Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

-(0)-Lleol

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-(0)- Lleol Y MAE'r Parch. D. Elias, gweinidog Eglwys Everton Brow, wedi derbyn gwahoddiad unfrydol Eglwys Seisnig Rhosddu a Bersham Road, Gwrecsam. DYMUNA y Parch. George Lamb ddatgan ei ofid oher. cael ei luddias drwy afieehyd yn y teulu, i dalu ym- weliad a'n gwlad, yr hyn a barodd gryn siomiant iddo a dymuna ddiolch hefyd i'w gyfeillion am eu caredigrwydd tuag ato. YR wythnos ddiweddaf, llosgwyd melin Dempster, ar gongl Bixteth a Prussia Street. Diangfa g-yfyng- a gafodd Gorsaf Tithebarn Street a hen Eglwys St. Paul rhag yr oddaith. Yn mynwent St. Paul, ac yn y pen agosaf i'r tan, y mae bedd Pedr Fardd, un o feirdd galluocaf ei oes ac awdwr rhai emynau poblog- aidd. GAN fod etholiad Byrddau y Gwarcheidwaid wrth y drws, buddiol fyddai galw sylw at y priodoldeb o gael personau cymhwys i eistedd arnynt. Gwelwn fod boneddiges yn bwriadu cynyg ei hun yn rhanbarth Castle Street, sef Miss Stanistreet; a diau fod cym- liwysderau neillduol gan ferched i drin achosiqn y tlodion; a chan fod Miss Stanistreet wedi cael profiad helaeth o waith elusenol, hyderwn y gwna ein cyd- wladwyr yn y ward hon a allont er sicrhau ei dychwel- iad yn yr etholiad agoshaol.

Advertising

Yr Esgob, y Canon, a'r Is-gadeirydd…

PWLPUDAU CYMREIG, Awst 12.…

Family Notices