Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
---------O'r Bala,
O'r Bala, [Gan G.] YR wythnos ddiweddif, cynaliwyd Cyfarfod Misol y rban hon o'r sir yn Nghwmtirmynacb. Y llyivydd oedd y Parch. John Howel Hughes, BaLi. Nid bob amser y mae y cyfarfodydd hyn yn ddyddoroi ychydig oedd i'w wneud yn y cyfarfod hwn ac ychydig wiaecl yno. Cafwyd adroldiadau amryw ddirprwywyr a benodasid i fyned yma ac acw ar wahanol negesau penod wyd rhai eraill i fyned i gynadleddau a chyman faoedd dirwestol Meirion a Gwynedd. Derbyn iwyd blaenor newydd o'r lie yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a hysbyswyd fod eglwysi y Cynfal a'r Gro wedi rhoddi galwad i'r myfyriwr Mr. John Jones, Capel Afan, i'w gwasanaethu fel bugail. Pregetbwr mawr y cyfarfod oedd y Parchedig John Puleston Jones, M A., Bangor. Dydd Gwener diweddtf, cafodd plant Y sgol Maes-y-waen de parti rhagorol, rhoadedig gan Miss Edwards, High Street, Bala, yr hon sydd bob amser yn hynod o bleidiol i addysg, ac wedi gwneud llawer erddo. Cynaliwyd cyfarfod dy- ddorol ar ol y te, yn yr hwn y lly wyddai Cad- eirydd y Bwrdd Ysgol, sef Dr. Hughes, Bala. Mae y stori ar led fod cynifer a deg o ynadon newyddion ar gael eu creu yn y sir hon, a bod yn eu plith y Mri. Evan Jones a John Parry o'r dref yma. Bydd y penodiad yn un poblogaidd iawn, ac y mae y gwyr da hyn wedi hen deilyngu y dyrchafiad. Ai gwir mai er yn waethaf a thros ben yr Arglwydd Raglaw y gwnaed hyn ? Cwyno yr ceidwn yr wythnos ddiweddaf, onite, fod y tywydd yn wlyb, a'r gwair yn braenu byd y meusydd, ond erbyn hyn yr ydym wedi cael wythnos o dywydd rhagorol mae yr hen wair wedi ei glirio, a'r yd yn addfedu yn gyflym, a llawer ohono wedi ei dori. "Utl di lun yw dl y wasg,"—ie, gwaeth na di lun, gwnaetb i mi ddweyd celwydd yn y cyfeiriad a wnaethum at organ capel Tegid yr wythnos ddiweddaf. Yr oeddwn i wedi ysgrif- enu fel hyn-" Mae cryn amser bellach er pan ba,i,dd eghys y Methodistiaid benderfyniad, trwy fwyafrif o dri aii &c. ond fel hyn y mynodd y gwr du ei roddi yn y C'ymro—"trwy fwyafrif o un," yr hyn sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Rhaid i fcl edrych ati hi, 'r hen foy, onide bydd y cat o' nih-e tails ar dy grwper di toe. Mae Gwaeufab wedi gadael y Bala, i ddyfod at ei waith gauafol arft-rol yn Bootle yaa. Feirdd a llenorion Lerpwl, derbyniweh a nodd weh ef, er mwyn ei a wen. Da genyf ei fod yu parotoi 11) fr o'i ganeuon i'r wfsg. Cawsom ein dau y pleser o ddarllen gyda'n gilydd yr wyth- nos ddiweddaf awdl oJidog Dyfed ar "Tesu o Nazareth," Ychydig wythnosau yn ol, dywed- ais yn y golofn hon, os oedd yr awdlau a ddar- llenaswn i yn ddiweddar yn esiamplau teg o farddoniaeth gadeiriol y blynyddoedd byn, fod safon y gadair wedi gostwng llawer. Da genyf dynu fy ngeiriau yn ol. Mae yn awdl Dyfed, Did yn unig feisfcrolaeth esmwyth ar y mesurau caethion, a'r holl gynghaneddion, ord gyda hyny y niae hi'n fyw o farddoniaeth uchelryw. Maa yncldi lawer o ddarnau gwir farddonol ag y buasai yn anmhosibl eu dweyd yn well, na chystal, mewn mesur rhydd, ie, mewn rhydd iaith bollol. Mae y mesur a'r gynghauedd mewn llawer lie ynddi yn ychwanegu swyn a chryfdor at y syniadau gogo- eddus eu hunain. Darllr-nasom awdl arall hefyd ar yr un test Ly ond cas fyddai cydmaru y ddwy. o
Cywydd yr Adfaii.
Cywydd yr Adfaii. YDWYF gandryll, hyll a hen, Fe rewodd y fer awen. Cwla iawn ddryeh, mae'r cljTw'n ddrwg, A gwaelaidd yw y golwg Pallodd, eneiliodd y cof, Du wedd ing, deuodd angof. Y troed, fu 'rioed ar redeg, Yn awr daeth yn ara deg. Tafod, pan oedd yn tyfu, Llyfn y caid iaith y Ilatn cu, Ei eiriau sydd yn arwach Na mynglyd iaith gryglyd gwrach. Dwylaw, fu hylaw ei hynt, Odiaeth anystwyth ydynt Y danedd, a fu dynion, Yn awr 'does fawr ond rhyw foil, A'r bon nid yw ddaioni— Poen oil ydyw i'm pen i. ri Aeth y gwrid, ofid afiach, Ac eto byw, Guto bach. Gwaed y traed, a'm natur i, Syn arwydd, sy yn oeri, Yn awr mae'r corph ar orphen Yn myd ei waith a'i daith den, Poenau henaint penwyni 0 byd yw mywyd i mi. Mae'r corph yn myn'd i orphwys 1 fol ei fam ddinam ddwys Cyn hir bryd, o'r byd i'r bedd, Caf yno le cyfanedd. Dmv'n blaid i'r enaid, da ran, A diweddiad mwy diddan. Mai 30, 1819. ABRAM WILLIAMS, Gynt o'r Cwmglas, Llanberis, athraw barddonol Dafydd Ddu o Eryri, a Gutyn Peris, a Gwilym Peris &c., a'i c-ant, yn y goedwig dywell ar lan yr afon fawr Susquehana, yn nhalaeth Ohia, America.
[No title]
o Mewn cyfarfod arbenig o Gymdeithas Rydd- frydol Arfon, caed anerchiad gan Mr Lloyd George, A. S. Gwneir apel at yr etholwyr i gyfianu tuag at gostau etholiadol yr ymgeisydd. Mr Gwenogfryn Evans, wrbh gwrs, sydd wedi ei benodi yn Gofrestrydd yr Hen Lawysgrifau Cym- reig. Dechreua ar ei waith yr wythnos hon yn Ngogledd Cymru. Ddydd Llun, bu f;irw Dr John Veitch, Proffeswr T- hesymeg a Rbeitb<-g yn Miirifysgol Glasgow. Ystynd Dr Veitch va un o'r rhai galluoeaf yn. y' canghenau, ac ysgrifenodd amryw gyfrolau gwerth- fawr.
Dirprwyaeth y Tir.
Dirprwyaeth y Tir. DYDD MAWRTH. DDYDD Mawrth, yn Assembly Rooms Llangollen, agorodd Dirprwyaeth y Tir eu heisteddiad. Llyw- yddid gan Argl. Carrington, ac yr oedd yn bresen- ol Syr J. T. D. Llewelyn, Btr. Mr D. Brynmor Jones, A.S., Proff Rhys, Mr Seebohm, Mr Richard Jones, Mr J. M.Griffiths, yn nghyda'r ys rifenydd, Mr Lleufer Thomas, a'i gynorthwywr, Mr Cecil E. Owen Y tyst cyntaf ydoedd Mr W. Parker, goruch- wyliwr ystad Mr Biddulph, Casteli y Waun. Sylwedd ei dystiolaeth oedd fod yr ystad yn cyn- wys 10,000 o aceri, a'r rhenti blynyddol yn cyr- haedd cyfanswm o 5,7<>8p. 0 1880 i 1893, gwar- iwyd ar weiliantau ,tl(jp, gwnaed gostyngiad parhaol yn y rhenti o 3,436p gostyngiad tym- horol, 6,204p a maddeuwyd 178p o olddyledion rhenti. Yr oedd cyfauswm y symiau hyn yn gwneud cyfartaladd o 22 y cant ar yr ardreth yn y cyfnocl a enwyd. Ystyriai fod y rhan hono o'r wlad oedd dan ei arolygiaeth ef yn well allan na rhanau eraill, am y dymunai Mr Biddulph weled ei ystad ei hun mewn gwell trefn nag eraill o'i gwmpas. Mr Richard Edwards, Tyctwll, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, a ddywedai ei fod yn denant i'r Viil. West o Gastell Rhuthia. Yr oedd yn 74 oed, a'i deulu er's 150 mlynedd wedi byw ar y fferm. Nid oedd erioed yn cofio fob neb wedi gorfod gadael ei fferm yn groes i'w ewyllys ar ystad y Mil. \.YesI-. Credai mai dymuniad y Milwriad oedd gweled ei denantiaid yn gysurus a llwyddianus. Rhoddodd y tyst banes maith am y plwy, mewn cysylltiad a rhenti, prisiad, ac ymddygiadau at Annghydffurf- wyr. Yr oedd prisiad wedi bod yn niweidiol i'r perchenogiou ac i'r tenantiaid. Nifer o flynyddau yn ol, penderfynwyd alltudio Ymneilduwyr o'r rhan hono o'r wlad. Cafodd amryw denantiaid rybudd i ymadael—un o'r cyfryw ar ystul Syr Watkyn. Mewu canlyniad, aeth y tenantiaid at gyfreithiwr ystad Mr West, yr hwn a alwodd gyda'r goruchwyliwr (Mr Smith), gan ddweyd wrtho am hysbysu y tenantiaid i fyned yn inlaen gydag amaethu eu ffermydd, ac yn ei rybuddio i beidio ymyryd gydn'r tensmtiaid wed'yn neu yr hysbysid Mr West. Yr oedd angen rhywbeth i wella sefylifa yr amaethwyr; a chredai y gallai Llys Tirol wneud lies ond iddo fod yn un gwir- foddol neu gwnai i ffwrdd a'r cydymdeimlad rhwng y tenant a'i dirfeistr. Dylai'r trethi gael cu cyfar- talu yn y fath fodd fel y disgynai rhan o'r baich ar eiddo arall heblaw amaethyddiaeth. Credai y byddai i < '-oil ar nwyddau tranior niweidio yr am- aethwr Cymreig. Pe dodid toll ar wenith, byddai i'r ffarmwr a'i lafurwr dalu ychwaneg am dano, oblegyd gorfodid hwy i'w brynu, gan fod gwenith cartref bob dau neu dri cynhauaf vn cael ei niweidio gan y rhew cyn ei gasglu i ddiddosrwydd. Wrth ei gioeshoii, dywedodd fod cryn anhawsder i gael gweithwyr amaethyddol, a byddai i addysg wneud yn fwy anhawdd fyth, oblegyd hawddach oedd hyny cario ysgrifbin na chario rhaw. Cofiai adeg pan y telid degwm gyda wyau. Deuai clerc y plwyf o gwmpas, a hawliai wy am bob iar, a dau wy am bob ceiliog yn eu meddiant. Mr David Jones, Rhydonen, Glyndyfrdwy, yr hwn ddaliai fferm o 78 acer dan y Mil. Tottenham, roes ei dystiolaeth am blwyfi Liantysilio, Llan- santttraid, a unorwen. tonoaaia gostyngiad I denant newydd yn barotach nag i hen denant. Gwyddai am enghreiphtiau felly. Ar fferm Rhyd- onen Isaf, gyda rhent o 76p, gofynid gostyngiad o 6p gan yr hen denant, yr hyn a wrthodwyd, a rhoddes yntau y fferm. i fynu. Gosodwyd yr un fferm i denant newydd am 60p, ac yn ychwanegol at hyny rhoddwyd lOp y flwyddyn iddo at gael gwrtaith ceifyddydol. Ar fferm Glanyllyn, cymeryd 40 acr o dir at adeiladu heb rybudd, ond gwnaed gostyngiad priodol yn y rhent. Anaml y cai tenantiaid ad-daliad am niweidiau achosid trwy dori coed ar en tir. Rhaid oedd i'r tenant gau yr adwya,u a achosid wrth lusgo y cyfryw goed. Gwerthid y canghenau, a chai y tenantiaid y cynyg cyntaf arnynt. Yr oedd ad ran an yn y cytundeb i derfynu tenantiaetb ar chwe mis o rybudd, a cllyf- yngiadau i beidio aradru meusydd neillduol pan y buasai eu haradru yn fanteisiol i'r ddwyblaid. Rum. mlynedd yn ol, bu i denant Penybryn, ar ystad y Mil Tottenham, aradru cae purn acr, a derbyniodd bill am y ddirwy gan y goruchwyliwr. Fodd bynag, diflanodd y tenant, gan gymeryd ei stoc a'i ddodrefn gydag ef. Gwneid gostyngiad blynyddol gan y Mil. Tottenham o 15 y cant, ond yr oedd y rhenti yn uchel. Dywedai un ffermwr wrtho nad oedd ganddo ond swllt yn ei feddiant ar ol talu y rhent diweddaf, ac nad oedd ganddo ddim allai werthu am rai wythnosau. Roedd gan y ffermwr hwnw deulu o wyth yn dibynu arno. Parai'r helwriaeth lawer o niwed yn Llansantffraid. Gosodid helwriaeth ystad Rhagatt i foneddwr o Lerpwl a gwnai y phesants gymaint o niwed fel y gorfodid rhai i adael ei ffermydd. Nid oedd peth- au lawn cyn waethed yn awr ag y buont. Fel atodiad i'w sylwadau, dywedai'r tyst fod un o'r enw Shaw, flynyddau yn ol, wedi derbyn rhybudd i ymadael o'i fferm yn Llandynan, ger Llangollen, am fod ficer Llantysilio yn dymunocael y fferm, a'r clerigwr hwnw yn awr-y Parch P. S. Jones—yw y tenant. Mr R. S. Richards, cyfreithiwr, yr hwn a gasglai renti'r Mil. Tottenham, a roes gyfrif yr ystad gerbron. Dangosai fod 3,115p wedi eugwario mewn gweliiantau o Mawrth, 1889, hyd Mehefin, 1893. 0 berthynas i'r tir a gymerwyd heb rybudd, dy- wedai fod cytundeb rhyngddynt yn mha un y der- byniai'r tenant ostyngiad. Mr. Hugh Hughes, Penrhewl, Tregeiriog, roes dyst- iolaeth faith ar sefyllfa amaethyddiaeth yn Nyffryn Ceiriog. Ystyrid y Mil. West a Syr Watlan yn mysg y dosbarth goreu o dirfeddianwyr ond gosodid y tir am bris rhy uchel i alluogi y ffermwyr i amaethu yn briodol a gwneud cyfiawnder a hwy eu bunain. Collid cydymdeimlad y tirfeddianydd yn gyffredin oherwydd ei fod yn byw yn mhell, ac yn anwybodus o sefyllfa ei denantiaid. Parai anwybodaeth o'r Gymraeg gryn lawer o ddyeithrwch rhyngddynt hefyd. Anfantais fawr i dirfeddianwyr a thenantiaid ydoedd goruchwyl- wyr heb gael eu cymhwyso yn briodol i'r gwaith. Nid oedd llawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lie yn ei ardal ef. Ofnai fod y trefniant presenol o osod ffermydd yn tueddu at godi y rhenti. Ni wycidai ef am unman yn yr ardal lie y cysgai'r gweision mewn llofft uwchben yr ystabl. Nid oedd y reilffordd ysgafn wnaed drwy y dyffryn yn ateb pwrpas yr amaethwyr. Wrth gyfeirio at helwriaeth, dywedaifed dyn wedigofyn iddo wneud y mynegiad canlynoi gerbron y Ddirprwyaeth R ii blynyddoedd yu ol, darfu i geidwad helwriaeth ('1' en v John Jones, yn ngwasanaeth Mr West, fvned a hamper, yn mha un yr oedd phesants, i fetes p,-itliyi.ol i u o'r tenantiaid a'u gollwng yn rhydd tra'r oedd y tenantiaid oddicartref yn y I' farchnad Pan groesholwyd y tyst, dywedai fod hyn wedi cymeryd lie 10 mlynedd yn ol ar fferm Peny- bryn, a brawd Richard Hughes, y tenant, a'i bys- bys dd o'r amgylchiad. Cae gwenith oedd y Jae y gollyngwyd yr adar iddo. Ni wyddai a gafodd y tenant iawn, ond dywedodd y goruchwyliwr wrtho na chai hyny ddigwydd drachefn. Mr John Jones, Nant, Glyndyfrdwy, a roes ei brofiad fel ffermwr ar ystad y Mil. Tottenham. Ystyriai ei hun yn waeth allan ar ol blynyddau o amaethu na phan ddechreuodd. Chwarelwr yd- oedd yn awr. Rhoddodd enwau lluaws o ffermwyr a orfodwyd i adael eu tiroedd a myned yn llafurwyr oherwydd nad oeddynt yn alluog i dalu eu ffordd. Mr John Jones, Plasnewydd, Bryneglwys, a ddymunai roddi tystiolaeth parth Tynyfoel, ar ystaa i^naggatt, oecici ar un arteg yn meddiant Mrs Lloyd. Yr oedd cyflwr yr adeiladau 35 mlynedd yn ol yn druenus. Cymerwyd rhan o'r to ymaith, er ei adgyweirio, a gadawyd ef felly am ddwy flynedd hyd nes aed i gwynoat y goruchwyliwr, a 11 gorphenwyd y gwaith. I-Neth Mr Richard Wynne yn oruchwyliwr, ac yn mhen mis derbyniodd y tyst rybudd i ymadael, ond pan aeth i weled Mrs Lloyd, caniatawyd iddo aros. Rhoddwyd rhybudd eil- waith iddo y flwyddyn ddilynol, a'r tro hwn gwrthododd Mrs Lloyd wneud dim ag ef. Gosod- wyd y fferm i berson elai i'r Eglwys, ond oedd yn flaenorol yn Wesleyad,ond cadwodd y tyst feddiant o'r fferm am flwyddyif arall pan y gorfododd y goruchwyliwr ef i dalu ardreth dwy flynedd ar unwaith, yr hyn oedd yn groes i arferiad. Der- byniodd rybudd arall, ond pan ddaeth Mawrth 25ain clodd bob llidiart ar y fferm. Fodd bynag, daethant i gytundeb ei fud i ymadael, ond canlyn- iad y troad ailan ydoedd marwolaeth ei wraig ac un o'i feibion, y rhai a boenent o'r lierwydd. Gos- tyngodd Mr Wynne y rhent o 50p i 40p i'r tenant nesaf. Yr oedd yn gryn ffafryn gyda'r foneddiges, ond cafodd gweryl gyda'r goruchwyliwr. Mr Thomas Jones, Brynmelyn, a gymeradwyai, gan fod yn anhawdd ail stocio mynydd a defaid, fod tirfeddianwyr yn cael eu gorfodi i brynu, drwy brisiad, ddefaid y tenant oedd yn ymadael, os na fyddai tenant newydd yn cymeryd meddiant un- iongyrchol. Gellid gwneud darpariaeth i hyn dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol. Mr Evan Jeffrey, Acrfair, tenant i Mr J. C. Edwards, a ddywedai pan ofynodd am gytundeb i Mr Edwards ddweyd, Ewch a chymerwch fedd- iant, dyna'r cytundeb goreu a ellwch gael." Addawyd iddo adeiladau newydd a gwelliantau, ond ni chafodd hwy, ac yr oedd felly dan orfod i droi y parlwr yn granari, a braenodd ei dr-ol ac offer eraill gan nad oedd adeiiadau i'w rhoddi. Trowyd ei hofel yn feudy. Yn Mawith, 1893, gofynwyd iddo arwydclo cytundeb a chan ei bod yn un galed, gwrthododd wneud. Derbyniodd rybudd i ymadael Mawrth 25. Ar 01 siarad droion, dywedodd Mr Edwards ei fod yn foddlawn i ddileu rhai o'r adranau mwyaf lIym, a rhoddes ganiitad neillduol yn nglyn a. gwrtaith, &c. ond pan ofyn- odd y tyst am i'r pethau hyn gael eu rhoddi yn y cytundeb, dadganodd Mr Edwards ei syndod fod ei air yn cael ei anmheu. Daiparwyd at arwerth- iant, a gadawodd y tyst y fferm, a'i golled yn gyf- artal i haner y rhent am holl dymhor ei denant- iaith. Yn Awst diweddaf, derbyniodd lythyr yn ei fygwth fel trespaswr os byddai iddo gyuhauafu dau gae o wenith oedd wedi hau ar y fferm. Mr J. C. Edwards, y tirfeddianydd gyfeiriwyd ato gan y tyst diweddaf, a ddywedodd nad oedd ty yn nglyn a'r fferm pan gyn erodd Jeffrey hi. Bu iddo adeiladu un yn costio 540p. Nid oedd wedi meddianu y He yn hir, ac yr oedd yn barod wedi gwario 4,000p mewn gweliiantau arno. Buasid wedi darparu granari, &c., mor fuan ag oedd bosibl end yr oedd gwaith arall mwy pwysig yn galw am sylw gyntaf. Mrs Elizabeth Jones, Tai Draw, Bala, a dystiai i'w mam adeihvdu ty ar Gyttir Llanuwchllyn, ac a'i gadawodd iddi hi yn ei hewyllys. Cynygiodd goruchwyliwr Syr Wytkin 50p iddi am dano, ond gwrthododd y swm yna am le gwerth 200p. Cym- erwyd hi i Frawdlys Dolgellau, a chollodd ei hachos. Gan na fedrai Saesneg ni ddeallai yr hyn gymerodd Ie yn y frawdlys. Credai pe gwybuasai Syr Watkin neu y Mil. Hughes am yr annghyf- iawnder, na adawsent i'w thy gael ei gymeryd oddiarni. Mewn atebiad i Mr Brynmor Jones Ni thaiodd erioea rent am y ty, ond yn unig am y tir. Mr Edward Davies, Dergoed, ffermwr ar ystad Syr Watkin, a wrthwynebai sefydliad llys tirol. Gwell oedd ganddo ddelio a'r tirfeddianydd neu'r goruchwyliwr na chael trin ei achos mewn llys. DYDD MERCHER. Cynaliwyd dau lys heddyw, yn Ngwrecsam, ac yr oedd yr holl ddirprwywyr yn bresenol. Llyw- yddid y llys cyntaf gan Argl. Carrington, a chydag ef yr oedd Syr J. T. Llewelyn, Mr R. Jones, a Mr J. M. Griffiths. Mr W. C. Hughes, Pennant, Rhiwabon, goruch- wyliwr ystadau Mr Philip York, Erddig Capten Godfrey, Bryn Estyn Mr Girardot, ystad Trev- alyn, berchenogid gan Capt Griffith Boscawen; Mr Treyor Parkins, ac ymddiriedolwyr y Parch J. S. Darnell. Goruchwylitii felly 6,000 o aceri. Yr oedd wedi ffarmio ar hyd ei oes, ac amaethai ei dir ei hun. Nid oedd gan iaith, gwleidyddiaeth, na chrefydd, ddylanwad o gwbl yn newisiad tenant- iaid. Credai y dylai pob goruchwyliwr feddu profiad ymarferol mewn ffarmio a llywodraethu etifeddiaethau. Yn ei ardal ef, gwneud caws oedd prif gynaliaeth y ffermydd. Cynygid iddo yn ami fwy am ffermydd na'u rhenti, ond ni dderbynid y cyfryw gynygion. Yn 1885, gostyngwyd 10 y cant yn barhaol ar renti ystadau Erddig a Bryn Estyn ac yn 1887, gostyngwyd 10 y cant ar rai ffermydd ar ystad Trevalyn. Cyn pasio'r ddeddf, gosodai ffermydd yn rhydd oddiwrth ddegwm. Teimlid prinder llafurwyr oherwydd eu bod yn myned yn iluoedd i weithio i'r glofeydd, &c. Er gwella buddiant tirol, awgrymai ostyngiad yn y trethiad lleol ar dir rhoddi label ar gig a chyn- yrch tramor a tholliad defnyddiau tramor at fwyd, megys margarine, &c, yr elw i fyned at flwydd- daliadau ar gyfer henaint. Credai y galluogai hyn y ffermwyr i ymgeisio a chystadleuaeth dramor, a ehai y llafurwr rywbeth i edrych ato yn y dyfodol. Gwariwyd yn ystod y 14 mlynedd diweddaf, rhwng 15,000p a 20,000p mewn gwelliantau ar ystad Erddig. Gallai siarad yn uchel am y ten- antiaid—talent eu rhenti yn brydlon, a bodolai teimiad da cydrhyngddynt a'u tirfeddianwyr. Nid oedd ardal Gwrecsam wedi dioddef cymaint oddi- wrth y dirwasgiad amaethyddol, oherwydd mai ardal fwnawl ydoedd, ac hefyd am mai gwartheg, &c., oedd prif gynyrch y ffermydd. Wrth gael ei groesholi, dywedai'r tyst fod gwneud ca\\s wedi I gwella llawer yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Byddai yn dda i lafurwyr amaethyddol gael tir at gadw buwch. Yr oedd costau gweithiol fferrn gryn lawer yn uwch yn awr nag oeddynt 15 neu 20 mlynedd yn ol, ac yn ngwyneb hyn y gostyngid y rhenti. j Os byddai i denant wella fferm, dylai gael ad-daliad, a dylai'r tirfeddianydd gael hefyd OS gadewid hi mewn sefylifa wael. Ni chredai y talai tyfu ffrwythau. Mr Charles Davies, Rossett, a gredai fod tenant- iaid yn llawn mor ddiogel tan gytundeb ag ydynt tan brydles. Ni thybiai fod angen am lys tirol. Y cyflenwad tramor oedd prif achos y prisiau isel presenol. Mr Nathan Parry, tenant Syr Henry Robertson, Lale, a dystiai nad oedd ganddo ddim cwyn yn er- byn ei gytundeb, ac na chodwyd ei rent. Yr oedd y trethi yn uchel iawn. v PAFRTVI Tl-- TL T HIT « •j i ±AU ivLOstyn, a ddywedai iddo ddod o sir Aberteifi i Mostyn yn 1869. Per- chenogid y plwyf bron yn gwbl gan Iarll Dinbych ac Argl Mostyn. Rheolid ystad Mostyn yr adeg hono gan oruchwyliwr, yr hwn a ymddygai gyda llaw mor uchel nes crynai rhai tenantiaid dano. Yn ystod ei oruehwyliaeth, cbwalwyd mwy na* 20 o fythynod, a chysylltwyd wythofRn dyddynoda'u gilydd. Yn bresenol, yr oedd saith o fythynod wedi eu efm yn b..rod i'w chwala, yn gwneud cyf- anrif 036 Ceisiodd un dyn gyflawni hunanladd- lad oherwydd ymgais y goruchwyliwr i'w symud o l dyddyn. Gwellhaodd pethau dan yr Arglwydd Mostvn presenol a'i oruchwyliwr. Ni chwalwyd bythynod, ac ni chysylltwyd tvddynod i'r fath raddau gan Iarll Dinbych. Cwynaj y tenantiaid yn amI wrtho am adranau llym a gynwysid yn eu cytundeb ond ni ddeuent yn mlaen i roddi eu tystiolaeth, gan ofn cael rhybudd i ymadael. Par- ai r helwriaeth lawer o ddifrod yn yr ardal, ac yn ddiweddar gwyddai am ddyn drowyd o'i fferm am y tybiai'r goruchwyliwr ei fod yn aflonyddu ar- nynt. Cyfeiriodd Argl Penrhyn ato ef (y tyst), yn ei dystiolaeth yn Llangefni, mewn cysylltiad a llyohyr o'r eiddo yn y Celt, Chwef. 27, 1885 ond ni hysbysodd y Ddirprwyaeth o dan ba amgylch- jl\7l y^ihnodd y cyfryw lythyr. Ar ol rhoddi yr holl amgylchiadau gerbron yn nglyn a'r ddau ddyn euogfarnwyd am b sgota eogiaid ac ymosod ar heddgeidwad a cheidwad afonydd ar dir Argl Penrhyn yn 1885, a hysbysu iddynt gael eu troi o u gwaith yn Chwarel Bethesda, aeth i ateb tystiolaeth Argl Penrhyn yn Llangefni. Yn y dystiolaeth hono, darfu i'w arglwyddiaeth ddweyd (1) fod ganddo ef(Dr Pan Jones) gapel mawr yn Methesda, ger Bangor (2) ei fod yn ngwasanaeth Cymdeithas Cenedlaetholi Tir (3) na wyddai ei arglwyddiaeth beth oedd y gymdeithas hono (4) tod y tyst wedi camliwio'r tirfeddianwyr hyd eithaf ei alai; (5) ei fod wedi dianc i'r America er osgoi cyfraith athrod. Nid oedd ronyn o wir yn v ddau gyntar na'r ddau olaf o'r mynegiadau uchod 0 berthynas i'r trydydd, nad oedd ei arglwydd- iaeth yn gwybod beth oedd Cymdeithas Cenedl- aetholi Tir, yr oedd yn barod i dderbyn byny fel yn gywir. Ni bu erioed yn byw yn Methesda dri divvrnod olynol. Ni bu ganddo yapel yn unman erioed and yn Mostyn. Nid oedd am ddiwrnod wedi bod yn ngwasanaeth Cymdeithas Genedlaeth- oli Ti. Rhoddodd ei wasanaeth yn wirfoddol gyda r vait y cyfeiriodd ei arglwyddiaeth ati, fel llawer eraill yn Lloegr a Chymru. Ni ddywedodd erioed air anogharedig am un dyn oherwydd ei fod yn dirfeddianydd. Nid yn erbyn tirfeddianwyr ond vn erhvn tirfprIr?innQ^fV» UP M-1r1n_" n.- V _r_y y-^ "CLiuyuu yn rayreia. U berthynas i r camddarluniad honedig a wnaeth o'r diweddar Argl Fenrhyn, methai weled fod y ffeithiau a roes yn ei lythyr am Chwef. 27, 1885, yn gwahaniaethu mewn unrhyw wedd oddiwrth y rhai a gydnabyddwyd gan yr Argl. Penrhyn pre- senol yn nglyn a chosp y dynion trwy eu troi o'r chwarel, a rhoddi iddynt rybudd i ymadael o'u tai. Am ei fynediad i'r America, ni ddarfu'r meddyl- ddrych dirmygus o ddianc erioed gael lie yn ei ben. Y sgdfenai bob amser i'r wasg dan ei enw priodol a pharod oedd bob amser i gymeryd y einlvniadau. Ar y goreu, yr oedd tirfeddianaeth yn Nghvmru yn meddu dylanwad i ddifoesoli mewn dwy wedd. Difoesolai y tenant trwy fathru ei ddynoliatth a'i ddarostwng l sefylifa caethwas yn crynu wrth draed yr hwn a ddaliai ei dynged yn ei law. Lly- thyren fai-w oedd Deddf Man Dyddynod,ac yr oedd Decldf Helwmeth yn waeth na hyny. Ni byddai niesur tirol o fawr les os na fyddai yn fesur i adfer y tir ir bobl a chyn y ceid hyny, ni cheid di- wygiad yn y wlad, oblegyd yr oedd tirfeddianaeth yn graig rhwystr ar y ffordd, ac yn cancro pob masnach yn ei gwreiddyn, Wrth ei groesholi, dywedai'r tyst mai caethion oedd y ffermwyr Cymreig, a'r tirfeddianwyr oedd yn eu gwneud felly. Nid oedd wedi arfer geiriau celvd am dir- teddianwyr, ond oherwydd yr arfer annghyfiawn a wnaent o'u gallu, megis Argl Penrhyn yn nglyn as achos herwhela Bethesda. Nid oedd ganddo un amcan i gefnogi ysgelerder pan ysgrifenodd i'r Celt 11 y dylai ei arglwyddiaeth (Argl Penrhyn) fod yn ddioJchgar nad oedd yn byw yn y Werddon," &c. Ar ol ateb amryw gwestiynau yn nghylch Cym- aeth Cenedlaetholi Tir' terfynodd ei dystiol- YR AIL Lys. Llywyddid yr ail lys gan Arglwydd Kenyon, yn cael ei gynorthwyo gan Proff. Rhys, Mr D. Bryn- mor Jones, A S., a Mr Seebohm. Y tyst cyntaf oddd Mr G. T. Kenyon, A S Rhoddai dystiolaeth fel cadeirydd Ymddiriedaeth I ref Iiolt. Cyflwynwyd y cyttir i Faer a Chorph- OTaeth Holt gan Iarll Arundel, yn nheyrnasiad Ham IY. Darllenwyd rhanau o'r Siarter, o dan yr hon yr oedd gan fwrdeisdrefwyr Holt hawl i borfeydd rhydd Yn 1884, rhanwyd y cyttir i 64 o lotiau cyfartal i 64 o'r bwrdeiswyr. Arferid y tir 77 ,1.d1yfu mefuS ac »edd galwad mawr am ran ddahadau. Mr Trevor Parkins, Canghellydd Esgobaeth Llanelwy, a dystiolaethodd am gyttir Gresffordd yr hwn fesurai chwe' acr. O'r rhai hyn, cyflwyn'- wyd yn 1881 ddwy acr gan Ddirprwywyr y Coed a r F, orestydd I ficer a wardeniaid y plwyf at wneud pleser-faes i r trigolion. Rhaith y Plwyf fyddai yn fuan yn llywodraethu y cyttir. Elai Reiiffordd y Great V\ estern drwy y cyttir, ond ni wyddai a brynwyd ef ai peidio. Awgrymodd Mr Brynmor Jones am i'r tyst wneud ymchwiliad. Caed ym- drafodaeth cydrhwng y Proff. Rhys a Mr Parkins a Mr A. N. Palmer, Gwrecsam, yn nghylch ystyr yr enwau Holt a Rossett, yn dal ond ychydig berthynas ag amcan y Ddirprwyaeth. Mr A. N. Palmer a gyfeiriodd at amri w gyttir- oedd yn ardal Gwrecsam. Cauwyd cyttir Minera i mewn yn 1808, a rhanwyd ef i berchenogion tir yn y dref-ddegwm. Gwnaed un rhan o'r cyttir ya chwarel. 0 un o gof-lyfrau y Senedd. dyfynodd ddarfod i'r Goron yn 1857 werthu i'r diweddar Syr Watcyn ha.wl i 2,774 o aceri o dir gwyllt yn mhlwyf Rhiwabon, hawliau mwnawl a helwriaethol heb fod i mewn yn y gwerthiant, a 2,091 o dir