Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

--0-CWRS Y BYD.

Afiechyd peryglus Ciwydfardd

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Afiechyd peryglus Ciwydfardd PBYDNAWN ddydd Gweriet, daeth Ciwydfardd o Abergele gyda'r tren i Ddiubycb, er mwyn bod yn Laos bresenol yn nghyfarfod Cyfarwyddwyr Cymdeithas Adeiladu Gogledd Sir Ddinbych. Cyrhaeddodd Ddinbyjh gyda'r gerbydres yn sionc a hoyw, aeth i dy ei fab, Mr D. Griffith, i gael cwpanaid o < e, ac yna i'r cyfarfod a nodwyd. Ni chymerodd dim neillduol le arno, hyd nes oedd yn dyfod yn mraich Mr David Jones, coal merchant, un o'i gydgyfar- wyddwyr, ar hyd Lou Swan o'r cyfarfod, pan y cymerwyd ef yn sydyn gan fath o wasgfa drom, a buasai wedi syrthio i lawr onib.i i Mr Jones ac eraill oedd yn ymyl ei gynal. Cymerwyd ef i dy Miss Evans gerllaw; a danfonwyd yn ddioed am Dr. Griffith Roberts. Bernid ar y cyntaf mai wedi cael ergyd o'r parlys yr ydoedd, a chyhoeddai un papyr ddydd Sadwrn ei fod wedi cael pum' erg) d yn ystod awr o amser. Ond canfu y meddyg hyfedr na.d oedd yno barlys, er fod y selni disyfyd yn Ilawn perygl i un sydd yn tynu at ei 94 mlwydd oed. Bu yr hen fardd gwiwglod yn anymwybodol trwy y nos, ond ddydd Sadwrn dechreuodd ddod ato ei hun ac erbyn bore ddydd LIUD, pan alwodd ysgrifenydd y geiriau hyn i edrych am dano, galiodd ei adwaeu a siaradai yn ddioichgar am ofal pawb am dano, ac i'r meddyg am ofalu mor fedrus am ei gorph, ac i Dduw am dosturio wrth ei enaid. Pan ddigwyddodd y llesmair, danfonwyd pell- ebrau yn ddioed at ei blant, ac aeth Mrs. Chambers o Abergele, a Mrs. Da vies o Ever ton Terrace, Ler- pwl, i weini ar eu tad yn uniongyrohol, a than eu gofal hwy a pherthynasau a chyfeillion eraill, yn nghyda medr meddygol, disgwylir erbyn hyn yr adferir yr Archdderwydd hygar am rbyw dymhor eto. Fel y gwyddis brodor o Ddiabych ydyw Clwydfardd ac o fewn tua chan' llath i'r fan y gorwedd yn awr yu glaf y ganwyd ef cyn fod y ganrif yn llawn blwydd oed. Yr oedd genym baragraph yn y Oymro diweddaf yn dweyd ei fod wedi ei daro i lawr y diwrnod cynt gan gerbyd gyferbyn a'i gartref yn Abergele ac er na dderbyniodd nemawr niwed, dichon i'r hyrddiad gynyrchu yr hyn a gymerodd le yn Nin bych nos Wener.

-0-Dyffryn Clwyd.

[No title]

------I Y Sacramentau.

[No title]

--0-DEDDFWHIAETH Y TYMHOR.