Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Liang Cymreig wedi ei Cholli.…

: o : Bartidoniaeth,

ICynghor Sir Ddinbyoh.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cynghor Sir Ddinbyoh. TY'R ARGLWYDDI AC ADEYSU CYMRU. CYNALIWYD cyfarfod arbenig o'r Cynghor uchod yn Neuadd y Sir, viwrecsam, ddydd Gwener, dan lyw- yddiaeth yr Henadur Samuel Moss. Daeth cynull- iad lluosog o'r aelodau yn nghyd. Y materion mwyaf pwysig i ddod gerbron ydoedd adroddiad Pwyllgor Unedig Addysg gyda chyfeiriad at Ysgol Ramadegol Ruthin, ac adroddiad Pwyllgor Deddf Llywodraeth Leol. Nid oedd unrhyw wrthwyneb- iad i adroddiad y pwyllgor olaf, a chymeradwywyd ef. A ganlyn yw Adroddiad Pwyllgor Unedig Addysg:— Ysgol Ramadegol Ruthin-Sylwadau ar y ddadl a'r achos. Ymddengys mai y cwestiwn mewn dadl yn syml ydyw hyn :-Pa un a yw Ysgol Ramadegol Rhuthin yn dyfod o fewn darpariadan Deddf Addysg Ganol- radd Cymru ai peidio. Cydnabyddir fod yr ysgol ar y cyntaf wedi ei sefydlu a'i gwaddoli fel ysgol eglwysig gan y Deon Goodman ac eraill, ac iddi ddal yn y cymeriad hWU'\T hyd o fewn cyfnod cydmarol ddiweddar. Cydnabyddir hefyd pe y buasai wedi parhau i fod yn ysgol eglwysig, yn mha un y dysgid cre- fydd yr Eglwys yn gyfangwbl a didor, y byddai o angenrheidrwydd wedi ei chau y tualian i weith- rediad y Ddeddf Gymreig. Ond cydnabyddir nad yw wedi cadw y cymeriad hwnw, a phrawf eglur o hyny ydyw y ffeithi&u canlynol- Mae'r bwrdd llywodraethol amryw weithiau wedi cydsynio i ddileu y cyfyngiad enwadol, ac wedi datgan hyny yn gyhoeddus. Cynwysai cynllun 1863 adran cydwybod" (conscience clause). Darparai na orfodid yr un dysgybl i dderbyn addysg grefyddol yn ol eg- wyddorion ac athrawiaethau Eglwys Loegr os am- lygai ei riant neu ei gyfaill eu gwrthwynebia6d i hyny mewn ysgrifen. Yn nghynllun 1863, darpara adran 13 i Eglwys Loegr ddysgu gydag "adran cydwybod." 0 dan gynllun 1881, etholwyd personau eraill, heblaw Eglwyswyr, fel Ilywodraethwyr. Datgana adran 30 m.d yw yn angenrheidiol i'r athraw fod mewn urddau eglwysig. Cynwysa adran 51 adran cydwybod." Dadgana adran 52 mai yr addysg 9 grefyddol fyddai "Y Ffydd Gristionogolni nodir unrhyw gatechism Eglwysig. Ar ddalen gyntaf y cynllun hwnw, dywedir yn eglur ei fod yn cael ei ganiata.u yn ol darpariadau Deddf Ysgol- ion Gwaddolog, 1869. Er 1881, mae cyfartaledd mawr yr ysgolheigion, os nad y mwyafrif, wedi bod bob amser yn Ymneill- duwyr. Mae yn bresenol yn yr ysgol o 60 i 70 o ysgolheigion, a dwy ran o dair o'r cyfryw yn Ym- neillduwyr. Ar yr 3lain o Ionawr, 1887, cyhoeddwyd cylch- lythyryn gwahodd tanysgrifiadau atysgoidy newydd a fwriedid godi y pryd hyny, gyda'r penawd a gan- lyn Sefydlwyd gan Gabriel Goodman, Deon Westminster, 1594. Ad-gorpholwyd gan Ddirprwy- wyr Ysgolion Gwaddolog, 1881. Cadeirydd: Y Parch. Warden Rhuthin, M.A., R.D. Rhoddir hefyd enwau y 14 llywodraethwyr a weinyddent y swydd ar y pryd, dau o leiaf o ba rai ydynt An- nghydffur fwyr." Cynwysa y cylchlythyr hwn y mynegiad can- lynol Mae adran yr Ysgolion Gwaddolog o'r Ddirprwyaeth Elusenol yn cymeryd yr un golwg ar annghymhwysder yr adeiladau hyn i gyfarfod yr angheniou presenol, ac yn dadga.n eu dymuniad unol i gydweithredu gyda'r Llywodraethwyr yn eu hamcanion presenol. Gellir sylwi hefyd fod yr ysgol, dan gynllun 1888, yn anenwadol, ac nid yw y dysgyblion dan orfod i fyned dan unrhyw brawf crefyddol." Gwnaed yr apel uchod "at drigolion Rhuthin, llwyddiant pa rai a all gael ei ddwYll yn mlaen trwy ysgol flofjeuog, ac at y boneddigion hyny addysgwyd yn Rhuthin, ac sydd yn awr yn trig- ianu yn y Dywysogaeth neu rywle arall, ac at bawb sydd yn meddu rhyw ddymuniad i hyrwyddo addysg ganolradd yn Nghymru," Arwyddwyd y cylchlythyr gan William Lloyd, clerc trefol, a C. E. Jones, trysorydd bwrdeisiol, ysgrifenyddion mygedol. Mai 12, 1888, cyhoeddwyd cylchlythyr arall yn gwahodd tanysgrifiadau i gronfa adeiladu yr ysgoldy newydd, yr hon yn ddiweddar a gwblhawyd, yn mha un yr ymddengys y mynegiadau can- lynol :—" Mae'r ysgol yn anenwadol, ac nid yw y dysgyblion yn agored i unrhyw brawf cref- yddol." "entra y llywodraethwyr ddwyn y ffeithiau hyn i'ch sylw, mewn gobaith y cant eich ystyriaeth garedig, ac y bydd i'ch cynorthwy hael gael ei roddi yn ffafr eu cynygion. Arwyddwyd y cylchlythyr hwn gan y boneddwyr canlynol :-W. Cornwallis West, cadeirydd Bulkeley Owen Jones, is-gacleirydd J., St. Asaph (y diweddar Esgob), John H. Puleston." Ad-arwyddwyd gan David Jones, ysgrifenydd." Ar ol i'r cylchlythyr gael ei anfon derbyniwyd cryn symiau oddiwrth bersonau, y rhai, wrth gwrs, gyfranent ar y ddealldwriaeth ei bod yn (0 ysgol anenwadol." Y flwyddyn ddiweddaf (1893) dygwydallangylch- lythyr gan y llywodraethwyr, ar ddalen gyntaf pa un yr ymddengys darlun o'r ysgol. 0 dan y dar- lun ceir y mynegiad hwn :—Sefydlwyd Ysgol Rhuthin gan Gabriel Goodtiian, Deon Westminster, yn 1595, ac fe'i hadgorphorwyd yn 1881 gan Ddir- prwywyr Ysgolion Gwaddolog fel ysgol gyhoeddus o'r radd flaenaf. Mae cwrs addysg yn cynwys yr Ysgrythyr Sanctaidd, a'r ieithodd Seisnig, Groeg, &c. (Ni ddywedir un gair am Gatecism nac Addysg Eglwysig). Gellid hefyd yn hyderus sylwi na ddysgwyd y Catecism yn yr ysgol er pan y daeth cynllun 1881 i rym. Prin y rhaid i ni ail adrodd fod y ffeithiau uchod yn profi yn derfynol i'n meddyliau ni fod yr ysgol yn un anenwadol i bob bwriad a phwrpas ac o dan Ddeddf Ysgolion Gwaddolog, ac felly na ddylasai gael ei chau allan o'r cynllun gan Dy'r Arglwyddi. Wrth ddweyd hyn, nid ydym am foment yn tybio y buasai eu harglwyddi yn gweithredu fel y gwnaeth- ant pe buasent yn feddianol ar holl wir ffeithiau yr achos. Ni a ychwanegwn un ffaith bwysig arall, yr hon, yn ein barn ni, ddylasai gael ei hystyried yn ddi- gonol ynddi ei hun, i atal llywodraethwyr ysgol Rhuthin rhag myned yn mlaen fel y gwnaethant; ac yn neillduol y boneddwyr sydd wedi cymeryd y rhan fwyaf amlwg mewn gwrthwynebu y cynllun. Yn nechreu 1892, cyflwynwyd yr achos gan Lywodraethwyr yr ysgol i Syr Edward Clarke, Cyfreithiwr Cyffredinol yn Ngweinyddiaeth Argl- wydd Salisbury, er cael ei farn. A ganlyn yw yr amgylchiadau fel eu gosodwyd ger ei fron gan y llywodraethwyr— I I Yr ydym ni, sydd a'n henwau islaw, wedi ein hawdurdodi gan gorph llywodraethol ysgol Rhuthin, o ba un yr ydym yn aelodau, i gyhoeddi I adroddiad o'r sefyllfa y gosodwyd yr ysgol ynddi gan Bwyllgor Unedig Addysg Sir Ddinbych a'r Dirprwywyr Elusenol, ac i wahodd cynorthwy barn gyhoeddus i wrthwynebu y rhag-gynllun, yr hwn ni ddesgrifir mewn rhyw dermau cymeradwyol iawn. Yna cyfeirir at amryw o'r darpariadau yn y Ddeddf Gymreig, a'r moddion fabwysiadwyd i barotoi y cynllun. "Yna rhoddir hanes yr ysgol o'i chychwyniad, a desgrifiad o adeiladau'r ysgol. Ni chyfeirir ond at ddau gynllun yn unig yn yr achos hwn, sef rhai 1863 ac 1881. Yn ol y blaenaf, edrydd y llywodr- aethwyr nad y w safle grefyddol yr ysgol yn cael ei gyffwrdd,' er ei fod yn cynwys 'adran cydwy- bod. Ond cydnebydd y Llywodraethwyr fod cynllun 1881 yn cyriwyg 'adran cydwybod yn y geiriau canlyrol -,N"ae'r ysgol wedi ei gweithio yn llwyddianus gan y corph llywodraethol a apwyntiwyd dan gynllun 1881, gydag adran cyd- wybod.' Ynarl oddir hanes yr ymdrechion a wnaed i ddar- paru adeilad newydd, ac y mae'r camwri y cwyna'r llywodraethwyr o'i blegyd pe deuai'r cynllun yn ddeddf, yn cael ei ddesgrifio. Wed'yn rhoddir barn y Dirprwywyr Elusenol ar safle yr ysgol, pa un sydd fel hyn :—Fod yr ysgol, o 1595 hyd 1866, yn sefydliad perthynol i Eglwys Loegr; ond "fod cyfiwyniad yr adran cydwybod yn 1886 wedi tori parhad y gyfundrefn crefyddol ac wedi atal yr ys- gol rhag derbyn y nawdd i ba un yr oedd ganddi hawl dan adran 18 o Ddeddf Ysgolion Gwaddolog, 1869. "Ni chydnabyddodd y llywodraethwyr y cyfan- soddiad hwn yn gadarn. Darfu iddynt, mewn can- lyniad, geisio barn Syr Edward Clarke. "Mae'r acbos yn dwyn.enwau y llywodraethwyr canlynol:—W. Cornwallis West, Arglwydd Rag- law A. G. Llanelwy (yr Esgob presenol) Bulkeley O. Jones, M.B., K.S. Warden Rhuthin; Win, D. Jones, M.R.C.S.. Cadeirydd." Mae barn Syr Edward Clarke ar yr achos fel ei gosodir uchod fel y canlyn :— Mae'r cwestiynau (1) pa un a oedd Ysgol Ram- adegol Rhuthin, fal ei cyfansoddwyd gan osodiad y sefydlydd, yn ysgol unrhyw eglwys neillduol o fewn dealldwriaeth Adran 18 o Ddeddf Ysgolion Gwaddolog, 1869 ? a (2) pa un, os oedd yn meddu y cyfryw gymeriad a fuasai telerau Cynllun-ddeddf 1863 yn cyffwrdd a. hi ? yn gwestiynau anhawdd, ond yn awr y maent yn hollol ddibwys. Nis gellir cwcstiyno cadernid Cynllun 1881 yn awr, oblegyd, trwy adran 47 o Ddeddf 1869 gwneir darpariad fod "archiad y Cyfrin Gynghor yn cymeradwyo cynllun yn dystiolaeth derfynol fod y cyfryw gynllun o fewn cylch, ac yn unol a thelerau, y cyfryw Ddeddf; ac ni ellir mewn unrhyw erlyniad cyireithiol, an- mheu cadernid y cyfryw gynllun a rheol." Nid ymddengys 1'1' Corph Llywodraethol, er iddynt basio penderfyniad a'i anfon i'r Dirprwywyr, ddeisebu y Frenhines i atal ei chymeradwyaeth i'r cynllun-ac y mae yn awr yn rhy ddiweddar i godi'r cwestiwn Mae'r ysgol yn awr yn anenwadol, ac mewn unrhyw achos yn glir o fewn darpariadau Deddf Addysg Ganolradd. Nid wyf fy hun yn gweled unrhyw fodd drwy ba un y gellir rhoddi cymeriad o ysgol eglwysig i Sefydliad Rhuthin."

Y Ganlyniaclau.

1_o Cohebiaethau.

[No title]