Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
iechyd Tref Dinbych.
iechyd Tref Dinbych. SYR,—Heblaw fod llawer o ddartlen ar y Cymro ya y dref yma a'r ardal, y mae genyf dri neu bed- war o resymau tros anfon yr ychydig eiriau hyn i chwi ya lie i rbyw ntw/ddiadur arall. Rhoddais Iechyd tref Dinbych" uwchben fy Uythyr; dy- laswn ddweyd "Afiechycl tref Dinbych;" canys drwg iawn genyf ddweyd fod yma yn awr o leiaf dri chiefyd peryglus yu ein mys. Ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, bu plentyn farw yn un o dai'r Castll," o'r typhoid. Bwthyn o ddwy ystafeil ydyw'r ty hwn, ac y mae er's wythnosau wedi ei gondemni > i gael ei dynu i lawr, gyda thai trueuus eraill yn ei ymyl, gan swydc'o.j meddygol ùorphoBcth y dref. Nid oes dim amnhsuaeth nad yw sanitation y nentai hyn yn beryglus i iechyd y dref a pha b.th ydyw'r achos na thynid hwy i lawr gan y Gerphoraeth, yn ol argymhelliad eu swyddog eu liunain, sydd yn anesboniadvvy. Yn ngwaelod y dref drachefn, y ma.e yno ddau neu dri o achosion o scarlatina—clefyd, fe wyr pawb, marwol iawn a catching. Rhaid fod rhyw Tn anmhuredd yn codi oddiar ddiffyg iechydol yn achosi hwnw. Y mae hefyd yn yr un rhan o'r dref achos o diphtheria— yr wyf yn defnyddio geiriau Seisnig am eu bod yn hawddaeh eu deal!—a gwyddis beth yw barn meddygon am y pa beth sydd yn peri y dvvyrnyn farwol hono. Carthifos- ydd aflan, onida, yn achosi awyr llawn o bacteria gweuwynig. Ni fynwn ddychrynu fy nghymydogion trwy alni, z, eu sylw at. y tri ymweiydd annymunol hyn ond mi a fynwn styrio yr awdurdodau Ileol at eu gwaith a'u dyledswyddau. Os dcil y gwres pres- enol am yohydig ddyddiau yn mhellach, bydd iechyd a bywyd pobl Dinbych yn y perygl mwyaf, a'r cyfrifoldeb o hyny at bsnau aelodau Cynghor y Dref, 11awer o ba rai sydd mor hael yn eu haddew- idioa cyn eu hethol, ac mor hwyrdrwm i'w cyf- lawni ar ol hyny. — Yr eiddoch, PWLL Y GRA WYS. O. Y,-Y mae yna ifos yn Stryd Henllaa na fynwn i neb teneuach ei ffroen jaa fi fyn'd yn agos ati; a phe teflid iddi yr ugain galwyn disinfectant hwnw sydd ar ei ffordd i Ddiubych er's cryn amser bellach, byddai awyr ein West End yn burach ac yn bureiddiaoh o gryn lawer.-P. y G.
0---O'r Bala,'
0- O'r Bala, [Gan G.] MAE Ysgol Ramadegol y dref hon wedi newid ei henw bcilach adnabyddir hi fel un o ysgolion canolradd y sir. Gobeithio y gwna hi cystal gwaith o dan ei henw newydd ag a wnaeth o dan yr hen eaw. Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd y pwyllgor yn dewis athrawoa newyddion iddi. Yr illynt wedi hysbysebu am ddau athraw cynorth- wl Anfonodd cynifer ag 81 eu ceisiadau i nvn Tyuwyd y nifer ilawr i bed war, y rhai a w;oddwyd o flaen y pwyllgor. Yr oedd un o'r pfWar, Mr Lowther, yn athraw yn yr ysgol o daa yrhen oruchwyliaeth, a bu agos iddo gael ei ail \tol, and yr oedd un o'r enw Mr Scully oddeutu 4l length o'i flaen, felly efe a benodwyd. Am y i w Y, oynorthwyol, yr oedd y gwr ieuanc gwych Mr J. R. Evans, ysgolfeistr Pont- ricket. Tregeiriog, Cymro ac Ymneiilduwr, yn un o'r ddau a alwyd gerbron y pwyllgor. Drwg genym nas penodwyd ef, yr oedd ddigou ar y blaen 8 i'w rival, ond am nad oedd yn dewis ymffrostio o'u blaenau, ddewiswyd mo hono, a phenderfyaodd y pwyilgor ail fwrw am un yn medru dylunio; gresyn na buasai y pwyllgor wedi gofyn i Mr Evans dreio ei Jaw yn y gwaith hwnw o'u blaenau yn y fan a'r lie, yn hytrach na gofyn am beth mor ffugiol a di- werth a thystysgrif. Ond y mae hyn trosodd oran Mr Evans, ac yn yr ail dafliad, hwyrach y llwyddir i fachu Sais ac Bore heddyw cefais gopi-o awdl Berwar "Hunan. aberth," yr hon ddyfernid gan un o'r tri beirniaid yn oreu yn Eisteddfod Caernarfon. Darllenais hi yn araf trwyddi, ond ni theimlais i ddim byd fel yn cripio troswyf wrth ei darllen, Mae hi yn awdl fach dlos er hyny, yn ddiymhongar a glân; nid oes ynddi ddim o'r cynghaneddion anmheus a'r syniad- au niwlog sydd yn britho awdl fawr Tudno ar "lesu o Nazareth," Yr oeddwn with fyned yn mlaen yn deall pob gair, syniad a chynghanedd o'i mewn ac er nad oeddwn yn cael IV nghyffroi, eto yr oeddwn yn cael mwynhad. Nid yw yr awdwr yn canu ond ychydig iawn ar y pwnc yn ddaqsoddol, eithr brysia i sylwi arno mewn cyrneriadau adnabyddus yn y rhinvvedd hwnw Y Cenadwr,—cu nodwedd—ei holl oes Yw llwyr ddiystyredd 0 hono'i hun, yn ni hedd Ing ei frawd,—eangfrydedd. Ceir oddeutu 50 lliuell pur dlysion ar Hunan- aberthiad' y Tad Damien :— Yn galaru gwel wron—16 r, uweh ben Ercli boenau'r alltudion Gwywlyd; efe o galon—serchus, bur, Gynygia'i lafur i'r gwahangleifion. Mae'n deall wrth fyn'd allan-y daw Ei gnawd ef ei hunan, Yn eu rnysg hwy, yn y man I'w cyfiwr blin ac aflan. Ond er hyn- Tirionwch at drueiniaid—drylifa Drwy'i lafur bendigaid Gweler ef, mae'n gwÝ!io'u'rhaiel-allanoI, A gwylia fewnol wahanglwyf enaid. Terfynir y cyfeiriad at y gwron hwn gyda'r ddau englyn pregethwrol grymus a ganlyn :— Beunydd rhyw gerydd garw-geir o'i fedd I grefyddwyr salw; Ti'r di sel, tro dy sylw-at glwyfus Wr oedd lafurus tra'n graddol farw Ei waed eilw, "Ddyn diles,-hob waith Duw Beth a dal dy broffes ? I eraill wyr p'le mae'r lies Di-huna-i yn dy hanes? Aitf y bardd yn mlaen gan gyfeirio at hanesion eraill o gyffelyb nodwedd, ac yn eu plith y Cadben ddewisodd aros ar fwrdd ei lestr oedd yn "suddo yn hyorach na gorlwytho y cwch lie yr oedd ei wraig a'i faban ynddo— to Cofiodd uwchlaw y eyftii,-awr y cur, Ei wraig hoff a'i faban Hwy trwy lif ddaethant i'r lan,-ac felly Bu fyw y rl-ieiny,-I)t& fario'i hunan. Ie, da iawn; ond engraipht lawer cryfach fuasai ymddygiad y milwyr hyny ar fwrdd y Birkenhead, y rhai a safasant yn ddisyfl tra y llwythid y gwragedd a'r plant yn y cychod, ac a longyfarchas- ant farwolaeth ei hunan trwy danio eu gynau pan oedd y llong fawr yn rhoddi ei phlwng olaf i'r dyfnder. Un o'r engreiphtiau mwyaf o hunan- ynuvadiad a hunan-aberthiad ag y gall y ganrif bresenol ymffrostio ynddynt. Wrth gvvrs, ni fuasai unrhyw awdl ar y testyn hwn yn gyflawn heb fod rhan helaeth ohoni yn gysegredig i'r enghrapht fwyaf erioed o "Hunan- aberthiad." Duw Fab drwy Hunan-aberth, Yn ei dwymn waed O maQ'n werth Myfyrio'n ddwys am fawrwaith Tosturus blinderus daith Y Ceidwad, er mwyn codi Yn uchel un fel y fi. Ddwyfol Oen o dan boen byd Yn ei wae mae fy mywyd. Yn niwedd yr awdl ceir yr hir a thoddaid tlws a ganlyn Onid oes eilfyd hefyd, a dwyfol Oes dry allan yn orphwysdra hollol I'r galon ufudd, mewn trigle nefol ? O'i gur symudir gwr sy' ymwadol, A'i heddwch fydd dragwyddol—ei barhad, Ym mor o g-a,riad lie mwy-Thagorol. Nid oes yn yr awdl ond pump neu chwech o'r pedwar mesur ar hugain. Nid yw hyny nac yma iiao acw, ond buasai yn gondemuiol ofnadwy pe y gorseddwyr yn hunain-gyson. Mae mwy o lac- rwydd o lawer yn y cyfeiriad hwn yn awr ragor oedd yn amser yr awdlau a enillasant safle uchel yn Ilenyddiaeth ein gwlad, megys Dinystr Jerusaletii,' MLi,es Bosworth,' Cystuddiau ac amynedd Job' gan Eben Eardd Gwledd Belsassar," Ieuan Glan Geirionydd Y Greadigaeth,' gan Emrys Y Rothsay Castle,' gan Caledfryn 4 Molawd Ynys Prydain ac Elusengarwch,'gan Dewi Wyn. Ai tybed fod y llacrwydd hwn yn rheswm fod yr awdl- au yn mhob ystyr yn fwy glasdwraidd ? Eu bod felly sydd tu hwnt i ddadl, a rhaid fod rhyw reswm am hyny. Nid wyf wedi dar)lea llawer o awdlau diweddar, ond os yw hon, ac "lesu o Nazareth" Tudno, fel rhai yn nghymydogaeth y gadair, yn nghyda thair neu bedair o rai cadeiriol y blynydd- oedd olaf yma, yn esianiplau teg o farddoniaeth gadeiriol yr oes hon, yna mae safon y gadair wedi gostwng llawer.
--lJ-Caarnarfon. )0
--lJ- Caarnarfon. )0 YN Llys yr Ynadon Bwrdeisiol, ddydd Llun, ym- ddaugosai Mr Augustus Lewis (Arolygydcl y Llaw- weithfeydd) i eriyn y Mri Morris a Davies, Nelson Emporium, Caernarfon Mri Pierce a Williams, yr Afr Aur, Caernarfon Mri Lonnie a'i Gyf., Caernarfon, a Mr E. H. Owen, yr Eryr Aur, am dori D-ocldf y Llaw-weitbfeydd. Addefodd y di- ffynyddion eu bod yn ymarferol wedi cyflawni trosedd. Wedi ymgynghoriad byr, cytunodd y fainc i daflu'r achosion allan ar daliad y costau. Ar yr un pryd, barnent fod yr achosion yn rhai tra phriodol i'w dwyn yn mlaen, a gobeithient na ddigwyddai rhai cyffelyb eto yn inghaernarfon.- Edward Jones, Caernarfon, a gyhuddai ddau ddyn, sef John Hughes, Porthdinorwig, a W. Williams, Llaiicldeinio ei, o ymosod arno. Rhyddhawyd Williams, a dirwywyd Hughes i lp a'r costau. Arolygiaeth y Fwrdeisdrej,— CynaHwyd cyfarfod urucliig -Ytigiior y Dici liOa Luü, 1 benodi prol., ygydd i'r fwrdeisdref. Yr oedd Pwyllgor y Dewis: I iad yn cymeradwyo penodiad Mr Davies, Dref- newydd. Cynygiwyd ac eiliwyd enw Mr Davies, pryd y cynygiodd Mr Carter welliant, yn cael ei eilio gan Mr J. R. Hughes, sef fod Mr R. Lloyd Jones, boneddwr lleol, yn cael ei benodi ar brawf am chwe' mis. Wedi trafodaeth hir, a chyflwyniad deiseb arwyddedig gan 459 o drethdahvyr o blaid Mr Lloyd Jones, cariwyd y gwelliant drwy ddeg pleidlais yn erbyn naw. Y mgeisiai 40 am y swydd.
: o : Bangor,
o Bangor, CWRT BACH.—Yn y Cwrt Bach, o flaen Syr Horatio Lloyd, ddydd Llun, daeth achos Robert Hughes, chwarelwr, Bethesda, yn mlaen. Yr oedd ei ddyledion yn 36p 15s, ac ymddangosai Mr D. G. Da.vies ar ei ran. Dywedai'r dyledwr fod ganddo wraig a phedwar o blant, yr oil yn wael eu hiechyd. Priodasai naw mlynedd yn ol, ac yn un- ion wed'yn cafodd ei wraig ddamwa.in oddiwrbh yr hon ni wellasai byth. Cafodd yntau ddamwain yn y chwarel, a bu yn ei wely am dri mis, yn ystod yr hyn y derbyniai 53 yr wythnos o elusen plwyf. Gorchymynodd y Barnwr i'r dyledion gael eu talu yn llawn yn ol y radd o 7s 6c y mis.—John Evans, Bethesda., a hawliai 2p 2s oddiar J, Woolf, gwerthwr oriaduron, sef arian a dalasai am oriawr oedd yn "nacau myn'd Ar awgrymiad y Barnwr, cytunodd y diffynydd i gymeryd yr or- iawr yn ol, a thaiu i'r achwynydd haner y swm a hawlid. Gwrandawyd achos yn yr hwn yr oedd perchenogion yr ysgwner Physician," Caernar- fon, yn hawlio oddiar y Mri P. a H. Lewis, Con- wy, dal am lwyth ogymrwd, a ddygasai'r Hong o Rochester i Ddeganwy. Hâwlient hefyd dal am gadwyni ac angorau a gollwyd, y cyfanswm yn 29p 8s 3c. Bu'r achos o flaen y llys yn Rhyl y mis diweddaf. Dodwyd dyfarniad o blaid yr achwyn- wyr, gyda chostau'r diwrnod.
---o-'--Tiodi yn Ngogledd…
-o- Tiodi yn Ngogledd Cymru. Y MAE Mr Bircha.m, arolygydd y Llywodraeth dros Gyfraith y Tlodion yn Ngogledd Cymru, newydd gyflwyno adroddiad am yr haner blwyddyn yn ter- fynu Wyl Fair diweddaf mewn perthynas i dlodi yn Ngogledd Cymru. Dyry ddychweleb o nifer y tlodion a dderbyniasant gymhorth allanol, heb gynwYB tlodion mewn gwaUgofdai a chrwydriaid, fel y canlyn:-Sir Fon, 521 Caergybi, 764; Ban- gor a Beaumaris, 1,201 Caernarfon, 1,408 Conwy, 463; Pwllheli, 803 Llanrwst, 277; Rhuthyn, 367 Gwrecsam, 990; Llanelwy, 888 Penarlag, 223; Treffynon, 1464; Bala, 147 Corwen, 361 Dolgellau, 384; Ffestiniog, 658 Forden, 214; Llanfyllin, 491 Machynlleth, 334 Drefnewydd a Llanidloes, 579. Y gost i bob un o'r boblogaeth am gynal rhai i mewn ac allan o'r ty am yr unrhyw gyfnod sydd fel y canlyn Sir FOD, 5s 9ic Caer- gybi, 5s lie Bangor a Beaumaris, 5s 71c Caer- narfon, 5s 80; Conwy, 4s 2Jc Pwllheli, 5s 6fc 2 Llanrwst, 4s Ole; Rhuthyn, 5s 1 Ic Gwreesam, 2s 6|c Penarlag, 2s 7c Treffynon, 5s 4c Llan- elwy, 4s life Bala, 4s 6Jc; Corwen, 4s 5c; 4 Dolgellau, 5s 012c Ffestiniog, 5s ] Oc; Forden, 2s 4c Llanfyllin, 45 3c; Machynlleth, 5s 5fc; Drefnewydd a Llanidloes, 5s 5fc. ()."): Mewn atebiad i haeriadau Esgob Llanelwy o berthynas i absenoldeb gweinidogion Ymneillduol o luaws o blwyfydd Cyirireig, dywed V stadegydd Swvddwgol y Methodistiaid Calfinaidd Hys- byswyd fi oddiar awdurdod gredadwy fod yn Lleyn 14 plwyf nad oes ynddynt na ficer na churad."
Gwrecsam.
Gwrecsam. YN Heddlys yr Ynadon Sirol Gwrecsam, ddydd ijlun, cyhuddid glowr o-Goedpoeth, o'r enw John Owens, o dori i dy Mrs Mary Ann Jones, groser, Adwy, Coedpoeth, y dydd Mercher blaenorol.- Aunie.Jones, merch yr erlynyddes, a ddywedodd iddi hi a'r forwyn gael eu deffro tuag un o'r gloch y boreu gan swn mawr megys pe buasai rhywun yn tori gwydrau yn y ty. Pan aeth hi i lawr, gwel- odd y carcharor yn y stryd. Daethai'r dyn i fewn trwy ttenesti- llofft, uwchben y gegin. Tyb- iasai hi ar y dechreu fod y carcharor yn feddw, ond gwelodd drachefn nad ydoedd.—Heddgeidwad Parry a dystiodd iddo ddal y carcharor, yr hwn a ddywedodd ei fod yn cofio myaed i'r ty, ond ei fod yn feddw ar y pryd.-Taflwyd yr achos allan. Yn yr un llys, cyhuddid Mary Evans, morwyn yn ngwasanaeth Mr Harrison, Clays Farm, ger Gwrecsam, o roddi ti.9 wair berthynol i'w meistr ar dan.—Mr Harrison a ddywedodd fod y das yn cynwys 16 tunell o wair newydd, gwerth tua 80p, a chwbl ddinystriwyd hi ga.n y tan, er gwaethaf ymdrechion brigadwyr Gwrecsam. Bu'r garchares yn ei wasanaeth ef er mis Ionawr, ac nid oedd ganddo ddim i'w gwyno rhagddi; ond y boreu cyn y tâ.) efe a'i ceryddasai am beidio codi mewn pryd. Ar y cyntaf, ceisiodd y garchares daflu'r bai ar fachgen a welsai yn yr ydlan, meddai hi; ond yn ddilvnol, addefodd mai hi ei hun a daniodd fflach- ell, gan ei rhoi yn nhalcen y dlts.—Dywedai'r gar- charores nad oedd hi'n euog, a thraddodwyd hi i sefyll ei phrawf yn y brawdlys nesif. Ddydd Llun, cyfarfu'r pwyllgor a benododd Cynghor Sir Ddinbych i ystyried rhaniad Undeb Gwrecsam yn ddosparthiadau sirol, yn Neuadd y Sir, Gwrecsam, tan lywyddiaeth Mr Samuel Moss. -Y cynllun a awgrymid i ranu'r Undeb ydoedd fod Allington, Breston, Gourton, Borras Hovah, Acton, Borras RilIre, Erbistock, Holt, Burton, Caeca Dutton, Erlas, Dutton Diffeth, Marchwiel ac Erddig, Dutton-y-Bran, Gresford, Eyton, Llay, Roytou, Ridley Pickhill, Seswick, a Sutton, yn nghyda. Marford a Hoseley (y rhai fwriadid eu tros- glwyddo oddiwrth Undeb Penarlag), i ffurfio dos- parth amaethyddol y gogledd a'r dwyrain fod Rhiwabon i ffurfio dosparth diwydianal y deheu fod Abenbury Fawr, Bersharn, Broughton, Brym- bo, Esclusham Above, Esclusham Below, Gwersyllt, Minera, a Stansty, i ffurfio dosparth diwydianol y gorllewin a bod bwrdeisdref Gwrecsam i ffurfio dosparth canolog y sir.—Wedi ystyried y mater, hysbysodd y cadeirydd fod y pwyllgor wedi pen- derfyuu cymeradwyo'r eynllun o Undeb yn bedwar plwyf gwahanol. i Bwyllgor Deddf Llyw- odraeth Leol i'w dderbyn. Cyjineradwyent fod y plwyfydd amaethyddol, yn cynwys Marford a Hoseley, i gael 16 o gynghorwyr rhanbarthol; Allington a Holt yn unig i gael dau gynghorwr bob un; y gweddill o'r lleoedd i'w cydio yn nghyd a chael rhyngddynb naw cynghorwr Rhiwabon i gael 13, a'r dosparth gorllewinol 20. I Wrecsam, cymeradwyent 8 gwarcheidwad.
-:0:"Cymaint o Jonesiaid a…
-:0:- "Cymaint o Jonesiaid a Robertsiasd.' YN Adran yr Ewyllysiau o'r Uehel Lvs, ddydd Mercher, o flaen yr Ar-glwycld Earuwr Lopes, gwrandawyd -achos Roberts yn erbyn Jones, sef cynghaws o berthynas i ewyllysMr John Pritohard, Snowdon View, Criccieth, yr hwn a fu farw Ionawr diweddaf, yn 84 oed, gan adael eiddo gwerth tua 2,600p. Yr achwynwyr, Mr Richard Roberts, Holloway, Llundain, a Mr William Pritchard, Nan- lioron, Llangian, dau nai i'r trancedig, a osodent gerbron ewyllys ddyddiedig Rhigfyr, 1893, a'r ddiffynyddes, Mrs Ellen Jones, gwraig Mr William Jones, Caerdyni, Criccieth, a wrthwynebai'r ewyllys, gan honi nad oedd y testamentwr yn ei iawn bwyll pan wnaeth yr ewyllys, a gofynai am i ewyllys dyddiedig Awst 11, 1892, gael ei phrofi tan hono, yr oedd hi i dderbyn peth o'r eiddo. Wedi gwrando amryw dystion o'r enwau Jones a Roberts, dywedod i y Barnwr Lopes: "Yr an- hawsder bob amser gyda'r achosion Cymreig yma ydyw fod yna gymaint o Jonesiaid a Robertsiaid (chwerthin). Aed yn mlaen i wrando'r achos ddydd lau a Gwener. Pan alwyd ef yn mlaen ddydd Sad win, bu ymgynghoriad rhwng cyfreith- wyr y ddwy blaid, a deuwyd i gytundeb, sef fod y pleidiau i fyned yn ol at delerau ewyllys a wnaed yn 1887, tan yr hon y gadawyd 560p yn gymun- roddioD, a'r gweddill (sef ffarm Ynysgain Ganol) i W. Pritchard, Richard Roberts, a Richard Lloyd. Trefnwyd hefyd fod ewyllys 1893 i'w phrofi. Yn ddilynol, dyfarnodd y rheithwyr o blaid ewyllys 1893, a dadganadd y barnwr o'i phlaid, costau'r cynghaws i ddyfod allan o'r eiddo.
-0-Canghen Gogledd Cymru o'r…
-0- Canghen Gogledd Cymru o'r Cymdeithas Feddygol Brydeinig. CYKALIODDcanghen Gogledd Cymru o'r gymdeithas u jhod y 45ain o'i chyfarfodydd bIynyddol yn Ma.n- gor, ddydd lau, dan lywyddiaeth Dr. Eyton Lloyd, Rhyl. Darllenwyd yr adroddiad am y flwyddyn gan yr ysgrifenydd (Dr. Jones Morris). Hysbysid fod yr aelodau yn rhifo 142, gyferbyn a 71 pan gyfarfu'r gymdeithas yn Maugor yn 1876. Cyfeir- iwyd at farwolaeth Dr. Elias Owen, Llangefni, yr hwn oedd yn aelod defnyddiol o'r gymdeithas, ac yn ddiweddar wedi ei ddewis yn aelod o'r Cyngor. Yr oedd materion arianol y Gymdeithas mewn cyflwr boddhaol—y gweddill mewn lIaw ar derfyn y flwyddyn yn 40p.— Awgrymwyd y dylasid cynal y cyfarfod nesaf yn Nghorwen, a'r cyfarfod hlynyddol nesaf yn Nghriccieth fod Dr Hunter Hughes, Pwllheli, i'w benodi yn gadeirydd am 1895 6, Dr Jones-Morris i fod yn ysgrifenydd, Dr S. Griffith yn drysorydd, a'r rhai canlynol yn ael- odau o'r pwyligor Dr D. R, Jones, Corwen Dr Roger Hughes, Bala Dr Hugh Jones, Dolgellau Dr C. Williams, Dyffryn Dr Roberts, Penygroes a Dr. S. W. Griffith, Pwllheli: Derbyniwyd yr adroddiad.—Ar gynygiad Dr. Lloyd Williams, yn cael ei eilio gan Dr. R. A. Pricehard, a'i gefnogi gan Dr. Roberts (Bethesda), pasiwyd penderfyniad yn Ilongyfarch Syr John Williams ar ei ddyrchafiad yn farwnig gan y Frenhines Yn ddilynol, darllen- wyd papyrau gan Dr. Hugh Jones, Dolgellau, a Dr. R. Williams, Lerpwl. Mater Dr. R. Williams ydoedd Arwedd Iechydol Adroddiad Dirprwywyr Llafur ar Ogledd Cymru," ac ar derfyn ei bapyr, cynygiodd—" Fod aelodau canghen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig, gan gydnabod y ffeithiau a ddygwyd i'r golwg gan y Ddirprwy- aeth ar ymborth y chwarelwyr, yn ymrwymo i wneud eu goreu drwy bob moddion yn eu gallu i ledaenu yn mhlith y bobl egwyddorioD cedyrn sut i ymborthi'n briodol a chadw deddfau iechyd ya gyffredinol." Eiliwyd gan Dr H. Jones Roberts Penygroes, a chariwyd y penderfyniad ar ol trafod- aeth ddyddorol. Darllenwyd papurau hefyd gan Dr J. Lloyd Roberts, Dinbych: Dr J. Elliott, Caer: Dr R. H. Mills Roberts, Llanberis Dr R. Parry, Caernarfon; Dr E. J. Lloyd, Bangor; a Dr H. Jones Roberts, Penygroes. Yn yr hwyr, bu'r ctniaw blynyddol yn y George Hotel.
-0 Addysg Elfenol yn Nghymru.
-0 Addysg Elfenol yn Nghymru. YN Nhy'r Arglwyddi, ddydd Gwener, gofynodd Isiarll Cranborne i Islywydd Cynghor Addysg a oedd absenoldeb unrhyw grybwylliad am Gymru yn yr ail a'r drydedd ran o'r adrtitldiad chwarterol o'r ysgolion elfenoi cyhoeddus a rybuddiwyd yn golygu nad oedd yn Nghymru ysgolion oddiar ba rai y bygythias 4 y Swyddfa dynu'n ol neu oedi'r grants oherwydd adeiladau diffygiol yn ystod y chwarter diweddaf ? Mr Acland: Y mae mor amlwg ar wyneb yr ad- roddiad crybwylledig nad oes un ysgol Gymreig yn cael ei nodi ynddo fel yr wyf yn gorfod tybio fod i'r cwestiwn ryw feddwl neu amcan pellacb. Dyma ydyw'r ffeithiau ;-Cyfrif am dri mis yn unig ydyw -0 Ebrill 1 i Mehefin 30. Allaia o 20,000 o ysgol- ian yn Lloegr a Chymru, nid oes ond 28 o ysgolion, neu ranau o ysgolion, wedi cael eu rhybuddio, a hyny heb atal neu oedi'r grant, a,c ni chafodd ond tair neu bedair atal eu grants. Fel y gellid disgwyl, digwyddodd i nifer fawr o siroedd Seisnig beidio ymddangos o gwbl yn yr adroddiad, na dim un o'r siroedd Cymreig. Mae bron yn anmhosibl beidio tybio mai amcan yr arglwydd urddasol yd- oedd awgrymu fod arolygwyr a swyddogion eraill y Swyddfa wedi dangos pleidgarwch annheg yn nglyn a'r ysgolion yn Nghymru yn ystod y misoedd hyn. Mae yn rhaid i mi-nid am y tro cyntaf—ddweyd wrth yr arglwydd urddasol, os mai dyna oedd yn ei olygu, fod ensyniadau o'r fath yn erbyn y Swyddfa Addysg yn dra beius a gwithun, ac i ofidio o'u herwydd. Argl. Cranborne Ar ol atebiad yr aelod gwir anrhydeddus, rhaid i mi ofyn caniatad i egiuro. Ymddengys y boneddwr anrhydeddus yn gwbl an- Ily alluog i ddeall y gall ae!od ofyn cwestiynau fel hyn heb ryw gymhelliad cuddiedig. Myfi a ofynais y cwestiwn hwn yn syml mewn trefn i gael hysbys- rwydd, yr hyn, rni a dybiaf, yw y rheswm arferol. Mr Acland Caniataer i mi ddweyd fod yr hys- bysrwydd mor eglur ar y wyneb-mor eglur a bod cwestiwn yr arglwydd urddasol yn rhif 33-nes ei gwneud yn anmhosib! tybio iddo ofyn y cwestiwn er mwyn hysbysrwydd. Argl. Cranborne Gallaf sicrhau y boneddwr an- rhydeddus mai felly yr oedd. Nid oes ganddo reswm o gwbl dros briodoli amcanion. Mr Bartley Yr wyf yn dymuno rhoddi rhybudd y bydd i mi, pan ddaw'r arncangyfrifon gerbron, alw sylw at gynydd aruthrol niter yr ysgolion eg- Iwysig ac enwadol ydynt wedi cael eu rhybuddio gan y Swyddfa.
---0----Eisteddfod Corwen.
-0- Eisteddfod Corwen. Y MAE rhagolygon yr wyl agoshaol yn rhoddi calondid arbenig yn mhyilgor ymdrechgar ein Reis- teddfod eleni eto, a disgwylir lluaws mawr o ym- welwyr nid yn unig o'r trefi a'r cymoedd cylchynol, ond hefyd o brif ddinasoedd Cymru. Bydd i lywydd cyfarfod y boreu, sef Mr Thomas Darlington, M. A., er yn Sais trwyadl o genedl a thafodiait-h, roddi i ni anerchiad yn Iaith Gwlad y Gan. Hyderwn y bydd hyn yn symbyliad i lyw- yddion brodorol a Chymry o genedl ddilyn ei esiampl wrth anerch torf o werin Cymru. Yn nghyfarfod y boreu y cymer y brif gystadleuaeth gorawl le-tri mewn nifer, yn hyn sydd yn rhwym o fod o'r dyddordeb mwyaf atdyniadol. Yn nghyfarfod y prydnawn, llywyddir gan Mr 0. M. Edwards, M.A. Bydd hwn yn fwy amryw- iol yn ei ddarpariaethau. Yma bydd yr ail gys- tadleuaeth gorawl—tri mewn nifer. Yna daw cadeirio y bardd buddugol gyda rhwysg teilwng. Climax cyfarfod y prydnawn fydd cystadleuaeth corau y meibion, chwech mewn nifer. Yma dis- gwylir ymdrech ddihafal yn hanes Eisteddfodau Corwen. Yn y cyngherdd, llywyddir gan Mr E. O. V. Lloyd, Rhagatt. Dyma fydd maen clo dyddordeb yr wyl. Cymerir rhan ynddo gan y s?indorf danau, dan lywyddiaeth Mr Bryan Warhurst. Bydd Miss Jennie Roberts, R.A.M., yr hon a dderbyniwyd yn wresog ar Iwyfan Eisteddfod Caernarfon yn gwasanaethu Mr Wilfrid Jones fydd yn gwisgo hefyd yn ei holl arfogaeth gerddorol. Yna daw cor meibion buddugol yn mlaen i roddi dadganiad o'r dernyn y gorchfygasant arno. Am Mr William Evans, y mae'n sicr o wefreiddio y gwrandawyr. Terfynir y cyngherdd gyda dadganiad mawr- eddog o'r dernyn buddugol gan y cor mawr-enill. ydd y brif wobr. R.
--+--Prifgwnstabl newydd sir…
--+-- Prifgwnstabl newydd sir Fon. CYNATAWYD cyfarfod oGydbwyllgor Heddgeidwad- 01 Mon yn Llangefni ddydd lau, i'r pwrpas o ddewis prif-gwnstabl. Fel yr hysbyswyd eisoes, safai'r dewis rhwng yr Arolygwyr Jones, Porth- aethwy; Morgan o Ffestiniog a Prothero, o. Fangor. Yn y bleidlais gyntaf, cafodd Mr Prothero 9 pleidlais, Jones 8, a Morgan 5 yn yr ail bleid, lais, cafodd Prothero 12 a Jones 10. Yna dewis- wyd Prothero yn unfrydol. Ymunodd Prothero. a. Heddlu Sir Gaernarfon pan yn 19 mlwydd oed, y mae wedi gweini yn barhaus am 32 mlynedd, ac wedi ei ddyrchafu o radd i radd hyd y swydd o ddirprwy brif-gwnstabl, swydd a ddaliodd tan Mr Ellis, Capt Pearson, a'r Uchgapten Clayton. Mae efe'n hyddysg yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac wedi gwasanaethu yn fynych fel cyfieithydd yn y gwa, hanol iysoedd.
[No title]
Ddydd Sul, bu Dr Griffith, cadeirydd Bwrdd Lleol Porthmadog, a Mr J. E. Jones, cadeirydd y Bwrdd Ysgol, yn dadlenu'r ffenestr a osodwyd yn Eglwys St. loan, trwy gyfraniadau cyhoeddus, er coffa am Mr Grindley, yr hwn a fu am flynyddoedd yn feistr yr Ysgol Genedlaethol. O'r diwedd, mae annghydfod Glofa Wynnstay, Rhiwabon, wedi ei derfynu Aeth y dynion, tuag 800 mewn nifer, allan ar streic tua thair wythnos cyn y streic fawr ddiweddar, oherwydd na roddai'r meistriaid ond Is 8e y dunell iddynt am weithio gwythien newydd, tra'r oeddynt hwythau yn hawl- io Is 10c. Gwnaecl amryw geisiadau i seblo, ond methwyd bob tro hyd yn awr, pryd y derbyniodd y dynion Is 9c y dunell. Yn ol adroddiad a gyflwynwyd i Fwrdd y Gwar- cheidwaid ddydd Ian, gan Dr E. Davies, y swydd. og meddygol, y mae'r ddarparineth ar gyfer gwallgofiaid yn nhlotty Gwrecsam yn mhell oddi- wrth fod yn ddigonol. Derbynir rhwng 50 a 61 o wallgofiaid i'r tlotty yn flynyddol. Yu bresenol, mae 50 ohonynt yn y ty, a'r unig berson sy'n gofalu am danynt, medd Dr Davies, yw hen wraig 70 oed, yr hon sy'n gloff." Cyfeiriwyd ad- roddiad y meddyg i sylw pwyllgor yr ymwelwyr.