Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cyfarfod Misol Liverpool.
Cyfarfod Misol Liverpool. CYNALIWYD Cyfarfod Misol Awst ar nos Fercher, yr 8fed cyfisol, yn Nghapel Crosshall Street. Llywyddwyd gan Mr. William Paton. Dechreu- Wyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Williams, Birkenhead. Y gweithrediadau fel a ganlyn Darllenodd yr Ysgrifenydd gofnodion y ddau Gyfarfod Misol blaenorol, ac arwyddwyd eu bod yn gywir. Darllen llythyr oddiwrth Mr. 0. E. Owen yn diolch am i'r Cyfarfod Misol gydymdeimlo ag ef yn ei brofedigaeth chwerw o golli ei anwyl frawd; diolchai hefyd yn gynes i Eglwys Princes Road am eu cynorthwy i'w frawd fel un yn dechreu pregethu gyda hwy, ac y disgwylid llawer oddiwrtho. Cenadwriaethau o Eglwysi.—(a) Wigan yn dy- muno am i'r Cyfarfod Misol anfon brodyr yno er cymeryd eu llais ar alw gweinidog, ac amlygwyd fod eglwys Horwich yn cyduno a. hwy i hyn. Gan fod y Parch. Thomas Jones yno ar y 26ain o'r mis &wn, nodwyd Mr. Thomas Parry, Bootle, i fyned yno gydag ef i wneud y gwaith. (b) 0 eglwys Webster Road yn cyflwyno achos Mr. Owen Morris, gftr ieuanc gyda hwy sydd yn dymuno cael dechreu pregethu. Gosodwyd ar Mr. Edward Owen i'w drefnu trwy y dosbarth yn ol y rheol. (c) 0 eglwys Seisnig Wilmer Road, Birkenhead, yn gofyn caniatad i godi lOOp. yn rhagor at y swm oedd derfynedig iddyr.t, er cwblhau gwelliantau o anigylch y cape!, &c. Neillduwyd y mater i ofal Pwyllgor y Capelau. (d) 0 eglwysi Widnes a Runcorn yn gofyn am gael brodyr yno i gymeryd eu ilais ar alw gweinidog rhyngddynt. Yn Wyneb y ffaith nad oedd gweinidog o'r dref yn y Oaill le na'r llall yn ystod y mis presenol, gofynwyd i'r Parch. J. S. RobertsJ Huiton Quarry, geisio newid a myned i Widnes ar y ]9eg cyfisol, ac i Mr. William Paton, liywydd y Cyfarfod Misol, fyned yno gydag ef. Hefyd gofynwyd i'r Parch. Thomas Jones geisio newid a myned i Runcorn yr un Sab- bath, ac i Mr. Philip Jones fyned yno gydag ef. (s) 0 eglwys Huyton Quarry yn dymuno cyflwyno arwyddeb o 50p. y maent wedi ei dalu o ddyled eu capel, i'w dinystrio. Achos Dublin.—DarMenwyd llythyr oddiwrth y Parch. R. Lloyd yn galw sylw at y mater, a'r mawr angen sydd am arian i ddwyn y gwaith adeiladu yno yn mlaen yn ddioed. Oherwydd fod cymaint o bethau eraill ar law, a chynifer o'r dref yn y Wlad, penderfynwyd gadael hyn fel y mae am fis. Yr adroddiad o'r ymweliad ag eglwys Ho't Road gan y Parch. W. 0. Jones, yn dangos fod y Parch. David Jones, Trefeglwys, wedi cael galwad bron Unfrydol yno. Enwyd nifer o bersonau i gael eu cadarnhau yn _cyfarf°d nesaf yn ymddiriedolwyr ar yr eiddo yn ♦»est Kirby. Pasiwyd y ceisiadau an. grants o'r Drysorfa Gyn- °rthwyol i'r eglwysi canlynol gan eu bod yn rheol- ixidd:-Walton Park, Rock Ferry, Huyton Quarry, Whiston, a Garston. Cwynai Mr. John Lloyd, yr ysgrifenydd, fod y ceisiadau yn hwyr eleni, a gof- ynai am ddiwygiad. Rhoddodd y Parch, Josiah Thomas swm ei farn «f a'r Parch. Thomas Gray ar yr arhohad a roisant ar Mr. Robert Roberts, Walton Park. Yr oeddyn amlwg fod y ddau wedi eu boddloni ynddo, ac 'Wedi i Mr. Thomas ei holi drachefn yn gyhoeddus, rhoddwyd caniata,d iddo ddeehreu ar ei'flwyddyn (I brawf. Mr. Griffith Davies i'w drefnu allan. Rhoddodd y Parch. William Jones, David Street, Mr. Thomas J ones, Garston, eu hadroddiad o ^ymdeitliasfa Llanrwst. y mater pwysicaf i ddyiod i sylw yr eglwysi «(yr un ddaeth yn genadwri o sir Eon, sef oancteiddiaa y Sabboth." Oherwj'dd ei bwysig- *wydd trefnwyd fod i hyn fod yn fater y Cyfarfod **edwarmiso! nesaf. Y Parch. William Jones i "tftlu am ei agor. Rhoddwyd rheolau newyddion yr Achosion Seis- 11lg yn ngofal pwyllgor rheolau dewis gweinidogion 1\1' eglwysi. Darllenodd Mr Thos. Parry adroddiad pwyllgor y Genadaeth Gartrefol, Hysbyswyd o St. Helens ad ellir myned i fewn i fater ymddiswyddiad y Parch Ellis Lloyd ddim yn mhellach, ond boddlona ros yno nes cael olynydd. Yn ngwyneb y ffaith fOd y Parchn T. J. Wheldon a Thomas Roberts yn vned i Middlesboro a Stockton i gyfarfod sefydlu lri W. H. Humphreys a John Lewis yn genadon yno, barnwyd mai gwell fyddai anfon Dr Jones yno ywbryd eto, a bod Mr David Hughes yn unig i y^ed yno yn awr i gynrycbiop y Cyfarfod Misol. ^DarUenwyd llythyrau cyflwyniad Mri W. H ^mphreys a J. Lewis o Gyfarfod Misol Arfon. erbymWyd hwy yn siriol, a dymunwyd yn dda am Uwyddiant. Rhoddwyd caniatad parod i'r ddau r ieuanc hyn sefyll yr Arholiad Cymanfaol nesaf ^lln modd hefyd i Mr Owen Owen, Anfield Q Gohiriwyd derbyn adroddiad pwyllgor unedig ^yfarfodydd Misol Manchester a Lerpwl nes y Mdont wedi cwblhau eu gwaith. Q ^arllenwyd llythyr oddiwrth Gyfarfod Misol "DeH> Aberteifi yn hysbysu pa fodd yr oedd SJ. ,u yn sefyll gyda gweithredoedd capelau **t°n a Middlesboro. Cyflwynwyd hyn i ofal p §or y capelau. etlT i^wy(' sylw San Wm. Eyans, Elm Bank, at h v y Bwrdd Ysgol. Datganwyd barn fod g a yn bwnc tra phwysig i ni yn y ddinas hon, j> addysg i raddau helaeth yn nwylaw y Ov *on- Gobeithid y gwisai yr holl enwadau ,reig eu rhan yn ddewr gyda'r frwydr hon, er yn cadw sedd Miss Davies, Bedford Street, yn 30 yn mhob cyfeiriad arall dichonadwy. H1jlej^wyd ar Mr Evans i ofalu am hyn yn £ a^?era Parc^ J- Hughes y rhoddir lie priodol yr Achosion Seisrig y Sul °yntaf o Fedi. Mr Tn? y tanysgrifwyr l fyned iddo ef, a'r arian i J.nomas Edwards, Linnet Lane, §W^derfynwyd anfoa y casg,iad at gynorthwyo yt A;^0n;,&c-' CiIfynydd iv le priodol trwy yn ?'wydd Faer. Pwyswyd ar wneud fel hyn cldin ayfodol, rhag ein bod yn ol i eraill yn y Jone^S'p Bydd yn dda gan y trysorydd (Mr Thos. egiw Garston), dderbyn yr holl gasgliadau o bob TV f yn dd'oed er mwyn eu cywiro. *'r ^arc^ J- Hughes a Mr Wm. Wil- TI 'lam Street, fyned i Gymanfa Ddir- ?°0es -n anSefni) ac i'r Parch G. Ellis a Mr J. R. ion o'■ Road, fyned i gynadledd yr Achos- Nghaer. e dwyd gan Mr John Thomas, David Street. iaiius amaethyddol nodedig o Iwydd- t;ln yllin ddydd Mawrth. ArddaDgos- KtW 0 ° anifeiliaid. Jyiindeil^a^f Cynddylan Jones yn liywydd ^yddyn d^yfo^l^ y am y
0 Benllyn i Benfro.
0 Benllyn i Benfro. [Gan ONOMATO]. FEL y disgynem yr olaf o'r un rhiw ar bumtheg svdd o Dyddewi i Hwlffordd, clywem lais can a h ibwrdd, canys y LIun cyntaf o Awst ydoedd, a gwelem lu yn difyru eu hunain islaw-rhai yn rhedeg, a mwy yn edrych. Pell o brofiad rhedeg- wyr oedd Bevan a'r un wisgai ei scidie m'lynion,— parotach oeddym filwaith i orphwys dan gysgod. Nid hawdd ych waith oedd cael ,hyny, gan y llen- wid pob man gan rai nad yw dydd gwylyn digwydd ond anaml yn eu hanes. Mae'r dref yn lan a dy- munol, wedi ei hadeiladu ar fryn gan y Flemings, meddir, pm orlifodd y m6r eu gwlad hwy. Rhed yr afon Cleddau gyda'i godreu—wrth y bont fwaog acw yr angorodd llongau'r Ffrancod pan ddaethanti i gynorthwyo Owen Glyndwr. Ar un ochr iddn mae olion hen briordy, lie bu encilwyr o'r byd y gweddio ar yr ochr arall mae hen gastell, lie bu dewrion yn ymladd cyhyd yn erbyn brenhin Lloegr. Beth yw'r dyrfa bobl acw ar y stryd ?" gofyn- em i hen wr oedd a mwy o dyllau yn ei got nag o fotymau, fel y cyfeiriem tua'r castell. Cario dyn anafwyd yn y sports," ebai; "ofnir fod y ddamwain yn angeuol." Gwelais dranoeth fod yr ofnau wedi eu cwblhau, ac i'r truan farw. Saif y castell ar foncyn uwch- law'r dref, ac wedi cychwyn ar hyd chwech neu saith llwybr tuag ato, daethom ato. "Gawnni fyn'd i'r castell?" gofynai Bevan i wraig lygadlon. I'r jail ydech yn feddwl ?" Wedi ein gwel'd yn edrych yn syn arni, ychwanegodd, "Ie, jail sydd yma yn yr hen gastell yn awr, ond cawch ei wel'd. Rhoddodd yr agoriad i eneth fechan fywiog, a rhedodd hono ar hyd mynedfa gul o'n blaen, a chlywem ei cherddediad man fel cloc yn tician yn mhell. "Hei! lIe'r ydech chi?" gwaeddai Bevan, nes peri i bob yspryd er dyddiau Glyndwr ddeffro. "Dyma fi," ebai, gan chwerthin yn blentynaidd, oeddech chi wedi ngholli ? Dowch Gyda i ni fyn'd lle'r oedd, clywem yr "arian byw bach yn gwaeddi Dyma fi mewn rhyw gornel arall. Cyn hir blinodd, a dangosodd i ni gelloedd y carcharorion. Difyrai rhai ohonynt eu hunain trwy dynu darluniau car a gelyn ar fur eu cell; eraill trwy adael eu henwau'n gerfiedig yno, megis- JOHN WEBB, his cell. Dyma y treadmill," ebai'r eneth fach. Ac yr oedd ol traed ami i dorwr cyfraith arni. Ydi'r drws 'ma'n cau ?" ebefi, gan ei dynu ar fy 01. "0, peidiwch!" Agor y drws 'ma I" gwaeddai Bevan gloedig oddifewn. Gwelais fod y drws yn cloi ohono'i hun, fel drws myfyriwr yn Rhydychain, ac fod pared trwchus rhyngof am cyd-bererin. Ydi'r 'goriad genych ?" Nag ydi, ac mae nhad oddicartref," ebe'r eneth, tra rhoddai'r tryiydd ochenaid brudd dros y fan. Aeth amser heibio cyn cael agoriad a rhyddid i'r carcharor, a chyda hyny, rhag ychwaneg o helynt, cyfeiriasom am New Milford. Yr oedd y tren yn hyuod lawn, ac, fel arnryw eraill, bu raid i ni deithio yn y van. Druan o guard y tren hwnw. Yn ein mysg yr oedd gwraig ganol oed, ac nid oedd ball ar ei rhonc a'i thafod drwg, am nad oedd lie i'w chi a hithau. Tosturiwn fod gwraig bryd- ferthed cynddrwg ei thymer a hyny'. yr oedd fel larwm wedi ei windio i fyn'd yn ddidor derfyn. Nid ydyw hyn ryfeddod, fod danedd merch yn darfod, Ond tra bo yn ei genau chwyth, ni dderfydd byth mo'i thafod. Os yw'r holl wragedd felly, dylid yn ddioed gael clicied yn mon tafod pob un. Pan yn croesi culfor Aberdaugleddyf i Benfro, taiawsom ar hanesydd ffraeth. Oddiyma," meddai, yr hwyliodd Harri'r Ail, i orchfygu'r Werddon. Yma, gyda'r gwyll, y daeth 12,000 o filwyr Ffrainc i gynorthwyo Glyndwr yn erbyn Harri IV., gan ymdaith i ymosod ar gastelli Hwl- ffordd a Chaerfyrddin. O'r fan acw y cychwynodd Iarll Richmond, wedi hyny Harri VII., yn bryder- us tua'r Mwythig, gyda Rhys ab Thomas. Bu'r enwog Nelson yn canmol yr hafan hon, a chwyth- wyd Siarl IV. gan storm yma i dir." Canodd y gloch, gadawsom y llong a'r hanesydd, a cherddasom i Benfro trwy olygfeydd tlysion. Mae'r castell mewn diwyg da, a chedwir ef yn ofalus. Tra canai Bevan ar ei dwr uchel nes enill cymeradwyaeth y dorf safai islaw, gorweddwn yn flin ar laswellt gwyrdd, a dywedai hen wr imi hanes fel hyn- Naw mil naw cant naw deg o flynyddoedd i heddyw yr oedd Cadwgan ab Bleddyn a'i lu oddi- allan yn ceisio chwalu y muriau mawrion hyn. Dy- oddefodd yr hen gastell ami ddyrnod o ddyddiau Cadwgan hyd 1647, pan ddaeth Cromwell a'i lu i ymosod arno, pan drodd y rhai oedd ynddo i bleidio y brenin. Bu Nest dlos, ferch Rhys ab Tewdwr, yn byw yma, cyn ei dwyn trwy dwyll." Byth nid annghofiaf y tren a'n cludodd o Benfro i Tenby—Dinbych y Pysgod. Ysgytiai ddyn yn ofnadwy, ac ofnwn na chyrhaeddai merch eistedd- ai fel can," yll wer yn mysg y teithwyr ben ei siwr- nai'n fyw. Mae Tenby i'r De fel Llandudno i'r Gogledd, ar fin y mor yn neillduol o hardd a glan, ac yn orlawn o ymwelwyr, Aeth deuddydd yno fel anadl; dy- chwelasom i Milford Haven, ac am bedwar o'r gloch y bore disgwyliem ar y traeth yno agerlong i'n cludo tua thref. Hen helynt oedd codi'r bore hwnw cafwyd dau gloc, a larwm yn mhob un, a'rhoddwyd y ddau i gydfyn'd ar amser codi. Ond yr oedd yn ddeg cyn i ni gael ein cludo ar fwrdd y Jane Bacon, er hyny, ac fel dau newynog a dau hollol anmhrofiadol o'r mor gwnaethomgyifawnder o'n boreufwyd. Salmon gawsom, a chredaf nad oedd wedi ei ladd, gan fod ynddo ryw yni di-ildio am nofio dyfroedd heli'r ail waith. Gan mai nyni oedd yr unig rai yn y cabin cawsom holl sylw y cadben. Nid oes bobl ddifyrach na'r morwvr, na neb yn meddu calon garedicach na hwy gwna gerwinder y m6r a'i dywydd eu gwyneb yn arw a rhychiog, ond meddalha eu teimladau i'r hyn sydd dyner a da. Gwell yw gwroldeb y morwr na gwrolder y milwr ymdrechu i achub wna un, ond ymdrechu i ladd wna'r llall, a gwell yw gwen rhadlon y morwr na gwen milwr sydd a chleddyf wrth ei ochr. Dowch i fynu ar y bridge ?" ebai'r Capten, pan ddechreuodd y llong symud yn afrosgo yn erbyn awel gref chwythai o'r mor. Tybiwn mai gyda'r tanwr yn ngwaelod y Ilong y I buasai'n fwyaf dyogel i ni; er hyny, dringasom ysgol haiarn i'r bont" lle'r oedd y capten a'i gwmpas, ac i ddyn iach nid oedd eisiau lie mwy dymunol na golygfeydd tlysach na'r rhai welid ohono: Dacw amddiffynfeydd Dale a Nangle," ebai'r Capten. Buasai'n anhawdd i un gelyn ddod i mewn i'r porthladd 'ma." Mae rhyw ddrwg ar y Hong 'ma, Capten," ebe Bevan, mae'n gwingo'n ofnadwy. Dewch yn well toe. Storm wir? Beth yw hyn ? Ugain mlynedd yn ol ar y Be o Bisca 'roedd hi'n storm. Deng awr fu'm yn odio a'm danedd a'm dwylaw ar ben yr hwylbren yn mron fferu. Boddodd yr holl deithwyr a thaflwyd finau gan foryn A'i'r capten yn mlaen ar ei stori, ac a'i'r Hong i lawr ac i fynu, ond nid oedd waeth genyf yr un botwm corn beth ddywedai y naill ac i ba le yr a'i y Irall Yr oedd yn hwyr-ddydd haf arosais ar y dec nes im' wel'd yn ngoleuni goleudy Pen Caergybi ei bod yn haner nos, ac fod Bevan a'i wyneb gwelw, orweddai yn nghot ucbaf un o'r morwyr, yn fy ymyl yn araf loni. Aethom i'n gwelyau, ac er gwaethaf peirianau'r Hong a thonau'r mor, cysgais fel yn fy nghryd. Breuddwydiais fy mod yn dringo trwy redyn mair i fynu'r Aran gyda blaenor dyddan, i ddy- oddef newyn, am nad oedd yno bobwr, a gwelais ddwy o berthynasAU-yn-nghyfiaith Lot yn troi'n ol. Yn fy hûn, daethum ar draws un na welodd Lanu wchllyn ac na chlywodd y gog erioed. Cysgais a deffroais droion ar ol hyny, ond heno yr wyf yn flin, yn dyodclef dan glwy'r bladur," fel ami i hen ffarmwr arall, ac yn gweddio am dywydd teg er cael fy nhipyn cynhauaf, i gychwyn eto gyda Bevan i fynu Rhein a thueddau Eidal. DIWEDD.
o Clawdd Offa'r a'r Cyffiniau.
o Clawdd Offa'r a'r Cyffiniau. WEDI treulio ychydig wythnosau o wyliau, dy- chwelodd athrawesau a phlant Ysgolion Penygelli, at eu gorchwylion ddydd Mawrth. Do, Mr Golygydd, aeth cor y Bwlch i Gorwen, ond nid i dderbyn gwobr ac yn hyn ni'm siom- wyd, am y gwyddwn mai oddeutu eu haner fu yn llafurio yn gyson i ddysgu y darn, tra yr oedd y Heill yn rhodiana a'u penau yn y gwynt, gan es- geuluso yn hollol y cyfarfodydd canu hyd o fewn ychydig i'r eisteddfod. Wel, gantorion a chantor- esau ddaw hi ddim fel yna, gan fod yn rhaid cyd- ddysgu cyn y gellir cydganu yn dda. Y mae genych arweinydd campus; gwertbfawrogwch ei lafur, rhag ofn i rywrai eraill ei ddenu oddiarnoch. Y chydig amser yn ol, dywedodd Mr Acland & Co. fod Ysgolion y Bwrdd Penygelli yn rhy fach i gyfateb i rif y plant. Ac yn ol parodrwydd ein bwrdd gyda gwelliantau, tynwyd y planiau, a chymeradwywyd hwy gan bobl Llundain. Yna gosodwyd y contract o ychwanegu at Ysgol Tabor Hill i Mr S. Moss, Coedpoeth, ac y mae bron a chwblhau y gwith. Gosodwyd ysgol newydd y babanod Penygelli i un o'r enw Bird, gan ei fod yn is ei bris na neb arall. Dechreuocld arni o ddifrif, ond dyn a'm helpo, gyda fod y muriau ddigon uchel iddo gael gwynt dan ei aden, ehedodd yr hen dderyn i ffwrdd, nas gwyr y Bwrdd i b'le. Byddai astudio ychydig ar anianyddiaeth er gwybod ych- ydig am yr hen.adar yma yn fanteisiol y dyddiau hyn i lawer heblaw y Bwrdd uchod. Tawelwoh oedd yn teyrnasu yn yr ardaloedd hyn Gwyl y Banc, oddigerth y te a'r cyngherdd per- thynol i Wesleyaid Hermon, New Brighton. Aeth cryn nifer o lenorion a beirdd o fri i Gorwen, ond ni chlywais i am yr un wobr wedi dod i'w rhan. Awst 5ed, ymwelwyd ag ardaloedd Coedpoeth gan Miss J. Owen, Abergynolwyn, a Miss McLeod, un o'r Alban. Anerchwyd cynulleidfaoedd lliosoo gan Miss Owen, yn nghapel Salem a'r Talwrn, a'r un modd gan Miss McLeod yn nghapel yr Anni- bynwyr Seisnig, Adwy'rclawdd. 'Rwy'n deall fod y ddwy chwaer a'u hwynebau ar y meusydd cenad- ol, y naill i'r Alban a'r llall i dywyll-leoedd pell- enig y ddaear, fel y byddwn yn arfer dw eyd, er fod yma beth wmbredd o leoedd felly tu yma i'r Clawdd, heb son am y rhai sydd yr ochr arall iddo. NED Puw. o
Eglwysi Annibynol a'u Cweinidogion.
Eglwysi Annibynol a'u Cweinidogion. YN Mrawdlys Lerpwl, ddydd Mercher, o flaen y Barnwr Bruce, hawliai gweinidog Annibynol o Ddeheudir Cymru, o'r enw Williams, iawn am athrod oddiar bersonau o'r enw Morris, Roberts, a Smith.—Mr Mullholland a ofnai nad oedd modd dod i gytundeb gyda'r achos.—Y Barnwr a ddywedai mai mater eglwysig ydoedd yn dal perthynas â chyfundeb. Ai nid oedd cynghor allai benderfynu cymeriad gweinidog, oblegyd dyna sylwedd yr achos ger ei fron, mor bell ag y gallai gasglu ? Credai hefyd fod terfyniad ar yr achos i'w dlymuno er mwyn y cyfundeb. Yr oedd efe wedi hyderu y gallai corph crefvddol benderfynu cwestiwn fel hwn.—Mr Mulholland a ddywedai y gwnai ymchwiliad i'r mater.—Dranoeth hysbyswyd fod y pleidiau wedi cytuno y tuallan i'r llys.
CYFRES Y CEINION-Pris Is.…
CYFRES Y CEINION-Pris Is. yr un LLYFRAU CYHOEDDEDIG gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool I.-Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan v Parch W. REES, D.D. 2.—Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D. D. 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D.D. Y Tal LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4. -Gardd Eifion sef, Barddoniaeth ROBERT A.B GWILYM DDU 0 EIFION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Facsimile o'i Lawysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.—Gwa.th Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD C'OCH Hugh Hughes), a ROBIN DDU 0 FON. 7.—John Blackwell (Alun. Ei holl Waith Barddonol. 8.—Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD J ONES, Llwyngwril; RHYS DAFIS (Y GLUN BEEN ac EDMUND JONES o Bontypwl. I
Achos rhyfedd o Athrod.
Achos rhyfedd o Athrod. DDYDD Mawrth, yn Llys Sirol Pontypridd, gerbron y Barnwr Gwilym Williams, hawliai Mrs. Margaret Morris, priod John Morris, mwnwr, yn byw yn North Street, Ferndale, a Mrs. Hannah Evans, X250 o iawn am athrod gany Parch. A. T Jenkins a Mr. Thomas Thomas, gweinidog ac ysgrifenydd Eglwys Am hynoI Gymreig Trerhondda. Teimlid dyddordeb neillduol yn yr achos, ac yr oedd v llys yn orlawn. Yr oedd yr athrod yn gyawysedig yn adroddiad blynyddol yr eglwys uchod, oherwydd fod y llythyren "D "-yr hyn a safai am I di- aelodi ,wedi ei gosod gyferbyn ag enw yr achwynyddes. Cynrychiolid y pleidiau gan Mr. S. T. Evans, A.S. (ar ran yr achwynwyr), Mr. Ivor Bowen (dros y Parch. A. T. Jenkins), a Mr. Jack- son (dros Mr. Thomas). Margaret Morris (yr achwynyddes) a ddywedai iddi fod yn aelod o'r eglwys am 20 mlynedd, ac i Mr. Jenkins (un o'r diffynwyr), fod yn weinidog arni am 16 mlynedd. Darfu i'w mab, David Morris, briodi merch Mr. Jenkins; ac yn 5892, clywodd adroddiadau neillduol yn nghylch £8. Rhoddodd ei mab bum' punt i brynu dodrefn, ac ar ol clywed yr adroddiadau ledaenwyd gylch y lie, ymgynghor- odd a'i chyfreithwyr. Fodd bynag, er mwyn ei mab, caniataodd i'r mater ddisgyn ac yn Mawrth, 1893, gofynwyd iddi fod yn bresenol mewn cyfar- fod o'r blaenoriaid. Cafodd Mrs. Hannah Evans a'i merch, a Mrs. Edith Morris (gwraig ei mab) yno, a darfu iddi ofyn i'w mab pa beth osdd yr achos, ac atebodd yntau," Mam, yr wyf wedi dyfod i'ch clirio chwi o'r £ 3. Ni ladratasoch ffyrling erioed oddiarnaf fi, ac ni chlywais i chwi erioed ladrata oddiar neb arall." Cododd Mrs. Edith Morris hefyd ifynu, gan ddweyd y cymerai yr holl fai arni ei hun cyn y cai yr achos fyned yn mlaen ond atal- iwyd hi gan Thomas Thomas a Thomas Davies. Lledaenwyd yr adroddiadau dros y lie, a gwnaed cyfeiriadau yn y wasg a thaflwyd hyn i'w danedd gan ddyn ieuanc—cymydog—gan yr hwn y caed ymddiheurad, a chymydog arall. Ar ol ail gyfar- fod y blaenoriaid, Evan Lewis a Thomas Davies (diaconiaid) a'i hyspysodd ei bod i ymatal rhag cymuno hyd nes y tynai ei geiriau yn ol ond ni ddywedwyd wrthi erioed beth oedd y geiriau hyny. Dangosodd ei merch adroddiad yr eglwys iddi, gyda'r llythyren D gyferbyn a'i henw, ond nid oedd erioed wedi ei diarddel o'r eglwys. Y Parch. A. T. Jenkins a dystiodd iddo glywed gyntaf am y ffrwgwd anffortunus rhwng ei ferch a Mrs Morris oddeutu dechreu 1893. Darfu iddo mewn canlyniad alw cyfarfod o'r blaenoriaid i ys- tyried y mater, ond nid oedd yn bresenol ei hun am y credai y gweithredent yn fwy anrnhleidgar yn ei absenoldeb. Pan basiwyd y penderfyniad yn y cyfarfod eglwysig, efe a lywyddai; ond ni ddarfu iddo bleidio y penderfyniad ond yn ol ei safle fel gweinidog. Nid ei ddyledswydd ef oedd edrych dros yr adroddiad cyn ei gyhoeddi ond gofynodd yr ysgrifenydd iddo wneud, gan alw ei sylw at yr adroddiad blaenorol, lie yr oedd y llythyren D wedi ei rhoi gyferbyn a dau enw. Gofynodd iddo ef paham yr oedd yn rhaid gwneud gwahaniaeth rhwng yr achwynyddes bresenol a'r lleill yn yr adroddiad blaenorul. Pan awgrymodd fod "D" yn cael ei rhoi yn lie C," yr oedd y penderfyniad basiodd yr eglwys yn ei feddwl ar y pryd. Ar ol gwrando lluaws o dystion a'u croesholi, hysbysodd Mr S. T. Evans eu bod wedi dod i ddealltwriaeth tu allan i'r llys i dalu 20p yn yr achos hwn, sef lOp i Margaret Morris a 10p i Hannah Evans, a'r ddwy a enwyd i gael caniatad i ail-aelodi yn yr eglwys. Dadganai y diffynyddion eu gofid am yr athrod, gan ddweyd na fwriadent i'r llythyren D" roi ar ddeall fod yr amddiffyn- wyr wedi eu diarddel o'r eglwys. Dadganodd y Barnwr ei foddhad fod y pleidiau wedi cytuno, am y credai na ddy 1ai ma terion J n dal perthynas ag eglwysi crefyddol ddod i lys barn. Cydymddwyn oedd un o elfenau goreu crefydd, a dylai ychwaneg o'r elfen hon gael ei arddangos gan y pleidiau yn yr achos ger ei fron y dydd hwnw.
Advertising
XTEILWNG O SYLW PAWB, # OWYNIONY CLAF. PA. Beth yw ASTHMA Anadliad hyr, brysiog a llafurus. A oes rhagor nag ua math o Asthma? Oes, dau—ua > n barhaol, a'r llall y 1 dyfod yn mlaen ar adegau. Gelwir y cyntaf ya continual, a'r olaf yn periodical. Pa beth sydd yn achosi Asthma? Culhad, crebychiad a dirwasgiad y pibau meinioa sydd yn aiwain o'r corn gwynt i'r yssryfaint. Pa feddyginiaeth sydd wedi rhodai esmwythad buan I aneirif o bersonau a ddyoddefent oddiwrth Asthma, Bron- chitis, Peswch, Anwyd, Liffyg Anadl, a'r Crygni? BALSAM OF HONEY TUDOR WILLIAMS. GAN" mai oerfel ac anwyd ydyw dechreuol achos pob clefyd yn mron, a diddadl fod miloedd yn myned i'r bedd ya anamserol o eisiau cael meddyginiaeth bwrpasol a phrvdlawn. Ymaftodd yr anwyd ynwyf mor ddisymwth a lleidr yn y nos, nes yn mron ymdori gan beswch yn ddibaid, keb ond ychydig orhpwysdra, nes yr oeddwn wsdi cifedu fy mod wedi fy nal gan y darfodedigaetn ac yn nghanol y boen dirdynol oedd trwyfy nghyfaasoddiad anforais am botelaid o BALSAM OF HONEY'' TUDOR WILLIAMS- a chymerais tua llonaid llwy gawl ar unwaith, sef chwaneg na'r cyfarwyddyd oedd ar y botel; a chyn tri munyd yr eedd y pesweh wedi peidio i raddau annghyffredin. Cyn-lerais yr oll o gynwysiad y hotel, ac erbyn heddyw, yr wyf yn gallu diolch i'r Drefn Fawr, yn nghyda'r wybodaeth am y feddyginiaeth adaionus hon, am fy mod heddyw yn ddyn iach. Ydwyf, yr eiddoch, yn hollol iach, ISAAC THOMAS. Dadganiad dymunol arall. i Hum yn ddyoddefydd mawr am un mlynedd ar ddeg odd- wrth gaethdra, peswch, poeri gwaed, a tbyndra y frest; bum hefyd am bum' mlynedd yn cael anhawsder dirfawr i symud o amgyich, ni allaswn gvsgu na gorwedd i lawr y nos na'f dydd. Bum o dan driniaeth feddygol am un mlynedd ar ddeg hefyd, blllll o dan driniaeth yn Yspyttai Hereford, Buxton, a Southport, ond y cyfan yn ofe-r. Dywedodd y meddygon wrthyf na oilaswn ddisgwyl gwellhad, gan fy mud yn 64aiu mlwydd oed. Ar ol clywed cymaint o siarad am 'BALSAM OF HO^TS T' TUDOR WILLIAMS rhoddais brawf arno, ac er fy syndod darfu i'r dogn cyntaf roddi rhyddhad ebrwydd i mi anadlu. Yr oedd poeri y gwaed o'r ysgyfaint yn lleihau. Diflanodd y caethdra, fel swyn- gyfaredd. i bedwar gwynt y nefoedd, ac yn mhen ychydig wythnosau, drwy ddefnyddiad parhaus 'Balsam tf Honey' Tudor AVilliams, adferwyd fi i fy iechyd da arfe. 01. Ystyriwyf hi yn ddyledswydd arnaf i anfon i chwi y dystiolaeth hon. Yr eiddoch yn ddiffuant, Mrs EMBREY, 19 Coningsby Street, Hereford, fflai 25ain, 1890." Mae Miloedd o Blant wedi eu hachub o Farwolaeth O'r Croup, Bronchitis, a'r Pas, wedi pobpeth arall fethu Y ffordd i brofi y peth ydyw profi drosoch eich hunain. Os gwnp-.h.iynasyddynfendigedig: ni chewch eich siomi. Gwerthir 'BALSAM OF HONEY' TUDOR Vit""TAMS gan bob Fferyllydd drwy yr holl fyd. Mewn costrelau, is lie, 2s 9c, neu trwy y llythyrdy yn rhad am Is 3c a 3s. Perchenog- D. TUDOR WILLIAMS, R.D.S.L., Medical Hall; Aberdare.