Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

-0---ITrychineb ar y Mawddach.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- I Trychineb ar y Mawddach. ■ COLLI DEG 0 FYWYDAU. ■ Nos Fercher, digwyddodd trychineb gofidus drwy yr hwn y collwyd deg o fywydau, yn afon y ■ Fawddach, rhyw ychydig bellder o Abermo. Cyr- ■ haeddodd y newydd i'r lie oiaf tua deuddeg o'r ■ gloch nos Fercher, ac yn gynar fore Iau, yr oedd y ■ cei yn orlawn o ymholwyr cynhyrfus am hanes. ■ Hysbyswyd or diwedd mai aelodau o'r National ■ Home-Reading Union," oeddynt yn treulio gwyl- ■ iau'r haf yn Ngogledd Cymru, ydoedd y rhai a ■ fcddwyd. Yr oedd tua 50 ohonynt yn aros yn yr I Abermo, a bore Marcher, bu raid iddynt roi'r goreu I i'w taith ddyddiol oherwydd y tywydd anffafriol. ■ Tua saith o'r gloch nos Fercher, aeth nifer ohonynt i ■ fynu'r afon, mewn tri chwch, cyn belled a, Phen- ■ maenpwl. Digwyddodd y ddamwain ar y ffordd I yn ol i'r Abermo. Yr oedd y llanw'n dod i fewn ■ yn gryf, a'r mor yn arw. Trodd un o'r cychwyr ■ tua'r tir, a glaniodd y rhai oedd yn ei gwch. Ym- H drechodd y ddau gwch arall fyned i'r Abermo, ond ■ suddasant. Cynwysent bed war ar ddeg o berson- I au, a boddwyd deg ohonynt. Darfu i'r Capten I Jones, yr hwn a ofalai am un o'r cychod, nofio i'r I lan, cafodd gwch gwag, ac aeth all-atn drachefn I gyda'r bwriad o achub y gweddill. Llwyddodd i I achub pedwar. Daliai un ei afael yn ngwael- I od y cwch a droasid drosodd, yr oedd un I arall yn nofio ar un o'r rhwyfau, y trydydd I yn cadw ei hun i fynu trwy ddal ei afael ■ yn y llyw, tra'r oedd y pedwerydd yn gorwedd I ar ei gefn bron suddo. Hyd fore Iau, ni chawsid I ond cyrphwyth o'r rhai a foddwyd, sef Percival I Gray (21), Dinbych y Pysgod, Deheudir Cymru; I W. P. Paton (33), 7, Longlane Street, West Kirby, I Lerpwl H. Woodworth (27), Green Street, Ard- I wick Green Miss Golightly, Durham Miss Ellas ■ Golightly, Durham Miss Malinson (28), Brad- I ford; Dora Greenwill (19), Durham Miss Marie I Reed (17), Leeds. Yr oedd dau gorph wed'yn yn I ngholl, sef eiddo J. W. Newman (21), Dunmow, I Essex ac Edith Moore, Rockwood Wembly, Har- I row. Y rhai a achubwyd oedd Miss Reed, Leeds I Miss Packer, Leeds Mr. Prysor, Hastings a Mr. I Field, Llundain. I Brydnawn Iau, agorwyd y trengholiad ar y I cyrph, o flaen Mr. W. R. Davies, Dolgellau, y I trengholydd. I Wedi myned drwy'r gwaith o adnabod y cyrph, I dywedodd Mr. Hubbert, aelod o'r parti, ei fod wedi I gweled y cychod yn cychwyn. Nid ymddangosent I yn rhy lawn. Nid aeth efe gyda'r un o'r cychod, I am y gwelai'r perygl gan fod y gwynt mor uehel. I Nid aeth y parti allan yn erbyn ewyllys y cychwyr. I Mr. C. F. Prysor a ddywedai na chytunai a'i I tyst olaf, sef fod yr afon yn edrych yn beryglus I pan gychwynodd y parti. Nid oedd yn beryglus hyd I nes oeddynt yndychwelyn erbyn y gwynt. Eistedd- I ai ef yn mhen blaen y cwch. Wedi iddynt fyned beth pellder, troes y cwch, neidiodd ef allan a thaflwyd y lleill. Cafodd ef afael mewn plane o'r cwch, ac felly llwyddodd i gadw ei hun ar y wyneb. Yn y man, llwyddodd i fyned i'r cwch. Bu yn y dwfr tuag ugain munyd. Y Captain William Jones a ddywedoàd fod y cychod yn drwyddedig i gario naw o bersonau. Darluniodd fel y nofiodd ef i'r lan ac y daeth yn ol mewn cwch arall, gan achub pedwar o'r parti. Holwyd tystion eraill, a gohiriwyd yr ymchwil. Agorwyd y trengholiad gohiriedig ddydd Mawrth Wedi gwrando tystiolaethau gan Mr Thos. George, Mr Prior Hastings, Capten Lewis Edwards, Miss Edwards, a Mr Pearson, dychwelodd y rheithwyr ddedfryd o Farwola,eth ddamweiniol," gan gym- eradwyo ymddygiad y ddau gapten, a dadgan nad oedd un sail i'r awgrymiad fod y cwmni dan ddy- lanwad diodydd meddwol.

--0--Marchnadoedd.

[No title]

:o; Eisteddfod Llanfalr Talhaiarn.

[No title]

---0--Hewyddion Cymreig.