Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.åeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

.åeth. ROBUS EPYRI. ,1 BRI Robin Ddu Eryri, unvi j,, Fel prydydd ac areithydd, cawr ethol, Yn ddiau erys y-n wyddyr oesol, 0 anrhydedd i'w fawredd anfarwol: A'l dda waith, adawodd o'i ol,t rydd I Gymru Fydd lawenydd olynol. OBMYC. HYWEL AC OLWEN. 'ROEDl) hen elyniaeth oesau'n ol Rhwng teulu'r Bryn a'r Hafod, A'r ddau hen deulu ddaliai'n ffol I chwythu t&n annghydfod Ac aer y Bryn, sef Hywel Wyn, Ac Olwen, merch yr Hafod, Dyfasant yn elynion tyn Fel mater o gydwybod. v Bugeiliai Hywel braidd ei dad Ar lethrau mynydd Berwyn Mewn lion fwynhad, ai Olwen fad I gasglu blodau gwanwyn; Rhag iddi gwrdd â Hywel Wyn Ymguddiai'r eneth lawen, Amgylchodd Hywel lawer bryn Rhag iddo gwrdd ag Olwen. Ond rywsut drwy ddamweiniol drefn, Cyfarfu'r ddau yn sydyn, Edrychodd Hywel wysg ei gefn, Edrychodd Olwen wed'yn; A sefyll wnaeth y bachgen iach Fel un yn methu symud, Ac wedi cychwyn tipyn bach Fe safodd Olwen hefyd. Nos dranoeth ddaeth, a Hywel aeth Am dro i'r llanereh dawel, Ac yn ddamweiniol (?) Olwen ddaeth I edrych welai Hywel; Fe wridodd Olwen fel y rhos, A gwridodd Hywel wed'yn, Wrth edryeh ar yr eneth dlos A'i gruddiau fel y rhosyn. 'Roedd Hywel Wyn yn ngwydd y ferch A'i ddawn yn bur anniben, Ond medrodd cariad siarad serch Trwy gyfrwng llygaid Olwen; Hi welodd dan edmygedd gwir Yn gloewi gwrid y bachgen, A gwelodd Hywel gariad pur Yn gloewi llygaid Olwen. Bugeiliai Hywel braidd ei dad Ar lethrau mynydd Berwyn, Mewn lion fwynhad ai Olwen fad I gasglu blodeu gwanwyn Mewn dirgel fan yn nghwr y rhos 'Roedd eu paradwys newydd, Ac Otwen dlos ar fin y nos Ddiangai yno beunydd. Wrth weini ar y mab a'r ferch G elyniaeth a fu farw, Yn aberth ar hen allor serch Y llosgwyd ef yn lludw Y rhoed ei lwch oddiar y tan Yn meddrod annghof bythol, Y dydd y gwisgodd Olwen lan Y fodnvy briodasol. Bala. GWAENFAB. -Lvit, m "edd c-, A nban..X eistecld, ond nad oeu, nmMUjrtir ef, dywedodd Wynne Evans, 'OFTOF'tiff eistedd a gwrandaw, am iddo eistedd a pheidio gwrandaw. Bravo, yr hen Gymro Ar ol bod yn rhodio gyda Chlwb Gwersyllt'' prydnawn Gwener, aethum i fynu i Goedpoeth i'r Test Concert, a gwelais hysbysiad ar y parwydydd fod y pregetiiwr iiynaf yn Nghymru yn bwriadu ymweled a'r ardal yn fuan, neb llai na'r hen Tho- mas Hughes, gynt o Fachynlletb. Wfft i'r cyngherdd Alia i ddim cymeradwyo rhy V.' gystadleuaeth fel hon. Holl bobl y gallery yn pleidleisio pwy oedd y goreu yn canu, allan o wyth a'r hugaiu, a hyny 0 bob llais. Yr oeddwn i yn cydweled a hwy mai William Edward o Rhos a ganodd "Carlo oreu, ond faint o'r beirniaid oedd, yn gwybod gwahaniaeth rhwng canu da a chanu sal, tybed ? Yr oedd yn dda gan fy nghalon i weled Tom Tom yn breseuol, ac uwchlaw cystadia mewn rhyw lol fel hyn. Gwelais Wilfrid yno, a cheisiais gael gafael yn- ddo ar ol dyfod allan, er cael ei farn ef ar y dull hwn o gystadlu, ond torodd rhyw bregethwr ar draws i siarad ag ef, ac felly collais y framt. Pan yn cychwyn tuag adref, gwelwn y seindorf (arian) yn dyfod adref o gyfeiriad Bwlchgwyn tan ganu "Bis Mari Ann." Ac yn wir yr oedd yn well genyf eu clywed yn canu yr hen alw hon na phe buasent yn chwythu eu cyrn, y mae rhywbeth mor swynol ynddi. SAMWEL JONES. NODIAD AR WIBNODION "SAMWEL JONES" 0 DDYFFRYN MAELOR. At Olygydd y Gymro. SYR,—Gwelais fod Mr. Jones yn gwneud sylw lied anffafriol yn Y Cymro diweddaf ar ddarlith y Parch. Llewelyn Rees, Johnstown, America, ar "Y Beibl a dyn" (yn ol fel y dywed Mr. Jones), ond testyn y ddarlith yn gywir yw-" Y dyn a'r Beibl yn esponio neu yn cyfrif am eu gilydd." Teg a Mr. Rees ac a chwaeth pobl y Poncie oedd yn y ddarlith, yw hys- pysu nad yw pawb o'r un farn a Mr. Jones. Mae i'r ddarlith gyfeiriad cyffredinol da iawn, a thrinir y mater drwyddi mewn dull bywiog ac athronyddol. Barn pawb sydd gymhwys i farnu yw ei bod yn llawn sylwedd ac yn arddangos meddwl gafaelgar annghyff- redin. Prawf ei bod yn ddarlith boblogaidd a'r tra- ddodiad yn llawn o "go-ahead" yw ddarfod iddi gael ei thraddodi eisoes yn Mhenrhos, Penycae, Garth, a'r Cefnmawr ddwywaith, a bwriada'r Saeson gael ei chlywed etc yn Saesneg.—Yr eiddoch yn gywir, TOMOS JONES. o

Mr Gladstone.

[No title]

PENILLION I'R LLWYNOG.

Advertising

RHYD I WYLFA A'l BOBL OD.