Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE LANCASHIRE WATCHES Surpass all others in Quality and in Cheapness. GENUINE ENGLISH LEVERS In Silver Cases, £ 2 2s., £3 3s., £ 4 ios. Gold Cased, surprisingly cheap FACTORY PRICES AT A BYRNE'S. io, BOLD STREET, AND THE GOLDSMITHS' COMPANY, 19, PARKER STREET, LIVERPOOL. The West of England Clotfi Establishment. (Established 1856.) J. JONES & CO., Late 0. P. OWEN & Co., 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru, a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD | 1 OREU. GWNEUTHURIAD | ~B~OREU. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol* DilUWCH A GWELWCH. C HAS. R. HALL, GENERAL LETTER CUTTER <0 ENGRAVER I 53, PARADISE STREET, LIVERPOOL. MANUFACTURER OF BFRNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C. DIRPRWYAETH FRENHINOL AR DIR YN NGHYMRU A MYNWY. BYDDED HYSBYS y cynelir eisteddiadau y Ddirprwyaeth hon, i'r dyben o gymeryd tystiol- aethau o berthynas i siroedi Dinbych, Fflint, a Threfaldwyn, fel y canlyn Yn yr Assembly Rooms, Llangollen, ar ddydd Mawrth, yr 28ain o Awst, am 10 yn y boreu. Yn y County Buildings, Gwrecsam, ar ddydd Mercher, y 29ain o Awst, am 11-15 yn y boreu. Yn Hanmer ar ddydd lau, y 30ain o Awst, am 10 yn v boreu. Yn Neuadd Drefol y Wyddgrug, ar ddydd Gwenei yr 31st o Awst, am 10 yn y boreu. Yn yr Assembly Room, Treffynon, ar ddydd Sadwrn, y laf o Fedi, am 10-30 yn y boreu. Yn Neuadd Sirol Rhuthyn, ar ddydd LInn, y 3ydd o Fedi, am 12 yn y boreu, ac ar ddydd Mawrth, y 4ydd o Fedi, am 9-15 yn y boreu. Yn Neuadd Sirol, Dinbych, ar ddyddiau Mercher ac lau, y 5ed a'r 6ed o Fedi, am 10 yn y boreu. Yn Rhyl, ar ddydd Gwener, y 7fed o Fedi (os bydd galw, i dderbyn gwrth-dystiolaethau (rebutting evidence) yn unig), am 10-30 yn y boreu. Yn Neuadd Drefol y Trallwm, ar ddydd Sadwrn, yr 8fed o Fedi, am 10-30 yn y boreu. Yn Neuadd Drefol, Llanfyllin, ar ddydd Llun, y 10fed o Fedi, am 10-30 yn y boreu. Yn Ysgoldy y Bwrdd, Llanfair, ar ddydd Mawrth, yr lleg o Fedi, am 10-30 yn y boreu. Yn yr Ysgoldy, Dinas Mawddwy, ar ddydd Mer- cher, y 12fed o Fedi. am 11-30 yn y boreu. Yn Neuadd Sirol, Machynlleth, ar ddydd lau, y 13eg o Fedi, am 10 yn y boreu. Yn y Victoria Hall, Drefnewydd, ar ddydd Gwener, y 14eg o Fedi, am 10-30 yn y boreu. Gofynir i'r sawl sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth anfon eu fcenwau i mi, yn nghyda chrynodeb (neu gopi cyflawn) o'r dystiolaeth fwriadant roddi, bythefnos o leiaf cyn dydd yr eisteddiad yn mha un y dymunant gael eu harholi. D. LLEUFER THOMAS, Ysgrifenydd. 1, Charing Cross, Llundain, S.W. Symudiadau Llongau Cymreig Lerpw. CAMBRIAN LINE (Thomas Williams & Go.) CAMBRIAN WARRIOR, hwyliodd o Barry, Caerdydd, am Santos, Ehrill 7. CAMBRIAN PRINCESS, gadawodd Samarang am yr Azores, Mawrth 20. CAMBRIAN KING, hwyliodd o Monte Video am Newcastle Ti. S.W., Mawrth 3. CAMBRIAN MOKABCH, hwyliodd o Lundain am Melbourne, Mrwrth 10 CAMBRIAN PRINCE, hwyliodd o Rio am River Plate, Ebrwl 30; CAMBRIAN N, cyrhaeddodd St. Helena o Manilla ar ei ffordd i Lerpwl, Ebrill 17 CAMBRIAN HILLS, cyrhaeddodd Port Pirie o Rotterdam, Mai 3. CELTIC LINE (R. Hughes-J ones & Co.) CELTIC MONARCH, cyrhaeddodd Barry Dock o Hamburg G-orphenaf 25. CELTIC CUI F U, gaclawodd Caerdydd am Santos, Mehefin 11. BRITISH COMMODORE, gadawodd Coquimbo, am Callao, Mehefln lG. SCTPKBB, ga awodd I-pbetiba, Brazil am Rangoon, Mehefln 10 CELTIC QUVJBN, cyrhftsddodd Callao q Caerdydd, Gorph. 16. CELTIC RACE. -adaworid Rio de Janeiro Newcastle N.S.W., Mehefln 9. CARNBnn LLEWELYN, gadawodd Newcastle N.S.W., am Portland Oregon, Mehefin 18. RICHARD E EVANS, .1 t í HOUSE AND ESfATE AGENT, ia Preston Street (Opposite Police Courts) LIVERPOOL. And 36, CLARENDON ROAD, SEACOMBE. KSTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR MORTGAGES EFFECTED NO WELSHMAN SHOULD BE WITHOUT,1 THE NEW ENGLISH MONTHLY MAGAZINE "WALES," Editor-0. M. EDWARDS, M.A., OXFORD. It aims at the promotion of a high and noble patriotism." "Beautifully printed, tastefully illustrated." "Ti ragoraist arnynt oil" (Ned Huws yn Y Cymro). The Illustrations for July are excellent. The Works of Goscombe John, the Welsh Sculptor, are presented in a style surpassed by no English Magazine. —SEVENTEEN ILLUSTRATIONS- Price SIXPENCE, on the 1st of every month, "CYMRU'R PLANT," Dan Olygiaeth O. M. EDWARDS, M.A. DYLAI HWN GAEL CEFNOGAETH POB PENTEULU. YR UNIG GYHOEDDIAD ANENWADOL I'R PLANT. DARLUNIAU RHAGOROL, LLYTHYREN NEWYDD, AMLEN HARDD. TONAU I'R PLANT, GWERSI, HANESION A GWOBRWYON. Ceiswch y Rhifyn am Gorphenaf, Pris Ie. HUGHES & SON, Publishers, 56, HOPE STREET, WREXHAM. Order through a Bookseller; also at the Bookstalls. i I CWESTIWN BITTERS GWILYM EVANS. Y mae miloedd wedi cael iachad trwy ddefnyddio y meddyglyn anghydmarol hwn, pan oedd pob Meddyginiaeth Arall Wedi Methu. Ni ddylai un teiilu fod hebddo. Mynwch ei gael. Adfera iechyd cyflawn. Ymlidia afiechyd ymaith. Nid yw byth yn siomi. Rhoddwch brawf arno. PWYSIG. BITTERS G WILYMEVANS. TYSTIOLAETHAU. 1 Greenfield Cottage, Wellfield Road, Caerfyrddin, Mehefin 12, 1893. Anwyl Syr-Yr wyf yn 71 oed. Y gauaf diweddaf cefais an- wyd trwm, a throdd yn influ- enza, gyda diffyg treuliad a phoen mawr yn y pen. Er i'r Doctor goreu yn y dref weini arnaf, nid oeddwn yn gwella. Yna anfonais am eich QUI- NINE BITTERS, ac yr wyf heddyw yn ddyn newydd ar ol cymeryd tair potelaid o hono. Yr eiddoch, D. Davies. 24 Lynton Street, Salford, Mehefin 23,1893. Foneddigion—Blinid fi yn fawr gan Bronchitis ddydd a nos, ac er bod dan drin- iaeth Meddygon yn yr Hos- pital, nid oeddwn yn fawr gwell. Anogwyd fi i roddi prawf ar QUININE BIT- TERS Gwilym Evans. Cefa,is esmwythad mawr mewn byr amser, ac erbyn hyn yr wyf yn teimlo fel person arall. Ni fyddaf byth mwy heb botelaid o o hono yn y ty. Yr eiddoch- (Mrs.) S. Parkinson. Dywed Mr. E. Creigfryn Edwards, Garth, Llangollen, Mawrth 3, 1893. Foncddigion- Er's peth amser yn ol poenid fi gan Neuralgia, ond rhoddodd QUININE BITTERS Gwilym Evans wellhad llwyr i mi mewn byr amser. BITTERS 6MI EVANS, "SHYBUDD, eas* Gochelwch Dwyllwyr. Edrychwchfod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir mewn poteli. 1/lJ, 2/9, a 4/6, yr un; BIychau y cynwys tair potel 4s 6c am 12s 6c. I'w cael yn mhob man, neu daufonir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddyogel drwy jpost oddiwrth y perchenogion,— QUININE BITTERS IJANDFACTORING Co., LIMITED. LLANELLY, SOUTH WALES. PRIF ORUCHWYLIWR YN AMERICA- Mr, R. D. WILLI ^^3, Piy.mafch, Pen EXTRAORDINARY PURCHASE. 1,000 J A DIE S' S I R T S, IN TWELVE FASHIONABLE STYLES, ALL WITH LARGE SLEEVES ANT) STIFF COLLARS AND CUFFS, USUALLY SOLD AT 2/11 AND 3/11, WILL BE OFFERED AS EACH. SEE WINDOW THIS DAY. HENRY MILES, 25 & 25A, CHURCH STREET (Opposite Pro-Cathedral), LIVERPOOL. (F .JE- NEWYDD EI GYHOEDDI. Mewn cyfrol hardd yn cynwys 750 o dudal. Demy 8vo Pris 10s. 6ch. HANES LLENYDDIAETH GYMEIG o 1651 hyd 1850 (History of Welsh Literature-1651-1850). GAN CHARLES ASHTON, DINAS MAWDDWY. Cyhoeddwyel gem" OymeleÜhas yr Eisteddfod Genedl- aethol," ac i'w gael oddiiorth ISAAC FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET, LIVERPOOL.
ELUSEN DEON GOODMAN. :
ELUSEN DEON GOODMAN. YR oedd y Deon Goodman yn un o wfr eglwysig galluocaf ei oes, a'i ddaioni yn gwbl gyson a'i enw. Ganwyd ef yn Rhuthin yn 1528, a bu farw yn ddibriod yn Llun- dain yn 1601. Llanwodd y swydd anrhyd- eddus o Ddeon Westminster am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn gyfaill hefo Whit- gift, yr archesgob, a chafodd Dr. William Morgan nawdd a Hetty yn ei dy tra yn Llundain yn golygu ei gyfieithiad o'r Ys- grythyr i'r Gymraeg. Cyfieithiodd Deon Goodman yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid yn Meibl Seisnig yr Esgobion. Gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo, yn ol ei ewyllys, er budd ei dref enedigol. Gwaddolodd Ysgol Ramadegol yno, sefydlodd elusendy i hen bobl, a threfnodd wardeniaeth i ofalu am iawn-weinyddiad ei elusenau. Nid oes neb yn gwadu, hyd y gwyddom, nad sefydliad- au Protestanaidd, ac Eglwysig yn gymaint mai Eglwys Loegr yn ei amser ef oedd yr unig ffurf ar Brotestaniaeth. Yn yr elusen- dy a'r ysgol, gelwid ar y sawl a dderbynient fudd oddiwrth ei elusenau i ddysgu'r catecism eglwysig ac i fyned i'r eglwys yn gyson. Cyfyngid deiliaid yr ysgol i blant plwyfi Rhuthin a Llanelidan—phvyf tua phum' milldir oddiyno, yn nghydag eraill allent dalu am eu dysg. Pa hyd y glyn- wyd wrth delerau yr elusen, nis gwyddom ond y maent wedi eu troseddu er's o leiaf haner can' mlynedd. Plant personiaid a boneddigion a chrachfoneddigion o bell ac agos sydd wedi mwynhau y manteision a fwriedid gan y sylfaenydd, mae'n ddiau, i biant tlodion y ddau blwyf a nodwyd. Ac yn 1881, trwy ddealltwriaeth hefo Dir- prwywyr yr Elusenau, taflwyd drysau yr ysgol yn agored i bob enwad yn ddiwara- fun. Os rhoddid addysg eglwysaidd i'r byrddwyr yn y tf, nid oedd dim son am y catecism yn yr ysgol ac o'r herwydd dan- fonodd llawer o'r Ymneillduwyr eu bech- gyn yno i'w haddysgu, gan, wrth gwrs, dalu yn uchel am y fraint. Hawdd gweled fod y sefydliad ar ei fantais arianol trwy hyn ac yr ydym yn ei nodi er dangos na chydymffurfiai Llywodraethwyr yr Elusen a. bwriad amlwg y sefydlydd yn y gorph- enol pan fyddai o fantais i'r sefydliad iddynt wneud fel arall. Chwech neu saith mlynedd yn ol, pen- derfynodd y Llywodraethwyr godi ysgoldy newydd oddiallan i'r dref, a danfonwyd amryw gylchlythyrau allan yn gofyn cym- horth tuag at y draul. Yn yr oil bron o'r cylchlythyrau hyn, dywedid yn ddiamwys mai ysgol anenwadol yd oedd ond cafodd Esgob Llanelwy yn dra anffodus hyd i gylchlythyr heb y geiriau pendant hyn ynddo, ac oddiar hwnw bu yn pregethu ei hun yn y Timesy ac yn hanos Arglwyddi Salisbury a Cross yn Nhy yr Arglwyddi i ddinystrio cynllun addysg ganolradd sir Ddinbych. Yn mhellach, er dangos mor llwyr yr oedd y Llywodraethwyr wedi ym- gymodi ag anenwadaeth, danfonwyd gan- ddynt gylchlythyr flwyddyn yn ol yn gwahodd plant i'r ysgol, a'r frawddeg gyntaf ynddo ar ol y darlun ydoedd, Ruthin School was founded by Gabriel Goodman, Dean of Westminster, in 1575; and reconstructed by the Endowed School Commissioners in 1881, as a First-grade Public School. Fel hyn pan fyddai eisiau pres at godi ysgoldy. neu blant i'w lenwi ar ol ei godi, Ysgol Anenwadol ydoedd ond pan geid cyfleu i daro Ymneillduaeth, gwarchod ni fel y codid y pious founder o'i fedd, ac mor bwysleisiol y darllenid thanau o'i ewyllys. Ystrywiau go ddirmygus ydyw pethau fel hyn teilyngach o Hotentotiaid yr anialwch nag o Lywodraethwyr Elusen Gristionogol. Y mae'n anhawdd i rywun dyeithr am- gyffred y teimladau uchel sydd yn Nyffryn Clwyd parth Uywodraethiad yr ysgol hon ond ceid ychydig oleuni ar yr achos oddi- wrth yr ymgom soriantus, a welir mewn colofn arall, a fu rhwng Mr J. W. Lumley, Y.H., Is-gadeirydd Cynghor Sir Ddinbych ar y naill law ac Esgob a Deon Llanelwy ar y Haw arall. Yr ydym wedi dweyd droion o'r blaen os na cheir cydraddoldeb crefyddol yn fuan-ac nid yw'r achos hwn ond canghen ohono-y bydd Cymru cyn hir mor derfysglyd a chyffrous a'r Iwerddon.
-:0:-RHODDI A DERBYN.
-:0:- RHODDI A DERBYN. NID yw byth yn gwlawio heb dywallt," medd yr hen air a'r dyddiau diweddaf hyn, cafodd Cymru brawf o hyny. I ddechreu, dyna Mr Rathbone yn addaw £300 y flwyddyn am ddwy flynedd i hyr- wyddo celf a gwyddor trwy y wlad yna wele galon oer y Llywodraeth yn cael ei chyffwrdd gan y cwynion fod gemau llen- yddol y Cymry Fu mewn cyfrolau o law- ysgrifau nas gwyr neb eu gwerth, yn gorwedd yn ddifudd ar astelli yr Amguedd- fa Brydeinig, a llyfrgelloedd eraill ac wele law Ysgrifenydd Arianol y Trysorlys yn myned i bwrs y wlad, ac yn tynu 1400 allan i dalu cyfiog Cofrestrydd am ddwy flynedd i wneud trefn arnynt. Ond coron y cyfan ydyw rhodd haelionus Canghellydd y Trysorlys tuag at Goleg Aberystwyth, sef £ 10,000. Diau fod y Llywodraeth yn gwybod erbyn hyn am y mwynhad a eilw'r Sais yn luxury of doing good ac wedi cael bias ar roddi hwyrach na fydd y llinyn mor dyn am enau y pwrs yn y dyfodol. Yn ngwyneb sefyllfa bresenol addysg, ac anghenion Cymru, ac yn neillduol safle Coleg Aberystwyth, fe deimla pawb mai teilwng iawn y rhodd hono. Fel y dywedai Syr George Osborne Morgan, anhawdd fuasai cael un sefydliad mwy teilwng nac yn meddu cymaint o hawl i nawdd yr awdurdod wladol. Coleg y werin ydoedd —hwy, drwy eu hunanymwadiad a'u hael- ioni, fu yn foddion i'w sefydlu, ac onid dyledswydd a braint pob Llywodraeth ydyw cynorthwyo a chefncgi sefydliad o'r fath ? Diau y bydd y io,ooop. hyn yn foddion yn llaw awdurdodau y Brifysgol i symud yn mlaen i'r dyfodol gan agor llwybrau newydd ar feusydd dysg i fyfyrwyr ein gwlad. y Er mai rhodd amodol ydyw, ni bydd y Cymry yn fyr o ddod i fynu a'r amod, a diau y ceir y 5,000p. angenrheidiol ar un- waith, oblegyd cred ein cydwladwyr fod gofynion addysgol ein cenedl yn teilyngu cefnogaeth, ie, pe rhaid hunanymwadu eto wrth wneud hyny.
---0--Hewyddion Cymreig.
-0-- Hewyddion Cymreig. Cwynir fod eogiaid yn hynod o brin yn y Ddyfr- dwy eleni, tra y mae eyflawnder ohonynt yn yr afon Glwyd. Ddydd Sadwrn diweddaf, bu farw Mrs Sarah Evans, mam y Prifathraw Herber Evans, D.D., Bangor, yn yr oedran tC3 o 82 mlwydd. Dewiswyd Miss Evelina Griffiths, M.A., yn brif- athrawes Ysgol Ganolradd y Merched, a Mr A. S. Tetley, M.A., yn brifathraw Ysgol Ganolradd y Bechgyri yn y Drefnewydd. Mae y Parch Moses Roberts o Goleg Duwinyddol y Bala wedi derbyn awahoddiad taer ac unfrydol o eglwysi Bontddu, Soar a Llanelltyd, gorilewin Meirionydd, i ddyfod yno i'w bugeilio. Cyrhaeddodd y Parch D. D, Green, Caernarfon, a diweddar fyfyriwr yn Ngholeg Annibynol Bangor, yn ddyogel i Tamative, Madagascar, lie yr erys yn genadwr dan nawdd Cymdeithas Gemtdol Llundain. Hwyliodd Mr Thomas Darlington i'w daith o ymweliad a'r Amerig ar fwrdd y Majestic, llinell y White Star, ddos (ddydd Mercher).' Nid yw yn bwriadu dychwelyd am dri neu bedwar mis. Mae Mr O. O. William, mab y Parch John Williams, City Road, Caer, wedi myned yn llwydd- ianus drwy ei arholiad meddygol. Bwriada Mr Williams fyned i Fryniau Khasia fel cenadwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Rhoes perchenogion Glofa Bettisfield, Bagillt, bythefnos o rybudd i'w gweithwyr o ostyngiad o ddeg y cant. Rhifa eu gweithwyr 700, a bernir y bydd iddynt wrthwynebu y gostyngiad hyd yr eithaf. Yn ol atebiad Syr J. Rigby i Mr J. Bryn Ro- berts, yn Nhy y Cytfredin y nos o'r blaen, gellir gweled ewyllys a wn er yn Nghymraeg bob ams er yn Llys yr Ewyllysiau, oDd nid ellir cael copi ohoni awdurdodedig gan y Ilys, gan mai nid oddiar yr ewyllys yn y gwreiddiol y profir hi, ond oddi- wrth y cyfieithiad ohoni i'r Saesneg. Amcan Mr Roberts wrth ofyn y cwestiwn ydoedd cael sicr- wydd fod y cyfieithiad yn un eywir.