Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD.

|Dyffryn Clwyd

-:0:-Ffestiniog a'r Amgylchoedd.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bydd y cyfirfthiad Cymraeg 0 Ddeddf Rhaith y Plwyf allan o'r wasg mewn ychydig ddyddiau. Bwriedir cynal Eisteddfod Dalaethol Gwynedd, 1895, yn Mhwllheli. Dadorchuddiwyd cofgolofn farmor i'r diweddar lengar Barch. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), yn Narberth, yr wythnos ddiweddaf. Y mae gan beriglor Llanuwchllyn lyfr yn y wasg ar Hanes Eglwys y Cymry," a chyhoeddir ef mewn pedair cyfrol. Dych welwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddam weiniel" ar gorph Mr Percy Bentley, 22 oed Stoke-on-Trent, yr hwn a foddodd yn yr afon Menai tra'n ymdrochi. Mae cwmni o Birmingham wedi prynu gwaith copr Maesglas, ger Treffynon, yr hwzi sydd wedi ei weithio er's dros gannf gan Gwmni Newton a Keats. Da genym glywed am benodiad Mr J. O. Jones (Ap Ffarmwr) yn olygydd y Merthyr Times. Bu Mr Jones am y tair blynedd diweddaf yn swyddfa'r Genedl, ac efe a ysgrifenai'r llythyrau galluog hyny tan yr enw Joe Hammersmith" i'r North Wales Express.

Cyfrifiad Cymru.

[No title]