Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Etholiadol.
Etholiadol. Y MAE yn byw yn y Wyddgrug er's hir amser bellach hen garitor digrif o Wyddel a Radical selog o'r enw Doyle, sydd yn myned ar hyd y wlad i werthu potiau. Dipyn o amser yn ol, yr oedd mas- nach Doyle wedi gwella fel y gallodd brynu bastard mul yn lie y mulsyn fyddai ganddo o'r blaen ac ar un o'i bererindodau yr wythnos ddiweddaf, cyf- arfu ynad yn sir Fflint sydd wedi gwyro at y ffydd Undebol, yr hwn a'i cyfarchodd yn gellweirus, Hullo, Doyle What is this animal you have ?I Unionist, your 'onor," ebe'r Gwyddel. Sir Fon.-Bu y ddiu ymgeisydd profiadol a'u pleidwyr yn ymweled a gwahanol ranau y sir, ac yn diwyd ganfasio ar hyd yr wythnos. Nos Fawrth, anerchodd Mr T. P. Lewis gynulliad lluosog yn Nghaergybi; yr Henadur Richard Hughes yn y gadair. Rhoddwyd pleidlais unfrydol o ymddiried ynddo ar gynygiad Mr T. R. Jones, ac eiliad y Parch W. R. Jones. Y mae rhagargoelion y bydd mwyafrif Mr Lewis yn fwy nag o'r blaen. Dywedai Mr Morgan Lloyd yn yr un dref y noson o'r blaen mai dinystr i Gaergybi a fyddai Ymreolaeth, ac na symudid byth mo Greigiau Platters ond gan Lyw- odraeth Undebol. Dyma fel y canodd un o feirdd y dref ar y pryd :— Ow ow Morgan Llwyd, un hynod iawn wyd, Yn palu fel hyn yn Nghaergybi Mog bach, taw a son, 'dyw pobl sir Fon O'r haner mor ffol ag y tybi. Sir Gaërnarfon- Y Bwrdeísrlrefi-Gwelir mewn colofn arall fod y ddau ymgeisydd wedi cael eu croesholi ar bwnc y tafarnau, ac y mae atebion y ddau yn ddigon diamwys. Yr oedd cyfarfod Mr Lloyd George a gynaliwyd yn Nghaernarfon nos Wener yn un nodedig o lwyddianus, a bydd yn sicr o dwymno Ymneillduwyr clauar ac annghyson y dref hono. Tra yr oedd Mr T. E. Ellis yn siarad taflodd rhyw ddyhiryn gareg ato, ond Mrs Evans, gwraig a safai gerllaw, a gafodd yr ergyd. Nid oedd y niwed a gafodd yn fawr ond y mae Uvichio ceryg yn ddull creulawn o ymresymu. Cafodd Syr John ei gyfarfod goreu hyd yn hyn yn Mangor nos Fawrth cludwyd yr hen Farchog ar ysgwyddau ei bleidwyr, a buasai darlun ohono ar y pryd yn werth ei gadw hyd y Mil Blynyddoedd, er mwyn i bobl yr oes hono wybod sut i wenu. Rhagibarth Eiifon.-Druan o amaethwr Abercin; nid fel amaethwr-da iawn fuasai cael rhagor o amaethwyr i'r Senedd-ond fel Methodist yn gwneud ei hun yn bawen cath i Doriaid ac Eglwys- wyr Lleyn ac Eifionydd. Profodd Mr. Bryn Roberts ei hun yn un o seneddwyr do.thaf a mwyaf annibynol Cymru a chyda llawer o briod- oldeb y gall Mr. Humphreys suoganu 'Rwyf fl fel ceffyl Plas y Maen, Wrth redeg am y gwpau yn gyru'r llall o mlaen. Rhanbarth Arfov,Nicl oes undyn eto wedi dad- gan ei benderfyniad i wrthwynebu Mr. Rachbone- Croen iach ydyw croen Neirionydd.Fel y cyfryw, prin y mae gwrth- wynebydd Mr. T. E. Ellis yn werth sylw. Ar- weinydd Eisteddfodau ac nid Gwladweinydd y bwriadwyd Amaethon. Trefaldwyn- YSir a'r Biordeisd?-eif. -Cyn,.tliwyd cyfarfod unol Rhyddfrydwyr y ddwy etholaeth hyn yn y Drefnewydd, ddydd Mawrth, yr hwn a anerch- wyd gan yr yingeiswyr, Mr Stuart Rendel a'r Anrhyd. Hanbury Tracy. Rhoddwyd pleidlais un- frydol o ymddiriedaeth yn y ddau foneddwr. Dy- wedai Mr Rendell ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth r Gladstone yn mawr obeithio y bydd i Gymru roddi dedfryd' bendant o du iawnderau cenedlaethol a rhyddid Dinbych—Bwrdeisdrefi. —Fel y gwyddis, y mae gan Mr Howell Williams frwydr galed o'i flaen ond oblegyd rhagoroldeb ei brogram, ei a.lluoedd dianmheuol, a'i yni diorphwys, ni ryfeddem ei weled ar ben y rhestr ddydd yr etholiad. Nid oes gydmariaeth rhwng Mr Kenyon a Mr Williams yn wir, fel y dywedasom o'r blaen, y mae Mr Williams yn un o'r ymgeiswyr goreu sydd yn cynyg ei was- anaeth i unrhyw etholaeth Gymreig. Gorllewinbarth Str Ddinbyeh.-Gwelir anerchiad- au y ddau foneddwr sydd yn ymgais yn y rhanbarth hon mewn colofn arall. Nid oes dim fuasai yn rhwystro ail-etholiad Mr. West ond ei bolides; canys y mae iddo fawr barch yn y rhanbarth fel cymydog tirion a meistr tir rhagorol. Ond oblegyd nad yw yn cydweled a'i hen blaid ar Ymreolaeth, ac yn enwedig ar Ddadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, dygir Mr. J. Herbert Roberts yn mlaen fel Ymgeisydd Rhyddfrydol, ac ymgeisydd campus ydyw yn mhob ystyr ac yr ydym yn deall fod ei ragolygon yn arwyddo llwyddiant sicr. Yr oedd mwyafrif Mr. West fel Rhyddfrydwr yn 1885 yn agos i 1,700, a dychwelwydef yn ddiwrthwynebiad yn 1886. Dwyreinbarth Sir Ddinbych—Bydd yma hefyd frwydr galed. Dyma y drydedd waith i Mr. Osborne Morgan, ac un o gynrychiolwyr seneddol goreu Cymru er's 24ain mlynedd, gydymgais am y sedd gyda Syr Watkin ac fe'i gorchfygodd bob tro, ond nid oedd ei fwyafrif yn 1886 yn fwy na 26 Credir y gellir beth bynag y tro hwn chwan- egu 0 at y 26. Y mae'r ddau ymgeisydd yn brysur wrthi hi ond i gyfarfodydd Mr. Morgan yr ym- gynulla'r Iluaws. Fflint— Y Sir a'r Pwrdeisdrefi. -Yr ydym mewn colofn arall yn cyhoeddi anerchiad Mr Samuel Smith at yr etholwyr. Yr oedd ei fwyafrif yn erbyn Mr Pennant, yn 1885, dros 1,500, ac ni fu ymryson am y sedd yn 1886. Y mae'n anhawdd gwybod pahamy rhoddir boneddwr morddyngarol a hael- ionus, a Seneddwr mor alluog, yn y draffertli fawr o etholiad. Yn y Bwrdeisdrefi, ymleddir brwydr y Rhyddfrydwyr gan Mr J. Herbert Lewis, un o aelodau mwyaf addawol Cymru Fydd; tra mai arwr y Ceidwadwyr ydyw Mr Pennant. Nis gwyddom pa sawl curfa gafodd Mr Pennant o'r blaen, ond y mae un arall yn ei aros. Gwrthymgeisydd Mabon yn Nghwm Rhondda ydyw Mr R. Morris, brodor o Ddinbych, meddir, hen ysgolfeistr, gweinidog wedi hyny, yn awr siopwr a chynghorwr sirol. Safai cynrychiolaeth Cymru yn y Senedd ddad- gorphorwyd ddydd Mawrth fel y canlynBwr- deisdrefi, dau Geidwadwr, un Undebwr, ac wyth Rhyddfrydwr siroedd, un Ceidwadwr, un Undeb- wr, a dau ar bumtheg o Ryddfrydwyr yn gwneud y cyfanrif yn 30, neu dri Cheidwadwr, dau Undeb- wr," a phump ar hugain o Ryddfrydwyr. DYODIAD YR ETHOLIADAU. M6n Gorph. 14 Bwrdeisdrei fArfon 9 Dinbych „ 7 Dwyreinbarth 8 Lerpwl >> ° Birkenhead ••• »» £ Wirral >> 1
Olynydd Mr. Dillwyn.
Olynydd Mr. Dillwyn. MR. R. D. BURNIE, cyn-faer Abertawe, sydd wedi ei ddewis i gymeryd lie y diweddar Mr. Dillwyn fel ymgeisydd Rhyddfrydol tros y Fwrdeisdref hono.
-:0:-Penderfyniad y Chwarelwyr.
-:0:- Penderfyniad y Chwarelwyr. YN ngwyneb. gwrthodiad y meistri i ganiatau cyflog yn cyfartalu 5/- yn y dydd i chwarelwyr medrus, y mae mwyafrif aelodau yr Undeb wedi pleidleisio trwy y tugel o du streic. Penderfynodd PwyIIgor yr Undeb ohirio y mater a'i roddi at farn dau gyflafareddwr-un yn aelod o'r Cabinet a'r llall yn Aelod Seneddol yn cynrychioli Llafur.
I , Ffestiniog a'r Cwmpasoedd.
Ffestiniog a'r Cwmpasoedd. Y CHWARELWYR A'U CYFLOGAU. CYNALIODD gweithwyr chwarelau Mri Oakeley a'i Gwmni gyfarfod yn yr Assembly Room nos Lun di- weddaf, er ystyried gwaith y meistriaid yn gwrthod codiad iddynt yn eu cyflogau. Gan nad oeddym yn bresenol, ni bydd i ni faoylu ar ddim a ddywedwyd yn y cyfarfod ond gallwn argymhell ein cyd. weithwyr i fod yn bwyllog ac aros i gael undeb o'r fath gryfaf cyn anturio meddwl am sefyll allan, ac nid baglu ar draws rhyw fan frychau fel y darfu iddynt gyda mater arall ar ddiwedd y cyfarfod nos Lun. YR ETHOLIAD. Ddydd Mercher, yr 22ain cyfisol, cyfarfu aelodau y Pwyllgor Rhyddfrydig yn y Bermo er gorphen eu trefniadau ar gyfer yr etholiad gwyllt sydd ar ein goddiweddyd. Yr oedd nifer o gynrychiolwyr o bob parth o'r sir yn bresenol, a phob argoelion am fuddugoliaeth ardderchog. Deallwn mai methiant a fu ymgais y Toriaid i gael cyfarfod yn Mbenrhyn- deudraeth nos Fawrth ddiweddaf; ond gan mai Cymry ydynt, gallant gael ail gynyg. Byddwn wedi cael y fraint o glywed Amaethon a'i gymdeith- ion yn traethu eu syniadau cyn parotoi llith yr wythnos nesaf. GAIR YN NGHLUST AMAETHON O'R DOLGOED. Hon yw'r râs" wiriona 'rioed-a redaist, Er adeg dy faboed Ac haws curo carw'r coed—na "Tom ni," Neu ddal dywalgi ar ddol y Dolgoed. Llais y Wlad. MANION. Cynaliodd yr Annibynwyr eu Cymanfa Ganu y Sadwrn diweddaf, yn nghapel Jerusalem, dan ar- weiniad Dr Parry. Cafwyd canu da a chyfarfodydd poblogaidd neillduol. Ddydd Sadwrn oedd dydd gwyl Urdd y Rechab- iaid, pryd y gorymdeithiwyd trwy brif heolydd y gymydogaeth. Yr oedd yn olygfa hardd hyd nes y daeth y gwlaw i'w hannghysuro. Deallwn fod yr Urdd yn enill tir yn gyflym, a changhenau ohoni wedi eu sefydlu yn y cymydogaethau agosaf. Cynelir Eisteddfod Dolyddelen y Sadwrn nesaf, mewn pabell gyfleus ar y glasbawr. Gobeithio y ceir hin ffafriol. Deallwn fod gweithwyr Chwarel y Llechwedd, eiddo Mr Greaves a'ifrodyr, yn cynal cyfarfod pryd- nawn heddyw (Llun) yn yr Ysgoldy o dan gapel Jerusalem tra yr ydym yn ysgrifenu. o
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. GOFIDIAU'R BYD A DDAETH 0 HYD I MI. PAN oeddwn ieuanc, gyrta mam, Yn byw yn Ty'nyooed, Ni welodd hi yr un o'i phlant Mwy heini ar ei droed Gwelais ddydd Calati bumtheg gwaith, A thri, os mynweh cliwi, Yn ddedwydd, a g'ofidiau'r byd Heb dd'od o hyd i mi. Meddyliais am gael myn'd am dro I weled cwrs y byd, Gan dybied gallaawn fyw Yn driedwydd iawn o hyd Mwynhau fy rhyddid ddydd a nos, Ac enill parch a bri, Y gwir yw hyn, gofidiau'r byd A ddaeth o hyd i mi. Anturiais i'r Gorllewin pell Am unwaith yn fy oes, Cyn teithio llawer ar y wlad Troes pethau'n hollol groes Fy holl obeithion aeth i'r clawdd, Mawr oedd fy nghwyn a'nghri.- Foreu a hwyr gofidiau'r byd A ddaeth o hyd i mi. 'Doedd dim i'w wneud ond troi yn ol I Gvmru, Gwlad y Gan," Tan faich o brudd-der fy mod i A bithau ar wahan Mor gynted ag y rhoddais droed Ar ei heolydd hi, Teimlais i hen ofidiau'r byd Ddyfod o hyd i mi. Cymerais fwthyn bychan, clyd, Saerniwyd ar y graig, A rhian deg o Ddvffryn Clwyd Ddewisais i yn wraig: Gwelais yn fuan fod y Ilyw Wrth reol Dwyfol Ri, Boh boreu daeth gofidiau'r byd Yn haid o hyd i mi. Pe cawswn fyw mewn ogofSu Yn nghesail Berwyn pell, Ai tvbed na fuaswn mewn Sefyllfa uwch a gwell ? Daeth ataf gyda throad post Atebion uwchlaw rhi',— Pob un yn dweyd, Gofidiau'r byd Ddeuant o hyd i ti." Clywais am ddinas freiniol, fry, A phawb o'i mewn yn Hon, Ni raid i neb a drwy ei phyrth Ofni na than na thon Ni fairid un gelyn sangu ar Ei haur heolydd hi, Os mynaf fod yn ddedwydd iawn Y no yw'r man i mi. Rhaid with flinderau ar y daith Wrth gyrchu tua thre', Maent with y godrpu megys plwm I'm cadw yn fy lie Daw dydd-daw awr i minau fyn'd Trwy'r afon ddofn a'i Ili', I le na all gofidiau'r byd Byth dd'od o hyd i mi. Tregeiriog. EINION DDU ENGLYN I GAERWYS. TBRF o glod Eisteddfodol,-ac enwog Ei hanes ffairyddol: Gaerwys hen, -fangre awyiiol, Bery'n deg tra bryn a dol. Caerlleon. loag ANWyLl
PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL.…
PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL. GOSPHENAF 3. Y METrlODISTIAID CALFINAIDD. Princes Road-Am 10, Parch H Jones, D.D.; am 6, Parch W Thomas, Maesteg. Chatham Street—Am 10 a 6, Parch L Lewis. Pitzclarence Street-Am 10, Parch T Gray; am 6, Parch W Jones. Netkerfi,eld Road-Am 10, Parch W Jones; am 6, Parch Thos Gray. Crosshall Street-Am 10 a 6, Parch W Jones, Treforris. Anfield Poad-Am 10 a 6, Parch 0 Owens. Neiesham Pai* -Am 10 a 6, Parch Josiah Thomas, M.A. Bootle-Am 10 a 6, Parch R Evans, Khasia. Birkenhea d-Am 10.30 a 6, Parch D Williams. Seacombe-Am 10 a 6, Parch 0 Jones, B.A. Garsten-Am 10.30 a 6, Parch John Williams. Roclc Perry-Am 10.30 a 6, Parch W Roberts, Rhosybol. Walton Park—Am 10 a 6, Cyfarfod Ysgol (1'arch J Hughes, M.A.) David Street-Am 10 Parch W Thomas; am 6, Parch H Jones, D.D. Waterloo-Am 10.30 a 6, Parch A Oliver, Talsarnau. Huyton Quarry-Am 10.30 a 6, Parch J S Roberts. Peel liond-Am 10 a 6, Parch Simon Frazer, Mon. Holt Road-Am 10.30 a 6, Parch H Hughes. Webster Road-Am 10 a 6, Parch R Richards, Cerygydrudion New Brijyhton-Am 10.30 a 6, Parch William Hughes. Y BEDYDDWYR. Everton Village-Am 10.30 a 6, Parch D Powell. Windsor Street-Am 10-30 a 6, Parch W Samuel. Capel Seion, Bousfield Street-Am 10-30 a 6, Parch E Evans Amlwch. Brasenose Road, Bootle-Am 10.30 a 6, Parch J H Hughes. Knowsley Road, Bootle-Am 10.30 a 6, Parch L W Lewis. Woodlands, Birlcenhead-Am 10.30 a 6 15, Parch J Davies. YR ANNIBYNWYR. Tabernacl-Am 10.30, Parch E Jones, Llanbedrog; am 6, Parch Thomas Evans, Amlwch. Park Road-A m 10.30, Parch E Wnion Evans, Abergele; am 6 Parch R Roberts, Manchester. Grove Street-Am 10.30, Parch D M Jenkins; am 6, Parch H M Hughes. Great Mersey Street-Am 10.30, Parch T Evans am 6, Parch E Jones. Kensington-Am 10. Parch J 0 Williams (Pediog); am 6.15 Parch J Cadvan Davies. Clifton Road, Birkenhead-Am 10.30, Parch H M Hughes am 6, Parch E Wnion Evans. Trinity Read, Bootle—Am 10, a 6, Marsh Lane Am 10.30 a 6, Parch T D Jones Clarendon Road, Seacoutbe-Am 10.30 a 6, Vittoria Street, Birkenhead-Am 10.30 a 6,15, Cyfarfodydd Ysgol. Y WESLEY AID. Mynydd Seion, Princes Avenue-Am 10-30, Parch Wm Jones am 6, Parch 0 Hughes. Claughton Road, Birleenhead-Am 10-30, Parch 0 Hughes; am 6, Parch W Jones. Lacey Street, Wtdnes-Am 10.30 a 6, Parch D 0 Jones. Heald Street, Garston-Am 10, Mr 0 Williams; am 6, Mr D D Davies. Tamworth Street,Earlestown—Am 10.30 a 5-30.Mr W Williams Stubshaw Cross, Hermon—Am 10.30 a 5, Mr T Thomas. Heath Street, Golborne-Am 2, Mr T Thomas am 5.30, Mr J Williams. Oakdale, Seacombe- Am 2.30, a 6, Mr 0 Williams. Spring View, Wigan-Am 10-30 a 5-30, Parch S P Jones. Liberal Lecture Hall, Church St., Leigh-Am 10-30 a 6 Mr R E Hughes. Ysgolion Sul a Dyddiol y Wesleyaid, Parle Street, St. Helens -Am 10-30 a 5-30, "ir G Evans. Temperance Hall, Park Street, Farnworth—Am 10.30 a 6 Mr W R Harker. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Dewi Sant-Am 10.30 a 6.30, Parch J Davies, M.A. Sant Asaph- Am 10.45 a 6.30, Parch J. Myfenydd Morgan. Sant Nathaniel, Smithdown Lane-Gwasanaeth am 10.30 a 6.30, Parch O. F. Williams, Curate-in-Charge. S. Winifred, Westboume Road, Birkenhead-Am 11 a 6.30 Parch Robert Edwards, Caplan. TYLDESLEY.—Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, cyn- aliodd eglwys y Bedyddwyr ei chyfarfod blynyddol. Gweinyddwyd gan y Parchn. L. W. Lewis, Lerpwl, a J. Gwyddno Williams, Ffynongroew.
Advertising
BENAR VIEW HOTEL, Dolwyddelei), R.S.O. The above HOTEL is picturesquely situated in the Vale of Dolwyddelen, Three Minutes' walk from the Railway Station, First-class Accommodation for Families and Tourists. Ex- cellent Trout and Salmon Fishing. The Vale of Dolwyddelen abounds in objects of interest, comprising the Old Church, Castle. Pont-y-pant, Waterfall, and Magnificent Mountain Scenery. Wines and Spirits of Best Quality. Moderate Charges. THOS. T. WILLIAMS, Proprietor. LEVER 6YMRYJSJRKENHEAD Cyfarfod y Pwyllgor Cymreig YN YR Ystafell Cenhadol, 73, Market Street, NOS YFORY (Nos Wener), GORPH. 1. Taer wahoddir pob Cymro gwladgar a Rhydd- frydol i fod yn bresenol. GENERAL ELEOTION, 1892. EAST TOXTETH DIVISION. PUBLIC 2VEEETING -GRANBY HALL,— FRIDAY NEXT, 1st JULY, Addresses by the CANDIDATE, Mr. EDWARD PAULL, C C, Messrs. Ralph Neville, Q.C., R.P., T. P, O'Connor, M.P., Dr. B. W. Richardson, W. B. Bowring, C.C., E. J. Griffith, M.A., A. McDougall, Edward Evans, Junr., F. Smith, C.C., E. R. Russell, J. Thomas, R. D. Holt, E. Woodward, Rev. R. A. Armstrong, E. J. Parr, A Guthrie, J. L. Eills. W. H. Watts, C.C., Chair to be taken at EIGHT o'clock by Mr. OSCAR I. VAN WART. Admission Free at 7-30 p.m. Ticket Holders admitted at 7. Tickets may be obtained at the Committee Rooms. E. W. ROBERTS, Son. Sec. HUGH JONES, Hon EleotionAgent. L IVERPOOL L IBERAL F EDERAL COUNCIL. QENERA.L E LECTION AND REGISTRATION, 1892. T IBERALS who have left the houses in which they were L residing last July are still entitled, if their names are on the List of Voters, to vote at the forthcoming Election for the Division in which they were then living. They are therefore requested to at once send their names and present addresses, and the addresses at which they were in July, 1891 to any of the undersigned, at the Central Committee Rooms, as follows:- 1 Abercromby-C. W. WARD, 22, Paradise Street. East Toxteth—HUGH JONES, Granby Hail. Everton—WALTER HA KRIS, 150, Everton Road Exchange-A. GOULD JONES, Batavia Buildings, Hackins- hey. Kirkdale-JOHN DIMOND, 115, Kirkdale Road. Scotland-G. J. LYNSKEY, Great Nelson Street. Walton-C. SPICK, 292, Breck Road. West Derby-JOSEPH HOOD, Beacon Hall. West Toxteth-J. CONNING, 101, Mill Street. Or to the SECRETARY LIBERAL FEDERAL COUNCIL, 9, Cook Street. EDWARD EVANS, JUN., President AUGUSTINE HONEY, Secretary. June, 1892. J GOREU ARF IIX ARF DYSG." Chester Clptmas Eisteddfod, DECEMBER 26, 1892. WELSH CHORAL CONTEST. Prize £ 20 and Carved Oak Chair for Conductor, Male Voice Contest, Prize £ 8. Congregational Choir Contest, Prize 95. Also Trio, Duet, and Solos, in addition to Poetry, Translations, and Recitations. List of Subjects to be had of Mr. D. Rees Evans, Chester House, Northgate Street, Chester, for lid., (including postage). All other information from WM. H. DAVIES, Hon. See. 47, Garden Lane, Chester. -Eglwys Gymraeg St, Asaph,— MATFIELDS, WESTMINSTER ROAD. Cynelir CYFARFOD OYSTADLEUOL yn y Y.M.C.A., FOLEY STREET, NOS FAWRTH, HYDREF 25ain, 1892. Gellir cael rhestr o'r Testynau gan yr Ysgrifenydd, JOSEPH GRIFFITHS, 88, Burleigh Road, South, Anfield.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU A MARWOLAETHAU. Codir chwe' cheiniog ar bob hysbysiad a ddanfonir dan y penod hwn, a rhaid i'r danfonydd roddi ei enw a'i gyfeiriad. DAVIEs-Mehefin 25, yn 6. Fearnley Road, The Woodlands, Birkenhead, priod Isaac Davies, ar fab. EVANS—Mehefin 19, yn Nlianyfron, Cemaes, Mon priod David Evans, ar ferch. HIGGINS—THOMAS—Mehefin 1, yn Vancouver City, B.C., trwy drwy dded,|James Higgins ac Emma Thomas-y ddau 0 Gaergybi. dibarwolaetbau. GRIFFITH-Mehefin 11, yn 83 mlwydd oed, Elizabeth Griffith, 54, Market Street, Caergybi, yr hon fu yn ngwasanaeth Cwmni Relffordd y L. & N. W. am dros 31 mlynedd. HUMPHREYS.— Mehefin 23, yn 45, Eastlake Street, anwyl briod Mr. H. W. Humphreys, yn 24 mlwydd oed. JONEs-Mehefin 19, yn 37 mlwydd oed, yn 64, Westminster Road, William Jones. JONEs-Mehefin 28, yn Berthlwyd, Conwy, Harriete, priod Thomas Jones, Five Elms, Grassendale. Cleddir yn Myn- went Smithdown Road, ddydd Gwener, Gorphenaf 1. Gadewir Edgehill am 2-10. Printed and Published by ISAAC FOULKES, a his Printing Establishment, 18, Brunswick Street, in the Parish of LiverDool, in the County of Lancaster
Lleol.
Lleol. EGLWYS PRINCES ROAD.—Cymerwyd llais yr Eglwys hon yr ail waith nos Iau, 23ain cyf., gyda golwg ar ddewisiad Gweinidog, pryd yr oedd y bedwaredd ran o'r holl aelodau yn bresenol. Deallwn fod tri brawd wedi cael cryn nifer mwy o bleidleisiau na neb arall, ond na chafodd yr uwchaf ohonynt gymaint a 60, yr hyn nid ydyw ond un o bob 15 o'r aelodau. CYFARFOD CYMRAEG.—YR unig gyfarfod ethol- iadol Cymraeg a gynaliwyd yn Lerpwl yn ystod yr wythnos ddiweddaf ydoedd yn Everton Road ar ran Mr Atkin, a hyny nos Wener ddiweddaf,a than lyw- yddiaeth Mr Daniel Lloyd. Yr oedd yn gyfarfod hynod o luosog a brwdfrydig. Cynygiwyd pender- fyniad cefnogol i raglen Newcastle gan y Parch D. Powell, ac eiliwyd gan Mr Robert Roberts yna traddodwyd anerchiad gan Mr Atkin, yr hwn a sylwai mai un o egwyddorion Rhyddfrydiaeth oedd ymddiried yn y bobl. Dyfynodd ffigyrau i brofi nad oedd dim gwirionedd yn yr haeriad fod Ymneilldu- aeth yn gwanhau a'r Eglwys yn cynyddu. Yr oedd ef o blaid rhyddid crefyddol, ac os dychwelid ef ymdrechai ei oreu yn y cyfeiriad hwnw. Yr oedd Cymru ar y blaen mewn llawer o bethau, a meddai yn awr Ddeddf i Gau y Tafarnau ar y Sul. Addaw- ai bleidio Mesur y Dewisiad Lleol, a chefnogi Mr Gladstone. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Y Parch H. M. Hughes, mewn araith hyawdl, a gynygiodd benderfyniad o ymddiriedaeth yn Mr Atkin, gan anog y Cymry i ymdrechu o blaid ei ddychweliad, eiliwyd gan Mr John Walker, a phasiwyd yr unrhyw gyda mawr gymeraclwyaeth. YR ydym yn hyderu y bydd i Gymry Everton ymddwyn yn deilwng o'u cenedl Ymneillduol ac obonont eu hunain trwy fotio yn unfrydol dros Mr Atkin, yr Ymgeisydd Rhyddfrydol, anerch- iad galluog yr hwn a welir mewn colofn arall. Pa fodd y gall Cymro fod yn Ymneillduwr ac yn Dori ar yr un pryd y dyddiau hyn, pan y mae Rhyddid Crefyddol ei genedl yn y fantol, sydd tubwnt i ddirnadaeth. Y mae ein cydgenedl yn Ngbymru yn brwydro'n galed am gyfiawnder, ac a drown ni ein cefn ar eu hachos yn nydd' y frwydr ? Yr unig ffordd i ni gael ein parchu gan ein cymydogion ydyw bod yn gyson a/n proffes Ymneillduol. Pwy all barchu rhyw gadach llestri o ddyn sydd fel hyn ar y Sul ac fel arall wrth fotio ? Ac y mae yr hyn a ddy- wedir wrth Gymry Everton yr un mor gymhwys i Gj-mrv rhanbartbau t'raill y ddinas, yn enwedig West Toxteth, lie mae ein cyctwladwr galluog Mr ELLIS JONlS GRIFFITH yn ymladd brwydr rhyddld a thegweh. — F.