Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 18-53 I OWEN ROBERTS, I ESTATE AGENT, I 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F Q, H. EDWARDS &. Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, tiave Cottages to LET in various parts of the own, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of axes. Also larger houses at higher rents. (F H. F-. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and suburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, &e. (F JOHN WILLIAMS, —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159. KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and eco- nomically managed. SaJes and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected. (F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD. LIVERPOOL, Kents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. (F The Liverpool Land Company, Limited. TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 999 years' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, m Garston, Kirkdale, Walton, Bootle, and Seaforth. Liberal advances ■will be made to Builders, Property letting well in all the ocalities.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, F) 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS HIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREET, Office and AQ2 & 404 SCOtlflfld Rd. Show Rooms w LIVERPOOL. Kitchen Ranees, Cast Iron Gates, and Railings; Hot Water Green Houses, and Sanitary Engiueers; Williams Patent Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c. Bakers Oven Stocks, Confectioners Ovens, Chattels, Boxes, Fire Bars. &c. al sizes of Gate Runners, &c. OARTREF ODDICARTREF. r; ALT A~H C-) T3 S E PRIVATF: FfOTfOL), i?iyQ £ -'v c/OTI,Tii place, T -vVISTOCK SQUARE, I 1 ■; DON, W, C f. i-fe'gton, London Bridge, Victoria and I %'■)"«..ui«nd, Kings Cross, Strand, St. Times' Hall, and Principal Places of Amusements, Is. Times' Hall, and Principal Places of Amusements, Is. give Minutes' Walk from Euston Station, Midland, King Cross and Gower Street Stations. PROPRIETOR: R. G. PRICHARD, LATH POETSCADOO. Telegraphic Addre.su—" GWYNVA. UTFHES Y O-EINION-Pris Is.. yr n LLYFRAU CYHOEDDEDIG gan I. FOULKES, Brunswick Street, Liverpool x. Helyntion Bywyd Hen Deiliwr, gan y Parch W. REES, D.D. 2.—Llythurau yr Hen Ffarmwr, gan y Parch W. REES, D.D. J 3.-Cyfrinach yr Aelwyd, gan y Parch W. REES, D D. Y T 41 LLYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 4s. 4.—Gardd Eifion: sef, llarddoniaeth ROBERT 4B GWILYM DDU 0 EIFION. 5-Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol y Prif-fardd enwog, Hanes ei Fywyd, a Fac-simile c'i L&wysgrifen o Lyfr y Plwyf yn Eglwys Walton, 6.-Gwa th Beirdd Mon: sef LEWIS MORYS. Y BARDD C'OCH Hugh Hughes), a ROBIN DDU O FON. 7.—John Blackwell (Alun. Ei holl Waith Barddonol. 8.-Yr Hen Bererinion: sef, Hanes Bywyd RICHARD JONES, Llwyngwril; Rnys DAFIS (Y GLUN BREN ac EDMUND JONES o Bontypwl. ro.-Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a IL-Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EiFiOl,'YDD. Y Gyfres 1 af a'r 2il. I2.-Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. :— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinery. In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. (F PEIDIWCH OEDI. GASTROCYNE KBENSON EVANS) ydyw y FEDDYGIMAETH SICRAF RBAG DIFFYG TREULIAD, Poen ar ol Bwy/a, Cur vn y Pen, Poen rhwng yr Ysgwyddau, Oyfog, Penvsgafnder, Dwfr Poeth, Gwynt, &c. Canoedd o dystiolaethau oddiwrth hen ac ieuainc sydd wedi cael gwellhad drwy 'GASTROCYNE' MEWN POTELAU (13 doses), I/I £ I (40 doses), 2/6. -Ar werth gan bob Fferyllydd.- WHOLESALE AGENTS- EVANS, SONS & CO., LIVERPOOL. R. HORENDEN & SONS, LONDON. OLDFIELD PATTISON, MANCHESTER. Neu oddiwrth y Perchenog- T. BENSON EVANS /4 7 Manufacturing; cnemist, F) DENBIGH, North Wales. 2 LLYFR I'R IMLQEDB. 2 S' NABL ISALAW g 18 0 DONAU HEWYDDION AR HER EIYNAU CYMRU, yn ng!|yda'r geiriau, Pob archebion gyda blaendal i'r Awdwr, ISALAW, BANGOR. Neu Mr. E. D. WILLIAMS, North Wales Music Co., Bangor. Rhan-gan, "Mawl-gan i'r Gwaredwr." H.N. 4c., r-4i!. Solffa lc. TPedwarawd, Draw y'mhell." Pris 4c. AT Y OANTORION". "NTPW Sonr as snug by Mr. Ben Davies at Carnarvon Eisteddfod. "HOPE1 WLAD FY NGETfEDIGAETH" Dear Native Land). Music by Dr, Jos. Parry. 1 New Songs by the late R. S. Hughes (Pigion 0 ganeuon "EOTF'TOI." un ganeuon olaf a goreu. Sop. or Tenor., "LULLABY." (Suo-gan) 1/- one of the sweetest Cradle Songs composed. Baritone, "Y XILWR OLWYFEDIG." 2 s The Wounded Cavalier;. A Grand Song-Vide the Pres "THE SILENT SiNOER." 2r Words by Oxenford. Music by Dr Rogers- POPULAR SONGS. "Gwlad y Delyn." J Henry, la. Bwthyn yr Amddifad." Is "Merch y viorwr." Is. "Y Dymhestl. R.S.Hughes. 2s. "InchcapeBeU."R.S.Hughes,2s."Bugail yr Eryri." D. Parry. 2s D. TREHEARN, Publisher, Rhyl. A ^-ARZ^raphu—- o bob math, Cymraeg a Saesneg, yn Swyddto'r 11 C MO u 18, Brunswick Street, LERPWL.
RHYD I WYLFA A'l BOBL OD.
RHYD I WYLFA A'l BOBL OD. [Gan YR HEN WYLIWR.] PENNOD Xx.-y BA.RIL BACH" YN CAMARWAIN. WEDI deall pwy oedd Phylip Pari, a'r gwasan- aeth gwerthfawr a gytiawnod-i taag at waredu bywydau yr helwyr, cynesodd hinsawdd Plas y Fron o gwmpas yr hen bregethwr, ac estynid iddo bob caredigrwydd awd ag yntau hefyd i wely, a derbyniodd yr un driniaeth a'r lleill- yn ol cyftirMryddyd yr hen Ddr Lloyd, gwr y ty. Ood uid oedd yr hen frawd yn agos i dawel ei feddwl oherwydd y gwyddai mor bryderus fyddai Neli, ei chwaer, yn ei gylch. Ond yr oedd Dr Lloyd yn benderfydol na chai fyn'd oddiyno hyd nes y gwnai efe ei oreu i'w adfer oddiwrth effeithiau oerni a gwlybauietb, a'r byn a ddioddefodd er mwyn ei feibion ac eraill. A phan amlygodd Phylip Pari ei bryder, hys- byswyd ef y gltVneid pobpeth trwy anfon cenad at ei chwaer, ac y cai hi ddyfod ato i'r Plas. Tawelodd hyny lawer ar ei feddwl, a boddlon- odd i aros hyd nes y deuai ei chwaer ato. Yr oedd yn y Plas ddyn bychan o'r enw James Johnson, yn fath o was cyffredinol, ond adwaenid ef gan y bobl yn gyffredin fel B;oril Bach." Yr oedd y llysenw yn lied nodweddiad- ol o'r gwrthrych ar amryw gyfrifon-yr oedd ei ganolran ar ffurf farilaidd byddai yn ami yn llawn o'r hylif a gedwid mewn barilau yn dry- dydd ac yn olaf, byddai yn arfer rowlio fel baril. Nid ystyrid ef yn llawn llathen hyd yn nod pan fyddai yn sobr, a phan na byddai felly, ceid ei ddigrifwch mor fawr fel mai pleser dalon i weilch direidus fyddai talu drosto. Mae crybwyll ei enw yn dwyn i'm cof lu mawr o ddigwyddiadau rhyfedd a gymerodd le yn ei hanes ond er cryfed y demtasiwn i'w dilyn, rhaid eu troi heibio ar hyn o bryd-gyd- a'r eitbriad o'r hyn a gymerodd le noswaith trychineb yr helwyr. Y Baril Bach oedd y cenad a anfonwyd o'r Plas i hysbysu Neli Pari o helynt ei brawd, ac i'w chyrchu ato. Ond buasai cystal i anfon un o'r brain a breswylient yn y coed gerllaw y Plas a'i anfon yntau. Byddai y Baril Bach yn llwyddo i gael hel- aethrwydd o ddiod bob dydd, hyd yn nod dan amgylchiadau cyffredin; a pha faint mwy a hawliai ar noson mor gyffrous a phrysur a hono —pan yr oedd ei holl ymadferthoedd ar waith i weinj'ddu ar y truenusion anffodus fuont bron boddi ? Cychwynodd y "Baril Bach" i'w siwrnai; ac nid gormod yw dweyd ei fod yn debyg i Abraham gynt mewn un peth-H ni wyddai i ba le yr oedd yn myned." Yr oedd cyn cychwyn wedi llyncu ysbrydion bradwrus, y rhai, wedi ei gael allan i'r gwynt a'r tywyll wch, wrtho ei hun, a droisant yn ei ben, ac a'i lluchiasant i'r eira, fel nas gallai weled ei ffordcl; er hyny, yn mlaen yr clat, o godwm i godwm, ac i fynu tua Rhyd y Wylfa. Yn iaith gwyddonwyr y dyddiau hyn, gellir dweyd fod ei godymau yn 'gwympiadau tuagifynu." Roedd rhywbeth tebycach i reddf nag i reswm yn ei gadw i'w bwynt o hyd. Tua dwy filltir a haner oedd y pellder rhwng y Plas a'r pentref i ddyn sobr, ond i Baril Bach" yr oedd yn fwy ddwywaith na hyny, a chan ei fod yn gorphwys mor ami cymerodd iddo oriau i'r daith, ac mae yn anmheus a gyrhaeddasai y pentref o gwbl y noswaith onibai i Tom Huws y plisman ddod heibio iddo. Yr oedd Tom Huws yn ei adwaen yn dda, oblegid mynych yr ymwelai efe a'r Plas—a hyny, wrth gwrs, mewn cysylltiad a'i swydd, ac yr oedd ganddo deimladau cynhes iawn tuag ato. Yn ffodus, nid oedd llawer o ffordd bellach i'r pentre, ac yn fuan yr oedd Tom Huws wedi cyrhaedd gyda'r Baril Bach i'r Red Lion unwaith eto, a. chawsant y fraint a ganiateid i ymwelwyr neillduol, sef myn'd i fewn wedi amser cau. 0 ran hyny, hawdd ydoedd i ddyn o awdurdod a dawn Tom Huws wneud achos golygus iawn o was y Plas, yr hwn fel y dywedai efe wrth hen wraig y Red Lion, oedd I mewn peryg' bywyd." Yr oedd y Baril Bach wedi Ilwyddo ar y ffordd i roi ar ddeall i Tom Huws fod ganddo ryw neges yn y pentref, ond tybiodd mai mwy urddasol a chyfleus oedd iddo yn gyntaf oll gymeryd y negesydd truan gydag ef i'r gwestty, a cheisio gwneud allan amcan ei fodolaeth yn Rhyd y Wylfa yr amser hono o'r nos wed'yn. Ond anhawdd iawn oedd cael gan- ddo i esbonio ei hun, Modd bynag, wedi hir holi a chroesholi, deallodd Tom Huws fod y Baril Bach wedi ei ddanfon gyda chenadwri at Neli Pari Yr oedd yn rhy lawn i allu siarad brawddeg gyfan, a'r cwbl geid ganddo oedd bod ei feistr wedi ei ddanfon i ddweyd am i "kchwaer 'gethwr Wesle" fyn'd i'r Plas ar unwaith. I geisio cynorthwyo y negesydd i egluro ei hun gofynodd Tom Huws amryw gwestiynau iddo fel hyn Ydach chi'n dweyd fod arnoch eisio gwel'd Neli Pari LI-11-11-Ile ma hi ?" oedd yr atebiad. Beth sydd eisio ddeyd wrthi hi, Johnson ?' gofynai Tom Huws. "Ac-ac-accident-gethwr Wes Wes- Wesla," ebai Johnson. Wedi clywed cymaint eisoes am anturiaeth Phylip Pari, tarawyd Tom Huws gan y syniad ei fod wedi cyfarfod a damwain, ac erbyn gosod holl ymadroddion gwasgarog dyn hollol feddw wrth eu gilydd, nis gallai wneud dim o'r stori ond fod Phylip Pari wedi boddi yn rhywle, a bod galwad am i'w chwaer fyn'd i'r Plas, lie y cymerwyd ei gorph. Prin y cvedai fod y Baril Bach wedi deall ei neges yn iawn ar y cyntaf, ac erbyn cyrhaedd Rhyd y Wylfa yr oedd wedi ei oholli bron yn llwyr. Yr oedd Tom Huws yn ei holi ar y dybiaeth fod anffawd wedi digwydd i'r hen bregethwr, ac yr oedd i raddau helaeth yn deongli breuddwyd gwas y Plas yn ol y dyb- iaefch hono. Pa gwestiwn bynag a ofynai Tom Huws iddo, Tha-tha-that's it fyddai ei ateb- iad. Y canlynisd fn i Tom Huws gredu yn gryf fod y gwaethaf wedi dal Phylip Pari, a phan ddywedodd hen wraig y Red Lion ei bod wedi clywed yn bur hwyr nad oedd yr hen frawd wedi cyrhaedd adref, symudwyd pob anmheu aeth oddiar ei feddwl, ac ymbarotodd i ymweled a Neli Pari. A phan gofir fod Tom Huws yn credu ar y naill law fod Phylip Pari wedi marw, ac ar y llaw arall yn credu mewn drychiolaethau, nid rhyfedd iawn oedd iddo frawychu bron hyd lewyg pan welai yr hen bregethwr yn ymddangos iddo ef a William Owen yn nhrymder haner nos Tra yr oedd y Baril Bach yn ymdroi ar ei neges, blinodd Phylip Pari yn disgwyl ei chwaer, a cban nad oedd hanes o'r negesydd a anfonasid ati yn dychwelyd, penderfynodd fyn'd tua chartref, beth bynag fyddai y canlyniadau. Yr oedd y negesydd arall, yr hwn a anfonasid i Bryn Llywarch wedi dychwelyd, a Mrs Jones wedi cael amser i fyn'd drwy gyfres o lewygon ac ysgrechia Jau dychrynllyd, nes y llwyddodd i dynu allan hen ddyn" Dr. Lloyd, yr hwn a daranodd geryddon llym ami am gneud cimin o swn drwg." Yr oedd hi a'i Master John" yn llon'd y lie. Ystyriai Phylip Pari y dylasai ei genadwr yntau at ei chwaer fod wedi cyrhaedd yn mhell cyn hyny, ac o'r diwedd myn- odd gel codi a myn'd adref. Nid oedd ei ddillad ei hun wedi sychu, a chafodd fenthyg par o ddillad clyd, perthynol i Dr. Lloyd, a ffwrdd ag ef fel Hew tua Rbyd y Wylfa, er bwyred ac oered oedd, ac er ei fod yn peryglu ei fywyd oherwydd y triniaethau a dderbyniodd yn oerni yr afon, ac yn nghynesrwydd y Plas. Wedi'r cwbl, Phylip Pari ei hun, ac nid ei ddrychiolaeth, a ymddangosodd i Tom Huws a William Owen. Ac yr oedd yn ddigwyddiad ffodus iawn fod y ddau wedi cyfarfod Phylip Parri cyn iddo fyn'd i wydd ei chwaer, oblegyd buasai ei ymddangosiad sydyn iddi hi yn lied sicr o'i gwallgofi, os nad ei Hadd yn y fan, oblegyd yr oedd y cyfatebiaeth a ymddangosai iddi rhwng ei brenddwyd ag amgylchiadau y dydd wedi gwneud iddi hithau lwyr gredu fod ei brawd wedi marw. Drwy lawer o bwyll a doethineb y parotowyd meddwl Neli Pari i dderbyn ei brawd yn fyw, ond bu i'w llawenydd o'i weled agos mor lethol iddi a'i galar oherwydd ei farwolaeth dybiedig, ac ysigwyd ei hiechyd am y gweddill- o'i hoes. Gymaint o flinder a achoswyd drwy dybiaethau disail! Mor ddi- werth, mown amgylchiadau pwysig, yw dynion fel y Baril Bach Y gwirionedd syml am Phylip Pari oedd hyn: Cyrhaeddodd i'w letty nos Sadwrn yn hwyr, ac wedi dyoddef llawer oddiwrth "lu web ion oe ion eira ar y mynydd; erbyn bore Sul yr oedd dan beth anwyd, ond aeth drwy ei gyhoeddiad- an yn llwyddianus—yn y tri chapel. Bore Llun, cychwynodd tuag adref, ac ar y ffcrdd gwelo(ld oruchwyliwr ei feistr. Yr oedd tua phedair milldir o ffordd rhwng Plas Heulog, lie y preswyliai Mr Robertson, ar ystad yr hwn y gweithiai Phylip Pari, a Phlas y Fron, lIe y preswyliai Dr. Lloyd, ond yr oedd eu tiroedd yn terfynu a'u gilydd. Dywedodd goruchwy!- iwr Plas Heulog wrth Phylip Pari fod eisiau iddo ymweled a ffermdy neillduol, yr hwn oedd wedi dyoddef oddiwrth yr ystorm eira, a rhai o'i ffencstri wedi eu euro i fewn yn yfflon. Yn gweled ei fod yn lied agos i'r ffermdy hwnw ar y pryd, penderfynodd Phylip Pari fyn'd yno, a thori ar ei reol fanwl o gadw cysegredigrwydd ei wisg Sabbüthol i'r Sabboth a'r pwlpud. Yr oedd ganddo galon fawr, a gorchfygid ef gan arwyddion o gyni, fel nas gallai ymatal rhag gwneud ei oreu i'w symud ymaith. Hen dy bregus iawn oedd y ffermdy dan sylw, a thruenus oedd cyflwr y rhai a geisient loches ynddo cddiwrth ystotmydd cethin Nadolig hen ffasiwn." Y canlyniad fu i'r pregethwr gael ei drawsnewid yn saer ar y ffordd o'i gy- hoeddiad, ac ymdroi i geisio trwsio tipyn ar dy candryll, a chlydu aelwyd teulu rhynllyd. Ar ei ffordd adref o'r fan hono yr oedd Phylip Pari pan glywodd swn llefau yr helwyr suddedig yn croesi'r maes tnag ato, nes y rhedodd yntau i'r man, gan brofi fod hen wr yn ddigon o wron i droi yn waredwr i rai ar ddarfod am danynt, ie, i hyd yn nod y coegfalch, hunanol a chas, John James Alexander Gabriel Jones, mab Bryn Llywarch, delw ei fam, a dirmvgwr hen bob fwyaf duwiol a rhinweddol Rhyd y Wylfa, heb eithrio Phylip Pari, y pregethwr cynorthwyol, a gwaredydd ei fywyd yntau Mawr fu y cyffro a achoswyd yn Rhyd y Wylfa drwy yr holl helyntion hyntrychineb y gwn yn Bryn Llywarch a thrychineb y rhew ar yr afon. Bu dw'r a than fel mewn cynghrair A'i-I gilydd y dyddiau hyny i greu rhamantau anghyffredin mewn cymydogaeth nodedig o dawel ar y cyfan. Cododd Phylip Pari i fwy o fri ac enwogrwydd nag erioed yn mysg y pen- trefwyr, er fod rhai lied anystyriol yn dweyd ei fod yn ynfyd iawn i beryglu ei fywyd er mwyn ysgogyn o fath mab Bryn Llywarch. Yn wir, wedi gweled mor greulawn yr ymddygodd at y bechgyn oedd yn dilyn y fintai helwyr, yr oedd rhai yn siarad am dano fel ag y gallesid credu mai ynewydd goreu ganddynt hwy faasai clywed ei fod wedi boddi ac nid wedi ei waredu ond yr oedd yn esmwythyd i ddigofaint y pentref- wyr yn gyffredinol i glywed fod Master John wedi cael trochfa, er ei fod wedi ei waredu. A phe na buasai efe wedi dyoddef drwy ddwfr ac oerni, buasai yn sicr o gael dyoddef drwy gurfa dost, oblegyd yr oedd bwli y pentref—"Wil Goch "—eisoes wedi myn'd ar ei Iw y byddai iddo ef osod olion ei ddyrnau arno y tro cyntaf y cyfarfyddai ag of wed'yn ac feallai mai y drin- iaeth a gafodd oedd y dyneraf, oblegyd creaduf ofnadwy oedd Wil Goch. Daeth Master John ato ei hun yn bur dda mewn ychydig ddyddiau, er gwaethaf boll swn a rhodres ei fam. Mawr fn parch teulu Plas y Fron i Phylip Pari, ond ychydig fu eiddo Mrs Jones, Bryn Llywarch, a'i mab. Yn wir, cyn pen yr wythnos, clywid Mrs Jones yn brolio fel yr oedd ei mab wedi gwareatl mwy ar Phylip Pari nag a waredodd Phylip Pari ar Master John (I barhau).