Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Liang Cymreig wedi ei Cholli.…

: o : Bartidoniaeth,

ICynghor Sir Ddinbyoh.

Y Ganlyniaclau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Ganlyniaclau. Drwy gau Rhuthin allan o'r cynllun bydd canlyn- iadau niweidiol yn sicr o ddilyn, nid y lleiaf o ba rai ydyw rhwystro sefydliad ysgolion y genethod a bydd yn golled arianol fawr i'r trigolion, oblegyd rhaid iddynt anfon eu plant oddicartref i dderbyn eu haddysg, yr hyn a ychwanega y costau yn ddir- fawr. Yr Henadur Gee a gynygiodd eu bod yn derbyn yr adroddiad, yr hyn a eiliwyd gan Mr Edward Hooson, Rhos. Siaradwyd yn mhellach yn ei ffafr gan Mr J. E. Powell, Gwrecsam, yr Henadur Lumley, yr Hen- adur Simon Jones; ac yn ei erbyn gan y Canghell- ydd Trevor Parkins a Mr T. A. Wynne-Edwards. Pan roddwyd y cynygiad gerbron, pleidleisiodd 22 o'i bJa.id, tri yn ei erbyn, ac ni phleidleisiodd chwech o gwbl. Yr Henadur Gee a gynygiodd benderfyniad, yn cael ei eilio gan Mr Thomas Parry Colwyn Bay, a'r hwn y cytunwyd, i'r perwyl pe methai Bwrdd Llywodraethol y Sir a Phwyllgor Addysg Ganol- radd gael gwelliant boddhaol i'r cynllun yn nglyn a Rhuthin, fod cynllun newydd yn cael ei barotoi, yr hwn ddarparai ysgol i fechgyn a genethod yn Rhuthin, o dan Ddeddf Addysg Ganolradd, a thrwy hyny roddi i'r dref hono yr un manteision addysgol a rhanau eraill o'r sir.

1_o Cohebiaethau.

[No title]