Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

SEFYDLU CYMRU FYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SEFYDLU CYMRU FYDD. CYNALIWYU y cyfarfod i'r dyben o sefydlu y gymdeithas newydd hon yn Llandrin- dod yr wythnos ddiweddaf. Daeth lluaws yn nghyd, yn emvedig o'r Dehtudir. Dau oedd yn cynrychioli Cymry Lerpwl yn y cyfarfod. Amser anhwylus ar y flwyddyn ydyw hwn i'r trefydd Seisnig, oddieithr i'r sawl oedd ar eu gwyliau ar y pryd, ac yn arfer eu treulio yn Llandrindod. Er fod ychydig annghydwelediad ar rai man bethau yn y cyfarfod, yr oecid yno lawer mwy o gydsyniad nag o'r elfen wrth- wynebol. Anhebgor mawr y Gymdeithas yn y cyfnod presenol ar ei bodolaeth, ydyw ysgrifenydd call, pwyllog. egniol. Gyda swyddog felly, gall y symudiad ddyfod yn allu yn ebrwydd hebddo, ni wna end lled- fyw am ychydig, ac yna marw. Ysgrifen- ydd da, galluog ydyw'r angenthaid. Rhaid talu cyflog anrhydeddus am ddyn o'r fath. 0 b'le daw'r arian ? Fel y dywedodd rhywun, cheir fawr o help gan Esgobion ac Arglwyddi rhaid apelio at gylch eangach. Paham na chymerai Cymru Fydd esiarnpl oddiwrth y gangen ohoni sydd mewn bod o'l blaen hi ei hun (ymadrodd rhyfedd), sef Cymdeithas Cymru Fydd Lerpwl. Y mae hi yn talu ei ffordd tan ganu," chwedl Tanymarian. Gwnaeth elw rhagorol oddi- wrth gyngherdd mawreddog a drefnwyd ganddi yn y Philharmonic Hall y llynedd a bydd ganddi gyngherdd arall i'r un per- wyl yn mis Hydref. Beth sydd yn lluddias i'r Gymdeithas a sefydlwyd yn Llandrindod godi Cor cryf at gynal cyngherddau yn y prif ddinasoedd a'r manau poblogaidd yn Lloegr a Chymru. Byddai o leiaf ddau fantais gyda'r cyn- 11 un hwn (i) Ceid gwybod beth yw barn y cyhoedd am y Gymdeithas newydd yti ol y brwdfrydedd a ddangosid i'w helpu yn ei hanturiaeth gyntaf; (2) gyda threfniadau doeth, dygai'r cyngherddau hyn rai can- oedd 1 drysorfa'r Gymdeithas mewn byr amser, yr hyn a fyddai o gryn help i roi cychwyn effeithiol i'r symudiad.

--0-DEDDFWHIAETH Y TYMHOR.