonsensical yn gymaint a'i fod yn ymchwiliad i'r hyn a ddywedwyd gan aelod o'r Bwrdd pan yn cyflawni ei ddyledswydd. Yr hyn a wneir mewn amgylchiadau o'r fath yw dwyn rhesymau gwrth- wynebol i'r hyn a ddywedid, ac nis gall yr ym- chwiliad yn y diwedd lai na bod yn foddion i gaethiwo rhyddid un o'i aelodau ei hun, yr hyn sydd yn annghyffredin ac anmhosibl. Ni fuasai yr ym- chwiliad yn cymeryd lie o gwbl onibai am wahanol ystyriaethau a ddeuant i mewn. Hefyd y mae yr ymchwiliad yn un iselwael (mean)-hyny ydyw, y mae yn cyffwrdd ag anrhydedd gwr yn ei waith a'i fywyd ar wahan i'w opiniynau Y mae gwahaniaeth barn yn esgusodol, ond y mae yn beth hollol wahanol pan y mae cyhuddiadau yn cyffwrdd ag anrhydedd personol dyn. Y mae yr ymchwiliad hwn wedi ei wneud oherwydd awgrymiadau maleisus a wnaed genyf fi yn y Bwrdd o'r blaen. Nid oedd dim ger bron y Bwrdd trwof fi ond oedd wedini l'oddi gan y brif athrawes flwyddyn yn ol ac a dderbyniwyd gan y Bwrdd, ac a gadarnhawyd trwy atebiad i Miss Jones yn unol a'i llythyr. Y mae yr ymchwiliad yn anmheus hefyd. Pan ddygwyd y cyhuddiadau gyntaf ni ofynwyd am ymchwiliadau, ond yn awr, pan y mae yr is-athrawes yn ymadael, gwneir hyny, ac y mae gwadu neu gyhuddo pan y mae rhai yn myned allan o wasanaeth yn cynyrchu anmheuaeth. Eithr y mae cymeriad y brif athrawes yn y cwestiwn, ac y mae yn dymuno ar ei rhan ei hun gael ymchwiliad trwvadl, Sylwodd y Parch. J. Rhydwen Parry, pan yn ad-drefnu y staff, fod geneth ieuanc yn fwy agored i gael cam na phrif athrawes. Parch J. R. Parry: Yr hyn a ddywedais oedd hyn —fod is-athrawon yn fwy agored i dderbyn cam na phrif-athrawon am eu bod yn subordinate. Nid am yr hyn a ddywedwyd gan y cadeirydd yr oedd yr ymchwiliad yma i fo'd. Pan ddaeth y llythyr oddi- wrth Miss Jones, cynygiais fod ymchwiliad i'w wneud i'r holl fater cyn gwneud i ffwrdd a gwasan- aeth Miss Roberts, ond nid oeddwn yn meddwl i'r cadeirydd fod yn amddiffynwr yn yr achos. Y Parch W. Pari Huws: Yr oedd ef yn cefnogi yr ymchwiliad, er mwyn i'r eneth gael cyfle i am- ddiffyn ei hun. Y Cadeirydd Paham yr oeddych chwi y cyntaf yn y bwrdd y 13eg o Ragfyr, i son am y mater, a chwithau yn absenol o'r bwrdd blaenorol ? Pa reswm sydd genych dros gymeryd eich safle yn y mater hwn, pan y gallasech beidio myned i mewn iddo ? I I Mr Pari Huws Nid wyf yn myned i ofyn i neb, syr, pa biyd i siarad neu beidio siarad ar unrhyw fater fydd o flaen y Bwrdd. Yna gofynodd y Cadeirydd i Miss Roberts pa gyhuddiadau oedd y rhai y cyfeiriai atynt fel wedi eu gwneud ganddo ef ? Miss Roberts Yr oeddynt yn y papyr, syr. Y Cadeirydd A ydyw y papyr genych ? Tynodd Miss Roberts gopi o'r Gioalia. Gwadai y Cadeirydd unrhyw gysylltiad a'r paragraph. Dyma y frawddeg, Nid oecld y Cad- eirydd am ei chadw yn mlaen ar sail amryw bethau ag oedd ef wedi eu clywed, ond pa rai na ddywed- asai, am fod eich gohebydd yn bresenol mae'n debyg." Yr oedd Mr Parry wedi dweyd nad oedd gwahaniaetll ganddo ef rhwng gohebydd a goheb- ydd, ond y mae yn wahaniaeth rnawr genyf fi, Daeth gohebydd Maentwrog yma y diwrnod dan sylw, pryd na wyddai y gohebwyr lleol ddim am y cyfar- fod o gwbl, a chyhoeddodd adroddiad hollol annghywir. Yr wyf yn dweyd hyn fel mater o ddyledswydd, a hyny pan y mae yn bresenol, ac y gwna y defnydd a all ohono. Mr Harries a ddywedai fod y dosbarth ar ol er pan oeddynt yn safon 1 a 2. Miss Jones a ddywedai ei bod wedi rhoddi cym- horth i Miss Roberts lawer tro, ac wedi siarad a hi, ond yr oedd yn anhawdd ganddi wneud, gan ei bod ar y pryd yn myned o gylch ei gwaith gan edrych yn sulky. Parch J. Williams, B.A., a sylwai y dylai y brif- athrawes gael cynorthwy y Bwrdd hyd y gellid, er sicrhau dysgyblaeth a dylanwad priodol yn yr ysgol. Wedi peth ymdrafodaeth pellach, cynygiwyd gan y Parch J. Williams, B.A., fod y Bwrdd, ar ol gwneud ymchwiliad cyflawn i'r berthynas bersonol cydrhwng Miss Jones a Miss J. M. Roberts, yn methu canfod dim bai ar Miss Jones. Ac hefyd eu bod fel Bwrdd yn dymuno datgan cydymdeimlad a. Miss Jones oherwydd yr hyn a ddyoddefodd drwy yr helynt. Y Parch J. R. Parry a ddywedodd nas gailai ef fotio drosto am ei fod yn cynwys cydymdeimlad a Miss Jones, tra nad oedd ond ychydig yn cael ei ddangos at Miss Roberts, a dim yn y penderfyniad. Cefnogwyd gan Mr H. Roberts, a phleidleisiodd pump drosto. Wedi eisteddiad maith o agos i dair awr, dywedodd y Cadeirydd wrth Miss Roberts fod yn wir ddrwg ganddo ef fod pethau wedi dyfod fel y gwnaethant. Ond yr oedd hyn yn ddyledus i'w chyfeillion, ac oherwydd fod gohebydd neillduol yn bresenol. Yr oedd hwnw a'i amcan ar fy nrygu i, ond druan ohono, nis gall byth wneud hyny, a thrwy geisio gwneud, y mae wedi eich niweidio chwi. Yr ydych wedi eich clwyfo yn nhy eich caredigion, ac y mae yn gwestiwn genyf ai ni ddylem symud yn y mater, ac egluro i Mr Oakeley fod yr ysgolfeistr sydd ganddo yn Maentwrog yn gwneud ei oreu i ddrygu personau o'r un alwedigaeth yn y Blaenau.-Gohebydd.

: o : NEWYDDION DIWEDDARAF.

CAERLLEON.

Advertising

ILLEOL.

-0--PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL,…

[No title]

Advertising

Family Notices

Advertising