Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

--0-CWRS Y BYD.

Afiechyd peryglus Ciwydfardd

-0-Dyffryn Clwyd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- Dyffryn Clwyd. Sonir am gau Capel y Berth i fynu. Saif hwn yn y canol rhwng plwyti Llanbedr a Llangyn- hafal, ac y mae pentref lied boblogaidd yn ei ymyl, lie y mae eglwys gan y Wesleyaid er's liawer blwyddyn. Bydd cau y capel eglwysig, yr hwn a gynaliwyd er ei sefydliad ugain mlynedd yn ol gan y boneddwr hynaws Mr. Lloyd y Berth, yn chwanegiad at rif y Wesley- aid yn Hirwyn. Trigo mewn Ogof.- Yn Llys Sirol Rhuthin, ddydd Llun, cyhuddid John Rowlands o gardota yn Cyfronydd, Llanbedr. Ymddengys i'r Hedd- geidwad Turner dderbyn hysbysrwydd nawn 11 y Sul fod y carcharor yn ymddwyn yn rhyfedd ac "ynchware ei gapars" wrth ffermdy gerliaw =1 a phan aeth i chwilio am dano, gorfu iddo redeg oddeutu haner milldir er cael gafael arno. Trigai yr hen gono mewn ogofeydd yn y myn- yddoedd cylchynol, gan ddod i lawr i'r ffermydd a'r pentrefi i chwilio am ymborth. Fodd bynag, caiff newid ei letty yn awr, gan iddo gael ei ddedfrydu i fis o garcbar gyda ilafur caled. CYNALIWVK cyfarfod chwarteroJ Cynghor Tref Dinbych ddydd Mawrth, Mr. Howel Gee (y Maer) yn llywyddu. Bu amryw faterian pwysig gerbron, a chaed ymdrafodaeth gynhyrfus ar rai obonvnt-vn neillduol ar achos Ysgol Howell a chanwylldy Mr. Boaz Jones. Am y cyntaf, dywedid nad oedd ond Eglwyswyr ar gorph llywodraethol yr ysgol, ac y dylid cael cynrych- iolaeth decach o Ymneillduwyr, ond ar ol cryn siarad ni lwyddwyd i gael yr un Ymneillduwr ar y corph hwiiw. Galwodd y Swyddog Meddygol sylw at gyflwr afir chos rhan o'r dref, yn neillduol at ganwyildy Mr Boaz Jones. Amddiffynodd y perchenog ei huo, a chafwyd lie bywiog mewn caniymad. Penderfynwyd, fodd bynag, gorfodi pawb i atal y budreddi ar eu tir.—HLysbyswyd fod eisiau 800p. yn ychwanegol at orphen y Smithfield, a phenderfynwyd gofyn am eu ben- thyg gan Fwrdd y Llywodraeth Leol, Llys yr Ynadon.— Gerbron y Maer (Mr Howel Gee), Mri E T. Jones, T. J. Williams, R. C. B. Clough, John Davies, a Robert Owen, cyhuddid David Foulkes, llafurwr, Graig, gan Fwrdd Gwar- cheidwaid Llanelwy, o wrthod talu at gynaliaeth ei dad, yr hwn oedd yn 77 oed, ac yn derbyn 4s yr wythnos gan y plwy'. taysbyswyd nad oedd y mab yn eael ond 8s a'i fwyd o gyflog yn wythnosol. Gorchymynodd y Fainc ef i dalu Is yr wythnos at gynal ei dad.—Grosvenor Roberts, St,ryd Henllan, a gyhuddid an yr Heddgeidwad Williams o feddu naw o wningod pan chwiliwyd ef ar ffordd Nant- alyn. Mewn atebiad, dywedodd y cyhuddedig, ''Wei, do, fe'm daliodd yn deg, ni chefais erioed fy nal yn well." Dirwywyd ef i lp a 10s o gostau, neu 14 diwrnod o garchar. Marwolaeth sydyn.—Yn Rhuthyn, ddydd Llun, cynaliodd Dr. Caithness drengholiad ar gorph Mrs Anne Evans, gweddw yn byw yn 6 Railway Ter- race, Rhuthin. Dychwelwyd rheithfarn o 1 arw- olaeth oddiwrth achosion naturiol. Gvnqhrair y Briallu. -Cynaliodd boneddigesau yr urdd ferchetaidd eu gwyl flynyddol ddydd Mawrth, yn Mharc Wigfair. Caed ymrysonfeydd rhedeg, neidio a rasus mulod, a rhoed "elo clap ar y prweithrediadau drwy ynifflamyohiadau hedegog °gan y Mil. Howard (ymgeisydd Toriaidd sir Fflint), a Mr Pennant.

[No title]

------I Y Sacramentau.

[No title]

--0-DEDDFWHIAETH Y TYMHOR.