Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y CYMRAEC YN Y SENEDD.

-0---CREFYDD LLYCAD Y CEINIOC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- CREFYDD LLYCAD Y CEINIOC. GWELIR mewn colofn arall adroddiad a gyflwynwyd i Gynghor Sir Ddinbych ar sefydliad Ysgol Ramadegol Rhuthin, yn nghyda r model ei gweinycidwyd, a'r ym- giprys a fu yn ei chylch yn ddiweddar. Ar y cyfan, y mae'n adroddiad teg, clir a chyflawn, pan gofier mor gyfyng ydyw ei derfynau. Un prawf o'i degweh ydyw'r ffaith na chafwyd ond tri o aelodau'r Cynghor yn pleidleisio yn ei erbyn, ac un o'r tri ydoedd Mr Wynne Edwards, yr ymgeisydd Toriaidd tros Orllewinbarth y sir, a'r hwn a siaradai ar yr achlysur yn wirionach nag arferol. Yn ol ewyllys y Deon Goodman, sefydlydd a gwaddolwr caredig yr ysgol, bwriedid hi i roi addysg dda i blant plwyfolion Rhuthin a Llanelid- an ond gwyrwyd yr amcan yn fuan, gan agor ei dorau i blant personiaid, boneddig- ion a chrachfoneddigion o bell ac agos, Y mae geiriad yr ewyllys hefyd yn hollol ddiamwys fod i ran o addysg y plant gyn- wys daliadau neillduol yr Eglwys Brotes- tanaidd, a'r unig Eglwys Brotestanaidd yn y wlad yn oes y Deon ydoedd yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd y catecism eglwysig i'w ddysgu ynddi, a'r dysgyblion i fynychu yr eglwys ar y Suliau a'r gwyliau gosodedig fel y byddent, ar ol tyfu i fynu, yn Brotes- taniaid ffyddlawn. Cadwyd y rheol hon yn ddiwyro, hyd y gwyddis, tan o fewn rhyw ddeng rnlynedd ar hugain yn ol, pan y symudwyd y shibboleth sectol oedd ar ffordd Ymneillduwyr i ddanfon eu plant yno ac ni fu yr hen ysgol erioed mor llewyrchus ag yn ystod y chwarter canrif diweddaf. A dyma yspryd cynen a dryg- naws wedi dyfod yn ol eto ac fel yr yspryd y sonir am dano yn yr Efengyl, saith o rai gwaeth nag ef ei hun gydag ef. Gresyn nad allai y pleidiau gytuno i ddef- nyddio yr adeilad hardd fel Ysgoldy Canol- radd i'r holl ardal, heb son am bartiol farn a rhagfarn." Y mae'n annichonadwy credu am y Deon Goodman haelionus, pe'n fyw yn awr, na fuasai yn ystyried Ym- neillduwyr Cymru yn Brotestaniaid, ac fel y cyfryw yn deilwng o bob braint gynwys- edig yn ei elusen. Nid yr un telerau a wnelsai ef yn y r geg ganrif ag a wnaeth yn yr i6eg; canys y mae'r amgylchiadau yn dra gwahanol. Pa un ai yspryd ynte llythyren yr ewyllys ddylid fabwysiadu, tybed, yn yr oes hon ? Mae lie i ofni fod Sion Llygad y Geiniog wedi cymeryd Addysg a Chrefydd yr oes yma un tan bob cesail.

[No title]