Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD.

|Dyffryn Clwyd

-:0:-Ffestiniog a'r Amgylchoedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-:0:- Ffestiniog a'r Amgylchoedd. Nos Fawrth, talodd (6r Merched bydenwog Caerdydd ymweliad & Ffestiniog, a chawsant dderbyniad brwdfrydig. Llywyddwyd yn y Neuadd Gyhoeddus gan y Parch D. Richards, M.A., ficer Dewi Sant. Diau fod y cyngherdd hwn yn un o'r rhai goreu a gynaliwyd erioed yma. Tarawyd yr ardal a. dychryn, yr wythnos ddiweddaf, trwy farwolaeth sydyn Mrs Wil- liams, Bethania. Yr oedd allan ychydig funyd- au cyn ei marwolaeth, ac yn ymddangos yn ei hiechyd cynefin. Credir mai clefyd y galon oedd yr achos. Da genym glywed am lwyddiant Mr Idwal Griffith, mab hynaf Mr E. Griffiths, ysgolfeistr Glanypwll. Enillodd wobrwyon anrhydeddus yn Ngholeg Llanymddyfri ac ar ben y tymhor, saif ar ben y rhestr. Mae'r ysgol laeth yma wedi troi yn llwydd- iant mawr, a chryn lawer o ferched yr ardal wedi enill tystysgrifau ynddi. Mae'r Mri Williams a Jones, is-arolygwyr y chwarelau, wedi dechreu ar eu gwaith. Bydd Mr Williams yn sefydlu ei hun yn Mangor, a Mr Jones yn Ngbaerlleon.

[No title]

Cyfrifiad Cymru.

[No title]