Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Cymfetg i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Cymfetg i Ddydd Gwener, boddodd dyn ieuanc o Stafford tra'n ymdrochi yn Llanlliana, Amlwch. Derbyniodd y Parch W. G. Owen (B), Hen Gol- wyn, dlwacl oddiwrth eglwys Troedyrhiw, Mer- thyr. Reilffordd Drydan i ben y Wyddfa.—Bwriedir dechreu gwneud y reilffordd hon yn union deg, a'i gorphen yn y gwanwyn. Mon sydd ar ben y rhesbr gyda'r casgliad at Goleg DuwiDyddol y Bala gyda chyfraniad o 1,877p, a daw Lerpwl yn nesaf gyda 1,450p. Oherwydd etholiad Mr R. Lloyd Jones yn fesur- ydd bwrdeisiol, llenwir ei ie gan Mr J. Menzies, Y.H., ar Fwrdd Corphoraeth Caernarfon. Yn gynar fore Sadwrn, derbyniodd llano o'r enw Samuel Biffey, 17 oed, gic maivvol gan getfyl yn ngiofa Vauxhall, Rh,wabon. Yr wythnos ddiweddaf, claddwyd gweddillion Mrs Jones, priod y diweddar Barch Owea Jones, Llanfair, sir Drefaldwyn, yn y berllan gerliaw ei hanedd. Cyflwynwyd tystysgrif gun y Gymdeithas Ddyn- garol Frenhinol i Mrs Jane Hughts, Penrhydlyniog, Pwllheli, ddydd Sadwrn, am achub dau blentyu rhag boddi yn mis Ebrill diweddaf. Etholwyd Miss Ella Morgan, Southport, yn brif- athrawes Ysgol Ganolradd Porthmadog, a Mr R. H. Scarlett, Llundain, yn athraw cynorthwyol y bechgyn. Ddydd Mercher, yn ngorsaf Rhiwabon, bu farw Mr J. Pike, Gwrecsam, yn hynod o ddisymwth. Arolygydd adnabyddus ar lineli y Great Western oedd yr ymadawedig. Penderfynodd Pwyllgor Athrofa Hwlffordd, yn y cyfarfod blynyddol, trwy fwyafrif o 2 o'r GO a bleidleisient i symud yr athrofa i Aherystwyth. Y pwyllgor yn unig bleidleisiai y tro hwn. Dywedir fol pleserfad wedi suddo ddydd Llun yn Mau Caerfyrddiu. Ar y cyufcaf, ofnid fod 2J o bersonau wedi boddi, ond newydd pellach a hys- bysa fod yr oil wedi eu hachub. Mae Ffynon Gwenfrewi yn tynu sylw mawr y dyddiau hyn, a nifer Iluosog o bererinion yn talu ymwe.iad a hi. Nawn Sabboth, cynaliwyd gwas- anaeth ger y ffynon, a throchwyd amryw gieifion yn ei dyfroedd. Yn Llys Sirol Gwrecsam, ddydd Llun, cyhudd- Nvyd dau Irawd, o'r enw Robert a Daniel Jones, o lad ata dofednod, eiddo Mr Charles Chesworth, Llanllyn, Uwersyilt. Dedfrydwyd hwy i sefyll eu prawf. Daw newyddion o Fon ac Arfon fod y cnydau yn dyocldef oherwydd gwlybaniaeth y tywydd. Dy- wedir fod y gwair yn braenu ar y meusydd, ac mewn rhai maniu nid yw eto wedi ei dori ac oherwydd y gwynt a'r gwlaw, mae yr ydau yn gorwedd. Rhagolygon tywyll i'r flermwr, druan. Cymerodd digwyddiad galarus le yn Nghriccieth fore Llun. Ymddengys fod dau ymwelydd o Fan- ceinion wedi myned allan mewn cwch, yr hwn a darawyd gan don. Neidiodd y cld"u allan, a'r caJyniad in i unfoddi, a'r Hall gael gwaredigaeth gyfy-g. Nawn Sadwrn, tra'r oedd Mr David Jones, Tu- hwnt i'r Fawnog, Capel Garmon, yn prysuro mewn cerbyd i orsaf Llanrwst, dychrynodd y ceffyl, a thaflwyd Mr Jones allan, gan dderbyn niweidiau difrifol. Caed cynoithwy meddygol, ond gwan yd- yw'r gobaith am ei fywyd. Darllenodd y Parch. G. Haitwell Jones, M.A., bap, r gallliog o flaen y Gymdeithas Brydeinig yr wythnos ddiweddaf. Ei destyn ydoedd "Y per- thynas rhwng Corph a Meddwl, fel yr amlygir ef mewn Ieithoedd Boreuol, Arferion, a Chwedlon- iaeth." TYLDESLEY.—Cynaliwyd cyngherdd nos Sadwrn, yn y Temperance Hall, gan eglwys yr Annibynwyr, tan lywyddiaeth y Parch vVm, Owen. Canwyd gan Miss E. Ellis (Manchester), MissM. H. Yates, a'r Mri R. E. Owen (Bootie), Edward Jones, A. Yates, Wm. Edwards, a J. Eyans. Cyfeiliwyd gan Mr D. Monfab Davies. Dywedir fod gwyrthiau Ffynon Gwenfrewi yn parhau. Tra yr oedd cwmni o bererinion o Not- tingham yn ymweled a'r ffynon uchod ddydd Mer- cher, adferwyd dyn o'r enw Christopher Kilbride, 23, Pitt Street, Rock Ferry, i'w lawn olwg, ar ol bod yn ddall o'i lygad de am 11 mlynedd, trwy ymdrochi yn nyfroedd y ffynon.. Gwnaeth y Parch Dr Bagshaw, Esgob Nottingham, ymchwil- iad, a boddlonwyd ef fod y dyn yn dweyd y gwir, ac fod ei adferiad yn drwyadl. Mawr ydyw'r croesaw a ga'r Parch Abel J. Parry gan Gymry America. Cynaliwyd cyfarfod Iluosog a brwdfrydig yn Pittsburg nos Sadwrn, Gorph. 14, i'w roesawu pryd yr oedd gweinidog- ion Cymreig pob ellwad a Chymry o nod yn cymeryd rhan. Dranoeth pregethodd Mr Parry deirgwaith yn nghapel Bedyddwyr Cymreig y ddinas, yr enwadau eraill yn rhoi eu moddion heibio ryw g\vr o'r dydd er mwyn cael clywed yr efengylydd hyawdl o'r Cefnmawr. YTn nghyfarfod blynyddoi Cymdeithasau Esgob- aeth Bangor, a gynaliwyd ddyddiau Mercher a lau diweddar, adroddwyd fod y fiwyddyn ddiweddaf edi bod yn hynod am yr ymosodiadau mwyaf ffyrnig a wnaed eto ar yr Eglwys yn Nghymru. Yr oedd nod wedd cysegryspeiliol Mesur Dadgysyllt- iad a Dadwaddoliad, meddid, i'w weled yn amlwg yn y ffaith nad oedd ond dwy adran allan o'r 33 ynddo yn ymwneud a Dadgysylltiad—yr oedd y gweddill yn ymwneud a rhaniad yr ysbail. Er fod y mesur wedi ei dyuu yn vl, yr oedd y bygyth- ion ruor rymus ag erioed. COLBG Y GOGLEDD, BANGOR.— Llwyddiant yr Efrydwyr.—Yn arholiadau Prifysgol Llundain, a elwir Canolradd, bu yr efrydwyr canlynol o Go leg y Gogledd, Bangor, yn llwyddianusArholj ad Canolradd yn y Celfyddydau Enillodd Walter H. Hill, Hull, anrhydedd mewn Ffrancaeg yn yr ail Hill, Hull, anrhydedd mewn Ffrancaeg yn yr ail ddosbarth. Yr oedd Muriel Maries-Thomas (cyn- efrydes) yn gyntaf yn yr ail ddosbarth mewn an- rhydedd yn yr un testyn, ac enillodd Ethel F. Milltrd (cyn-efrydes) anrhydedd yu y trydydd dos- barth yn yr un testyn. Pasiodd Robert G. Berry, Llanrwst D. Miall Edwards, Llandderfel; a Howell H. Hughes, Brynteg, yn yr ail ddosbarth, a phasiodd hefyd Janie E, Horsburgli (cyn-efrydes). Arholiad Canolradd yn y Gwyddorau Enillodd David Williams, Rhostryfan, anrhydedd mewn Auianeg yn yr ail ddosbarth, a Robert E. Roberts, Clwtj bont, anrhydedd yn y trydydd dosbarth yn yr un testyn. Pasiodd James W. Heughaa (cyn- efrydydd) yn yr ail ddosbarth. Mae Mr Waterhouse, cadeirydd Bwrdd Lleol Treffynon, wedi ymddiswyddo oherwydd annghyd- weiediad a rhai o aelodau y Bwrdd hwnw. Cynaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Mon, ddydd Llun, yn Mhorthaethwy, dan arweiniad Mr W. T. Samuel, Abertawe. Casglwyd 200p yn heolydd lHandudno, ddydd Sadwrn, tuag at Ysbytty Satall Nicol jn y lie hwnw. Dan gynghor meddygol, mae y Parch Hugh Price Hughes, Llundain, wedi tynu'n ol ei holl gyhoe Id- iadau am y flwyddyn hon a myned i wlad dramor. Dechreuodd tymhor saethu petris ddydd Llun diweddaf. Dywedir nad yw yr adar mor liuosog nac mor dew ac arfer. Mae lluaws maIVr o sauth- wyr ar hyd mvnyddau Gogledd Cymru. Bu Esgob Gogledd Dakota a'r Prifathraw Owen, Coleg Llanbedr, yn areithio yn Ysgoldy Rhosddu, ger Gwrecsam, nos Lun, dros Gymdeithas Lledat*n- iad yr Efengyl. Cymerodd angladd y Parch Chailes Tooth, Cerrigllwydion, ger Dinbych, le ddydd Sadwrn yn mynwent Llanynys. Gwasanaethwyd gan y Parchn Arthur Tooth a Watkin Davies WI th y ty ac ar lan y bedd. Fel y gallesid disgwyl, Mr Gwenogfryn Evans sydd yn debyg o gael ei apwyntio i'r swydd o gof- restrydd liawysgrifau Cymreig, at ba un y cyfrana y Trysorlys 400p yn flynyddol am ddwy flynedd ¡ fel cyflog. Yn Eglwys Helygain, fore Sul, pregethai Esgob Caer, ac yn nghwrs ei bregeth, sylwodd fod helynt y dadgysylltiad wedi bod yn llesol mor bell ag yr oedd wedi dysgu iddynt chwilio i mewn i hanes yr Eglwys ac uno a'u gilydd yn agosach fel Eglwys- wyr. Dedfrydwvd hen wr a hen wraig o'r enw Thomas ac Elizabeth Hancock, yn Bwcle, ddydd Llun, am greulondeb at ferlen. Yr oedd y ferlen mewn cyflwr mor ddrwg fel y gorfuwyd ei difetha. Chwecheiniog oedd y ddirwy roddwyd arnynt, yn cynwys y costau. Ddydd Sadwrn, yn ei breswylfod, bu farw y Parch Wm. Powell, Penfro, gweinidog hynaf y Methodistiaid Calfinaidd. Dechreuodd bre.ethu yn 1833, ordeiniwyd ef yn 1837, bu yn Gadeirydd y Gymdeithasfa, a dath odd jiwbili ei fywyd cy- hoeddus yn 1887, a pharhaodd i lafurio hyd y flwyddyn ddiweddaf tymhor o 56 mlynedd. Yr oedd yr ytnadawedig bron yn 80 oed. Yn Mhwyligor Cy, grair Rhyddfrydul Gogledd Cymru, yr wythnos ddiweddaf, penderfynwyd penodi dirprwyaeth i ymgynghori a Phwyllgor y De yn eu cyfarfod yn Llandrindod yr wythnos nesaf, i wneud parotoadau at gynal cynadledd yn ystod y gsuaf dyfodol i hyrwyddo ymgyrch y dad- gysylltiad yn mlaen. Mae'n debyg y evnelir cyf- res o gyfarfodydd cyhoeddus drwy'r wlad ar ol cyoadledd Llandrindod. Caiff trefniadau Rhaith y Plwyf sylw hefyd yn y gynadledd hono. Amcan rhyfedd oedd gan 3-nadon rhanbarth Rhuthyn i gyfarfod ddoe. Mewn cyfarfod diwedd- ar o Gynghor Tref Rhuthyn, pasiwyd penderfyniad yn condemnio sylwadau y Warden parth gwein- yddiad gwastraffus carchar Rhuthyn. Cymerwyd rhan yn yr ymdriniaeth ar y mater gan Mr John Roberts, aelod o'r Cyngor, ac sydd yn ngwasanaeth Mr Adams, Ysgrifenydd yr Heddwch. Ym- ddengys fod y Warden yn awr.yn anmheu hawl Mr Roberts i faruu gwaith yr ynadon ac yn y eyfarfod ddoe, pasiwyd ganddynt benderfyiuad yn cyhoeddi Mr Adams, Ysgrifenydd yr Heddwch, yn gyfrifol am unrhyw sylwadau a wnaeth ei gyn- orthwydd yn erbyn yr ynad. Hysbysodd Mr Adams nad allai atal ei ysgrifenydd i wneud ei ddyledswyddau fel cyurych-ioiydcl y cyhoedd. Ond daliodd yr ynadon at eu penderfyniad.

-I:Q:1-Ffestiniog a'r Amgyichoedd.

---0-Barddoniaeth,

I Lleol.

PWLPUDAU CYMREIG, Awst 19.

Esddo Eglivysig yn Nghymru.I

Colliad Llong o Borthmadog.…

-: o: - Marchnadoedd.

Advertising

Family Notices